Darparu triniaethau pilio croen cosmetig

URN: SKABT33
Sectorau Busnes (Suites): Arferion Uwch Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio cynnyrch* pilio croen cosmetig arwynebol sydd ar gael yn gyfreithlon a thechnegau i adfywio cyflwr y croen. Mae'n cynnwys y sgiliau sy'n gysylltiedig â darparu ymgynghoriad trylwyr i sefydlu addasrwydd y cleient ar gyfer triniaeth a ffurfio cynllun triniaeth penodol sy'n addas i anghenion y cleient unigol. Mae'r gallu i ddarparu cyngor ôl-ofal perthnasol hefyd yn ofynnol.

Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith.  Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau pilio croen cosmetig

  2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

  3. cyflawni triniaethau pilio croen cosmetig


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau pilio croen cosmetig

*
*
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth

  1. paratoi a diogelu'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

  2. cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient ar bob amser

  3. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth heb achosi iddynt deimlo'n anghysurus

  4. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill

  5. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth

  6. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

8.  sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

  1. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  2. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnyddio cyfarpar, deunydd a chynnyrch yn ddiogel

  3. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

  4. cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

  1. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient

  2. gwrthod triniaethau pilio croen cosmetig i bobl dan 18 oed

  3. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw camau angenrheidiol

  4. nodi hanes meddygol, dosbarthiad croen, cyflwr croen a sensitifrwydd croen y cleient

  5. tynnu lluniau cyn y driniaeth o'r ardaloedd i'w trin gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

  6. esbonio teimlad corfforol y driniaeth a golwg y croen wedi'r driniaeth i'r cleient

  7. cynnal prawf sensitifrwydd croen ar y cleient cyn y driniaeth a chofnodi'r canlyniadau

  8. nodi anghenion, disgwyliadau ac amcanion triniaeth y cleient, a chytuno arnynt gyda'r cleient

  9. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y driniaeth

  10. dewis offer a chynnyrch sy'n cyd-fynd ag amcanion y driniaeth ar gyfer y pilio croen cosmetig

Cyflawni triniaethau pilio croen cosmetig

*
23. sicrhau bod yr *
ardaloedd fydd yn cael eu trin yn lân, rhydd o olew ac yn sych

  1. gweithio'n systematig i sicrhau y taenir cynnyrch pilio croen yn gyson ar yr ardaloedd i'w trin

  2. addasu hyd ac arddwysedd y driniaeth pilio croen cosmetig i weddu i fath croen a chyflwr croen y cleient

  3. monitro adwaith croen y cleient ac ymateb y cleient a rhoi'r gorau i'r driniaeth os ceir adweithiau andwyol

  4. tynnu'r cynnyrch pilio croen cosmetig a thaenu eli niwtraleiddio'r croen ar ôl y cyfnod amser gofynnol

  5. rhoi cynnyrch amddiffyn rhag yr haul ar yr ardal wedi ei thrin

  6. tynnu lluniau wedi'r driniaeth o'r ardal a driniwyd gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

  7. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd

  8. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddarparu triniaethau pilio croen cosmetig

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

  2. y cyfrifoldebau dan reoliadau trwyddedu awdurdod lleol ar eich cyfer chi a'ch eiddo, ble fo'n berthnasol

  3. pwysigrwydd gwirio cyfreithlondeb y cynnyrch yn erbyn Rheoliadau Cosmetig presennol yr UE a sut i sicrhau gwiriad o gyfreithlondeb

  4. y rhesymau dros wirio canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer darparu triniaethau pilio croen cosmetig

  5. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient

  6. pwysigrwydd hylendid personol, amddiffyniad a chyflwyniad o ran cynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle

  7. pam mae hi'n bwysig cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient

  8. sut y gall safle'ch cleient a'ch hun effeithio'r canlyniad dymunol a lleihau blinder a'r risg o anaf

  9. amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer triniaethau, megis gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig

  10. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

  11. pam mae hi'n bwysig osgoi croes-heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lanwaith

  12. y peryglon a'r risgiau sy'n gysylltiedig â darparu triniaethau pilio croen cosmetig a sut y gellir lleihau'r rain

  13. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  14. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  15. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

  16. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

  1. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

  2. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

  3. y rhesymau pam na ddylid cyflawni triniaethau pilio cosmetig ar gleientiaid sydd dan 18 oed

  4. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

  5. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient, i gynnal y driniaeth

  6. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

  7. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth

  8. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

  9. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

  10. pwysigrwydd a'r rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

  11. sut i baratoi'r cofnodion ymgynghori

  12. y rhesymau dros ystyried hanes triniaeth croen blaenorol y cleient, amlygiad i'r haul, creithio a hanes meddygol cyn y driniaeth

  13. sut i asesu math o groen a chyflwr

  14. defnyddio'r raddfa ddosbarthu Fitzpatrick er mwyn pennu canlyniad y triniaethau pilio croen cosmetig ac osgoi gorbigmentiad ôl-llidiol.

