Darparu triniaethau nodwyddo croen
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio technegau nodwyddo croen cosmetig gyda nodwyddau rhwng 0.5 mm i 1.0 mm o hyd (ardal wynebol yn unig) ac 1.5 mm o hyd, er mwyn gwella cyflwr croen y corff a'r wyneb. Mae'n trafod y sgiliau sydd ynghlwm wrth ddarparu ymgynghoriad trylwyr i sefydlu addasrwydd y cleient ar gyfer triniaeth a ffurfio cynllun triniaeth penodol sy'n addas i anghenion y cleient unigol. Mae gallu i ddarparu cyngor ôl-ofal perthnasol hefyd yn ofynnol.
Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau nodwyddo croen cosmetig
ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
cyflawni triniaethau nodwyddo croen cosmetig
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau nodwyddo croen cosmetig
cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth
paratoi a diogelu'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
sicrhau urddas a phreifatrwydd eich cleient ar bob amser
gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth heb achosi iddynt deimlo'n anghysurus
sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth
defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch
cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient
gwrthod triniaethau nodwyddo croen cosmetig i blant dan 18 oed
nodi hanes meddygol, amcanion triniaeth, ardaloedd i'w trin, nodweddion croen a chyflwr croen y cleient
adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd camau angenrheidiol
cymryd lluniau cyn y driniaeth o'r mannau i'w trin gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
esbonio teimlad corfforol y driniaeth a golwg y croen wedi'r driniaeth i'r cleient
cyflawni prawf sensitifrwydd croen anaesthetig argroenol, cyn y driniaeth a chofnodi'r canlyniadau
nodi anghenion, disgwyliadau ac amcanion triniaeth y cleient, a chytuno arnynt gyda'r cleient
sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y driniaeth
dewis offer a chynnyrch addas i weddu i amcanion y driniaeth
**
Cyflawni triniaethau nodwyddo croen cosmetig**
sicrhau bod croen y cleient yn lân ac wedi ei baratoi ar gyfer triniaeth nodwyddo cosmetig
taenu anesthetig argroenol ar y mannau i'w trin
sicrhau y defnyddir uned nodwyddau newydd ar gyfer pob cleient i bob triniaeth
dewis maint nodwydd priodol ar gyfer y cyflwr croen ac amcanion y driniaeth
gweithio'n systematig i orchuddio'r ardaloedd i'w trin yn defnyddio'r symudiadau gofynnol yn y cyfeiriad a argymhellir
addasu dwyster a hyd y driniaeth i weddu i nodweddion croen, amcanion triniaeth a lefel goddefiant y cleient
monitro adwaith y croen ac ymateb y cleient a rhoi'r gorau i'r driniaeth os ceir unrhyw adweithiau andwyol
gadael yr ardal wedi ei thrin yn lân ac wedi ei diogelu gyda chynnyrch lleddfol yn dilyn triniaeth
cymryd lluniau wedi'r driniaeth o'r man a driniwyd gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd
sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau nodwyddo croen cosmetig
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
y cyfrifoldebau dan reoliadau trwyddedu awdurdod lleol ar eich cyfer chi a'ch eiddo, ble fo'n berthnasol
pwysigrwydd gwirio cyfreithlondeb y cynnyrch yn erbyn Rheoliadau Cosmetig presennol yr UE a sut i sicrhau gwiriad o gyfreithlondeb
y rhesymau dros wirio canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer darparu triniaethau pilio croen cosmetig
y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient
pwysigrwydd hylendid personol, amddiffyniad a chyflwyniad o ran cynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle
pam ei bod yn bwysig i gynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient
sut y gall safle eich cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a ddymunir a lleihau blinder ar risg o anaf
amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer triniaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
pam ei bod yn bwysig osgoi traws heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lanwaith
y peryglon a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyflawni triniaethau nodwyddo croen cosmetig a sut y gellir lleihau'r rhain
13 y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
y rhesymau pam na ddylid cyflawni triniaethau nodwyddo cosmetig ar gleientiaid dan 18 oed
pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi i gynnal y driniaeth
y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth a pham
y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
pwysigrwydd a'r rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
sut i asesu nodweddion croen
sut i baru'r driniaeth i gyd-fynd â nodweddion croen, graddfa dosbarthiad Fitzpatrick ac amcanion trin
y rhesymau dros ystyried hanes triniaethau croen blaenorol y cleient, cyflwr y croen, amlygiad i'r haul a hanes meddygol a sut ddylid addasu'r driniaeth
y cyngor cyn triniaeth i'r roi i gleientiaid ar sut y gall hyn wella'r canlyniadau nodwyddo croen
sut i ddisgrifio teimlad corfforol y driniaeth i'r cleient a gwedd y cleient wedi'r driniaeth
y weithdrefn ar gyfer cyflawni prawf sensitifrwydd croen anesthetig argroenol cyn triniaethau pilio croen
y rhesymau dros gyflawni prawf sensitifrwydd croen a chofnodi'r canlyniadau
sut i baratoi'r cofnodion ymgynghori
paratoi offer a chynnyrch ar gyfer triniaethau nodwyddo'r croen cosmetig
Cyflawni triniaethau nodwyddo croen cosmetig
y rhesymau dros lanhau'r croen cyn y driniaeth
y rhesymau dros ddefnyddio anaesthetig argroenol ar y cyd â thriniaethau nodwyddo croen cosmetig
mathau a dibenion offer nodwyddo croen cosmetig a chynnyrch cysylltiedig
sut i ddewis a defnyddio asiantau ac offer nodwyddo croen cosmetig i weddu i wahanol fathau o groen, nodweddion croen, y raddfa ddosbarthiad Fitzpatrick a'r gwahanol amcanion triniaeth
defnydd a chyfyngiadau cynnyrch ac offer a ddefnyddir ar gyfer triniaethau nodwyddo croen cosmetig
manteision ac effeithiau a grëir trwy ddefnyddio'r gwahanol offer nodwyddo croen cosmetig
sut i weithio'n systematig a threfnus, gan osgoi gorgyffwrdd triniaeth ormodol ar draws y mannau i'w trin
sut i addasu'r driniaeth i ystyried cyflyrau sydd eisoes yn bodoli
pam fod angen addasu gwasgedd, hyd a sawl gwaith y pasir gwahanol rannau o'r corff a sensitifrwydd cleientiaid
adweithiau posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid
anatomi a ffisioleg y croen a'r wyneb
y mathau o gynnyrch cyn ac ôl-driniaeth sydd ar gael a pham fod eu hangen
y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori
holi
gwrando
edrych
teimlo
ysgrifenedig
Amcanion y driniaeth
lleihau mân linellau
gwella cyflwr y croen
gwella teimlad y croen
gwella llacrwydd croen
gwella marciau beichiogrwydd
Mannau i'w trin
wyneb
gwddf
y frest
cefnau dwylo
coesau
abdomen
Nodweddion Croen
graddfa Fitzpatrick
lefel sensitifrwydd
trwch y croen
trwch epidermol
Camau angenrheidiol
esbonio pam na ellid cynnal y driniaeth
annog y cleient i geisio cyngor meddygol
addasu'r driniaeth
Cyfarpar
Uned nodwydd 0.5 mm
Uned nodwydd 1 mm
Cyngor ac argymhellion
cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
y cyfnodau amser a argymhellir rhwng triniaethau
cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
atal llygredd
defnyddio eitemau untro (tywelion hawdd eu sychu)
defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
defnyddio paent â chemegau isel
defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol
diwylliannol
crefyddol
oed
anabledd
rhyw
Gwrtharwyddion sy'n atal
afiechydon croen heintus
croen sensitif iawn
3. acne actif difrifol
clwyfau agored
meinwe craith diweddar
lympiau heb ddiagnosis
chwyddiadau a llidau
afiechydon yn y gwaed
haemoffilia
