Cyfrannu at gadwraeth amgylcheddol mewn hamdden ac adloniant corfforol
Trosolwg
Mae’r uned hon yn ymwneud â helpu eich sefydliad i edrych ar ôl yr amgylchedd mewn modd cyfrifol. Mae’r uned yn ymwneud ag atal llygredd, lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff, cadwraeth ynni ac adnoddau dŵr a rheoli ardaloedd awyr agored fel gall bywyd gwyllt ffynnu. Mae’r uned hefyd yn ymwneud â rhoi gwybodaeth a chyngor i gwsmeriaid a chydweithwyr ar faterion sy’n ymwneud â chadwraeth a’r amgylchedd naturiol.
Rhennir yr uned i ddwy ran. Mae’r rhan gyntaf yn disgrifio’r tri pheth mae’n rhaid i chi eu gwneud.
- cyfrannu tuag at reoli adnoddau mewn modd cynaladwy
- cyfrannu i reolaeth ecolegol dda o ardaloedd awyr agored
- darparu gwybodaeth a chyngor ar faterion amgylcheddol
Mae’r ail ran yn ymwneud â’r wybodaeth a’r ddelltwriaeth mae’n rhaid i chi eu cael.
Mae’r uned hon ar gyfer staff gweithredol sy’n gweithio mewn hamdden ac adloniant corfforol sydd â chyfrifoldebau dros gadwraeth amgylcheddol fel rhan o’u swyddogaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu i reoli adnoddau mewn modd cynaladwy
P1 nodi a chytuno ar eich cyfrifoldebau dros reoli adnoddau
P2 cyflanwi eich cyfrifoldebau dros reoli adnoddau fel a gytunwyd
P3 cynnal a chadw cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr
P4 cael cyngor a gwybodaeth am reoli adnoddau mewn modd cynaliadwy pan ydych ei angen
P5 gweithio o fewn eich cyllideb a chyfyngiadau cyfundrefnol
P6 gwneud awgrymiadau ynglŷn â sut i wella’r rheolaeth o adnoddau o fewn eich sefydliad
Cyfrannu i reolaeth ecolegol dda o’r ardaloedd awyr agored
P7 nodi a chytuno ar eich cyfrifoldebau dros reoli ardaloedd awyr agored mewn ffyrdd sydd o fudd i fywyd gwyllt
P8 cyflawni eich cyfrifoldebau dros reoli ardaloedd awyr agored mewn ffyrdd sydd o fudd i fywyd gwyllt
P9 cael cyngor a gwybodaeth ar reoli ardaloedd awyr agored mewn ffyrdd sydd o fudd i fywyd gwyllt pan ydych ei angen
P10 gwneud awgrymiadau ynglŷn â sut i reoli ardaloedd awyr agored mewn ffyrdd sydd o fudd i fywyd gwyllt
Darparu gwybodaeth a chyngor ar gadwraeth amgylcheddol
P11 nodi a chytuno ar eich cyfrifoldebau am ddarparu gwybodaeth a chyngor ar gadwraeth amgylcheddol
P12 darparu gwybodaeth a chyngori pobl ar y safle pan fo angen
P13 gwneud yn siwr bod y wybodaeth a’r cyngor yr ydych yn ei ddarparu yn glir ac yn hawdd i’w deall
P14 gwneud yn siwr bod gweithgareddau amgylcheddol yn rhoi mwynhad i ymwelwyr
P15 egluro’r rhesymau dros y wybodaeth a’r cyngor yr ydych yn eu darparu
P16 delio ag unrhyw wrthdaro mewn modd sensitif ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
P17 gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella’r wybodaeth a’r cyngor mae eich sefydliad yn eu darparu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 beth a olygir gan y canlynol:
K1.1 cadwraeth amgylcheddol
K1.2 cynaliadwyedd
K1.3 bio-amrywiaeth
K2 pam mae cadwraeth amgylcheddol yn bwysig i’r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
K3 gofynion sylfaenol y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i gadwraeth amgylcheddol
K4 cynllun rheolaeth amgylcheddol eich sefydliad a’ch cyfrifoldebau sy’n ymwneud â chadwraeth amgylcheddol
