Darparu triniaeth gofal croen wyneb
Trosolwg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwella a chynnal cyflwr croen yr wyneb gan ddefnyddio triniaethau amrywiol. Mae'r triniaethau hyn yn cynnwys: digennu'r croen, cynhesu'r croen, tynnu pennau duon, tylino'r wyneb a thriniaethau masg. Bydd angen i chi allu darparu triniaethau o'r fath i ystod o gleientiaid â gwahanol fathau o groen a chyflwr croen, yn ogystal â'r gallu i ddarparu cyngor perthnasol ar ôl y driniaeth.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal ymddangosiad personol proffesiynol a dangos sgiliau cyfathrebu da.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth wella a chynnal cyflwr croen wyneb
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau gofal croen wyneb
3. gwella a chynnal cyflwr y croen
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gweithio diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda thriniaethau i'r wyneb**
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth
2. paratoi eich cleient a'ch hun er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant
3. sicrhau gwedduster a phreifatrwydd eich cleient
4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni gofynion y driniaeth
5. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar y risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
6. sicrhau bod yr amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer y cleient a'r driniaeth
7. sicrhau bod eich ardal waith yn lân a thaclus drwy'r driniaeth
8. defnyddio dulliau gweithio sy'n lleihau'r risg o groes-heintio
9. sicrhau eich bod yn defnyddio offer a deunyddiau glan
10. hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a'r cyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel.
12. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion y gyfraith
13. cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau wyneb**
14. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient
15. sicrhau caniatâd wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn
16. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
17.adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol
18. cytuno ar driniaeth a chanlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
19. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn unrhyw driniaeth
20. glanhau croen y cleient a chynnal dadansoddiad croen ar y cleient a chofnodi'r math o groen a chyflwr y croen
21. dewis cynnyrch wyneb ac offer ar gyfer math o groen a chyflwr croen y cleient
Cynnal triniaethau i'r wyneb**
22. defnyddio cynnyrch wyneb ac offer yn seiliedig ar ganlyniadau'r dadansoddiad croen
23. glanhau'r croen a chael gwared ar unrhyw olion o golur
24. defnyddio cynnyrch a thechnegau digennu sy'n addas ar gyfer math o groen a chyflwr croen y cleient
25. defnyddio techneg cynhesu'r croen i fodloni gofynion y cleient
26. cynnal techneg tynnu pennau duon gan sicrhau'r anghysur lleiaf a'r niwed lleiaf i'r croen
27. defnyddio ac addasu technegau tylino i fodloni anghenion y cleient a chytuno ar gynllun triniaeth
28. defnyddio a thynnu triniaethau masg heb unrhyw anghysur i'r cleient a gadael y croen yn lân, wedi'i dynhau ac wedi'i leithio
29. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig a'u bod yn fodlon â'r cynllun triniaeth
30. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd
31. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gan y cleient a chi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda thriniaethau i'r wyneb**
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan
unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleientiaid
3. eich cyfrifoldebau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun yn unol â gofynion cyfreithiol a gofyniad y sefydliad
4.y rhesymau dros gynnal gwedduster a phreifatrwydd y cleient
5. technegau gosod y cleient a chithau yn ddiogel er mwyn osgoi anghysur
6. yr amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer triniaethau a pham mae'r rhain yn bwysig
7. pam ei bod yn bwysig cadw eich ardal waith yn lân a thaclus
8. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
9. dulliau gweithio'n ddiogel a hylan er mwyn osgoi croes-heintio
10. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy
11. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio'n ddiogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
12. y cyfarwyddiadau gan gyflenwyr neu gynhyrchwyr y mae'n rhaid i chi eu dilyn ar ddefnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
13. y gofynion cyfreithiol ar gael gwared â gwastraff
14. y rhesymau dros gwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau i'r wyneb**
15. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn dull proffesiynol
16. sut i gwblhau ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
17. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed
18. yr oedran y mae unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol
19. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
20. arwyddocâd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus wedi'i lofnodi gan y cleient cyn derbyn triniaeth
21. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleientiaid
22. y gwrtharwyddion sy'n galw am atgyfeiriad meddygol a pham
23. sut i adnabod y gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar driniaeth
24. y camau angenrheidiol mewn cysylltiad â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
25. y rhesymau dros beidio enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
26. sut i adnabod gwahanol fathau o groen a chyflyrau croen wrth gynnal dadansoddiad croen
