Sychu a gorffennu gwalltiau dynion
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio amrywiaeth o dechnegau steilio i sychu gwalltiau dynion er mwyn creu gweddau gorffenedig amrywiol. Bydd angen gallu gweithio i lefel uchel o fedrusrwydd corfforol, gan ystyried nifer o ffactorau. Mae hyn hefyd yn cynnwys gweithio gydag amrywiaeth eang o gynhyrchion steilio a gorffennu.
I gyflawni'r safon hon, bydd angen i chi gynnal lefel uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.
Dyma brif ganlyniadau'r safon hon:
cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth sychu a gorffennu gwallt
sychu a gorffennu gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth sychu a gorffennu gwallt
cynnal eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient yn unol â gofynion y salon
gwarchod dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth
gosod eich cleient yn unol â gofynion y gwasanaeth heb achosi unrhyw anghysur iddo
sicrhau bod eich ystum a'ch osgo eich hun wrth weithio yn achosi cyn lleied o flinder a risg o anaf â phosibl
cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
7.1 gwastraffu cyn lleied o gynhyrchion steilio a gorffennu â phosibl
7.2 lleihau'r risg o ddifrod i offer
7.3 lleihau'r risg o groes-heintiad
7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
7.5 sicrhau bod adnoddau glân yn cael eu defnyddio
7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi'ch hun ac i eraill
7.7 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion
cael gwared ar ddefnyddiau gwastraff
cwblhau'r gwasanaeth mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
Sychu a gorffennu gwallt
cadarnhau gyda'ch cleient y wedd y cytunwyd arni yn y drafodaeth ac yn ystod y gwasanaeth
rheoli'ch defnydd o offer a chyfarpar er mwyn achosi cyn lleied o niwed â phosibl i'r gwallt a chroen y pen neu unrhyw anghysur i'r cleient, ac er mwyn cyflawni'r wedd a ddymunir
sicrhau bod y cynhyrchion steilio a gorffennu a ddefnyddir yn addas, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
rheoli gwallt eich cleient yn ystod y broses steilio, gan ystyried y ffactorau sy'n effeithio ar y gwasanaeth
defnyddio ac addasu technegau sychu er mwyn cyflawni'r wedd a ddymunir
gwirio tymheredd y cyfarpar steilio cynnes trwy gydol y gwasanaeth
sicrhau bod y wedd orffenedig yn ystyried y ffactorau perthnasol sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth
sicrhau bod y wedd orffenedig yn rhoi'r siâp, y cyfeiriad a'r cyfaint y cytunwyd arnynt â'ch cleient
cadarnhau bod eich cleient yn fodlon ar y wedd orffenedig
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth sychu a gorffennu gwallt
*
*
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd
gofynion eich salon ar gyfer paratoi cleientiaid
y dewis o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael ar gyfer cleientiaid
sut y gall osgo'ch cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pam y mae'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
sut i ddefnyddio a chynnal a chadw offer torri yn gywir
y dulliau o lanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
pwysigrwydd dulliau gweithio diogel a hylan sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a chroes-heigiad
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
pwysigrwydd hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol i gynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle
beth yw dermatitis cyffwrdd a sut y mae osgoi ei fagu wrth sychu a gorffennu gwasanaethau
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn defnyddio offer, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel
y dulliau cywir o gael gwared ar wastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer sychu a gorffennu
Sychu a gorffennu eich gwallt
*
*
pwysigrwydd cadarnhau gyda'ch cleient y wedd y cytunwyd arni yn y drafodaeth ac yn ystod y gwasanaeth
yr amrywiaeth o gynhyrchion sychu a gorffennu, offer a chyfarpar sydd ar gael ar gyfer sychu a gorffennu gwallt dynion
pryd a pham y dylid defnyddio'r mathau o gynhyrchion sychu a gorffennu
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr ar gyfer defnyddio'r cynhyrchion steilio a gorffennu penodol yn eich salon
pam a sut i ddefnyddio'r mathau gwahanol o offer a chyfarpar steilio
technegau cyfredol ar gyfer sychu a gorffennu gwallt
