Cynnal gwasanaethau cwyro
Trosolwg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chael gwared â blew gan ddefnyddio technegau cwyro. Ymhlith yr ardaloedd a fydd yn cael eu trin y mae aeliau, wyneb, coesau, ceseiliau a llinell bicini. Bydd angen i chi allu ymgynghori â'r cleient, paratoi a chynllunio ar gyfer y gwasanaeth. Bydd angen i chi hefyd gynnig cyngor ôl-ofal i'r cleient, yn enwedig yn ymwneud ag osgoi gweithgareddau penodol a defnyddio cynnyrch gofal yn y cartref.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gael gwared â blew wrth gwyro
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau cwyro
3. cael gwared â blew diangen
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gael gwared â blew trwy gwyro**
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
3. amddiffyn dillad, gwallt ac ategolion eich cleient trwy gydol y gwasanaeth
4. cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient bob amser
5. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth
6. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill
7. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth
8. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
9. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
10. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
11. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
12. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch
13. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
14. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau cwyro**
15. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient
16. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth
17. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
18. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol
19. cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
20. sicrhau caniatâd gwybodus ysgrifenedig, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth cwyro
Cael gwared â blew diangen**
21. taenu cynnyrch cyn cwyro i'r ardal i'w thrin
22. cynnal clwt prawf thermol yn union cyn y gwasanaeth cwyro
23. sefydlu patrwm twf y blew a thocio blew hir cyn taenu'r cwyr
24. taenu cwyr, gan isafu ar risg o groes-heintio a heintio
25. taenu a thynnu'r cwyr yn ôl gofynion y dull cael gwared â blew a phatrymau twf y blew
26. sicrhau bod eich technegau gwaith yn isafu ar anghysur i'r cleient
27. gwirio lles eich cleient trwy gydol y gwasanaeth cwyro
28. sicrhau bod yr ardal sy'n cael ei thrin yn cael ei gadael yn rhydd rhag cwyr a blew ac yn cael ei thrin gyda chynnyrch ar ôl cwyro
29. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig
30. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaethau a ddarparwyd
31. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gael gwared ar flew trwy gwyro**
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer amddiffyn a pharatoi cleient
3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun
4. y rhesymau dros gynnal urddas a phreifatrwydd y cleient bob amser
5. technegau gosod eich hun a'r cleient mewn safle diogel i atal anghysur
6. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis, gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig
7. pam mae hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
8. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
9. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lân er mwy osgoi'r risg o groes-heintio
10. gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
11. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
13. gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
14. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau cwyro**
15. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
16. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
17. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu gwasanaethau i blant sy'n iau na 16 oed
18. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol
19. pwysigrwydd cytuno i wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
20. pwysigrwydd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y gwasanaeth
21. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
22. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
23. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth
24. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
25. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
26. y rhesymau pam mae'n ddoeth cynnal prawf sensitifrwydd croen cyn y gwasanaethau cwyro
Cael gwared â blew diangen**
27. y rhesymau dros gynnal gweithdrefn clwt prawf thermol ac i docio blew hir cyn y gwasanaeth cwyro
28. sut i asesu cyflwr y croen a thwf y blew yn yr ardal i'w thrin
29. mathau o gyfarpar a chynnyrch a ddefnyddir ar gyfer cwyro
30. swyddogaeth a diben cynnyrch cyn cwyro ac ôl-gwyro
31. cynhwysion a chyfansoddiad gwahanol gynnyrch cwyro