K5 y cyllidebau sydd ar gael a chyfyngiadau cyfundrefnol eraill
K6 asiantaethau a sefydliadau eraill all ddarparu gwybodaeth a chyngor ar gadwraeth amgylcheddol
K7 sut i wneud awgrymiadau ynglŷn â gwella cadwraeth amgylcheddol yn eich sefydliad a pham ei bod yn bwysig ceisio gwella’n barhaus
K8 pam ei bod yn bwysig rheoli adnoddau mewn modd cyfrifol
K9 y prif ffyrdd gall sefydliadau ei defnyddio i leihau gwastraff gyda’r canlynol:
K9.1 ynni
K9.2 dŵr
K9.3 deunyddiau
K10 y prif ddulliau gall sefydliad eu defnyddio i ail-ddefnyddio adnoddau, y mathau o adnoddau all gael eu hail-ddefnyddio a’r gweithdrefnau ddylech eu dilyn
K11 y prif ddulliau gall sefydliad eu defnyddio i ailgylchu adnoddau (gan gynnwys gwrteithio), y mathau o adnoddau y gellir eu hailgylchu a’r gweithdrefnau ddylech eu dilyn
K12 y mathau o adnoddau – er enghraifft, deunyddiau adeiladu a phecynnu – sy’n cael effaith ar yr amgylchedd a sut gellir sicrhau bod y rheiny yn cael cyn lleied o effaith â phosibl
K13 pam ei bod yn bwysig cynnal a chadw cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr a’r effaith all cyfarpar sydd mewn cyflwr gwael ei gael ar yr amgylchedd
K14 cadwraeth ynni a’r defnydd o `drafnidiaeth werdd'
K15 pam ei bod yn bwysig defnyddio adnoddau sydd wedi eu cynhyrchu’n lleol lle bo’n bosibl
K16 pam ei bod yn bwysig cynnal a datblygu:
K16.1 terfynau, ffiniau a lleiniau clustogi
K16.2 gerddi ffurfiol
K16.3 porfeydd, morfâu, rhosydd, ac ardaloedd agored eraill
K16.4 ardaloedd o goed a choetiroedd afonydd, nentydd, llynnoedd ac ardaloedd ac ardaloedd corsiog a’r prif ddulliau gall sefydliad eu defnyddio ar gyfer pob un o’r uchod
K17 creu ardaloedd gwyllt', er enghraifft dolydd blodau gwyllt
K18 dodi nodweddion megis blychau nythu a phentyrrau coed er mwyn denu bywyd gwyllt a bod o fudd iddo
K19 pam ei fod yn bwysig defnyddio deunyddiau a dulliau traddodiadol pan yn adeiladu terfynau, llwybrau a ffyrdd a’r deunyddiau a’r dulliau y dylech eu defnyddio
K20 y mathau o ddeunyddiau adeiladu ac eraill dylech osgoi eu defnyddio a pham hynny
K21 y prif fathau o rywogaethau planhigion ar eich safle a’r amseroedd a’r dulliau cywir ddylech eu defnyddio ar gyfer plannu a chynnal y rheiny, o safbwynt iechyd y planhigyn a’r effaith ar fywyd gwyllt lleol
K22 sut i ddelio â thoriadau, er enghraifft, toriadau gwair, boncyffion a darnau wedi eu tocio, mewn modd sydd fwyaf priodol ar gyfer y safle a pham bod hynny’n bwysig
K23 y prif fathau o fywyd gwyllt sy’n lleol i’ch safle, yn enwedig y rheiny sydd mewn perygl ac angen anogaeth a gwarchodaeth a sut i annog a gwarchod y rhain
K24 y mathau o blanhigion a bywyd gwyllt ddylech eu hosgoi a pham hynny
K25 pam all fod angen rheoli/annog rhai mathau o fywyd gwyllt lleol a dulliau derbyniol o wneud hyn
K26 y gwahaniaeth rhwng planhigion sydd eu heisiau a phlanhigion nad oes mo’u heisiau a sut i reoli planhigion nad oes mo’u heisiau
K27 sut i ddethol a defnyddio cemegion (chwynladdwyr a phlaladdwyr) mewn ffordd nad yw’n niweidiol i’r amgylchedd naturiol a’r gofyn am dystysgifau priodol ar gyfer defnyddio cemegion K28 pam ei fod yn bwysig darparu gwybodaeth a chyngor ynglŷn â’r amgylchedd leol a dulliau o’i chynnal ar gyfer ymwelwyr a chydweithwyr
