Darparu triniaethau amlder radio cosmetig

URN: SKABT34
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag amlder radio i ddibenion cosmetig i wella cyflwr croen y corff a'r wyneb. Mae'n trafod y sgiliau sydd ynghlwm wrth ddarparu ymgynghoriad trylwyr gyda'r cleient i sefydlu addasrwydd y cleient ar gyfer triniaeth a ffurfio cynllun triniaeth penodol sy'n addas i anghenion y cleient unigol. Mae gallu i ddarparu cyngor ôl-ofal perthnasol hefyd yn ofynnol.

Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau amlder radio cosmetig

  2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

  3. cyflawni triniaethau amlder radio cosmetig


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau amlder radio cosmetig

*
*
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth

  1. paratoi a diogelu'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

  2. sicrhau urddas a phreifatrwydd eich cleient ar bob amser

  3. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth heb achosi iddynt deimlo'n anghysurus

  4. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill

  5. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth

  6. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio a niwed neu anaf i chi'ch hun ac eraill

  7. sicrhau y defnyddir offer a deunyddiau glân

  8. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  9. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch

  10. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

  11. cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

  1. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient

  2. nodi hanes meddygol, nodweddion croen, amcanion trin, ardaloedd i'w trin, cyflwr y croen a sensitifrwydd y cleient

  3. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd camau angenrheidiol

  4. cymryd lluniau cyn y driniaeth o'r mannau i'w trin gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

  5. esbonio teimlad corfforol y driniaeth a golwg y croen wedi'r driniaeth i'r cleient

  6. cyflawni profion thermol a chyffyrddol i wirio ymateb croen y cleient i wres ac ysgogiadau gwasgedd

  7. nodi anghenion, disgwyliadau ac amcanion triniaeth y cleient, a chytuno arnynt gyda'r cleient

  8. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y driniaeth

  9. dewis offer a chynnyrch cysylltiedig i weddu i amcanion y driniaeth

Cyflawni triniaethau amlder radio cosmetig

  1. sicrhau bod yr ardaloedd i'w trin yn lân ac wedi eu taenu â digon o gyfrwng cynnyrch cyswllt cyn triniaeth

  2. defnyddio'r gosodiadau a'r taenwyr triniaeth gofynnol sy'n addas i amcanion y driniaeth ac ardaloedd i'w trin

  3. sicrhau bod y taenwyr yn parhau i fod mewn cysylltiad â'r croen trwy gydol y driniaeth

  4. gweithio'n systematig i orchuddio'r ardaloedd i'w trin gan ddefnyddio symudiadau yn y cyfeiriad gofynnol

  5. addasu dwyster a hyd y driniaeth pilio i weddu i nodweddion croen a chyflwr corff y cleient

  6. monitro adwaith y croen ac ymateb y cleient a rhoi'r gorau i'r driniaeth os ceir adweithiau andwyol

  7. gadael yr ardal wedi'i thrin yn lân, wedi'i lleithio a'i diogelu gyda chynnyrch diogelu rhag yr haul

  8. cwblhau'r driniaeth trwy droi'r system amlder radio cosmetig yn ôl i'r modd anweithredol

  9. cymryd lluniau wedi'r driniaeth o'r man a driniwyd gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

  10. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd

  11. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau amlder radio cosmetig


1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

  1. y rhesymau dros wirio canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer darparu triniaethau amlder radio cosmetig

  2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient

  3. pwysigrwydd hylendid personol, amddiffyniad a chyflwyniad o ran cynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  4. pam ei bod yn bwysig i gynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient

  5. sut y gall safle eich cleient a chithau effeithio ar y canlyniad a dymunir a lleihau blinder ar risg o anaf

  6. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer triniaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig

  7. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

  8. pam ei bod yn bwysig osgoi traws heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lanwaith

  9. y peryglon a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyflawni triniaethau amlder radio cosmetig a sut y gellir lleihau'r rhain

  10. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  11. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  12. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

  13. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

  1. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

  2. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

  3. y rhesymau pam na ddylid cyflawni triniaethau amlder radio ar gleientiaid dan 18 oed

  4. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

  5. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i driniaeth

  6. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

  7. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth a pham

  8. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

  9. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

  10. pwysigrwydd a'r rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

  11. sut i nodi'r nodweddion croen ac amodau corfforol a fyddai'n elwa o driniaethau amlder radio cosmetig

  12. pwysigrwydd cynhyrchu tystiolaeth ffotograffig cyn ac wedi triniaeth yn unol ag arferion sefydliadol

  13. y gweithdrefnau ar gyfer cyflawni profion thermol a chyffyrddol ar y cleient a pham ei bod yn bwysig

  14. sut i ddisgrifio teimlad corfforol y driniaeth i'r cleient

  15. paratoi offer a chynnyrch ar gyfer triniaethau amlder radio cosmetig

Cyflawni triniaethau amlder radio cosmetig

  1. pwysigrwydd glanhau'r croen cyn y driniaeth

  2. y rhesymau dros ddefnyddio cyfrwng cynnyrch cyswllt ar y cyd â thriniaethau amlder radio cosmetig

