Torri gwallt gan ddefnyddio technegau barbro sylfaenol

URN: SKACB2
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau torri trachywir a ddefnyddir wrth farbro er mwyn creu amrywiaeth o steiliau a gorffeniadau gwddf ar gyfer dynion. Cyflawnir hyn trwy ddefnyddio'r technegau toriad clwb, siswrn dros grib, clipiwr dros grib, teneuo a llawrydd.

I gyflawni'r safon hon, bydd angen i chi gynnal lefel uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.

Yn y safon hon, dim ond i gael gwared ar wallt dieisiau y tu allan i'r siâp amlinellol y bydd raseli'n cael eu defnyddio.

Dyma brif ganlyniadau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth dorri gwallt

  2. torri gwallt er mwyn creu amrywiaeth o steiliau


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth dorri gwallt


*

  1. cynnal eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. diogelu dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

  3. sicrhau nad oes gormod o doriadau gwallt yn mynd ar groen eich cleient yn ystod y gwasanaeth

  4. gosod eich cleient yn unol â gofynion y gwasanaeth heb achosi unrhyw anghysur iddo

  5. sicrhau bod eich ystum a'ch osgo eich hun wrth weithio yn achosi cyn lleied o flinder a risg o anaf â phosibl

  6. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gweithio sy'n:

7.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar

7.2 sicrhau bod menig yn cael eu gwisgo wrth ddefnyddio raseli

7.3 lleihau'r risg o groes-heintiad

7.4 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

7.5 sicrhau bod adnoddau glân yn cael eu defnyddio

7.6 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi'ch hun ac i eraill

7.7 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad 

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion

  3. cael gwared ar ddefnyddiau gwastraff ac offer miniog

  4. cwblhau'r gwasanaeth torri mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

Torri gwallt i greu amrywiaeth o steiliau

  1. paratoi gwallt eich cleient cyn ei dorri

  2. cadarnhau gyda'ch cleient, cyn dechrau torri, y wedd y cytunwyd arni yn ystod y drafodaeth

  3. creu a dilyn y canllaw(iau) torri er mwyn cyflawni'r wedd ofynnol

  4. defnyddio technegau torri sy'n gweddu i'r math o wallt sydd gan eich cleient a chyflawni'r wedd a ddymunir

  5. addasu'ch technegau torri i ystyried ffactorau sy'n debygol o ddylanwadu ar y gwasanaeth

  6. newid eich osgo chi ac osgo'ch cleient er mwyn helpu i sicrhau cywirdeb y toriad  

  7. sicrhau dosbarthiad cywir o ran cydbwysedd pwysau'r gwallt a'i siâp

  8. creu siapiau gwddf sy'n ystyried llinell naturiol y gwallt

  9. cyflawni amlinellau sy'n gywir, a chael gwared ar unrhyw wallt dieisiau y tu allan i'r siâp amlinellol a ddymunir

  10. cydbwyso a siapio cernflew i weddu i steil y gwallt ac i fodloni gofynion eich cleient

  11. trafod â'ch cleient yn ystod y broses dorri er mwyn cadarnhau'r wedd a ddymunir

  12. gwneud archwiliad gweledol terfynol er mwyn sicrhau bod y toriad gorffenedig a'r amlinellau yn gywir

  13. gadael y gwallt yn barod ar gyfer rhan nesaf y gwasanaeth neu orffen yn unol â gofynion eich cleient

  14. cadarnhau bod eich cleient yn fodlon ar y toriad gorffenedig

26. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth dorri gwallt


*

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd

  2. gofynion eich salon ar gyfer paratoi cleientiaid

  3. y dewis o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael ar gyfer cleientiaid

  4. pam y mae'n bwysig gwisgo menig wrth ddefnyddio rasel

  5. pam y mae'n bwysig diogelu cleientiaid rhag toriadau gwallt

  6. sut y gall osgo'ch cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  7. sut i ddefnyddio a chynnal a chadw offer torri yn gywir

