Torri blew’r wyneb i siâp gan ddefnyddio technegau sylfaenol

URN: SKACB3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â thorri barfau a mwstashis er mwyn cadw'r siâp fel y mae. Defnyddir y technegau torri siswrn dros grib, clipiwr gydag ategolyn, clipiwr dros grib a thechnegau torri llawrydd.

I gyflawni'r safon hon, bydd angen i chi gynnal lefel uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.

Dyma ganlyniadau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth dorri blew'r wyneb

  2. torri barfau a mwstashis er mwyn cadw eu siâp


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth dorri blew'r wyneb


*

  1. cynnal eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient yn unol â gofynion y salon

  3. gwarchod dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

  4. sicrhau nad oes gormod o doriadau gwallt yn mynd ar groen eich cleient yn ystod y gwasanaeth

  5. gosod eich cleient yn unol â gofynion y gwasanaeth heb achosi unrhyw anghysur iddo

  6. sicrhau bod eich ystum a'ch osgo eich hun wrth weithio yn achosi cyn lleied o flinder a risg o anaf â phosibl

  7. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth

  8. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

8.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar

8.2 lleihau'r risg o groes-heintiad

8.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

8.4 sicrhau bod adnoddau glân yn cael eu defnyddio

8.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi'ch hun ac i eraill

8.6 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad 

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion

  3. cael gwared ar ddefnyddiau gwastraff

  4. cwblhau'r gwasanaeth torri mewn amser sy'n fasnachol ymarferol


*

Torri barfau a mwstashis er mwyn cadw eu siâp

  1. nodi'r ffactorau sy'n debygol o ddylanwadu ar y gwasanaeth cyn torri

  2. paratoi blew wyneb eich cleient cyn y gwasanaeth

  3. cadarnhau gyda'ch cleient y wedd y cytunwyd arni yn y drafodaeth ac yn ystod y gwasanaeth

  4. sefydlu a dilyn y canllaw(iau) torri er mwyn cyflawni'r wedd ofynnol

  5. addasu'ch technegau torri i ystyried ffactorau sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth ac i gyflawni'r wedd a ddymunir

  6. newid eich osgo chi ac osgo'ch cleient er mwyn helpu i sicrhau cywirdeb y toriad

  7. gwirio cysur eich cleient yn rheolaidd trwy gydol y gwasanaeth

  8. sicrhau bod y wedd orffenedig yn wastad, yn gymesur ac yn gytbwys mewn perthynas â siâp wyneb eich cleient

  9. sicrhau bod y wedd orffenedig o drwch cyson trwy'r holl siâp

  10. cael gwared ar unrhyw flew dieisiau y tu allan i'r siâp amlinellol a ddymunir

  11. cael golwg derfynol i sicrhau bod y toriad gorffenedig yn gywir

  12. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon ar y toriad gorffenedig

  13. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​​Cynnal dulliau effeithiol a diogel o weithio wrth dorri blew'r wyneb

* *

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd

  2. gofynion eich salon ar gyfer paratoi cleientiaid

  3. y dewis o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael ar gyfer cleientiaid

  4. pam y mae'n bwysig diogelu cleientiaid rhag toriadau gwallt

  5. sut y gall osgo'ch cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. pwysigrwydd defnyddio'r math cywir o gadair barbwr

  7. yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid talu sylw iddynt wrth dorri blew'r wyneb

  8. pam y mae'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

  9. pam y mae'n bwysig gosod eich offer torri wrth law

  10. sut i ddefnyddio a chynnal a chadw offer torri yn gywir

  11. y dulliau o lanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  12. pwysigrwydd dulliau gweithio diogel a hylan sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a chroes-heigiad

  13. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn 

  14. y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  15. pwysigrwydd hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol i gynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  16. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn defnyddio offer, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel    

  17. y dulliau cywir o gael gwared ar wastraff  

  18. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer torri blew'r wyneb


*

Torri barfau a mwstashis er mwyn cadw eu siâp

  1. y ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod torri blew'r wyneb

  2. pwysigrwydd paratoi blew wyneb cleientiaid cyn y gwasanaeth 

  3. pwysigrwydd cadarnhau gyda'ch cleient y wedd y cytunwyd arni yn y drafodaeth ac yn ystod y gwasanaeth

  4. sut i greu a dilyn canllaw ar gyfer barfau sy'n tapro'n raddol, amlinellau barfau a mwstashis

  5. sut i dorri siapiau blew wyneb gwahanol trwy ddefnyddio technegau torri sylfaenol

  6. siapiau barfau a mwstashis sylfaenol nad oes angen defnyddio raseli i'w creu

  7. pwysigrwydd croeswirio'r toriad i flew'r wyneb

  8. pwysigrwydd gweithio gyda phatrymau tyfu naturiol blew'r wyneb wrth ystyried dosbarthiad y pwysau yn y toriad

  9. sut y bydd ongl gosod yr offer torri a'r pen yn effeithio ar ddosbarthiad y pwysau, y cydbwysedd a graddau graddoli blew'r wyneb