  3. sut i ddefnyddio ac addasu defnydd o offer amlder radio cosmetig i weddu i wahanol fathau o groen, amodau corfforol ac amcanion triniaeth

  4. yr effeithiau corfforol a grëwyd gan offer amlder radio cosmetig

  5. sut mae amlder radio cosmetig yn cael ei fesur a'i berthynas â'r sbectrwm electromagnetig

  6. amlder radio cosmetig a rhyngweithio gyda meinwe

  7. y gwahaniaeth rhwng amlder radio cosmetig un pegwn, deubegwn a thri phegwn

  8. y mathau o driniaethau y gellid eu rhoi ar y cyd ag, neu wedi, triniaethau amlder radio cosmetig

  9. defnydd a chyfyngiadau cynnyrch ac offer a ddefnyddir ar gyfer triniaethau amlder radio cosmetig

  10. anatomi a ffisioleg y croen a'r wyneb

  11. adweithiau posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid

  12. y mathau o gynnyrch ôl-driniaeth sydd ar gael a manteision eu defnyddio

  13. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaeth


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori

  1. holi

  2. gwrando

  3. edrych

  4. teimlo

  5. ysgrifenedig

Amcanion y driniaeth

  1. lleihau mân linellau a chrychau

  2. gwella cyflwr y croen

  3. amlinellu'r corff

  4. tynhau croen yr wyneb

  5. gwella gwedd llid yr isgroen

  6. lleihad cylchedd

Mannau i'w trin

  1. wyneb

  2. gwddf

  3. abdomen

  4. pengliniau

  5. cluniau

  6. pen ôl

  7. bonion breichiau

Camau angenrheidiol

  1. esbonio pam na ellid cynnal y driniaeth

  2. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

  3. addasu'r driniaeth

Cyfarpar

  1. dyfais amlder radio cosmetig yn unig

  2. dyfais amlder radio cosmetig gyda sugnedd gwactod

  3. taenwr wyneb

  4. taenwr corff

**

Nodweddion Croen**

  1. lefel sensitifrwydd

  2. trwch

  3. lefelau hydradu

Cyflyrau corfforol

  1. llid yr isgroen

  2. dyddodion braster anwastad

  3. diffygion amlinellu'r corff

  4. llacrwydd croen

Cyngor ac argymhellion

  1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

  2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

  3. y cyfnodau amser a argymhellir rhwng triniaethau

  4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

​Iechyd a diogelwch

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

  3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

  4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

  5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

  6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

  7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

  8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

  9. Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle

  10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

  2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

  3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

  4. atal llygredd

  5. defnyddio eitemau untro (tywelion hawdd eu sychu)

  6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

  7. defnyddio paent â chemegau isel

  8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

  9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

  10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol

  1. diwylliannol

  2. crefyddol

  3. oed

  4. anabledd

  5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

  1. clefyd siwgr

  2. afiechydon croen heintus

  3. camweithrediad y system nerfol

  4. clefyd/anhwylder y galon

  5. rheoliadur y galon

  6. unrhyw driniaethau yn ymwneud â chanser

  7. meinwe craith diweddar yn ardal y driniaeth

  8. lympiau heb ddiagnosis

  9. chwyddiadau a llidau

  10. meddyginiaethau sy'n achosi teneuo neu lid i'r croen megis steroidau a roaccutane

  11. diagnosis o scleroderma

  12. beichiogrwydd

  13. acne

  14. rosacea

  15. diffyg gweithrediad yr iau

  16. diffyg gweithrediad yr aren

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

  1. epilepsi

  2. hanes o anhwylderau cylchredol

  3. pinnau neu blatiau metel

  4. mewnblaniadau ac IUDs (penodol i'r ddyfais a ddefnyddir)

  5. llanwyddion silicon neu dermol

  6. meddyginiaethau

  7. tyllau addurniadau corff

  8. gorbryder

  9. gwythiennau faricos

  10. toriadau

  11. crafiadau

  12. cleisiau

  13. sgrafellu'r croen neu driniaeth pilio cemegol diweddar

  14. IPL neu laser

  15. tocsinau botwlinwm

  16. epileiddio

Anatomi a ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaethau'r croen

  2. amrywiaethau a lleoliad trwch y croen a gwaddodion meinwe blonegog o fewn gwahanol rannau o'r wyneb a'r gwddf

  3. strwythur a swyddogaeth y system lymffatig

  4. strwythur a swyddogaeth y system gylchredol

  5. rhyngweithio rhwng y lymff a gwaed yn y system gylchredol

  6. egwyddorion a swyddogaethau y systemau endocrin, treulio ac ysgarthol a pham bod y rhain yn berthnasol i driniaethau amlder radio cosmetig

