Cynorthwyo gyda gwasanaethau eillio

URN: SKACB1
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt,Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau sylfaenol ar gyfer cynorthwyo gyda gwasanaethau eillio. Bydd y gwaith yn cael ei wneud dan gyfarwyddyd y steilydd.

I gyflawni'r safon hon, bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol ac arddangos sgiliau cyfathrebu da.


*

Dyma brif ganlyniadau'r safon hon:

  1. cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau eillio

  2. paratoi blew a chroen yr wyneb ar gyfer gwasanaethau eillio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau eillio

  1. cynnal eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi eich cleient yn unol â gofynion y salon

  3. gwarchod dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth eillio

  4. gwisgo cyfarpar diogelu personol wrth gynorthwyo gyda'r gwasanaeth eillio

  5. gosod eich cleient yn unol â gofynion y gwasanaeth heb achosi unrhyw anghysur iddo

  6. sicrhau bod eich ystum a'ch osgo eich hun wrth weithio yn achosi cyn lleied o flinder a risg o anaf â phosibl

  7. dilyn cyfarwyddiadau'r steilydd trwy gydol y gwasanaeth eillio

  8. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth eillio

  9. defnyddio dulliau gweithio sy'n

9.1 gwastraffu cyn lleied o gynhyrchion seboni â phosibl

9.2 lleihau'r risg o groes-heintiad

9.3 gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

9.4 sicrhau bod adnoddau glân yn cael eu defnyddio

9.5 lleihau'r risg o niwed neu anaf i chi'ch hun a chleientiaid

  1. sicrhau bod eich hylendid, diogelwch ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad 

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  3. glanhau, diheintio a/neu sterileiddio pob darn o offer a chyfarpar yn union wedi cwblhau'r gwasanaeth eillio

  4. sicrhau bod unrhyw wastraff peryglus yn cael ei waredu yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y salon

  5. sicrhau bod eich safonau iechyd a hylendid personol yn lleihau'r risg o groes-heintiad, croes-heigiad a thramgwydd i'ch cleientiaid a'ch cydweithwyr

  6. ailgyflenwi unrhyw adnoddau sydd wedi mynd yn isel pan fo angen, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar eich gwaith eich hun ac ar gleientiaid


*

Paratoi blew a chroen yr wyneb ar gyfer gwasanaethau eillio

*
 *

  1. paratoi tywelion poeth ac oer, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r steilydd

  2. gosod tywelion poeth yn unol ag anghenion y gwasanaeth a chysur eich cleient, gan ddilyn cyfarwyddiadau gan y steilydd

  3. paratoi cynhyrchion seboni fel eu bod yn barod mewn pryd ar gyfer y gwasanaeth eillio

  4. rhoi cynhyrchion seboni mewn ffordd sy'n ystyried ffactorau a nodir gan y steilydd

  5. rhoi'r cynhyrchion seboni mewn ffordd sy'n sicrhau bod cyn lleied o risg â phosibl iddynt fynd i lygaid neu ar ddillad eich cleient, neu ar yr ardal o gwmpas

  6. defnyddio technegau seboni sy'n sicrhau bod y cynnyrch yn gorchuddio'r rhannau i'w heillio yn wastad

  7. gwirio cysur y cleient trwy gydol y gwasanaeth eillio

  8. rhoi gwybod i'r steilydd pan fydd y cleient yn barod i'w eillio

  9. cyfeirio unrhyw broblemau at yr unigolyn perthnasol i weithredu arnynt

  10. sicrhau nad oes unrhyw gynhyrchion seboni ar groen eich cleient ar ôl y gwasanaeth eillio

  11. pan nad oes angen tylino'r wyneb, oeri croen eich cleient wedi i chi ei eillio

  12. sicrhau nad oes gormod o wlybaniaeth ar groen eich cleient ar ddiwedd y gwasanaeth eillio

  13. nodi a rhoi gwybod am unrhyw broblemau a allai godi wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau eillio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau eillio


*

  1. eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd

  2. gofynion eich salon ar gyfer paratoi cleientiaid

  3. pwysigrwydd defnyddio'r math cywir o gadair barbwr ar gyfer gwasanaethau eillio

  4. y dewis o ddillad a chynhyrchion gwarchod a ddylai fod ar gael ar eich cyfer chi a'ch cleientiaid

  5. sut y gall osgo'ch cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder a'r risg o anaf

  6. pam y mae'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

  7. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'ch steilydd, sy'n cynnwys gwneud defnydd effeithiol o'ch amser gweithio

  8. yr ystyriaethau diogelwch y mae'n rhaid talu sylw iddynt wrth ddefnyddio cynhyrchion seboni a thywelion poeth

  9. y dulliau o weithio'n ddiogel ac yn hylan sy'n lleihau'r risg o groes-heintiad a chroes-heigiad

  10. beth yw dermatitis cyswllt a sut y mae osgoi ei fagu wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau eillio

  11. pam y mae'n bwysig gosod eich offer, eich cynhyrchion a'ch defnyddiau wrth law

  12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a gwneuthurwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn defnyddio offer, defnyddiau a chynhyrchion yn ddiogel

  13. pwysigrwydd sicrhau bod eich hylendid personol a'ch ymddangosiad yn bodloni gofynion y diwydiant a'r sefydliad 

  14. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

  15. sut i lanhau, diheintio a/neu sterileiddio pob darn o offer a chyfarpar yn union ar ôl y gwasanaeth eillio