27. y meini prawf ar gyfer dewis cynnyrch ac offer sy'n addas i fath o groen a chyflwr croen cleientiaid
Cynnal triniaethau i'r wyneb**
28. gwahanol fathau o gynnyrch ac offer sydd ar gael ar gyfer triniaethau gofal wyneb a sut i'w defnyddio
29. y gwahanol fathau o gynnyrch croen arbenigol a sut i'w defnyddio
30.y rhesymau a'r buddion dros lanhau, tynhau a lleithio'r croen
31. y gwahanol fathau o ddulliau cynhesu'r croen a'u heffeithiau
32. y dulliau gwahanol a ddefnyddir i dynnu pennau duon yn ddiogel o'r croen
33. y gwahanol fathau o dechnegau tylino a'u heffeithiau
34. sut i addasu technegau tylino ar gyfer gwahanol fathau o groen a chyflyrau croen gwahanol
35. y gwahanol fathau o driniaethau masg a'u heffeithiau
36. y dulliau gwahanol o roi a thynnu triniaethau masg
37. anatomi a ffisioleg yr wyneb a'r gwddf
38. sut mae ffactorau amgylcheddol a ffordd o fyw yn effeithio ar gyflwr y croen
39. sut mae'r broses heneiddio naturiol yn effeithio ar groen yr wyneb a thôn y cyhyrau
40. y gwrtharwyddion posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a'r cyngor i'w roi i gleientiaid
41. y cyngor a'r argymhellion ar y cynnyrch a'r triniaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori**
1. holi
2. gwrando
3. edrych
4. teimlo
5. ysgrifenedig
Camau angenrheidiol**
1. annog y cleient i ofyn am gyngor meddygol
2. esbonio pam na ellir cynnal y driniaeth
3. addasu'r driniaeth
Math o groen**
1. olewog
2. sych
3. cyfuniad
Cyflwr y croen**
1. sensitif
2. aeddfed
3. dadhydredig
4. ifanc
Cynnyrch y wyneb**
1. hylif tynnu colur llygaid
2. glanhawyr
3. tynhawyr
4. digennwyr
5. lleithyddion
6. cynnyrch croen arbenigol
7. cyfrwng tylino
8. masgiau
Offer**
1. golau chwyddo
2. dyfeisiau cynhesu'r croen
Technegau tylino**
1. effleurage
2. petrissage
3. tapio
4. ffrithiant
5. dirgrynu
Cyngor ac argymhellion**
1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. y cyfnodau a argymhellir rhwng triniaethau
4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch**
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy**
1. lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. lleihau'r defnydd ynni (offer ynni effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. defnyddio eitemau untro
6. defnyddio dodrefn ecogyfeillgar, wedi'u hailgylchu
7. defnyddio paent â lefelau isel o gemegau
8. defnyddio cynnyrch organig gwrth-alergedd
9. defnyddio deunydd pecynnu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd
10. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
11. annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
Anghenion amrywiol**
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oedran
4. anabledd
5. rhyw
Gwrtharwyddion sy'n galw am atgyfeiriad meddygol**
1. haint bacteriol – impetigo
2. haint feirol – crachen annwyd
3. haint ffwngaidd - tinea
4. cyflyrau meddygol systemig
5. llid yr amrannau
6. cyflyrau croen difrifol
7. heintiau llygaid
8. acne
9. plorod
10. yr eryr a dafadennau
11. haint parasitedd yn cynnwys pla llau a sgabies
Gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu**
1. meinwe craith ddiweddar
2. ecsema
3. psorïasis
4. hyperkeratosis
5. alergeddau croen
6. briwiau
7. crafiadau
8. cleisiau
9. llefrithod/llefelod
Anatomi a ffisioleg**
1. strwythur a swyddogaethau'r croen
2. gweithredoedd cyhyrau'r wyneb, gwddw a'r ysgwyddau, yn cynnwys y frontlais, y crychwr, temporalis, orbicularis oculi, levators labii y wefus uchaf, orbicularis oris, cyhyr boch, risorius, mentalis, zygomaticus, masseter, cyhyryn gostyngol y wefus isaf, sternocleidomastoid, platysma, trapezius, pectoralis a deltoid
3. esgyrn y pen, gwddw a gwregys yr ysgwyddau, yn cynnwys:
a – ar gyfer y penglog: y gwegil, talcennol, parwydol, arleisiol, asgwrn sffenoid, ethmoidol
b - ar gyfer y wyneb: sygomatig, gên, maxillae, trwyn, fomer, cogwrn, lacrimal, asgwrn y daflod
c – ar gyfer y gwddw: asgwrn cefn serfigol
ch – ar gyfer gwregys yr ysgwyddau: pont yr ysgwydd, asgwrn y balfais, asgwrn y fraich
d – ar gyfer y frest: sternwm
4. ystum esgyrn y pen, wyneb, gwddw, y frest a'r ysgwyddau
5. ystum cyhyrau'r pen, wyneb, gwddw ac ysgwyddau
6. cyfansoddiad a swyddogaeth y gwaed a'r lymff a'u rôl yn gwella cyflyrau'r croen a'r cyhyrau
**
Cyngor ac argymhellion**
1. gwasanaethu ychwanegol
2. cynnyrch ychwanegol
3. cynnyrch at ddefnydd y cartref a fydd o fudd i'r cleient a'r rheini i'w hosgoi a pham
4. yr adweithiau a allai ddigwydd ar ôl triniaethau wyneb a pha gyngor i'w roi i gleientiaid
5. y cyfnodau a argymhellir rhwng triniaethau i'r wyneb
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd gweithio hyblyg
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Adweithiau**
Adweithiau negyddol i'r driniaeth neu gynnyrch megis cochni gormodol neu adweithiau alergaidd.
Gwrtharwyddion**
Amodau neu gyfyngiadau sy'n nodi na ddylid cynnal gwasanaeth penodol.
Digennu**
Cael gwared ar gelloedd arwyneb y croen.
Triniaethau masg**
Y rhai sy'n caledu (yn cynnwys clai, thermol, paraffin a geloids). Y rhai nad ydynt yn caledu (yn cynnwys geliau a hufenau).
Dyfeisiau cynhesu'r croen**
Gall y rhain gynnwys stemwyr, tyweli poeth, cwpwrdd tyweli poeth.
Cynnyrch croen arbenigol**
Mae'r rhain yn cynnwys hufenau llygaid, geliau llygaid, hufenau gwddw, serwm, cynnyrch acne, balm gwefus
Pennau duon**
Mae pennau duon i'w gweld yn aml ar yr wyneb o amgylch y t-barth. Mae ceratin yn cyfuno gydag olewau a bacteria i greu rhwystr i ffoligl blew'r croendwll, sydd â 'phen du'. Gellir tynnu pennu duon o'r croen gyda dyfais tynnu pennau duon.