Creu amlinellau a manylion sylfaenol yn y gwallt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio amrywiaeth o dechnegau clipio a thorri i greu llinellau syth a chrwm. Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â defnyddio'r technegau hyn i roi gorffeniad i ymyl perimedr toriadau gwallt.
I gyflawni'r safon hon, bydd angen i chi gynnal lefel uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.
Dyma brif ganlyniadau'r safon hon:
cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth greu amlinellau a manylion sylfaenol yn y gwallt
cynllunio a chytuno ar amlinellau a manylion y gwallt â'ch cleient
creu amlinellau a manylion yn y gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth greu amlinellau a manylion sylfaenol yn y gwallt
*
*
cynnal eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient yn unol â gofynion y salon i warchod dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth
sicrhau nad oes gormod o doriadau gwallt yn mynd ar groen eich cleient yn ystod y gwasanaeth
gosod eich cleient yn unol â gofynion y gwasanaeth heb achosi unrhyw anghysur iddo
sicrhau bod eich ystum a'ch osgo eich hun wrth weithio yn achosi cyn lleied o flinder a risg o anaf â phosibl
cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
7.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar
7.2 lleihau'r risg o groes-heintiad
7.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
7.4 sicrhau bod adnoddau glân yn cael eu defnyddio
7.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi'ch hun ac i eraill
7.6 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion
cael gwared ar ddefnyddiau gwastraff ac offer miniog
cwblhau'r gwasanaeth mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
Cynllunio a chytuno ar amlinellau a manylion y gwallt â'ch cleient
ymchwilio i bortffolio o amlinellau a manylion a fyddai'n addas i'w defnyddio gyda'ch cleientiaid
archwilio amrywiaeth o amlinellau a manylion a phosibiliadau gyda'ch cleient gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol
rhoi amser ac anogaeth i'ch cleient fynegi'i syniadau ei hun ar y cynllun a'r ddelwedd y mae'n dymuno'i chreu
sicrhau bod eich cleient yn ymwybodol o beth fydd y gwasanaeth y cytunir arno yn ei olygu a'i hyd tebygol
cadarnhau eich bod wedi deall gofynion eich cleient
seilio'ch argymhellion ar werthusiad cywir o wallt eich cleient a'r potensial i'r amlinellau a'r manylion gael eu cyflawni
argymell gwedd sy'n addas ar gyfer y ddelwedd sydd gan eich cleient mewn golwg
cytuno ar gynllun â'ch cleient sy'n ystyried ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth
cytuno ar ganlyniadau i'r gwasanaethau a chostau tebygol sy'n dderbyniol i'ch cleient ac yn bodloni'i ofynion
* *
Creu amlinellau a manylion yn y gwallt
brwsio neu gribo gwallt eich cleient i gyfeiriad y tyfiant naturiol trwy gydol y gwasanaeth
gosod cynllun yr amlinellau a'r manylion yn unol â'r cynllun y cytunwyd arno
addasu maint cynllun yr amlinellau a'r manylion i weddu i faint a siâp **pen eich cleient a'r toriad gwallt cyfredol
defnyddio technegau torri i sicrhau diffiniad, siâp a dyfnder yr amlinellau a'r manylion gofynnol
newid eich osgo chi ac osgo'ch cleient er mwyn sicrhau bod y toriad yn gywir
trafod â'ch cleient trwy gydol y broses dorri er mwyn cadarnhau'r amlinellau a'r manylion a'r effaith gyffredinol sy'n cael ei chreu
cymryd camau priodol i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y broses gynllunio
sicrhau bod y wedd orffenedig yn cyflawni'r cynllun y cytunwyd arno â'ch cleient
cadarnhau bod eich cwsmer yn fodlon ar y wedd orffenedig
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel
*
*
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd
gofynion eich salon ar gyfer paratoi cleientiaid
y dewis o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael ar gyfer cleientiaid
pam y mae'n bwysig gwarchod cleientiaid rhag toriadau gwallt
sut y gall osgo'ch cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam y mae'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
pam y mae'n bwysig gosod eich offer torri wrth law
pam y mae'n bwysig osgoi croes-heintiad a chroes-heigiad
pam y mae'n bwysig gwisgo menig tafladwy wrth ddefnyddio rasel
yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid talu sylw iddynt wrth dorri gwallt
sut i ddefnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar torri yn gywir
y dulliau o lanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy[JW1]
pwysigrwydd hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol i gynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion
y dulliau cywir o gael gwared ar wastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer amlinellau a manylion sylfaenol
*
*
Cynllunio a chytuno ar amlinellau a manylion â'ch cleient
*
*
y ffactorau gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn clipio a thorri a sut y gall y rhain effeithio ar y cynlluniau
faint y mae gwallt yn tyfu ar gyfartaledd
effeithiau clipio agos rheolaidd ar y croen
y risg posibl o wallt yn tyfu i'r byw o ganlyniad i glipio agos rheolaidd
ffynonellau addas o wybodaeth a syniadau cynllunio a sut i'w cyrchu