  8. pam y mae'n bwysig gosod eich offer torri wrth law

  9. yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid talu sylw iddynt wrth dorri gwallt

  10. y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

  11. pam y mae'n bwysig osgoi croes-heintiad a chroes-heigiad

  12. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'ch steilydd, sy'n cynnwys gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

  13. pam y mae'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

  14. y dulliau o lanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau

  15. y dulliau o weithio'n ddiogel ac yn hylan sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a chroes-heigiad

  16. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn 

  17. pwysigrwydd hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol i gynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  18. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn defnyddio offer, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel    

  19. y dulliau cywir o gael gwared ar wastraff

  20. amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer steiliau torri gwahanol

*
 *

Torri gwallt ar gyfer amrywiaeth o steiliau


*

  1. sut i baratoi gwallt eich cleient cyn ei dorri

  2. pam y dylid cael gwared ar gynhyrchion yn y gwallt cyn ei dorri

  3. pwysigrwydd cribo'r gwallt yn gywir cyn ei dorri

  4. pa offer y gellir eu defnyddio ar wallt gwlyb neu sych neu'r ddau

  5. pwysigrwydd cadarnhau gyda'ch cleient, cyn dechrau torri, y wedd y cytunwyd arni yn ystod y drafodaeth

  6. y rhesymau dros sefydlu a dilyn canllawiau

  7. sut i greu a dilyn canllawiau ar gyfer steiliau torri gwahanol

  8. sut a phryd i ddefnyddio technegau torri gwahanol a'r effeithiau a gyflawnir

  9. pwysigrwydd ystyried dosbarthiad pwysau'r gwallt a gweithio gyda phatrymau tyfu naturiol y gwallt

  10. sut y bydd onglau torri gwahanol yn effeithio ar ddosbarthiad y pwysau, y cydbwysedd a graddau'r graddoli

  11. pwysigrwydd gwybod faint o densiwn i'w roi ar y gwallt wrth dorri

  12. y ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod torri, a sut y mae'r rhain yn gallu effeithio ar y gwasanaeth torri

  13. y mathau o glipwyr, llafnau clipwyr ac ategolion sydd ar gael, a'r effeithiau y mae'r rhain yn eu creu

  14. sut i drimio aeliau yn ddiogel

  15. y ffactorau y dylid eu hystyried wrth dorri gwallt gwlyb a gwallt sych

  16. pwysigrwydd newid eich osgo eich hun ac osgo eich cleient er mwyn helpu i sicrhau cywirdeb y toriad

  17. pwysigrwydd cadw'r gwallt yn llaith wrth ei dorri'n wlyb

  18. pwysigrwydd sicrhau bod dosbarthiad y pwysau, y cydbwysedd a'r siâp yn gywir trwy wirio'r toriad yn rheolaidd

  19. sut i greu siapiau gwddf a siapiau amlinellol gwahanol

  20. pwysigrwydd torri i linell naturiol y gwddf wrth farbro

  21. sut i sicrhau amlinellau sy'n gywir a chael gwared ar wallt dieisiau y tu allan i'r siâp amlinellol a ddymunir

  22. pwysigrwydd cydbwysedd a siâp cernflew fel eu bod yn gweddu i steil y gwallt ac yn bodloni gofynion eich cleient

  23. pwysigrwydd trafod â chleientiaid trwy gydol y broses dorri

  24. y gwirio gweledol sy'n ofynnol er mwyn sicrhau bod y toriad gorffenedig a'r amlinellau yn gywir

  25. pwysigrwydd gadael y gwallt yn barod ar gyfer rhan nesaf y gwasanaeth neu ddod i ben yn unol â gofynion eich cleient

  26. pwysigrwydd cadarnhau bod eich cleient yn fodlon ar y toriad gorffenedig

  27. faint y mae gwallt yn tyfu ar gyfartaledd

  28. achosion hysbys a phatrymau moelni dynion nodweddiadol

  29. pwysigrwydd rhoi cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir yn y salon


