Darparu gwasanaethau edafeddu

URN: SKABT8
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chael gwared â blew o rannau o'r wyneb gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau edafeddu. Mae hefyd yn cynnwys siapio a chynnal gwahanol siapiau aeliau.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau edafeddu

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau edafeddu

3. cael gwared ar flew diangen​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau edafeddu**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

3. amddiffyn dillad, gwallt ac ategolion eich cleient trwy gydol y gwasanaeth

4. cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient bob amser

5. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth

6. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill

7. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

8. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth

9. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

10. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

11. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

12. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch

13. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

14. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau edafeddu**

15. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

16. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth

17. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

18. adnabod unrhyw wrtharwyddion  a chymryd y camau angenrheidiol

19. cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

20. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth

21. esbonio'r broses edafeddu a'r cymorth sy'n ofynnol gan y cleient

22. sicrhau bod ardal cefn a gwddf y cleient wedi'i chefnogi â chlustog

Cael gwared â blew diangen**

23. defnyddio cynnyrch cyn y driniaeth i lanhau a pharatoi'r adran i'w thrin

24. asesu patrymau twf blew a chyflwr croen yn yr ardal i'w thrin a thocio blew hir

25. dewis darn newydd o edau ar gyfer pob ardal i'w thrin

26. rhoi cyfarwyddiadau clir i'r cleient ar sut a phryd i gefnogi'u croen trwy gydol y gwasanaeth edafeddu

27. cynnal dulliau cael gwared â blew yn groes i gyfeiriad y twf blew a gyda'r anghysur lleiaf  i'r cleient

28. sicrhau bod y dulliau cael gwared â blew yn cael eu cynnal ar bellter cyfforddus o'r cleient wrth gadw tensiwn cywir yr edau

29. creu siâp aeliau cytbwys, cymesur a diffiniedig sy'n addas i ofynion y cleient

30. gwirio bod ardal i'w thrin y cleient yn rhydd rhag blew diangen a thaenu cynnyrch lleddfu

31. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig

32. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd

33. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

 Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau edafeddu

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer amddiffyn a pharatoi cleient

3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun

4. y rhesymau dros gynnal urddas a phreifatrwydd y cleient bob amser

5. technegau gosod eich hun a'r cleient mewn safle diogel i atal anghysur

6. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis, gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig

7. pam mae hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

8. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

9. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lân er mwy osgoi'r risg o groes-heintio

10. gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

11. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

13. gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

14. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau edafeddu**

15. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

16. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

17. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed

18. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

19. pwysigrwydd cytuno i wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

20. pwysigrwydd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y gwasanaeth

 21. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

22. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

23. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth

24. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

25. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

26. sut i asesu cyflwr y croen a thwf blew yn yr ardal i'w thrin

27. y rhesymau dros dorri blew ar grwydr a'r rhai sy'n rhy hir cyn dechrau'r gwasanaeth edafeddu

Cael gwared â blew diangen**

28. y rhesymau dros ddefnyddio edau newydd ar gyfer pob ardal newydd i'w thrin

29. y cymorth sy'n ofynnol gan y cleient trwy gydol y gwasanaeth edafeddu

30. y dulliau a ddefnyddir i gynnal technegau diogel, cyflym ac effeithiol

31. y rhesymau dros gynnal pellter cyfforddus oddi wrth y cleient wrth edafeddu

32. sut i asesu a mesur siâp yr aeliau i sicrhau siâp cyflenwol a chymesur

33. pwysigrwydd cynnal ac addasu tensiwn yr edau a chael gwared â'r blew yn erbyn cyfeiriad y twf blew

34. y gwahanol dechnegau edafeddu a ddefnyddir a sut i'w cynnal

35. manteision ac anfanteision edafeddu

36. mathau o offer, deunyddiau a chynnyrch a ddefnyddir ar gyfer edafeddu

37. sut y gellir addasu technegau edafeddu er mwyn osgoi anaf straen ailadroddus 

38. goblygiadau defnyddio techneg edafeddu ceg wrth wisgo weiars dannedd, dannedd ffug a chapiau

39. dulliau eraill cael gwared â blew ac effaith y dulliau hyn ar y gwasanaeth edafeddu

