Darparu gwasanaethau eillio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth eillio proffesiynol. Mae angen paratoi a defnyddio offer eillio proffesiynol, gan gynnwys rhoi cynhyrchion gorffennu i weddu i anghenion eich cleient.
I gyflawni'r safon hon, bydd angen i chi gynnal lefel uchel o iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.
Dyma brif ganlyniadau'r safon hon:
cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth eillio
paratoi'r blew a'r croen ar gyfer eu heillio
eillio'r blew a rhoi cynhyrchion gorffennu
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth eillio
*
*
cynnal eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi eich cleient yn unol â gofynion y salon
gwarchod dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth
gwisgo menig trwy gydol y gwasanaeth eillio
sicrhau nad oes gormod o doriadau gwallt yn mynd ar groen eich cleient yn ystod y gwasanaeth
gosod eich cleient yn unol â gofynion y gwasanaeth heb achosi unrhyw anghysur iddo
sicrhau bod eich ystum a'ch osgo eich hun wrth weithio yn achosi cyn lleied o flinder a risg o anaf â phosibl
cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gweithio sy'n:
9.1 lleihau'r risg o ddifrod i offer a chyfarpar
9.2 lleihau'r risg o groes-heintiad
9.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio
9.4 sicrhau bod adnoddau glân yn cael eu defnyddio
9.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi'ch hun ac i eraill
9.6 hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
sicrhau bod eich hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion
cael gwared ar ddefnyddiau gwastraff ac offer miniog
cwblhau'r gwasanaeth mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
Paratoi'r blew a'r croen ar gyfer eu heillio
nodi ffactorau a all ddylanwadu ar y gwasanaeth cyn eillio
dewis cynhyrchion, offer a chyfarpar yn seiliedig ar ganlyniadau trafodaeth â'ch cleient
paratoi, rhoi ac addasu'r defnydd o dywelion poeth i weddu i anghenion y gwasanaeth a chysur eich cleient
glanhau a/neu ddigennu (exfoliate) y croen pan fo angen
defnyddio cynnyrch cyn-eillio cyn seboni'r cleient
paratoi cynhyrchion seboni fel eu bod yn addas mewn pryd i'w defnyddio yn y gwasanaeth eillio
rhoi cynhyrchion seboni mewn ffordd sy'n ystyried y ffactorau a nodwyd gennych
rhoi cynhyrchion seboni mewn ffordd sy'n sicrhau bod cyn lleied o risg â phosibl iddynt fynd i lygaid neu ar ddillad eich cleient, neu ar yr ardal o gwmpas
defnyddio technegau seboni sy'n sicrhau bod y cynnyrch yn gorchuddio'r mannau i'w heillio yn wastad
Eillio blew a rhoi cynhyrchion gorffennu
cadarnhau gyda'ch cleient, cyn dechrau eillio, y wedd y cytunwyd arni yn y drafodaeth
addasu'ch technegau eillio i ystyried ffactorau a nodwyd gennych sy'n effeithio ar y gwasanaeth
addasu'ch technegau eillio ac osgo'ch cleient trwy gydol y gwasanaeth er mwyn sicrhau diogelwch a chael gwared ar y blew yn effeithiol
cynnal neu newid ymyl torri raseli yn ystod y gwasanaeth eillio pan fo angen
gweithredu camau adfer priodol i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y gwasanaeth eillio
sicrhau nad oes cynhyrchion seboni ar groen eich cleient wedi i chi orffen eillio
pan fo'u hangen, defnyddio technegau tylino'r wyneb mewn ffordd sy'n osgoi anghysur
rhoi cynhyrchion gorffennu i gyflawni'r effaith a ddymunir
sicrhau nad oes gormod o wlybaniaeth ar groen eich cleient ar ddiwedd y gwasanaeth
cadarnhau bod eich cleient yn fodlon ar y gwasanaeth gorffenedig
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth eillio
*
*
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd
gofynion eich salon ar gyfer paratoi cleientiaid
y dewis o ddillad gwarchod a ddylai fod ar gael ar gyfer cleientiaid
pam y mae'n bwysig defnyddio menig tafladwy wrth eillio
sut y gall osgo'ch cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf
pwysigrwydd defnyddio'r math cywir o gadair barbwr
yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid talu sylw iddynt wrth eillio blew'r wyneb
pam y mae'n bwysig osgoi croes-heintiad a chroes-heigiad
pam y mae'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
defnyddio a chynnal a chadw offer eillio yn gywir
y dulliau o lanhau, diheintio a sterileiddio a ddefnyddir mewn salonau
pam y mae'n bwysig gosod eich offer eillio wrth law
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y dulliau o weithio'n ddiogel ac yn hylan sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a chroes-heigiad