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Offer a chyfarpar

1.1 sisyrnau

1.2 clipwyr

1.3 ategolion clipwyr

1.4 trimwyr

1.5 raseli

2. Gwallt

2.1 gwlyb

2.2 sych

3. Gwedd

3.1 haen unffurf

3.2 haen sgwâr

3.3 wedi'i raddoli

3.4 â thop gwastad

3.5 gyda ffrinj

3.6 gyda rhaniad

3.7 amlinell o gwmpas y glust

3.8 dros y glust

3.9 wedi'i bylu

3.10 wedi trimio'r aeliau

4. Technegau

4.1 toriad clwb

4.2 siswrn dros grib

4.3 clipiwr dros grib

4.4 llawrydd

4.5 teneuo

4.6 pylu

5. Ffactorau

5.1 nodweddion gwallt

5.2 y dosbarthiadau o walltiau

5.3 siâp y pen a'r wyneb

5.4 presenoldeb patrymau moelni dynion

5.5 tyllau cosmetig

5.6 cyflyrau croen anffafriol

6. Siapiau gwddf

6.1 taprog

6.2 sgwâr

6.3 gwddf llawn

7. Siapiau amlinellol

7.1 naturiol

7.2 wedi'u creu

7.3 taprog

8. Cyngor ac argymhellion

8.1 sut i gynnal y wedd

8.2 yr ysbaid rhwng gwasanaethau

8.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac yn y dyfodol.


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffiniwyd gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â'ch swyddogaeth

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario

1.6 Rheoliadau Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 RheoliadauTrydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)

2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

y gwahanol fathau o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaladwy

2.1 lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ail-ddefnyddio, gwaredu diogel)

2.2 lleihau defnydd egni (sychwyr gwallt egni-effeithiol, goleuo egni isel, defnydd o baneli solar)

2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill  

2.4 atal llygredd

2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tyweli sychu sydyn)

2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar

2.7 defnyddio paent cemegol isel

2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a rhai sy'n rhydd o alergedd

2.9 defnyddio lliwyddion gwallt amonia tra isel

2.10 defnyddio deunydd pacio cynnyrch amgylcheddol-gyfeillgar  

2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

2.12 annog siwrneiau lleihau carbon i'r gwaith

3. Ffactorau

y ffactorau gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod torri, a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth torri

3.1 y dosbarthiadau o walltiau

3.2 nodweddion gwallt

3.3 siâp y pen a'r wyneb

3.4 patrymau tyfu gwallt

4. Technegau

sut a phryd i ddefnyddio technegau torri gwahanol a'r effeithiau a geir

4.1 toriad clwb

4.2 siswrn dros grib

4.3 clipiwr dros grib

4.4 llawrydd

4.5 pylu

5. Gweddau

* *

sut i greu a dilyn canllaw ar gyfer gweddau torri gwahanol

5.1 haen unffurf

5.2 haen sgwâr

5.3 wedi'i raddoli

5.4 â thop gwastad

5.5 gyda ffrinj

5.6 gyda rhaniad

5.7 amlinell o gwmpas y glust

5.8 dros y glust

5.9 wedi'i bylu

5.10 wedi trimio'r aeliau

6. Cyngor ac argymhellion

* *

6.1 gwasanaethau ychwanegol

6.2 cynhyrchion ychwanegol


Gwerthoedd

​1. Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol

1.10 y gallu i hunanreoli

1.11 sgiliau creadigol

1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau rhagorol

1.13 cynnal dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn:

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu â'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu

1.4 nodi a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 trin y cleient yn foneddigaidd ac yn gymwynasgar bob amser

1.6 rhoi gwybodaeth a sicrwydd cyson i'r cleient

1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiadau gwahanol gan gleientiaid

1.8 ymateb i gleient sy'n holi am gymorth

1.9 dewis y ffordd fwyaf addas o gyfathrebu â'r cleient

1.10 gwirio gyda'r cleient eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau'n llwyr

1.11 ymateb yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi eglurhad ychwanegol pan fo'n addas

