Darparu technegau microbigmentiad ac adnewyddiad croen uwch
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio technegau microbigmentiad ac adnewyddiad croen uwch i greu a gwella nodweddion, a gwella teimlad a symudedd y croen ar yr wyneb a'r corff. Efallai y bydd natur y gwaith hwn yn gofyn i chi weithio ar y cyd â'r proffesiwn meddygol. Mae hefyd yn trafod y sgiliau sydd ynghlwm wrth ddarparu ymgynghoriad trylwyr gyda'r cleient i lunio cwrs triniaeth penodol wedi ei addasu i anghenion y cleient unigol. Byddwch yn paratoi ar gyfer ac yn cyflawni ystod o effeithiau triniaeth, yn ogystal â darparu cyngor ôl-ofal.
Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth ddefnyddio technegau microbigmentiad ac adnewyddiad croen uwch
ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
cyflawni triniaethau
cyflawni triniaethau microbigmentiad uwch
cyflawni adnewyddiad y croen
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth ddefnyddio technegau microbigmentiad ac adnewyddiad croen uwch
cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth
paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
sicrhau urddas a phreifatrwydd eich cleient ar bob amser
gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth heb achosi iddynt deimlo'n anghysurus
sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth
defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
sicrhau y defnyddir cyfarpar a deunyddiau glân
hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
gwirio lles y cleient a monitro lefel adwaith y croen trwy gydol y driniaeth
rhoi'r gorau i driniaeth ble ceir adweithiau andwyol
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch
cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient
cyflawni profion i sefydlu ymateb y cleient ac addasrwydd ar gyfer triniaeth
gwrthod triniaeth i blant dan 18 oed oni bai bod rhesymau meddygol dros wneud
sicrhau eich bod yn gweithio dan gyfarwyddyd gweithiwr meddygol a bod rhiant neu warchodwr yn bresennol, cyn trin plant am resymau meddygol
adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd camau angenrheidiol
nodi a chytuno ar yr ardaloedd i'w trin, disgwyliadau'r cleient, amcanion y driniaeth a chost
sicrhau caniatâd ysgrifenedig, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y driniaeth
dewis a pharatoi cyfarpar i fodloni gofynion cyfreithiol a diogelwch ac amcanion y driniaeth
glanhau'r ardaloedd i'w trin a nodi nodweddion croen y cleient
cymryd tystiolaeth ffotograffig o'r ardaloedd i'w trin, yn ystod gwahanol gamau o'r driniaeth
taenu cynnyrch neu ddyfais i leihau anghysur y cleient
esbonio'r teimlad corfforol a achosir gan y driniaeth i'r cleient
sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd
dewis ffurfweddiad nodwydd i gyflawni'r effaith a dymunir
llwytho'r nodwydd mewn ffordd sy'n osgoi difrodi a halogi'r nodwydd
Cyflawni triniaethau
defnyddio technegau mewnblannu a thrin y croen mewn ffordd fydd yn sicrhau'r effeithiau a ddymunir
defnyddio'r teclyn llaw ar yr ongl, cyflymder a gwasgedd cywir i gyflawni amcanion gofynnol y driniaeth
Cyflawni triniaethau microbigmentiad uwch
marcio'r ardaloedd i'w trin a chytuno ar y cynllun gyda'r cleient
defnyddio pigmentau lliw yn unol ag amcanion y driniaeth
sicrhau bod yr effeithiau terfynol yn bodloni amcanion y driniaeth a boddhad y cleient
Cyflawni adnewyddiad y croen
- defnyddio cynnyrch adnewyddiad croen yn unol ag amcanion y driniaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth ddefnyddio technegau microbigmentiad ac adnewyddiad croen uwch
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
y cyfrifoldebau dan ddeddfwriaeth ac is-ddeddfau ar gyfer triniaethau microbigmentiad ac adnewyddiad croen
pwysigrwydd gwirio canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer darparu triniaethau microbigmentiad ac adnewyddiad croen
y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient
y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol
y rhesymau dros sicrhau urddas a phreifatrwydd y cleient
sut y gall technegau gosod ac arferion gwaith diogel atal anaf yn gysylltiedig â'r gwaith
pam ei bod yn bwysig gwirio lles y cleient a monitro adwaith y croen trwy gydol y driniaeth
yr adweithiau i microbigmentiad ac adnewyddiad croen, sut i ddelio â hwy a'r cyngor i roi i gleientiaid
amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer triniaethau, megis gwresogi, goleuo ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
pam ei bod yn bwysig osgoi traws heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lanwaith
sut y gall defnyddio offer amddiffynnol personol a deunyddiau traul atalydd defnydd unigol ddiogelu yn erbyn pathogenau megis firysau yn y gwaed
pam yr argymhellir eich bod yn cael imiwneiddiad rhag hepatitis B wrth gyflawni triniaethau microbigmentiad ac adnewyddiad croen
achosion a pheryglon amlygiad damweiniol i wastraff clinigol
16 y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn, yn amodol i ofynion Awdurdodau Lleol
y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
y rhesymau dros gwblhau triniaethau o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
sut i gwblhau cofnodion ymgynghoriad, gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
pwysigrwydd profion cyn triniaeth a sut i'w cyflawni i bennu addasrwydd cleient ar gyfer triniaeth
pam ei bod yn bwysig, cyn trin plant am resymau meddygol, sicrhau eich bod yn gweithio dan gyfarwyddyd gweithiwr meddygol, bod rhiant neu warchodwr yn bresennol ac wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig
y rhesymau dros ystyried cyflwr corfforol a seicolegol y cleient, hanes meddygol a thriniaeth microbigmentiad blaenorol
sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth a pham
y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
pwysigrwydd a'r rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid ar ymarferwyr meddygol
y rhesymau dros gytuno ar yr ardaloedd i'w trin, disgwyliadau'r cleient, amcanion y driniaeth a chostau gyda'r cleient
arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient cyn triniaeth
y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
paratoi'r ardal driniaeth yn unol â chynllun y driniaeth a gofynion cyfreithiol a iechyd a diogelwch
y rhesymau dros lanhau a pharatoi'r ardal i'w thrin yn drylwyr
mathau, defnyddiau a chyfyngiadau anaesthetig a dyfeisiau argroenol
sut i ddisgrifio teimlad corfforol y driniaeth i'r cleient
sut mae'r trothwy poen a sensitifrwydd yn amrywio o un cleient i'r llall ac o apwyntiad i apwyntiad
arwyddocâd cyfreithiol cynhyrchu tystiolaeth ffotograffig glir o ansawdd ar wahanol gamau o'r driniaeth
y gwahanol fathau o ffurfweddiad nodwyddau a'u heffeithiau
achosion difrod i nodwyddau a pham na ddylid defnyddio nodwyddau wedi eu difrodi
y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
Cyflawni triniaethau microbigmentiad uwch
pam ei bod yn bwysig cynllunio siâp a lleoliad ardaloedd i'w trin
sut i ddethol, cymysgu a phrofi pigmentau lliw i weddu i wahanol amcanion triniaethau a nodweddion croen
mathau a phriodweddau pigmentau ac asiantau cludo sydd ar gael ar gyfer y driniaeth
defnyddiau a chyfyngiadau pigmentau wedi eu cymysgu a'u gwanedu
pwysigrwydd prynu offer, cyfryngau cynnyrch, nodwyddau a phigmentau wedi eu rheoleiddio gan yr UE a'r Deyrnas Unedig
egwyddorion theori lliw parthed triniaethau microbigmentiad
sut mae pigmentau lliw yn newid trwy gydol proses y driniaeth a gwellhad
gweithredu theori lliw i newid canlyniadau lliw annymunol wedi'r broses wella
dethol, defnyddio a gweithredu gwahanol driniaethau microbigmentiad
y gwahanol dechnegau mewnblannu i greu'r effeithiau a dymunir
pam eich bod yn trin y croen i sicrhau mewnblannu pigment yn effeithiol
yr ongl, cyflymder a gwasgedd cywir wrth ddefnyddio'r teclyn llaw i gyflawni'r dyfnder lliw a dosbarthiad pigment a dymunir
gwahanol fathau ac achosion cyflyrau croen hypo-bigmentaidd allai elwa o ficrobigmentiad
gwahanol dechnegau dileu pigment a'u cyfyngiadau