pwysigrwydd hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol i gynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle
cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn gwneud defnydd diogel o offer, defnyddiau a chynhyrchion
y dulliau cywir o gael gwared ar wastraff
amserau gwasanaeth disgwyliedig eich salon ar gyfer eillio blew'r wyneb
Paratoi'r blew a'r croen ar gyfer eu heillio
*
*
y ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod y gwasanaeth eillio
y mathau o raseli llafn agored â llafnau tafladwy sydd ar gael ar gyfer defnydd proffesiynol
sut i baratoi rasel llafn agored â llafn tafladwy ar gyfer ei ddefnyddio
sut i baratoi a defnyddio cynhyrchion seboni yn gywir
adeiledd a swyddogaeth y croen
yr anhwylderau ar groen y pen a chroen yr wyneb sydd fel arfer yn effeithio ar ddynion, a sut i'w hadnabod
pwysigrwydd seboni a'i swyddogaeth ar y croen a'r blew
effaith gwres ar y blew a'r croen
y risg posibl o flew yn tyfu i'r byw o ganlyniad i eillio'n agos yn rheolaidd
sut y mae'r broses heneiddio naturiol yn effeithio ar groen yr wyneb a ffyrfder y cyhyrau
sut y mae ffactorau amgylcheddol a ffordd o fyw unigolyn yn effeithio ar gyflwr y croen
pryd i beidio ag eillio
Eillio blew a defnyddio cynhyrchion gorffennu
pwysigrwydd cadarnhau gyda'ch cleient, cyn dechrau eillio, y wedd y cytunwyd arni yn y drafodaeth
pryd a pham y mae'n angenrheidiol cwtogi hyd y farf cyn eillio
sut i gyflawni technegau eillio gwahanol
pam y mae'n rhaid tensiynu croen yn ystod y broses eillio
pwysigrwydd gweithio mewn ffordd sy'n cynnal tymheredd cywir y croen trwy gydol y broses eillio
pwysigrwydd addasu technegau eillio mewn perthynas â chyfeiriad tyfiant y gwallt
pryd a pham y dylid defnyddio technegau brwsio a thylino i roi cynhyrchion seboni
pryd a pham y dylid eillio â sbwnj
y rhesymau dros ddefnyddio tywelion claear ar ôl eillio, a'u heffeithiau
pam na ddylid defnyddio tywelion oer os yw'r wyneb i gael ei dylino
y mathau o gynhyrchion gorffennu sydd ar gael i'w defnyddio a'u heffeithiau ar y croen
sut i gyflawni'r technegau tylino sydd yn y maes
budd ac effeithiau tylino'r wyneb
sut a pham y dylai technegau tylino amrywio ar rannau gwahanol o'r wyneb
problemau a all godi yn ystod y broses eillio, er enghraifft eillio'r blew yn rhy agos neu niweidio croen y cleient neu'ch croen eich hun, a ffyrdd o ddatrys problemau o'r fath
pwysigrwydd darparu cyngor ac argymhellion ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir yn y salon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Gwasanaeth eillio
1.1 eilliad llawn
1.2 eilliad rhannol
1.3 amlinellau barf
2. Offer a chyfarpar
2.1 raseli llafn agored, gyda llafnau tafladwy
2.2 brwshis eillio
2.3 sbwnjis
3. Ffactorau
3.1 y dosbarthiadau o walltiau
3.2 nodweddion gwallt
3.3 cyflyrau croen anffafriol
3.4 nodweddion anghyffredin
3.5 elastigedd y croen
3.6 amlinell yr wyneb
3.7 tyllau cosmetig i'r wyneb
3.8 dymuniadau'r cleient
4. Cynhyrchion seboni
4.1 hufennau
4.2 olewau
4.3 gel
4.4 sebon
5. Technegau seboni
5.1 rhoi gyda brwsh
5.2 rhoi trwy dylino
6. Technegau eillio
6.1 tensiynu'r croen
6.2 eillio gyda chledr y llaw
6.3 eillio gyda chefn y llaw
6.4 eillio â sbwnj
*
*
7. Technegau tylino'r wyneb
7.1 effleurage
7.2 petrissage
7.3 tapotement
8. Cynhyrchion gorffennu
8.1 styptigion
8.2 hufen gwlybyru
8.3 balm ôl-eillio
8.4 powdr
9. Cyngor ac argymhellion
9.1 sut i gynnal y wedd
9.2 yr ysbaid rhwng gwasanaethau
9.3 cynhyrchion a gwasanaethau cyfredol ac yn y dyfodol
9.4 gofalu am y croen
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd
1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
1.2 Rheoliadau Cofnodi Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Trafod â Llaw
1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)
2. Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
y mathau gwahanol o ddulliau gweithio sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
2.1 lleihau a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2.2 lleihau'r defnydd o ynni (sychwyr gwallt sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
2.3 lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
2.4 atal llygredd
2.5 defnyddio eitemau tafladwy (tywelion sy'n sychu'n hawdd)
2.6 defnyddio dodrefn wedi'i ailgylchu, ecogyfeillgar
2.7 defnyddio paent heb lawer o gemegion ynddo