  15. paratoi offer a chynnyrch ar gyfer triniaethau pilio'r croen cosmetig

  16. sut i ddisgrifio'r teimlad corfforol a golwg wedi'r driniaeth i'r cleient

  17. sut mae'r trothwy poen a sensitifrwydd yn amrywio o un cleient i'r llall

  18. y weithdrefn ar gyfer cyflawni prawf sensitifrwydd croen cyn triniaethau pilio croen

  19. y rhesymau dros gyflawni prawf sensitifrwydd croen a chofnodi'r canlyniadau

  20. y math o gyngor cyn triniaeth y dylid ei roi i ddosbarthiad cleientiaid i optimeiddio'r canlyniadau a pham fod angen i hyn fod yn berthnasol i'w math o groen a graddfa Fitzpatrick

Cyflawni triniaethau pilio croen cosmetig

  1. y rhesymau dros lanhau'r croen cyn y driniaeth

  2. y rhesymau dros ddiogelu ardaloedd fel y llygaid, ffroenau a gwefusau gyda chynnyrch atal addas wrth gyflawni pilio cemegol

  3. sut i ddewis, defnyddio ac addasu defnydd o gyfryngau pilio croen i weddu i wahanol fathau o groen a chyflyrau, y raddfa ddosbarthiad Fitzpatrick a'r gwahanol amcanion triniaeth

  4. manteision ac effeithiau pilio'r croen cosmetig

  5. y raddfa pH a'i berthnasedd ar sensitifrwydd croen

  6. gweithredoedd asidau ac alcalïau a'u crynodiadau ar y croen

  7. dosbarthiad Asidau Hydrocsi Alffa (AHA) ac Asidau Hydrocsi Beta (BHA)

  8. y cyfryngau pilio cemegol sy'n addas dim ond ar gyfer defnydd meddygol a pham

  9. y cyfryngau cemegol mewn gwahanol fathau o driniaethau pilio croen a'u potensial ar gyfer niwed

  10. y rhesymau dros roi, amseru a thynnu unrhyw gynnyrch triniaeth pilio croen cosmetig yn brydlon

  11. sut i weithio'n systematig a threfnus, gan osgoi gorgyffwrdd triniaeth ormodol ar draws yr ardaloedd i'w trin

  12. yr amgylchiadau pan gall fod angen ail roi a sut ddylid cyflawni hyn

  13. y triniaethau y gellid eu rhoi ar y cyd â neu ar ôl pilio croen cosmetig

  14. cyfyngiadau cynnyrch ac offer a ddefnyddir ar gyfer triniaethau pilio'r croen cosmetig AHA a BHA

  15. manteision a defnydd o atalyddion tyrosin i osgoi gorbigmentiad ôl-llidiol wrth drin dosbarthiad Fitzpatrick ar raddfa 4-6

  16. y mathau o gemegau sydd angen ac nad ydynt angen niwtraleiddio i'w cyflawni

  17. adweithiau posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid

  18. anatomi a ffisioleg y croen

  19. y rhesymau dros adfer lefelau pH y croen yn dilyn triniaeth

  20. y cynnyrch sydd angen i atal haint a hybu gwellhad a sut ddylid eu defnyddio cyn ac wedi triniaethau pilio croen cosmetig

  21. pam fod angen defnyddio isafswm o gynnyrch UVA ac UVB SPF30 wedi triniaeth

  22. y mathau o gynnyrch ôl-driniaeth sydd ar gael a pham fod eu hangen

  23. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaeth


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

**

*SYLWER

Cynnyrch pilio croen cosmetig yw'r rhai a gymeradwywyd gan Reoliadau cyfredol yr UE ar gyfer defnydd cosmetig gan therapyddion ac sy'n cydymffurfio â gofynion yswiriant proffesiynol.

