Gwella ymddangosiad yr amrannau
Trosolwg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymddangosiad amrannau gan ddefnyddio technegau amrywiol. Bydd angen i chi allu lliwio amrannau i gleientiaid gyda nodweddion lliw gwahanol. Hefyd, bydd angen i chi gysylltu, cynnal a thynnu systemau amrannau dros dro a lled-barhaol a darparu cyngor perthnasol ar ôl-ofal i gleientiaid.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau gweithio diogel ac effeithiol wrth wella ymddangosiad amrannau
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer y driniaeth
3. lliwio amrannau
4. cysylltu amrannau lled-barhaol
5. cynnal amrannau lled-barhaol
6. gosod amrannau dros dro
7. systemau tynnu amrannau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gweithio diogel ac effeithiol wrth wella ymddangosiad amrannau**
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth
2. paratoi a diogelu eich cleient a'ch hun er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
3. gosod eich cleient mewn safle i fodloni gofynion y gwasanaeth
4. sicrhau eich osgo a'ch dulliau gweithio er mwyn lleihau blinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
5. sicrhau bod yr amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer y cleient a'r driniaeth
6. sicrhau bod eich ardal waith yn lân a thaclus drwy'r driniaeth
7. defnyddio dulliau gweithio sy'n lleihau'r risg o groes-heintio
8. sicrhau eich bod yn defnyddio offer a deunyddiau glan
9. hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
11. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion y gyfraith
12. cwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaeth**
13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient
14. sicrhau caniatâd wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn
15. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
16. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol
17. cytuno ar driniaeth a chanlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
18. cynnal profion sensitifrwydd croen ar y cleient, cyn y driniaeth a chofnodi'r canlyniadau
19. dewis a pharatoi offer a deunyddiau ar gyfer y driniaeth dan sylw
20. glanhau, paratoi a diogelu ardal yr amrannau
21. gwneud argymhellion yn seiliedig ar werthusiad o amrannau'r cleient, y ffactorau gwahanol a'r potensial i gyflawni'r edrychiad a ddymunir
22. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd
23. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gan y cleient a chi
Lliwio amrannau**
24. dewis lliw sy'n addas i nodweddion lliw amrannau'r cleient
25. rhoi lliw yn gytbwys ar yr amrannau a gadael iddo ddatblygu am yr amser gofynnol
26. atal y lliw rhag lledaenu i groen, dillad y cleient ac ardaloedd cyfagos wrth i chi roi'r driniaeth
27. sicrhau bod y lliw'n cael ei dynnu i gyd o'r amrannau gan greu'r anghysur lleiaf posibl i'r cleient
28. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig
Gosod amrannau lled-barhaol**
29. cysylltu estyniad amrannau i un blewyn amrant yn y cyfeiriad gofynnol
30. gadael bwlch rhwng yr estyniad amrannau a'r amrant
31. ychwanegu a chysylltu systemau amrannau unigol mewn ffordd sy'n ystyried y ffactorau sy'n dylanwadu ar y driniaeth
32. tynnu unrhyw glud gormodol drwy'r broses gysylltu gyfan
33. sicrhau lles y cleient drwy'r gwasanaeth
34. selio'r amrannau a sicrhau edrychiad cytbwys sy'n bodloni gofynion y cleient
Cynnal amrannau lled-barhaol**
35. ailosod yr amrannau gofynnol, gan sicrhau'r niwed lleiaf posibl i amrannau naturiol y cleient
36. cyflawni edrychiad cytbwys sy'n bodloni gofynion y cleient
Gosod amrannau dros dro**
37. gosod a chysylltu estyniadau amrannau dros dro i amrannau eich cleient
38. tynnu unrhyw glud gormodol oddi ar yr amrannau
39. cyflawni edrychiad cytbwys sy'n bodloni gofynion y cleient
Tynnu systemau amrannau**
40. defnyddio offer a chynnyrch i dynnu systemau pwysleisio amrannau
41. osgoi difrod i amrannau naturiol y cleient
42. sicrhau bod amrannau naturiol y cleient yn lân ac nad oes unrhyw gynnyrch arnynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth wella ymddangosiad amrannau**
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth
2. paratoi eich cleient a'ch hun er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant
3. eich cyfrifoldebau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun yn unol â gofynion cyfreithiol a gofyniad y sefydliad
4. technegau gosod y cleient a chithau yn ddiogel er mwyn osgoi anghysur
5. yr amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer triniaethau a pham mae'r rhain yn bwysig
6. sicrhau bod eich ardal waith yn lân a thaclus drwy'r driniaeth
7. defnyddio dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
8. defnyddio dulliau gweithio sy'n lleihau'r risg o groes-heintio
9. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio'n ddiogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel.
12. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion y gyfraith
13. y rhesymau dros gynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer y driniaeth**
14. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn dull proffesiynol
15. sut i gwblhau ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
16. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed
17. yr oedran y mae unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol
18. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
19. arwyddocâd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus wedi'i lofnodi gan y cleient cyn derbyn triniaeth
20. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleientiaid
21. y gwrtharwyddion sy'n galw am atgyfeiriad meddygol a pham
22. sut i adnabod y gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth
23. y camau angenrheidiol mewn cysylltiad â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
24. y rhesymau dros beidio enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
25. y weithdrefn ar gyfer cynnal profion sensitifrwydd croen cyn triniaethau gwella amrannau
26. y rhesymau dros gynnal profion sensitifrwydd croen a chofnodi'r canlyniadau
27. sut i gynnal archwiliad o amrannau naturiol ac ardal y llygad i nodi ffactorau a fydd yn effeithio ar y driniaeth
28. y gofynion paratoi ar gyfer systemau gwahanol ar gyfer gwella amrannau
29. y cyngor a'r argymhellion ar y cynnyrch a'r triniaethau
Lliwio amrannau**
30. sut i ddewis a rhoi lliw amrannau sy'n gweddu nodweddion lliw gwallt y cleient a'u gofynion
31. sut y gall nodweddion lliw gwallt y cleient effeithio ar yr amser datblygu
32. sut i ddewis, cymysgu a thynnu lliw a lleihau gwastraff
33. sut mae ocsideiddiad yn effeithio ar fywyd silff lliw ac ar ba bwynt yn y broses liwio y dylid cymysgu'r lliw
34. y gwrtharwyddion posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i'r cleient
Cysylltu, cynnal a thynnu systemau amrannau lled-barhaol a thros dro**
35. y gofynion paratoi ar gyfer systemau amrannau dros dro a lled-barhaol
36. sut i ddewis y math o amrannau a faint o amrannau i'w hychwanegu er mwyn sicrhau edrychiad cytbwys
37. y technegau gosod amrywiol ar gyfer systemau amrannau dros dro a lled-barhaol
38. manteision ac anfanteision systemau estyniadau amrannau gwahanol
39. gwrtharwyddion posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i'r cleient
40. strwythur a chylch tyfu gwallt
41. strwythur sylfaenol a swyddogaeth y llygaid
42. effaith gorfforol estyniadau amrannau ar y llygaid
43. y rhesymau dros gael gwared â glud gormodol drwy'r broses o osod yr amrannau
44. sut i gynnal a thynnu systemau amrannau dros dro a lled-barhaol
45. yr argymhelliad i dynnu systemau amrannau unigol a fflêr yn broffesiynol a pham bod hyn yn bwysig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori**
1. holi
2. gwrando
3. edrych
4. teimlo
5. ysgrifenedig
Camau angenrheidiol**
1. annog y cleient i ofyn am gyngor meddygol
2. esbonio pam na ellir cynnal y gwasanaeth cwyro
3. addasu'r driniaeth
Ffactorau**
1. trwch yr amrannau naturiol
2. hyd yr amrannau naturiol
3. cyfeiriad tyfu
4. lliw'r amrannau naturiol
5. crymedd yr amrannau naturiol
6. siâp y llygaid
7. dwyster yr amrannau
8. difrod amlwg i'r amrannau
9. ffordd o fyw
Cyngor ac argymhellion**
1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. y cyfnodau a argymhellir rhwng triniaethau
4. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol
Nodweddion lliw amrannau**
1. golau
2. coch
3. tywyll
4. gwyn
Systemau cysylltu amrannau**
1. stribyn
2. fflêr
3. unigol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch**
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy**
1. lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. lleihau'r defnydd o ynni (offer ynni effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. defnyddio eitemau untro
6. defnyddio dodrefn ecogyfeillgar, wedi'u hailgylchu
7. defnyddio paent â lefelau isel o gemegau
8. defnyddio deunydd pecynnu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd
9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
10. annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
Anghenion amrywiol**
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oedran
4. anabledd
5. rhyw
Gwrtharwyddion**
Atal
1. llid yr amrannau
2. cemotherapi
3. trichlotillomania
4. llawdriniaeth ddiweddar ar y llygaid
5. bleffaritis
6. heintiau llygaid
Cyfyngu
1. psorïasis
2. llefrithod/llefelod
3. syndrom llygaid sych
4. glawcoma
5. lensys cyffwrdd
6. aflonyddwch thyroid
Cyngor ac argymhellion**
1. gwasanaethau ychwanegol
2. cynnyrch ychwanegol
3. yr adweithiau a allai ddigwydd a pha gyngor i'w roi i gleientiaid
4. oes ddisgwyliedig triniaethau amrannau unigol
5. cynnyrch i'w defnyddio adref a fydd o fudd i'r cleient a'r rhai i'w hosgoi a pham
6. sut i lanhau a chribo amrannau
7. y cyfnodau a argymhellir rhwng triniaethau
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd weithio hyblyg
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Estyniadau Amrannau:**
Set lawn**
Mae hyn yn ymestyn o gornel allanol i gornel fewnol yr amrant uchaf.
Set rannol**
Mae hyn yn ymestyn o gornel allanol i ganol yr amrant uchaf.
Amrannau stribed**
Mae'r rhain yn hyd o amrannau sydd wedi'u cysylltu i stribed nad yw'n ludiog.
Amrannau fflêr**
Mae'r rhain yn gasgliad o amrannau unigol sydd wedi'u cysylltu i fwlb nad yw'n ludiog.
Amrannau sengl neu unigol**
Mae'r rhain yn amrannau unigol, sy'n cael eu cysylltu i un blewyn amrant drwy ddefnyddio gludyddion.
Profion sensitifrwydd croen**
Prawf i weld a oes gan y cleient alergedd i gynnyrch penodol.
Ocsideiddiad**
Proses gemegol yw ocsideiddiad. Y broses yw ychwanegu ocsigen i gyfansoddyn sy'n creu adwaith cemegol lle bydd un neu fwy o sylweddau yn newid i rai eraill.