2.8 defnyddio cynhyrchion gwallt organig a di-alergedd
2.9 defnyddio lliwyddion gwallt heb fawr ddim amonia ynddynt
2.10 defnyddio defnyddiau pacio cyfeillgar i'r amgylchedd
2.11 dewis cynhyrchion domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
2.12 annog defnyddio llai o garbon wrth deithio i'r gwaith
3. Ffactorau
y ffactorau gwahanol y mae'n rhaid eu hystyried cyn ac yn ystod eillio, a sut y gall y rhain effeithio ar y gwasanaeth eillio
3.1 nodweddion gwalltiau
3.2 y dosbarthiadau o walltiau
3.3 siâp y pen a'r wyneb
3.4 steil y gwallt
3.5 cyflyrau croen anffafriol
3.6 tyllau cosmetig i'r wyneb
3.7 dymuniadau'r cleient
3.8 blew yn tyfu i'r byw
3.9 elastigedd y croen
4. Cyngor ac argymhellion
*
*
4.1 gwasanaethau ychwanegol
4.2 cynhyrchion ychwanegol
Gwerthoedd
- Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol wrth wraidd gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro:
1.1 parodrwydd i ddysgu
1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol
1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant
1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad
1.5 agwedd hyblyg at waith
1.6 gweithiwr tîm
1.7 cynnal gofal cwsmeriaid
1.8 agwedd gadarnhaol
1.9 moeseg bersonol a phroffesiynol
1.10 y gallu i hunanreoli
1.11 sgiliau creadigol
1.12 sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau da
1.13 cynnal dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel
1.14 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion
Ymddygiadau
1. Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn:
1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon
1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar
1.3 cyfathrebu â'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu
1.4 nodi a chadarnhau disgwyliadau'r cleient
1.5 trin y cleient yn foneddigaidd ac yn gymwynasgar bob amser
1.6 rhoi gwybodaeth a sicrwydd cyson i'r cleient
1.7 addasu'r ymddygiad er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiadau gwahanol gan gleientiaid
1.8 ymateb yn ddi-oed i gleient sy'n holi am gymorth
1.9 dewis y ffordd fwyaf addas o gyfathrebu â'r cleient
1.10 gwirio gyda'r cleient eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau'n llwyr
1.11 ymateb yn ddi-oed ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
1.12 caniatáu amser i'r cleient ystyried yr ymateb a rhoi eglurhad ychwanegol pan fo'n addas
1.13 bod yn gyflym wrth ddod o hyd i wybodaeth a fydd o gymorth i'r cleient
1.14 rhoi i'r cleient yr wybodaeth y mae arno ei hangen ynglŷn â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon
1.15 bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth a allai fod yn gymhleth i'r cleient a gwirio ei fod wedi ei deall yn iawn
1.16 os bydd unrhyw resymau pam na ellir bodloni gofynion neu ddisgwyliadau'r cleient, dylid eu hesbonio'n glir wrtho
Sgiliau
Geirfa
1. Y dosbarthiadau o walltiau (canllaw yn unig yw hwn)
Math 1 – Gwallt syth
1.1 Main/Tenau – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn feddal iawn, yn sgleiniog ac yn olewog, a gall fod yn anodd cynnal cyrlen ynddo.
1.2 Canolig – mae gan y gwallt lawer o gyfaint.
1.3 Bras – mae'r gwallt fel arfer yn hynod o syth ac mae'n anodd rhoi cyrls ynddo.
Math 2 – Gwallt tonnog
2.1 Main/Tenau – mae yna batrwm "S" pendant i'r gwallt. Gellir ei steilio mewn sawl ffordd fel arfer.
2.2 Canolig – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn grychlyd ac yn anodd ei steilio.
2.3 Bras – mae hwn hefyd yn wallt sy'n anodd ei steilio ac fel arfer yn grychlyd iawn; mae'r tonnau'n tueddu i fod yn fwy trwchus.
Math 3 – Gwallt cyrliog
3.1 Cyrls rhydd – mae gweadedd y gwallt yn gyfuniad o fathau gwahanol. Gall fod yn drwchus gyda llawer o gyfaint a phatrwm "S" pendant. Mae hefyd yn tueddu i fod yn grychlyd.
3.2 Cyrls tyn – mae gweadedd hwn hefyd yn gyfuniad o fathau gwahanol o walltiau, ac mae iddo swm cymedrol o gyrls.
Math 4 – Gwallt cyrliog iawn
4.1 Meddal – mae'r gwallt yn tueddu i fod yn fregus iawn, yn dorchau tyn, ac mae iddo batrwm cyrliog mwy pendant.
4.2 Gwrychog – mae hwn hefyd yn fregus iawn ac yn dorchau tyn; fodd bynnag, nid yw'r patrwm cyrliog mor bendant – mae'n debycach i siâp patrwm "Z".
- Mae nodweddion gwallt yn cynnwys y canlynol:
2.1 trwch y gwallt
2.2 gweadedd y gwallt
2.3 elastigedd y gwallt
2.4 mandylledd y gwallt
2.5 cyflwr y gwallt
2.6 patrymau tyfu gwallt