*
Technegau ymgynghori
*

  1. holi

  2. gwrando

  3. edrych

  4. teimlo

  5. ysgrifenedig
    *
    Camau angenrheidiol
    *

  6. esbonio pam na ellid cynnal y driniaeth

  7. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

  8. addasu'r driniaeth

Ardaloedd i'w trin

  1. wyneb

  2. gwddf

  3. y frest

  4. dwylo

  5. cefn

Amcanion y driniaeth

  1. adfywio cyffredinol y croen

  2. gwella brychau arwynebol

  3. gwella amrywiaethau pigmentiad

  4. gwella golwg y croen

  5. gwella hydradiad y croen

Cyfarpar a chynnyrch

  1. cynorthwyon dadansoddi'r croen

  2. taenwyr

  3. cynwysyddion croen cosmetig adnabyddadwy

  4. cyfryngau pilio croen cosmetig

5 cynnyrch cyn triniaeth

6 cynnyrch ôl-driniaeth

Triniaethau pilio croen cosmetig

  1. Asidau Hydrocsi Alffa - AHAs

  2. Asidau Hydrocsi Beta - BHAs

Mathau o groen

  1. olewog

  2. sych

  3. cyfuniad

  4. graddfa Fitzpatrick 1-3

  5. graddfa Fitzpatrick 4-6

Cyflyrau croen

  1. sensitif

  2. aeddfed

  3. dadhydredig

  4. gorlawn

  5. acne

  6. gorbigmentiad

Cyngor ac argymhellion

  1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

  2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

  3. y cyfnodau amser a argymhellir rhwng triniaethau

  4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

  3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

  4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

  5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

  6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

  7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

  8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

  9. Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle

  10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

  2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

  3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

  4. atal llygredd

  5. defnyddio eitemau untro (tywelion hawdd eu sychu)

  6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

  7. defnyddio paent â chemegau isel

  8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

  9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

  10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol

  1. diwylliannol

  2. crefyddol

  3. oed

  4. anabledd

  5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

  1. triniaeth pelydriad diweddar

  2. haint bacteriol, firaol, ffwngaidd neu herpetig actif

  3. clwyfau agored

  4. rhai cyffuriau gyda photensial ffotosensitifedd

  5. clefydau llidiol actif ar y croen fel soriasis, dermatitis atopig, celoidau a chreithio hypertroffig

  6. cleient anghydweithredol

  7. cleient sy'n ddiofal o ran amlygiad i'r haul neu ddefnyddio meddyginiaethau

  8. cleient gyda disgwyliadau afrealistig

9 defnydd o isotretinoin yn y 6 mis diwethaf

  1. ceisio beichiogi

  2. beichiog

  3. llaetha

  4. unrhyw amlygiad uniongyrchol i'r haul

  5. defnydd cyfredol o unrhyw feddyginiaeth argroenol steroidaidd

  6. Alergedd i asbirin (asid salisylig) neu ddefnydd i asid retionig neu gynnyrch Retin A

  7. dan 18 oed

  8. methiant i ddilyn yr holl raglen cyn triniaeth

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

  1. math o groen

  2. cyn llawdriniaeth gosmetig

  3. cyflwr meddyliol ac emosiynol gwael

  4. herpes

  5. hanes o greithiau hypertroffig

  6. clefyd siwgr

  7. epilepsi

  8. gorbryder

  9. cleisiau

  10. microsgrafellu'r croen neu driniaeth pilio'r croen cosmetig diweddar

  11. IPL neu laser

  12. epileiddio

Cyflyrau sydd angen cymeradwyaeth feddygol

  1. cleientiaid sy'n cymryd meddyginiaethau penodol, yn cynnwys teneuwyr gwaed

  2. clefyd siwgr

  3. llawdriniaeth ddiweddar

  4. chwyddiadau heb ddiagnosis yn ardal y driniaeth

  5. tystiolaeth o gyflyrau meddygol fel clefydau cardiaidd, hepatig neu arennol

  6. unrhyw driniaeth pelydriad

Cofnodion ymgynghori

  1. nodi triniaethau pilio croen cosmetig blaenorol

  2. nodi triniaethau croen cosmetig blaenorol megis microsgrafellu a laser/IPL

  3. hanes meddygol

  4. gwrtharwyddion a nodwyd

  5. cyflwr emosiynol a chorfforol

  6. hanes torheulo

7 graddfa Fitzpatrick

  1. disgwyliadau'r cleient

  2. nodau triniaeth

  3. ardal i'w thrin

Adweithiau

  1. gwynnu a rhewi

  2. cochni gormodol

  3. naddu

  4. newidiadau pigmentaidd

  5. anghysur

Anatomi a ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth y croen

  2. effeithiau geneteg ar broses heneiddio'r croen

  3. effeithiau ffordd o fyw a ffactorau amgylcheddol ar y croen megis difrod ffoto, ysmygu, alcohol, diet a heneiddio cyn amser