  10. faint y mae blew yn tyfu ar gyfartaledd

  11. effeithiau torri'n agos at y croen yn rheolaidd

  12. y risg posibl o flew yn tyfu i'r byw wrth dorri'n agos at y croen yn rheolaidd

  13. sut i dorri aeliau yn ddiogel

  14. sut i lefelu a phrofi clipwyr

  15. maint y clipwyr, llafnau clipwyr ac ategolion sydd ar gael a'u math, a'r effeithiau a geir o'u defnyddio

  16. pwysigrwydd sicrhau bod y wedd orffenedig yn wastad, yn gymesur ac yn gywys mewn perthynas â siâp wyneb eich cleient

  17. cael gwared ar unrhyw flew dieisiau y tu allan i'r siâp amlinellol a ddymunir

  18. pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Offer a chyfarpar

1.1 sisyrnau

1.2 clipwyr

1.3 ategolion clipwyr

1.4 trimwyr

2. Ffactorau

2.1 siâp y pen a'r wyneb

2.2 nodweddion blew

2.3 y dosbarthiadau o walltiau

2.4 steil y blew

2.5 cyflyrau croen anffafriol

2.6 tyllau cosmetig i'r wyneb

2.7 dymuniadau'r cleient

2.8 blew yn tyfu i'r byw

2.9 elastigedd y croen

3. Gwedd

3.1 llinell daprog i'r farf

3.2 amlinellau barf lawn

3.3 barf rannol

3.4 mwstash yn unig

3.5 trim i'r aeliau

4. Technegau torri

4.1 iswrn dros grib

4.2 clipiwr gydag ategolyn

4.3 clipiwr dros grib

4.4 llawrydd

5. Cyngor ac argymhellion

5.1 sut i gynnal y wedd

5.2 yr ysbaid rhwng gwasanaethau

5.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac yn y dyfodol

5.4 hifio (exfoliate)


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)

2.3 lleihau defnydd dŵr ac adnoddau eraill  

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)

2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

2.7 defnyddio paent cemegol isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar  

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Ffactorau

y ffactorau gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod torri, a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth torri

3.1 nodweddion gwallt

3.2 y dosbarthiadau o walltiau

3.3 siâp y pen a'r wyneb

3.4 steil y gwallt

3.5 cyflyrau croen anffafriol

3.6 tyllau cosmetig i'r wyneb

3.7 dymuniadau'r cleient

3.8 blew yn tyfu i'r byw

3.9 elastigedd y croen

4. Cyngor ac argymhellion


*

4.1 gwasanaethau ychwanegol

4.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

  1. Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunanreoli

1.11 sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau rhagorol

1.13 cynnal dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion


Ymddygiadau

​1. Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn:

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu â'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu

1.4 nodi a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn foneddigaidd ac yn gymwynasgar bob amser

1.6 rhoi gwybodaeth a sicrwydd cyson i'r cleient

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiadau gwahanol gan gleientiaid

1.8 ymateb yn ddi-oed i gleient sy'n holi am gymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf addas o gyfathrebu â'r cleient

1.10 gwirio gyda'r cleient eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau'n llwyr

1.11 ymateb yn ddi-oed ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi eglurhad ychwanegol pan fo'n addas

1.13 bod yn gyflym wrth ddod o hyd i wybodaeth a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient yr wybodaeth y mae arno ei hangen ynglŷn â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth a allai fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio ei fod wedi'i deall yn iawn

1.16 os bydd unrhyw resymau pam na ellir cyflawni gofynion neu ddisgwyliadau'r cleient, dylid eu hesbonio'n glir wrtho


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Main/Tenau - gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd cynnal cwrlyn.

1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.

1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau

2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.

2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.

3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.

4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol:

2.1 trwch y gwallt

2.2 gweadedd y gwallt

2.3 elastigedd y gwallt

2.4 mandylledd y gwallt

2.5 cyflwr y gwallt

2.6 patrymau tyfu gwallt

3. Barf rannol

3.1 unrhyw flew wyneb nad yw'n ffurfio barf lawn na mwstash

*4. Siapiau i flew'r wyneb: (Enghreifftiau'n unig)
*

4.1 Angor

barf wedi'i siapio fel angor o ganol y wefus isaf, o gwmpas yr ên ac i fyny ar ei hyd.

4.2 Pharo

barf sy'n cychwyn o waelod yr ên. Gall fod o unrhyw hyd.

4.3 Bonion blew

tyfiant barf lawn, dros sawl diwrnod, wedi'i dacluso.

4.4 Locsyn bwch gafr

barf gul sy'n cylchu'r geg a'r ên.

4.5 Rheilen llenni

barf gul sy'n dilyn yr ên isaf.

4.6 Mwstash llinell y wefus

mwstash llorweddol tua lled pensil.

4.7 Mwstash Mecsicanaidd

mwstash sy'n dilyn llinell naturiol y wefus uchaf ac yn ymestyn i lawr tuag at yr ên.

4.8 Mwstash pensil

mwstash cul sy'n dilyn llinell naturiol y wefus uchaf.

4.9 Mwstash pen tŷ

mwstash sy'n ymestyn o dan y trwyn i ffurfio siâp ceibr (chevron) syth.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGB4

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Torri; blew’r wyneb; siâp; barbro; technegau