40. yr adweithiau a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid

41. adeiladwaith a swyddogaeth y croen a'r blew

42. y cylchred twf blew, y gwahanol fathau o dwf blew ac achosion twf blew

43. y gweithgareddau i'w hosgoi ar ôl edafeddu a pham mae'r rhain yn bwysig

44. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y gwasanaeth edafeddu

3. addasu'r gwasanaeth edafeddu

Ardal i'w thrin**

1. aeliau

2. gwefus uchaf

3. gên

4. wyneb

5. gwddf

Dulliau cael gwared â blew**

1. techneg y geg

2. techneg y gwddf

3. techneg y llaw

Siâp yr aeliau**

1. ailffurfio'r aeliau yn llwyr

2. cynnal siâp gwreiddiol yr aeliau

Cyngor ac argymhellion**

1.cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. cyfnodau o amser rhwng gwasanaethau

 4. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol​


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy**

1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

7. defnyddio paent â chemegau isel

8. defnyddio cynnyrch blew organig a rhydd rhag alergedd

9. defnyddio lliwiau gwallt isel iawn mewn amonia

10. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

11. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

12. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oed

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

1. haint i'r llygaid

2. meinwe craith ddiweddar

3. llosg haul

4. mannau geni

5. blew sy'n tyfu i'r byw wedi'u heintio

6. tagaiu croen

Gwrtharwyddion sy'n atal

1. croen tenau a bregus

2. cyflyrau croen difrifol a heintus

Dulliau cael gwared â blew**

1. plicio

2. eillio

3. hufenau tynnu blew

4. tynnu blew yn drydanol

5. menig garw

6. lleihau blew gyda golau

7. cwyro

8. diflewio yn drydanol

Adweithiau**

1. smotiau gwaed

2. crafiadau

3. enyniad

4. cochni gormodol

5. aildyfiant gormodol ac aildyfiant llai

Adeiladwaith a swyddogaethau'r croen**

1. haenau'r uwchgroen

2. y croen

3. haen tan y croen

4. ffoligl blewyn

5. siafft blewyn

6. chwarren sebwm

7. cyhyr arrector pili

8. chwarren chwys

9. llestri gwaed a phibellau lymff

10. terfynau nerfau synhwyraidd

Cylchred twf blew**

1. anagen

2. catagen

3. telogen

Gwahanol fathau o dwf blew**

1. terfynol

2. vellus

3. blew yn tyfu i'r byw

Achosion twf blew**

1. lleol

2. genedigol

3. systemig

Gweithgareddau i'w hosgoi ar ôl edafeddu**

1. gwres megis sawna, haul a bath poeth

2. defnyddio cynnyrch â phersawr neu gemegau

3. cyffwrdd â'r ardal sydd wedi'i thrin

Cyngor ac argymhellion**

1. gwasanaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. gofynion ôl-ofal ar gyfer gwasanaethau edafeddu a pham mae'r rhain yn bwysig

4. pwysigrwydd argymell wrth y cleient i ddychwelyd ar gyfer gwasanaethau edafeddu bob 2 i 4 wythnos


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd weithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad


Geirfa

Techneg y Geg**

Cael gwared â blew gan ddefnyddio edau ble y mae un rhan o'r edau yn cael ei dal yn y geg ac mae'r rhan arall yn cael ei dolennu yn y dwylo. Y dechneg hon yw'r un a ddefnyddir fwyaf ac mae'n tarddu o'r Dwyrain Pell ac mae hefyd yn cael ei galw yn ddull Tsieineaidd neu ddolen sengl.

Techneg y Gwddf**

Cael gwared â blew gan ddefnydd edau ble y mae un rhan o'r edau yn cael ei dal o amgylch y gwddf a'r rhan arall yn cael ei dolennu yn y dwylo. Mae hyn yn lle techneg y geg, a elwir hefyd yn ddull dolen sengl. Mae'r dechneg hon yn tarddu o Arabia, Y Dwyrain Canol ac fe'i defnyddir yn fwyaf cyffredin yn Nhwrci.

Techneg y dwylo**

Cael gwared â blew gan ddefnyddio edau sy'n cael ei dal a'i dolennu rhwng y ddwy law. Fe'i defnyddir yn gyffredin gan ymarferwyr arnynt eu hunain ac eraill. Gelwir y dechneg hon hefyd yn ddull hunan-ddolen neu ddolen ddwbl.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB34

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Arbenigwr Cael Gwared â Blew

Cod SOC


Geiriau Allweddol

edafeddu; cael gwared â blew