1.13 bod yn gyflym wrth ddod o hyd i wybodaeth a fydd o gymorth i'r cleient

1.14 rhoi i'r cleient yr wybodaeth y mae arno ei hangen ynglŷn â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon

1.15 bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth a allai fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio ei fod wedi'i deall yn iawn

1.16 os bydd unrhyw resymau pam na ellir bodloni gofynion neu ddisgwyliadau'r cleient, dylid eu hesbonio'n glir wrtho


Sgiliau


Geirfa

1. Dosbarthiad gwallt (canllaw yn unig ydi hyn)

Math 1 – Gwallt syth

1.1 Main/Tenau - gwallt yn dueddol o fod yn ysgafn, sgleiniog a seimlyd iawn, ac yn gallu bod yn anodd cynnal cwrlyn.

1.2 Canolig – gwallt â llawer o foliwm a thrwch.

1.3 Garw - gwallt fel arfer yn syth iawn ac anodd ei gyrlio.

Math 2 – Gwallt tonnog

2.1 Main/Tenau – gwallt â phatrwm "S" pendant. Fel arfer yn gallu cyflawni amrywiol steiliau

2.2 Canolig - gwallt yn dueddol o fod yn grychlyd ac ychydig yn wrthiannol i steilio.

2.3 Garw – gwallt hefyd yn wrthiannol i steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; tueddol o fod â thonnau mwy trwchus.

Math 3 – Gwallt cyrliog

3.1 Cyrlau rhydd – gwallt yn dueddol o fod â gwead cyfunol. Gall fod yn drwchus a llawn gyda llawer o swmp, gyda phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn dueddol o fod yn grychlyd.

3.2 Cyrlau tynn - hefyd yn dueddol o fod â gwead cyfunol, gyda swm canolig o gyrlio.

Math 4 – Gwallt cyrliog iawn

4.1 Ysgafn– gwallt yn dueddol o fod yn fregus iawn, wedi'i dorchi'n dynn ag â phatrwm cyrliog mwy diffiniedig.

4.2 Gwrychog – hefyd yn fregus iawn ac wedi'i dorchi'n dynn; fodd bynnag, gyda phatrwm cyrliog llai diffiniedig – mwy o siâp patrwm "Z".

  1. Mae nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol:

2.1 trwch y gwallt

2.2 gweadedd y gwallt

2.3 elastigedd y gwallt

2.4 mandylledd y gwallt

2.5 cyflwr y gwallt

2.6 patrymau tyfu gwallt

3. Toriad haenau unffurf

3.1 mae pob adran o'r gwallt yn cael ei thorri i'r un hyd gyda siswrn

4. Gwddf llawn

4.1 gwallt hyd y goler

5. Trimwyr

5.1 clipwyr bach gyda llafnau llai i greu toriad agos, mannach gyda mwy o ddiffiniad a manylion

**

  1. Â Thop Gwastad**

6.1 Bydd y gwallt fel arfer yn cael ei dorri â chlipwyr gan ddefnyddio'r dechneg clipiwr dros grib, er y gall hefyd gael ei dorri â siswrn dros grib neu'n llawrydd â chlipiwr. Tra bo'r barbwr yn sefyll y tu ôl i'r cleient, bydd y gwallt ar y corun yn cael ei dorri nes ei fod rhwng chwarter a hanner modfedd o hyd. Yna, bydd y barbwr yn symud i sefyll o flaen y cleient ac yn torri top y gwallt fel ei fod tua dwy fodfedd o hyd. Bydd wedyn yn torri'r gwallt ar draws y top o ochr i ochr ac yn symud yn ôl tuag at y gwallt byrrach ar y corun. Mae'r union hyd yn dibynnu ar siâp y benglog a steil y top gwastad. Wedyn, bydd y top a'r ochrau'n cael eu torri'n fwy cywrain er mwyn creu gogwydd penodol ac effaith sgwaraidd. Mae yna nifer o addasiadau i'r toriad hwn, megis y gynffon hwyaden (y DA), y bedol ceffyl neu'r top uchel wedi'i bylu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGB3

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwallt; barbro; torri