sut i gyflwyno gwybodaeth ac argymhellion ar batrymau yn eglur i'ch cleient
pwysigrwydd annog eich cleient i gyflwyno'i syniadau'i hun ar y cynllun neu'r ddelwedd, ac i gytuno ar y canlyniad, yr hyd a'r gost
Creu amlinellau a manylion yn y gwallt
sut i greu cynlluniau ailadroddus syml o linellau a chromliniau
sut i addasu amlinellau a manylion i weddu i siapiau pen gwahanol
y posibiliadau a'r cyfyngiadau cynllunio wrth weithio gydag amlinellau llinol a manylion yn y gwallt
y dulliau o baratoi'r gwallt cyn torri amlinellau a manylion
y mathau o doriadau gwallt sy'n ffurfio sail addas ar gyfer torri llinellau syth a chrwm a chynlluniau ailadroddus yn y gwallt
sut a phryd i ddefnyddio technegau torri gwahanol wrth greu cynlluniau yn y gwallt
technegau trin cyfarpar er mwyn sicrhau amlinellau a manylion cywir yn y gwallt
pwysigrwydd edrych ar yr amlinell, y manylion a'r toriad i'w gwirio
sut i lefelu a phrofi clipwyr
y mathau o glipwyr, llafnau clipwyr ac ategolion sydd ar gael a'r effeithiau y mae'r rhain yn eu cael
y mathau o broblemau a all godi'n aml wrth greu amlinellau a manylion yn y gwallt a sut y gellir eu datrys, os yn bosibl
pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Offer a chyfarpar
1.1 rasel
1.2 clipwyr
1.3 ategolion clipwyr
1.4 trimwyr
2. Amlinellau a manylion
2.1 llinellau syth
2.2 llinellau crwm
2.3 ailadroddus
2.4 llinell y gwallt
3. Ffactorau
3.1 nodweddion gwallt
3.2 y dosbarthiadau o walltiau
3.3 siâp y pen a'r wyneb
3.4 hyd y gwallt
3.5 steil y gwallt
3.6 presenoldeb patrymau moelni dynion
3.7 cyflyrau croen anffafriol
3.8 creithio
4. Technegau torri
* *
4.1 clipio
4.2 pylu
5. Cyngor ac argymhellion
* *
5.1 sut i gynnal y wedd
5.2 yr ysbaid rhwng gwasanaethau
5.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Cofnodi Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Trafod â Llaw
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion sy'n sychu'n hawdd)
2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar
2.7 defnyddio paent heb lawer o gemegion ynddo
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a di-alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt heb fawr ddim amonia ynddynt
2.10 defnyddio defnyddiau pacio cyfeillgar i'r amgylchedd
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog defnyddio llai o garbon wrth deithio i'r gwaith
3. Ffactorau
y ffactorau gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod clipio a thorri, a sut y gall y rhain effeithio ar y cynllun
3.1 nodweddion gwallt
3.2 y dosbarthiadau o walltiau
3.3 siâp y pen a'r wyneb
3.4 hyd y gwallt
3.5 steil y gwallt
3.6 presenoldeb patrymau moelni dynion
3.7 cyflyrau croen anffafriol
3.8 creithio
4. Cyngor ac argymhellion
*
*
4.1 gwasanaethau ychwanegol
4.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
- Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a harddwch:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunanreoli
1.11 sgiliau creadigol
1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau rhagorol
1.13 cynnal dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a harddwch. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu â'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu
1.4 nodi a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient yn foneddigaidd ac yn gymwynasgar bob amser
1.6 rhoi gwybodaeth a sicrwydd cyson i'r cleient
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiadau gwahanol gan gleientiaid
1.8 ymateb yn ddi-oed i gleient sy'n holi am gymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf addas o gyfathrebu â'r cleient
1.10 gwirio gyda'r cleient eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau'n llwyr
1.11 ymateb yn ddi-oed ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi eglurhad ychwanegol pan fo'n addas
1.13 bod yn gyflym wrth ddod o hyd i wybodaeth a fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient yr wybodaeth y mae arno ei hangen ynglŷn â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth a allai fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio ei fod wedi'i deall yn iawn
1.16 os bydd unrhyw resymau pam na ellir cyflawni gofynion neu ddisgwyliadau'r cleient, dylid eu hesbonio'n glir wrtho
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Main/Tenau - gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd cynnal cwrlyn.
1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.
1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau
2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.
2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.
3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol:
2.1 trwch y gwallt
2.2 gweadedd y gwallt
2.3 elastigedd y gwallt
2.4 mandylledd y gwallt
2.5 cyflwr y gwallt
2.6 patrymau tyfu gwallt
3. Raseli Rasel syth – mae hwn yn rasel henffasiwn gyda llafn sy'n gallu plygu i mewn i'w handlen. Mae hefyd yn cael ei alw'n rasel agored a rasel torri gwddf.
*
*
4. Trimwyr – clipwyr bychain gyda llafnau llai er mwyn creu toriad agosach, mannach sydd â mwy o ddiffiniad a manylion
5. Amlinell linol – **patrymau sy'n cael eu creu o linellau syth neu grwm neu gyfuniad o linellau syth a chrwm