  4. y broses o ddigeniad, diblisgiad ac ail arwynebu'r croen

  5. rôl amddiffynnol yr epidermis a phwysigrwydd y swyddogaeth atalydd

  6. proses wella'r croen

  7. effaith proses wella a gyfaddawdwyd a sut i'w adnabod ac ymateb i hyn

  8. proses synthesis colagen ac elastin yn cynnwys ysgogiad ffibroblastig

  9. pwysigrwydd y matrics cellol ychwanegol a rôl Asidau Hydrocsi Alffa o ran ysgogi glycosaminoglycanau

  10. y broses chwyddo yn cynnwys gorbigmentiad wedi chwyddo

  11. effeithiau argroenol cynhwysion pilio cosmetig ar y croen a chyflyrau croen

  12. y broses o melanogensis

Cyngor ac argymhellion

  1. gwasanaethau ychwanegol

  2. cynnyrch ychwanegol

  3. y ffactorau ffordd o fyw a newidiadau a allai fod yn ofynnol i wella effeithlonrwydd y driniaeth

  4. cynnal a chadw parhaus i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl

  5. newidiadau gweledol i'r croen yn dilyn triniaeth ac amser adfer

  6. defnydd o gynnyrch gofal croen a argymhellir yn ystod y broses well, yn cynnwys defnydd o amddiffyniad haul UVA ac UVB isafswm SPF30

  7. cyfyngiadau yn dilyn triniaeth yn cynnwys osgoi amlygiad i'r haul a gwisgo het, triniaeth gwres, defnydd o gosmetigau, gweithgaredd corfforol egnïol, osgoi triniaethau a chynnyrch diblisgo/ail arwynebu eraill, osgoi dŵr clorinedig, osgoi sgrafelliad gormodol

  8. anghenion triniaeth yn y dyfodol

  9. gwrtheffeithiau yn dilyn triniaeth a'r angen i wirio am arwyddion o haint

  10. asesiad yn dilyn triniaeth trwy adborth y cleient, yn cynnwys holiadur, galwad ffôn, ymweliad dilynol nesaf

  11. pwysigrwydd rhoi cyngor gofal dilynol ysgrifenedig i'r cleient

  12. pwysigrwydd sicrhau bod y cleient yn derbyn pwynt cyswllt yn dilyn triniaeth

  13. buddion cwrs o driniaeth


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. parodrwydd i ddysgu

  2. agwedd hyblyg i weithio

  3. gweithiwr tîm

  4. agwedd bositif

  5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

  1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

  2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

  3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

  4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

  5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

  6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

  7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

  8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

  9. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

  10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

  11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

  12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. y gallu i hunan-reoli

  2. cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych

  3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

  4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

  5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

  6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad


Geirfa

​Triniaeth Pilio Croen AHA

Triniaeth pilio asid hydrocsi alffa – mae'r prif gynhwysion o driniaeth pilio AHA wedi eu creu o asidau naturiol a geir mewn ffrwythau a bwydydd eraill. Mae rhai o'r cynhwysion poblogaidd yn cynnwys asid lactig o laeth wedi suro, asid sitrig o ffrwythau sitrig ac asid glycolig o gansenni siwgr. Mae triniaethau pilio AHA yn cael gwared ar gelloedd marw ar arwyneb y croen ac felly'n esmwytho ac adfywio'r croen.

Triniaeth Pilio Croen AHB

Triniaeth pilio asid hydrocsi beta – gall triniaeth pilio BHA fynd yn ddyfnach i'r croendyllau na thriniaethau pilio AHA.. Mae triniaethau BHA yn rheoli sebwm ac acne, yn ogystal â chael gwared ar gelloedd croen marw. Mae asid salisylig yn enghraifft o asid hydrocsi beta. Yn aml bydd asidau AHA ac AHB yn cael eu cyfuno mewn cynnyrch pilio croen i sicrhau'r effaith gorau posibl.

Graddfa ddosbarthu Fitzpatrick

Fe'i dyfeisiwyd ym 1975 ym Mhrifysgol Harvard, ac mae hon yn system ddosbarthiad croen, a fesurir ar raddfa o 1 i 6 ar sail adwaith ffotosensitifrwydd i ymbelydredd uwchfioled.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB37

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cosmetig; pilio croen; pilio; gwelliannau croen; therapi harddwch