sut y mae ffactorau gwahanol yn effeithio ar wasanaethau sychu a gorffennu
pam y mae cyfeiriad llif yr aer wrth sychu yn bwysig i gyflawni'r wedd a ddymunir
pwysigrwydd defnyddio ffroenell wrth gyflawni technegau sychu
sut y mae maint y darn o wallt ac ar ba ongl y mae'n cael ei ddal wrth ei sychu yn dylanwadu ar gyfaint a chyfeiriad symudiad y gwallt
dulliau o reoli rhannau o'r gwallt yn ystod y broses sychu
pwysigrwydd cyflawni gwedd orffenedig sy'n rhoi'r siâp, y cyfeiriad a'r cyfaint a fwriadwyd ac y cytunwyd arnynt â'ch cleient
effeithiau lleithder ar wallt
29.effeithiau ffisegol cyfarpar steilio cynnes ar adeiledd y gwallt
30.sut y mae defnyddio gwres yn anghywir yn gallu effeithio ar y gwallt a chroen y pen
pam y dylid gadael i wallt oeri cyn ei orffennu
pam y dylai gwallt gael ei gadw'n llaith cyn ei sychu
sut y mae diogelwyr gwres yn gwarchod y gwallt
pwysigrwydd gallu rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir gan y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cynhyrchion steilio a gorffennu
1.1 chwistrellau
1.2 hufennau
1.3 geliau
1.4 cwyrau
1.5 tonigau
1.6 olewau
1.7 powdrau steilio
2. Offer a chyfarpar
2.1 brwsh fflat
2.2 brwsh crwn
2.3 cyfarpar trydanol
3. Ffactorau
3.1 nodweddion gwallt
3.2 y dosbarthiadau o walltiau
3.3 toriad y gwallt
3.4 patrymau tyfu gwallt
3.5 siâp y pen a'r wyneb
4. Technegau sychu
4.1 sychu â brwsh
4.2 sychu â bysedd
5. Gweddau gorffenedig
5.1 sythu
5.2 llyfnu
5.3 creu cyfaint
5.4 creu symudiad
5.5 creu gweadedd
6. Cyngor ac argymhellion
6.1 sut i gynnal y wedd
6.2 yr ysbaid rhwng gwasanaethau
6.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario
1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion sy'n sychu'n hawdd)
2.6 defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
2.7 defnyddio paent heb lawer o gemegion ynddo
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a di-alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt heb fawr ddim amonia ynddynt
2.10 defnyddio defnyddiau pacio cyfeillgar i'r amgylchedd
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog defnyddio llai o garbon wrth deithio i'r gwaith
3. Ffactorau
sut y mae ffactorau gwahanol yn effeithio ar wasanaethau sychu a gorffennu
3.1 nodweddion gwallt
3.2 y dosbarthiadau o walltiau
3.3 toriad y gwallt
3.4 patrymau tyfu gwallt
3.5 siâp y pen a'r wyneb
4. Cyngor ac argymhellion
* *
4.1 gwasanaethau ychwanegol
4.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunanreoli
1.11 sgiliau creadigol
1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau rhagorol
1.13 cynnal dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu â'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu
1.4 nodi a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient yn foneddigaidd ac yn gymwynasgar bob amser
1.6 rhoi gwybodaeth a sicrwydd cyson i'r cleient
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiadau gwahanol gan gleientiaid
1.8 ymateb i gleient sy'n holi am gymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf addas o gyfathrebu â'r cleient
1.10 gwirio gyda'r cleient eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau'n llwyr
1.11 ymateb yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi eglurhad ychwanegol pan fo'n addas
1.13 bod yn gyflym wrth ddod o hyd i wybodaeth a fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient yr wybodaeth y mae arno ei hangen ynglŷn â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth a allai fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio ei fod wedi'i deall yn iawn
1.16 os bydd unrhyw resymau pam na ellir bodloni gofynion neu ddisgwyliadau'r cleient, dylid eu hesbonio'n glir wrtho
Sgiliau
Geirfa
1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Main/Tenau - gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd cynnal cwrlyn.
1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.
1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau
2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.
2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.
3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.
4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".
- Mae nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol:
2.1 trwch y gwallt
2.2 gweadedd y gwallt
2.3 elastigedd y gwallt
2.4 mandylledd y gwallt
2.5 cyflwr y gwallt
2.6 patrymau tyfu gwallt