Gwella ymddangosiad yr aeliau

URN: SKABT5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu triniaethau i wella'r aeliau.

Bydd angen i chi allu darparu gwasanaeth siapio aeliau gyda phlyciwr, artistwaith aeliau gan ddefnyddio nifer o dechnegau gwahanol a darparu cyngor perthnasol ar ôl-ofal i gleientiaid.  Bydd artistwaith aeliau yn cynnwys lliwio aeliau i gleientiaid gyda nodweddion lliw gwallt gwahanol a rhoi lliw dros dro gan ddefnyddio powdwr a phensel.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid drwy gydol eich gwaith.  Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol a dangos sgiliau cyfathrebu da.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gweithio diogel ac effeithiol wrth wella ymddangosiad aeliau

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer y gwasanaeth

3. lliwio aeliau

4. siapio aeliau​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gweithio diogel ac effeithiol wrth wella ymddangosiad aeliau**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

2. paratoi eich cleient a'ch hun er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. gosod eich cleient mewn safle i fodloni gofynion y gwasanaeth

 4. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn lleihau blinder a risg o anaf i chi'ch hun ac

eraill.

 5. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

6. sicrhau bod eich ardal waith yn lân a thaclus drwy'r driniaeth

7. defnyddio dulliau gweithio sy'n osgoi'r risg o groes-heintio

8. sicrhau eich bod yn defnyddio offer a deunyddiau glân

9.  hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar,     deunydd a chynnyrch

11. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion cyfreithiol

12. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer y gwasanaeth**

13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

14. sicrhau caniatâd wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth

15. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

16. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol

17. cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

18. cynnal prawf sensitifrwydd croen ar y cleient, cyn y gwasanaeth a chofnodi'r canlyniadau

19. dewis a pharatoi cyfarpar a deunyddiau ar gyfer y gwasanaeth

20. glanhau a pharatoi ardal yr aeliau

21. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu

22. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient

Lliwio Aeliau**

23. dewiswch artistwaith aeliau sy'n gweddu nodweddion lliw gwallt y cleient a'u gofynion

24. lliwiwch a diffiniwch yr ael gan ddefnyddio technegau artistwaith aeliau

25. atal y cynnyrch rhag lledaenu ar groen a dillad y cleient ac ardaloedd cyfagos wrth i chi roi'r driniaeth

26. tynnu cynnyrch dros ben o'r aeliau gan greu'r anghysur lleiaf posibl i'r cleient

27. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig

Siapio aeliau**

28. cadarnhewch fod y cleient yn deall y gwasanaeth cyn i chi ddechrau a chadarnhau gyda hwy y siâp gofynnol

29. cadwch y croen yn dynn er mwyn lleihau unrhyw anghysur i'r cleient

30. tynnwch y gwallt yn y cyfeiriad y mae'r gwallt yn tyfu i fodloni gofynion y cleient

31. creu siâp ael cytbwys, cymesur wedi'i ddiffinio

32. sicrhau nad oes unrhyw wallt diangen a gosod cynnyrch lleddfol ar yr ardal

33. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r siâp gorffenedig


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda thriniaethau i'r wyneb**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar ddiogelu a pharatoi cleientiaid

3. eich cyfrifoldebau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun yn unol â gofynion cyfreithiol a gofyniad y sefydliad

4. technegau gosod y cleient a chithau yn ddiogel er mwyn osgoi anghysur

5. yr amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis gwresogi ac awyru a pham mae'r rhain yn bwysig

6. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus

7. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

8. dulliau gweithio'n ddiogel a hylan er mwyn osgoi croes-heintio

9. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy

10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio'n ddiogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

11. y cyfarwyddiadau gan gyflenwyr neu gynhyrchwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn ar ddefnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

12. y gofynion cyfreithiol ar gael gwared â gwastraff

13. y rhesymau dros gwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer y gwasanaeth**

14. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn dull proffesiynol

15. sut i gwblhau ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

16. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed

17. yr oedran y mae unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

18. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

19. arwyddocâd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus wedi'i lofnodi gan y cleient cyn derbyn triniaeth

20. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleientiaid

21. y gwrtharwyddion sy'n galw am atgyfeiriad meddygol a pham

22. sut i adnabod y gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar driniaeth

23. y camau angenrheidiol mewn cysylltiad â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

24. y rhesymau dros beidio enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

25. y weithdrefn ar gyfer cynnal prawf sensitifrwydd croen cyn cynnal y gwasanaethau gwella aeliau

26. y rhesymau dros gynnal prawf sensitifrwydd croen a chofnodi'r canlyniadau

27. y gofynion paratoi ar gyfer triniaethau gwella aeliau gwahanol

28. y cyngor a'r argymhellion ar y cynnyrch a'r gwasanaethau

Lliwio aeliau**

29. sut i ddewis a defnyddio technegau artistwaith aeliau gwahanol i gyd-fynd â nodweddion lliw gwallt y cleient a'u gofynion

30. y gwahanol fathau o gynnyrch a ddefnyddir ar gyfer artistwaith aeliau a'u heffeithiau

31. nodweddion lliw gwallt a sut y gallant effeithio ar ddatblygiad lliw dros amser

32. sut i ddewis, cymysgu a thynnu cynnyrch a lleihau gwastraff

33. sut mae ocsideiddiad yn effeithio ar fywyd silff lliw ac ar ba bwynt yn y broses liwio y dylid cymysgu'r lliw

34. y gwrtharwyddion posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i'r cleient

Sia​pio aeliau**

35. sut i gynghori'r cleient ac asesu siâp a chymesuredd yr aeliau mewn cysylltiad â nodweddion wyneb y cleient a siâp presennol eu haeliau

36. y mathau o gyfarpar a chynnyrch a ddefnyddir i siapio aeliau

37. nodweddion a manteision defnyddio plycwyr awtomatig â phlycwyr llaw

38. sut i dynnu'r gwallt mewn cysylltiad â chyfeiriad tyfu'r gwallt

39. y dulliau gwahanol a ddefnyddir i sicrhau bod y cleient yn gyfforddus

40. sut i greu siâp cymesur a chytbwys

41. yr adwaith croen a ddisgwylir wrth siapio aeliau

42. y mathau o gynnyrch lleddfol sydd ar gael a'u heffeithiau ar ardal y llygaid 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i ofyn am gyngor meddygol

2. esbonio pam na ellir cynnal y driniaeth

3. addasu'r driniaeth

Cyngor ac argymhellion**

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. y cyfnodau a argymhellir rhwng triniaethau

4. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol

Artistwaith aeliau**

1. powdr

2. lliw

3. pensel

Nodweddion lliw gwallt**

1. golau

2. coch

3. tywyll

4. gwyn

Siâp**

1. ail-siapio'r ael gyfan

2. cynnal siâp gwreiddiol yr aeliau​


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy**

1. lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. lleihau'r defnydd  ynni (offer ynni effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn ecogyfeillgar, wedi'u hailgylchu

7. defnyddio paent â lefelau isel o gemegau

8. defnyddio cynnyrch organig gwrth-alergedd

9. defnyddio deunydd pecynnu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd

10. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

11. annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oedran

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion**

Atal

1. llid yr amrannau

2. cemotherapi

3. trichlotillomania

4. llawdriniaeth ddiweddar ar y llygaid

5. bleffaritis

6. heintiau llygaid

Cyfyngu

1. psorïasis

2. llefrithod/llefelod

3. syndrom llygaid sych

4. glawcoma

5. lensys cyffwrdd

6. aflonyddwch thyroid

Cyngor ac argymhellion**

1. gwasanaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. yr adweithiau a allai ddigwydd a pha gyngor i'w roi i gleientiaid

4. y cyfnodau a argymhellir rhwng gwasanaethau​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Profion sensitifrwydd croen**

Prawf i benderfynu a oes gan y cleient alergedd i'r cynnyrch, megis lliw, gael ei ddefnyddio ​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB5

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwella aeliau; artistwaith aeliau; lliwio aeliau; siapio aeliau