  7. proses heneiddio'r croen yn cynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw a'r amgylchedd

  8. proses synthesis colagen ac elastin yn cynnwys ysgogiad ffibroblastig

  9. proses wella'r croen

  10. ffisioleg a graddio llid yr isgroen

  11. strwythur a swyddogaeth celloedd blonegog a lipolysis

  12. effeithiau ffisiolegol a manteision triniaethau amlder radio cosmetig ar feinwe meddal a strwythurau ysgerbydol sylfaenol

Adweithiau

  1. cochni

  2. poen gormodol

  3. llid

  4. llosgiadau

  5. pothellu

  6. cleisio

  7. creithio

  8. llid

  9. adwaith alergaidd

  10. oedema gormodol

  11. gorbigmentiad

Cyngor ac argymhellion

  1. gwasanaethau ychwanegol

  2. cynnyrch ychwanegol

  3. newidiadau gweledol i'r croen ac amser adfer

  4. y ffactorau ffordd o fyw a newidiadau a allai fod yn ofynnol i wella effeithlonrwydd y driniaeth

  5. cyfyngiadau yn dilyn triniaeth ac anghenion triniaeth yn y dyfodol (yn cynnwys osgoi llanwyddion dermol, retinol argroenol)

  6. cynnyrch i'w defnyddio yn y cartref a fydd o fudd i'r cleient a'r rheini i osgoi a pham (yn cynnwys isafswm amddiffyniad croen UVA ac UVB SPF30)

  7. sut y gall arferion gofal croen, bwyta, yfed ac ymarfer corff presennol effeithio ar effeithlonrwydd y driniaeth

  8. adweithiau yn dilyn triniaeth a sut i ddelio â hwy

  9. cynnal a chadw parhaus i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl

  10. pwysigrwydd rhoi cyngor gofal dilynol ysgrifenedig i'r cleient

  11. pwysigrwydd sicrhau bod y cleient yn derbyn pwynt cyswllt yn dilyn triniaeth

  12. manteision derbyn cwrs o driniaeth


Gwerthoedd

​Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. parodrwydd i ddysgu

  2. agwedd hyblyg i weithio

  3. gweithiwr tîm

  4. agwedd bositif

  5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Ymddygiadau

​Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

  1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

  2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

  3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

  4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

  5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

  6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

  7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

  8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

  9. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

  10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

  11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

  12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.


Sgiliau

​Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. y gallu i hunan-reoli

  2. cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych

  3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

  4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

  5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

  6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad


Geirfa

Amlder radio (RF) deubegwn

I ddibenion triniaethau esthetig, cyflenwir amlder radio deubegwn trwy osod dau electrod wedi eu lleoli'n ofalus i'r ardal i'w thrin. Mae'r cerrynt yn teithio o un electrod trwy'r meinwe ac yn ôl i fyny i'r electrod arall; mae'r cerrynt sy'n mynd rhwng yr electrodau yn fach a bas. O ganlyniad, mae'r meinwe yn yr ardal i'w thrin yn cael ei wresogi'n llai dwfn a llai dwys nag un pegwn (RF). Mewn triniaeth esthetig, mae RF deubegwn fel arfer wedi ei gyfuno gyda ffynonellau seiliedig ar olau neu egni, yn cynnwys laser, golau pwls dwys, golau isgoch neu gyda chymorth gwactod. Mae golau isgoch yn gwresogi'r meinwe i lawr i'r dermis dwys ac yn cynhesu'r meinwe er mwyn gwella treiddiad (RF).

Sbectrwm electromagnetig

Mae'r sbectrwm electromagnetig yn cynnwys dau brif fath o belydriad. Uwch fioled, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer effeithiau lliw haul ac isgoch a ddefnyddir fel modd o gynhesu'r meinwe i ddibenion therapiwtig.

Amlder radio (RF) un pegwn

I ddibenion triniaethau esthetig, cyflenwir amlder radio un pegwn trwy osod un electrod i'r ardal i'w thrin ac electrod gwrthwynebol sy'n gymharol bell fel bod y cerrynt yn mynd yn ddwfn trwy'r corff. Defnyddir RF un pegwn i ddelio â'r broblem o lacrwydd croen trwy gyflenwi ynni RF i dynhau'r croen gan oeri'r cyswllt i ddiogelu'r epidermis.

*
Amlder radio (RF) tri phegwn
*

Mae technoleg RF tri phegwn yn trin llid yr isgroen ar wraidd y broblem. Mae ffurfweddiad tri phegwn yn cynhesu'r celloedd braster dan y croen yn ddetholus heb effeithio'n andwyol ar y meinwe amgylchynol, gan gynyddu metaboledd a secretiad braster hylifol.  Ar yr un pryd, mae'n cynhesu haenau dwfn ac arwynebol o fraster, trwy gyfuno effeithiau deuol RF un pegwn ac RF deubegwn mewn un taenwr.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB36

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cosmetig; radio; amlder; amlder radio;