Tyllu clustiau

URN: SKABT9
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd,Therapi Harddwch,Therapi Sba
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â thyllu clustiau ac mae'n ymdrin â thyllu ardal llabed y glust yn unig. Bydd angen i chi ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel ac yn gywir ar gyfer y gwaith hwn. Bydd angen i chi hefyd rhoi cyngor ôl-ofal i'ch cleient yn ymwneud â defnyddio cynnyrch ôl-ofal, cylchdroi a thynnu'r styden glust ac adweithiau posibl.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw: 

1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth dyllu llabed y glust

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer tyllu llabed y glust

3. tyllu llabedau clustiau


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth dyllu llabed y glust**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

3. amddiffyn dillad eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

4. cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient yn ôl yr angen

5. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth heb achosi anghysur iddynt

6. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill

7. gosod cyfarpar a deunyddiau er hwylustod a defnydd diogel

8. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

9. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth

10. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

11. gwneud defnydd cynhyrchiol o'ch amser gwaith

12. sicrhau defnydd ar adnoddau glân

13. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

14. sicrhau bod eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

15. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch

16. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

17. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer tyllu llabed y glust**

18. defnyddio technegau ymgynghori mewn ffordd broffesiynol i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

19. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth

20. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

21. adnabod unrhyw wrtharwyddion  a chymryd y camau angenrheidiol

22. cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

23. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth

24. sicrhau bod safle'r cleient yn caniatáu mynediad addas i labed y glust ac yn isafu ar unrhyw risg o anaf ac anghysur i'r cleient

25. diheintio a marcio ardal llabed y glust i'w thyllu

Tyllu llabedau clustiau**

26. tyllu llabed y glust yn y safle sydd wedi'i farcio

27. isafu ar anghysur i'r cleient trwy sicrhau gwasanaeth cyflym

28. dethol a defnyddio cyfarpar, deunydd a chynnyrch i fodloni anghenion y gwasanaeth

29. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig

30. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd

31. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth dyllu llabed y glust**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer amddiffyn a pharatoi cleient

3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun

4. technegau gosod eich hun a'r cleient mewn safle diogel i atal anghysur

5. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis, gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig

6. pam mae hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

7. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

8. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lân er mwy osgoi'r risg o groes-heintio

9. gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

11. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

12. gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

13. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer tyllu llabed y glust**

14. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

15. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

16. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu gwasanaethau i blant sy'n iau na 16 oed

17. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

18. pwysigrwydd cytuno i wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

19. pwysigrwydd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y gwasanaeth

20. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

21. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth

 22. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

23. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

24. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

25. sut i baratoi a gosod y cleient wrth dyllu llabedau clustiau

Tyllu llabedau clustiau**

26. y gwiriadau sy'n rhaid eu gwneud ar y cyfarpar cyn tyllu llabedau clustiau

27. mathau a defnydd o gyfarpar, deunydd a chynnyrch a ddefnyddir ar gyfer tyllu llabedau clustiau

28. y weithdrefn ar gyfer tyllu llabedau clustiau

29. y rhesymau pam mae un pâr o stydiau clustiau y dylid eu gosod ar y tro

30. adeiladwaith allanol y glust gan gynnwys y pinna, llabed, cartilag a meinwe cartilagaidd

31. y peryglon sy'n gysylltiedig â thyllu cartilag a rhannau eraill o'r corff

32. pam mae'n rhaid gadael stydiau clustiau yn eu lle am yr amser a argymhellir ac effeithiau eu tynnu yn rhy gynnar

33. y rhesymau dros gylchdroi'r stydiau yn lanwaith yn ystod y broses wella a pha mor aml y dylid gwneud hyn

34. sut i dynnu a gosod stydiau newydd yn ddiogel ar ôl y cyfnod gwella

35. yr adweithiau a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid

36. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaeth i'r cleient


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

 Technegau ymgynghori

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y driniaeth

Cyfarpar, deunydd a chynnyrch**

1. gwn tyllu clustiau

2. marciwr croen di-haint

3. stydiau clustiau di-haint

4. drych

5. nwyddau traul

Cyngor ac argymhellion**

1.cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol ​


Gwybodaeth Cwmpas

 Technegau ymgynghori

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y driniaeth

Cyfarpar, deunydd a chynnyrch**

1. gwn tyllu clustiau

2. marciwr croen di-haint

3. stydiau clustiau di-haint

4. drych

5. nwyddau traul

Cyngor ac argymhellion**

1.cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol ​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Adweithiau**

Mae'n cyfeirio at adweithiau a all ddeillio o'r gwasanaeth; mae rhai adweithiau yn arferol megis cochni a chwyddo. Serch hynny, gallai adweithiau eraill fod yn wrthwynebus megis adwaith alergaidd.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB9

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd, Therapydd Harddwch, Therapydd Sba

Cod SOC


Geiriau Allweddol

tyllu clustiau; tyllu llabedi clustiau; gwn tyllu; llabed