K29 y prif ddulliau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor
K30 pam ei fod yn bwysig hysbysu ymwelwyr ynglŷn â’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli adnoddau mewn modd cyfrifol a’r rhesymau dros hyn
K31 sut i ddodi a chynnal byrddau dehongli a thaflenni am yr amgylchedd naturiol
K32 sut i ddatblygu a chael ymwelwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n hyrwyddo eu dealltwriaeth o gadwraeth amgylcheddol
K33 y mathau o wrthdaro all godi rhwng ymwelwyr a’r sefydliad – er enghraifft, osgoi gwastraff diangen, llygredd sŵn a golau a tharfu ar yr amgylchedd naturiol – a sut i ddelio â’r rhain
K34 y mathau o drafnidiaethamgylcheddol gyfeillgar ' – er enghraifft, cerdded, beicio a’ defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus – dylech annog ymwelwyr i’w defnyddio a sut i’w hannog hwy
K35 pam ei bod yn bwysig annog ymwelwyr i brynu bwyd lleol a chynhyrchu a chyfrannu i’r economi leol, a’r ffyrdd gorau o wneud hyn
Cwmpas/ystod
Cyfrannu at reoli adnoddau mewn modd cynaliadwy
- cyfrifoldebau dros
1.1. atal llygredd
1.2. lleihau gwasraff
1.3. ail-ddefnyddio gwastraff
1.4. ailgylchu gwastraff (gan gynnwys gwrteithio)
1.5. cadwraeth ynni (gan gynnwys hyrwyddo trafnidiaeth`werdd')
1.6. cadwraeth a’r ailddefnydd o ddŵr
1.7. rhagnodi, prynu a defnyddio deunyddiau crai, cynnyrch a chyfarpar sy’n cael cyn lleied o effaith ar yr amgylchedd â phosibl
1.8. defnyddio dulliau a deunyddiau sy’n briodol i’ch lleoliad - adnoddau
2.1. ynni: pob tanwydd a thrydan
2.2. dŵr
2.3. yr holl ddeunyddiau eraill sy’n berthnasol i’ch swydd - cyngor a gwybodaeth
3.1. gan eich cydweithwyr
3.2. gan sefydliadau allanol
Cyfrannu at reolaeth ecolegol dda o ardaloedd y tu allan
- cyfrifoldebau dros
4.1. gadwraeth a gwarchod bywyd gwyllt a chynefinoedd sy’n bodoli
4.2. tyfu a phlannu coed a phlanhigion eraill (rhywogaethau cynhenid fel arfer) sy’n denu pryfed ac anifeiliaid eraill ac sydd o fudd iddynt
4.3. rheoli mannau awyr agored mewn modd sy’n gydnaws â natur gan annog bywyd gwyllt i ffynnu
4.4. creu cynefinoedd ac ‘ardaloedd gwyllt’
4.5. dodi nodweddion sy’n denu bywyd gwyllt ac sydd o fudd iddo
4.6. defnyddio deunyddiau a cyfarpar adeiladu addas
4.7. delio â thoriadau a gwastraff garddwriaethol arall yn y modd cywir - amgylchedd naturiol
5.1. terfynau, ffiniau a lleiniau clustogi
5.2. gerddi ffurfiol
5.3. porfeydd, morfâu, rhosydd, ac ardaloedd agored eraill
5.4. ardaloedd o goed a choetiroedd
5.5. afonydd, nentydd, llynnoedd ac ardaloedd corsiog - cyngor a gwybodaeth
6.1. gan eich cydweithwyr
6.2. gan sefydliadau allanol
Darparu gwybodaeth a chyngor am gadwraeth amgylcheddol
- gwybodaeth a chyngor ar ffurf
7.1. byrddau gwybodaeth/dehongli
7.2. taflenni
7.3. llafar
7.4. sy’n cael ymwelwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol - gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â
8.1. rheoli adnoddau mewn modd cynaliadwy
8.2. yr amgylchedd naturiol
8.3. cynnal a datblygu’r amgylchedd naturiol
8.4. llygredd sŵn a golau
8.5. materion trafnidiaeth `werdd'
8.6. pwysigrwydd prynu cynnyrch lleol (yn enwedig bwyd lleol, tymhorol) a chefnogi’r economi leol