32. yr amryw dechnegau sy'n gysylltiedig â'r tymereddau gwaith ar gyfer gwahanol gynnyrch cwyro
33. sut i baru gwahanol gynnyrch cwyro i wahanol fathau o flew
34. gofynion taenu a thynnu cynnyrch mewn perthynas â chyfeiriad twf y blew
35. y rhagofalon y mae'n rhaid eu cymryd wrth gael gwared â blew o amgylch amodau sy'n cyfyngu ar y driniaeth
36. manteision, anfanteision a chyfyngiadau triniaethau cwyro
37. dulliau eraill o gael gwared â blew ac effaith y dulliau hyn ar y broses gwyro
38. sut i ddefnyddio gwahanol dechnegau gwaith i sicrhau cysur y cleient
39. adwaith disgwyliedig y croen i gwyro
40. yr adweithiau a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid
41. adeiladwaith a swyddogaethau'r croen a'r blew
42. y cylchred twf blew, y gwahanol fathau o dwf blew ac achosion twf blew
43. y gweithgareddau i'w hosgoi ar ôl cywro a pam mae'r rhain yn bwysig
44. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori**
1. holi
2. edrych
3. teimlo
4. ysgrifenedig
Camau angenrheidiol**
1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol
2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y gwasanaeth cwyro
3. addasu'r gwasanaeth cwyro
Gwasanaeth cwyro**
1. aeliau
2. gwefus uchaf
3. gên
4. coes lawn
5. hanner goes
6. ceseiliau
7. llinell bicini
Cwyr**
1. cwyr poeth
2. cwyr cynnes
Technegau gwaith**
1. ymestyn a thrin y croen yn ystod y taenu a'r tynnu
2. cyflymder tynnu'r cynnyrch
3. cyfeiriad ac ongl y tynnu
4. gwiriadau parhaus ar dymheredd y cynnyrch
Cyngor ac argymhellion**
1. cynnyrch gofal yn y cartref addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. cyfnodau o amser rhwng gwasanaethau
4. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch**
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy**
1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. defnyddio eitemau untro
6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
7. defnyddio paent â chemegau isel
8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol
10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol**
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oed
4. anabledd
5. rhyw
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu
1. meddyginiaeth sy'n effeithio ar y croen, gwaed neu system imiwnedd
2. brech gwres
3. llosg haul
4. clefyd siwgr
5. mannau geni
6. blew sy'n tyfu i'r byw wedi'u heintio
7. tagiau croen
8. meinwe craith ddiweddar
Gwrtharwyddion sy'n atal
1. croen tenau a bregus
2. alergeddau hysbys i gynnyrch a chynhwysion megis resin
sydd mewn plastrau a chwyr
3. cyflyrau croen difrifol a heintus
4. gwythiennau chwyddedig difrifol
Dulliau cael gwared â blew**
1. plicio
2. eillio
3. hufenau tynnu blew
4. tynnu blew yn drydanol
5. menig garw
6. lleihau blew gyda golau
7. edafeddu
8. diflewio yn drydanol
Adweithiau**
1. cleisio
2. smotiau gwaed
3. crafiadau
4. blew wedi torri
5. adwaith histamin
6. cochni gormodol
7. aildyfiant gormodol ac aildyfiant llai
8. llosgiadau
9. enyniad
Adeiladwaith a swyddogaethau'r croen**
Adeiladwaith:
1. haenau'r uwchgroen
2. y croen
3. haen tan y croen
4. ffoligl blewyn
5. siafft blewyn
6. chwarren sebwm
7. cyhyr arrector pili
8. chwarren chwys
9. llestri gwaed a phibellau lymff
10. terfynau nerfau synhwyraidd
Swyddogaethau:
1. sensitifrwydd
2. rheoli gwres
3. amsugnad
4. amddiffyn
5. ysgarthu
6. secretiad
7. cynhyrchu fitamin D
Cylchred twf blew**
1. anagen
2. catagen
3. telogen
Gwahanol fathau o dwf blew
1.terfynol
2. vellus
3. blew yn tyfu i'r byw
Achosion twf blew**
1. lleol
2. genedigol
3. systemig
Gweithgareddau i'w hosgoi ar ôl cwyro**
1. gwres megis sawna, haul a bath poeth
2. defnyddio cynnyrch â phersawr neu gemegau
3. gwisgo dillad sy'n cyfyngu
4. cyffwrdd â'r ardal sydd wedi'i thrin
5. nofio ac ymarferion eraill
Cyngor ac argymhellion**
1. gwasanaethau ychwanegol
2. cynnyrch ychwanegol
3. gofynion ôl-ofal ar gyfer cwyro a pham mae'r rhain yn bwysig
4. argymell i'r cleient ddychwelyd i gael gwasanaethau cwyro bob 6-8 wythnos
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd gweithio hyblyg
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Llinell Bicini - cwyro cyffredinol**
Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar flew sydd y tu hwnt i friff top y goes, o amgylch ac o dan ran uchaf, fewnol y glun.
Gofynion cyfreithiol**
Mae hyn yn cyfeirio at gyfreithiau sy'n effeithio ar y ffordd y mae busnesau yn cael eu gweithredu, sut y mae'r salon neu'r gweithle wedi'i osod a'i gynnal, pobl sy'n cael eu cyflogi a'r systemau gwaith y mae'n rhaid eu cynnal. Yr hyn sy'n arbennig o bwysig yw rheoliadau COSHH, Rheoliadau Trydan yn y Gweithle a'r Rheoliadau Cynnyrch Cosmetig.
Clwt prawf thermol**
Darn o gwyr yn cael ei roi ar ardal fach o groen y cleient yn yr ardal sy'n cael ei thrin, yn union cyn y gwasanaeth cwyro. Mae hyn er mwyn gwirio a yw'r cwyr ar dymheredd cyfforddus i'r cleient cyn parhau â'r gwasanaeth.