  16. sut y mae sicrhau bod gwastraff peryglus yn cael ei waredu yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y salon

  17. pryd i ailgyflenwi adnoddau sydd wedi mynd yn isel fel eich bod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar eich gwaith eich hun ac ar gleientiaid

  18. i bwy y dylech roi gwybod pan fydd adnoddau wedi mynd yn isel

Paratoi blew a chroen yr wyneb ar gyfer gwasanaethau eillio

  1. sut i baratoi a defnyddio tywelion poeth ac oer

  2. pwysigrwydd rhoi tywelion poeth yn ôl anghenion y gwasanaeth eillio a chysur eich cleient, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r steilydd

  3. effaith tywelion poeth ac oer ar y croen a'r gwallt

  4. sut i baratoi a defnyddio cynhyrchion seboni yn gywir fel eu bod yn barod mewn pryd ar gyfer y gwasanaeth eillio

  5. sut i roi cynhyrchion seboni mewn ffordd sy'n ystyried ffactorau a nodwyd gan y steilydd

  6. swyddogaeth y technegau effleurage a petrissage wrth seboni

  7. pryd, pam a sut i ddefnyddio technegau brwsio a thylino wrth roi cynhyrchion seboni

26 pwysigrwydd rhoi cynhyrchion seboni mewn ffordd sy'n sicrhau bod cyn lleied o risg â phosibl iddynt fynd i lygaid neu ar ddillad eich cleient, neu ar yr ardal o gwmpas

  1. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr wrth ddefnyddio cynhyrchion seboni

  2. pwysigrwydd seboni a'i effaith ar y croen a'r gwallt

  3. pam y mae'n bwysig sicrhau nad oes cynhyrchion seboni ar groen eich cleient ar ôl y gwasanaeth eillio

  4. pwysigrwydd gwirio cysur y cleient trwy gydol y broses

  5. pam y mae amseru yn allweddol i'r gwasanaeth eillio

  6. y mathau o broblemau a all godi, ynghyd â'u hachosion, wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau eillio

  7. terfynau eich awdurdod ar gyfer gwasanaethau eillio


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cynhyrchion seboni

1.1 hufennau

1.2 olewau

1.3 gel

1.4 sebon

2. Technegau seboni

2.1 rhoi gyda brwsh

2.2 rhoi trwy dylino


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch fel y cânt eu diffinio gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â'ch swydd

1.1 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

1.2 Rheoliadau Cofnodi Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

1.3 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

1.4 Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

1.5 Rheoliadau Gweithrediadau Trafod â Llaw

1.6 Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

1.7 Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

1.8 Deddf Diogelu'r Amgylchedd

1.9 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle

1.10 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Weithwyr)


Gwerthoedd

  1. Mae'r gwerthoedd allweddol canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro:

1.1 parodrwydd i ddysgu

1.2 cwblhau gwasanaethau mewn amser sy'n fasnachol ymarferol

1.3 bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant

1.4 sicrhau bod hylendid a diogelwch personol yn bodloni gofynion safonol y diwydiant a'r sefydliad

1.5 agwedd hyblyg at waith

1.6 gweithiwr tîm

1.7 cynnal gofal cwsmeriaid

1.8 agwedd gadarnhaol

1.9 agwedd broffesiynol

1.10 sgiliau cyfathrebu llafar a dieiriau da

1.11 cynnal dulliau gweithio effeithiol, hylan a diogel

1.12 cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr neu'r gwneuthurwyr er mwyn gwneud defnydd diogel o gyfarpar, defnyddiau a chynhyrchion

1.13 cadw at fesurau iechyd a diogelwch y gweithle


Ymddygiadau

  1. Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector gwallt a barbro. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r salon a'r unigolyn

1.1 bodloni safonau ymddygiad y salon

1.2 cyfarch y cleient yn barchus ac mewn ffordd gyfeillgar

1.3 cyfathrebu'n gwrtais a boneddigaidd â'r cleient

1.4 nodi a chadarnhau disgwyliadau'r cleient

1.5 ymateb yn ddi-oed ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

1.6 rhoi gwybodaeth a sicrwydd cyson i'r cleient

1.7 ymateb yn ddi-oed i gleient sy'n holi am gymorth

1.8 bod yn gyflym wrth ddod o hyd i wybodaeth a fydd o gymorth i'r cleient

1.9 delio gyda phroblemau sydd o fewn cwmpas eich cyfrifoldebau a'ch swydd

1.10 dangos parch at gleientiaid a chydweithwyr bob amser ac ym mhob amgylchiad

1.11 gofyn yn gyflym am gymorth gan aelod uwch o'r staff pan fo angen

1.12 rhoi i'r cleient yr wybodaeth y mae arno ei hangen ynglŷn â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion a gynigir gan y salon


Sgiliau


Geirfa

1. Technegau tylino

1.1* *Effleurage**: Tylino'n ysgafn, fel rhoi anwes.

1.2* *Petrissage**: Tylino'n gadarn ac araf

2. Diheintio

2.1 Yn atal twf micro-organebau (ond nid sborau) sy'n achosi afiechydon trwy ddefnyddio cynhyrchion cemegol

3. Sterileiddio

3.1 Yn dinistrio micro-organebau yn llwyr


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGB1

Galwedigaethau Perthnasol

Mentrau mân-werthu a masnachol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Barbro; eillio; cynorthwyo