Monitro gwylwyr a delio â phroblemau torf

URN: SKAC211W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2006

Trosolwg

​Mae’r uned hon yn ymwneud â chadw llygad gofalus ar wylwyr a delio â phroblemau torf fel symudiadau annisgwyl, gormod o bobl mewn mannau bach, mwy o bobl na’r capasiti ac ymddygiad anghymdeithasol/anghyfreithlon.


Rhennir yr uned yn dair rhan. Mae’r rhan gyntaf yn disgrifio’r ddau beth mae’n rhaid i chi ei wneud, sef:
1. monitro torfeydd ac adnabod problemau posibl
2. dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau i ddelio â phroblemau torf

Mae’r ail ran yn disgrifio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth y mae’n rhaid i chi feddu arnynt. 

Mae’r drydedd ran yn esbonio beth yw ystyr rhai o’r termau a ddefnyddir yn yr uned.

Mae’r uned hon ar gyfer stiwardiaid a staff eraill tebyg su’n gweithio’n uniongyrchol â gwylwyr er mwyn sicrhau eu lles a’u diogelwch.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Monitro torfeydd ac adnabod problemau posibl


1. cael yr adnoddau angenrheidiol yn barod i’w defnyddio
2. gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad a’ch gwedd yn bodloni safonau y cytunwyd arnynt bob amser
3. cyflawni eich dyletswyddau yn ddiduedd
4. talu sylw gofalus i’r dorf ac i’r sefyllfa yn yr ardal a ddynodwyd i chi drwy gydol cyfnod eich dyletswydd 
5. adnabod problemau torf pan maent yn digwydd

Dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau i ddelio â phroblemau torf

6. asesu’r broblem torf a rhoi gwybod amdani, gan ateb unrhyw gwestiynau gan oruchwylwyr yn glir ac yn gywir
7. gweithredu gan ddilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
8. gwneud yn siŵr nad oes dim gweithred yn beryglus i chi’ch hun nac i’r bobl eraill sy’n gysylltiedig 
9. cyfathrebu’n glir â’r bobl sy’n gysylltiedig a’r cydweithwyr
10. tawelu meddwl y bobl sy’n gysylltiedig a’u hannog i fod yn bwyllog ac i ddilyn cyfarwyddiadau 
11. rhoi gwybod i’r ystafell reoli/goruchwyliwr am y sefyllfa


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Monitro torfeydd


1. pwysigrwydd gwylio torfeydd a mannau’n ofalus 
2. pwysigrwydd gwisgo manylion adnabod stiward bob tro
3. pa adnoddau y bydd angen i chi eu cael a pham
4. beth i chwilio amdano wrth fonitro torfeydd
5. pam ei bod yn bwysig cyflawni dyletswyddau mewn modd diduedd - sut mae gwneud hynny
6. pa fath o ymddygiad  a gwedd bersonol sy’n briodol a pham
7. y peryglon penodol i gadw llygad amdanynt yn y mathau o fannau a restrir

Delio â phroblemau torf

8. gofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag anabledd, gwahaniaethu a diogelwch
9. arwyddion amlwg y mathau o ymddygiad peryglus a restrir
10. sut mae asesu pa mor ddifrifol yw’r ymddygiad
11. y camau cywir i’w cymryd ar gyfer gwahanol fathau o broblem torf a’r gweithdrefnau i’w dilyn
12. technegau rheoli gwrthdaro a thactegau amddiffynnol
13. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu’n glir â’r bobl sy’n gysylltiedig a’r cydweithwyr
14. pam ei bod yn bwysig tawelu meddwl y bobl sy’n gysylltiedig a’u hannog i fod yn bwyllog a sut mae gwneud hynny
15. y math o gamau a all eu peryglu hwy a phobl eraill
16. y gweithdrefnau cywir i’w defnyddio i adrodd


Cwmpas/ystod

​1. adnoddau

1.1 cyfathrebu
1.2 offer diogelwch
1.3 allweddi
1.4 llawlyfr

2. torfeydd
2.1 cyfeillgar
2.2 ymosodol
2.3 llawn cyffro

3. mannau
3.1 mannau cyfyng
3.2 mannau agored
3.3 mannau cyhoeddus
3.4 mannau heb fod yn gyhoeddus

4. problemau torf
4.1 symudiadau annisgwyl gan dorf
4.2 gormod o bobl mewn mannau bach
4.3 mwy o bobl na’r capasiti
4.4 gofid
4.5 gwahanu unigolion a grwpiau
4.6 ymddygiad anghymdeithasol
4.7 ymddygiad anghyfreithlon
4.8 mynediad i fannau cyfyngedig

5. gweithredu
5.1 symud pobl a gwrthrychau
5.2 rheoli’r dorf
5.3 gwneud yn siŵr bod y dorf yn eich gweld
5.4 tawelu meddwl
5.5 rhybuddio

6. pobl
6.1 cydweithredol
6.2 anghydweithredol
6.3 meddw
6.4 emosiynol
6.5 ddim yn deall fawr o Saesneg
6.6 pobl bwysig iawn 
6.7 ag anghenion penodol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Gwedd

Mae hyn yn cynnwys gwisgo’r dillad cywir, cyflwyno’r ddelwedd broffesiynol a chario’r cyfrwng adnabod cywir.

Asesu *
Casglu’r holl wybodaeth angenrheidiol a nodi a oes problem torf

Cyfathrebu (adnoddau) 
Gallai hyn fod yn llyfrau nodiadau ar gyfer cofnodi digwyddiadau neu offer cyfathrebu fel setiau radio, os yw’n briodol.

Man dynodedig 
Y man rydych chi’n gyfrifol amdano

Peryglon 
Rhywbeth a allai achosi niwed

Diduedd 
Heb fod yn ffafrio nac yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw fath penodol o bobl.

Monitro 
Cadw llygad barcud ar rywbeth

Adnoddau
Y pethau sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith yn effeithiol

Ymddygiad anghyfreithlon 
Byddai hyn yn cynnwys hiliaeth, ymddygiad bygythiol, trais a mathau eraill o ymddygiad sy'n torri'r gyfraith.

Ymddygiad anghymdeithasol 
Er enghraifft, rhegi neu fathau eraill o ymddygiad ymosodol

Ag anghenion penodol *
Er enghraifft, pobl anabl, hen bobl, plant ayb


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SA44NC211

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

torfeydd, gwylwyr, stiwardiaid, digwyddiadau, marsialiaid