meddyginiaeth gwrth geulo
Rosacea
canser y croen
isotretinoin
hanes o gyffuriau gyda photensial ffotosensitifedd
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu
botox neu lanwyddion diweddar yn ardal y driniaeth
clefyd siwgr
epilepsi
tyllau addurniadau corff
gorbryder
gwythiennau faricos
toriadau
crafiadau
meddyginiaethau presennol
ychwanegiadau a meddyginiaethau llysieuol
dermatosis llidiol actif megis soriasis
mannau duon mawr
mathau o groen
cyn llawdriniaeth gosmetig
cyflwr meddyliol ac emosiynol gwael
herpes
hanes o greithiau
sgrafellu'r croen neu driniaeth pilio'r croen cosmetig diweddar
IPL neu laser ac epiladu
cleisiau
Cofnodion ymgynghori
triniaethau croen blaenorol
hanes meddygol
graddfa ddosbarthu Fitzpatrick
nodweddion a chyflwr y croen
disgwyliadau'r cleient
amcanion y driniaeth
man i'w thrin
canlyniadau profion croen
adweithiau
cyfyngiadau ar y driniaeth
Adweithiau
cleisio
llid
adwaith alergaidd lleoledig
adwaith histamin
y ddanadfrech
arwyddion o haint
Anatomi a ffisioleg
strwythur a swyddogaeth croen
rolau melanocytau, ceratinocytau a ffibroblast o ran hyrwyddo croen iach a'i adfywiad
proses heneiddio'r croen yn cynnwys effeithiau ffordd o fyw a'r amgylchedd
egwyddorion y system gylchredol a lymffatig
camau'r broses gwella clwyfau
effaith proses wella a gyfaddawdwyd a sut i'w adnabod ac ymateb i hyn
y mathau o golagen (yn cynnwys mathau 1, 3 a 7)
pwysigrwydd y matrics cellol ychwanegol a rôl colagenas ac elastas yn y broses o wella clwyfau
y broses o, a'r gofynion ar gyfer, synthesis colagen, yn cynnwys fitamin A, fitamin C, fitamin E, gwrthocsidyddion, ffactorau twf, peptidau copr, biofflafinoidau, haearn, sinc ac asidau amino)
rôl amddiffynnol yr epidermis a phwysigrwydd y swyddogaeth atalydd
Cyngor ac argymhellion
gwasanaethau ychwanegol
cynnyrch ychwanegol
cyngor ar newidiadau gweledol i'r croen ac amser adfer
y ffactorau ffordd o fyw a newidiadau a allai fod yn ofynnol i wella effeithlonrwydd y driniaeth
gofynion hylendid ôl-driniaeth, yn cynnwys golchi dwylo cyn cyffwrdd ag ardal y driniaeth, osgoi anifeiliaid anwes ac arwynebau budr er mwyn helpu lleihau'r risg o heintiad, yr angen i osgoi ymarfer corff yn union wedyn, osgoi triniaethau laser, IPL neu iLIPO
cyfyngiadau ôl-driniaeth ac anghenion triniaeth yn y dyfodol, yn cynnwys osgoi amlygiad i'r haul, triniaethau gwres, awyrgylch llygredig a darpariaethau argroenol; dim colur am y cyfnod a nodir yng nghyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
cynhyrchion at ddefnydd cartref a fydd yn gymorth i iachau a diogelu'r croen (yn cynnwys isafswm amddiffyniad haul UVA ac UVB SPF30, cynhyrchion gofal croen lliniarol a lleddfol megis gwrthlidau neu wrthocsidyddion) a'r rhai hynny i'w hosgoi a pham
sut y gall arferion gofal croen, bwyta'n iach, yfed ac ymarfer corff effeithio ar effeithlonrwydd y driniaeth
adweithiau yn dilyn triniaeth a sut i ddelio â hwy
cynnal a chadw parhaus i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl
pwysigrwydd rhoi cyngor gofal dilynol ysgrifenedig i'r cleient
sicrhau bod y cleient yn derbyn pwynt cyswllt yn dilyn triniaeth
manteision cwrs o driniaeth ac amlder angenrheidiol y driniaeth
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
parodrwydd i ddysgu
agwedd hyblyg i weithio
gweithiwr tîm
agwedd bositif
moeseg bersonol a phroffesiynol
Sgiliau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Geirfa
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
y gallu i hunan-reoli
cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych
defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Dolenni I NOS Eraill
Graddfa Fitzpatrick
Fe'i dyfeisiwyd ym 1975 ym Mhrifysgol Harvard, ac mae hon yn system ddosbarthiad croen, a fesurir ar raddfa o 1 i 6 ar sail adwaith ffotosensitifrwydd i ymbelydredd uwchfioled.