55 effaith triniaeth laser ar ditaniwm deuocsid
yr anatomi a ffisioleg yn ymwneud â thechnegau triniaeth
pwysigrwydd sicrhau bod yr effeithiau terfynol yn bodloni cynllun y driniaeth a boddhad y cleient
Cyflawni adnewyddiad y croen
58. y gwahanol fathau o gynnyrch a ddefnyddir mewn triniaethau adnewyddu'r croen
y cynhwysion gweithredol a geir mewn cynnyrch adnewyddu a sut maent yn gweithio ar y croen
effeithiau a manteision triniaeth adnewyddu'r croen
y gwahanol dechnegau mewnblannu a ddefnyddir ar gyfer adnewyddu'r croen
pam eich bod yn trin y croen i sicrhau canlyniadau adnewyddiad croen effeithiol
yr ongl, cyflymder a gwasgedd cywir wrth ddefnyddio'r teclyn llaw i gyflawni'r amcanion triniaeth adnewyddu'r croen
sut y gellir defnyddio triniaethau adnewyddiad ar y cyd â microbigmentiad i uchafu canlyniadau triniaeth
y gwahanol fathau o feinwe creithiog ac anhwylderau croen all elwa o driniaethau adnewyddu'r croen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori
holi
gwrando
edrych
teimlo
ysgrifenedig
Profion
pigment
anaesthetig argroenol
Amcanion y driniaeth
diffinio nodweddion yr wyneb
creu nodweddion
cywiro nodweddion
gwella a chydbwyso nodweddion
cyflwyno lliw i'r croen
gwella ansawdd y croen
anffurfiad ymlaciol y croen
gwella symudedd y croen
Nodweddion croen
math
tôn
cyflwr
anhwylderau
wedi impio
meinwe creithiog
Cyngor ac argymhellion
cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
y cyfnodau amser a argymhellir rhwng triniaethau
cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol
Nodwydd
fflat
magnwm
crwn
pwynt sengl
llethrog
micro
cysgodwyr a leinwyr
Technegau gweithredu
pwyntiliaeth
pendil
cysgodi
wyffurf
croeslinellu
ysgubiad
strôc
Effeithiau
aeliau strôc gwallt
aeliau wedi cysgodi
leiniwr llygaid
gwella amrantau
leiniwr gwefusau
cochi gwefusau
cysgodi gwefusau
gwallt dynwared
cuddliwio croen pen
cuddliwio croen
areola
ymlacio creithiau
Pigmentau
organig
anorganig
gwanedydd pigment
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Deddfwriaeth ac is-ddeddfau
asiantau merwino'r croen
glanhau a diheintio
gwaredu ar wastraff (y Ddeddf Meddyginiaethau a Meddyginiaethau a Darpariaethau Amrywiol)
rheoliadau
Deddf Tatŵs ar Blant
pigmentau
nodwyddau
offer
Anafiadau yn gysylltiedig â gwaith
atal anaf straen ailadroddus (RSI)
anaf i'r cefn
syndrom twnnel arddyrnol
straen i'r gwddf
straen i'r llygad
Adweithiau
cochni gormodol
crafiadau cornaidd
mudiad pigment
pothellu
anghysur gormodol
oedema
adweithiau yn arwain at gleisio
llosg dynad
pendro
pigo
pwys
anaffylacsis
poen
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
atal llygredd
defnyddio eitemau untro
defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
defnyddio paent â chemegau isel
defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Cofnodion ymgynghori
hanes meddygol
cyflwr emosiynol
tôn lliw naturiol
sensitifrwydd croen
llofnodion
disgwyliadau'r cleient
cofnodion triniaeth - ardal a gafodd ei thrin, dull triniaeth, pigmentau lliw a ddefnyddiwyd, amser a hyd, math o nodwydd a defnydd, canlyniad y driniaeth
Anghenion amrywiol
diwylliannol
crefyddol
oed
anabledd
rhyw
Rhesymau meddygol
trawma craith llawfeddygol
trawma craith ddamweiniol - llosgiadau
nam geni – gwefus fylchog
hypobigmentiad
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu
epilepsi
chwistrelladwyon
cyflyrau ac anhwylderau croen chwyddedig a heintiedig
afiechydon heintus
mannau geni yn ardal y driniaeth
meddyginiaethau sy'n achosi teneuo neu lid i'r croen
diagnosis o scleroderma
angioma pigmentaidd
pilio cemegol canolig/dwfn
dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau hamdden
herpes simplecs
beichiogrwydd
Gwrtharwyddion sy'n atal
hyper-bigmentiad ar y gwefusau
llawdriniaeth ddiweddar ar yr wyneb (o fewn 6 mis)
alergeddau
haemoffilia
creithiau hypertroffig
dysmorffia corfforol
Gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol
clefyd siwgr a reolir gan inswlin
meddyginiaeth sy'n teneuo'r gwaed
cemotherapi
pwysedd gwaed uchel
anhwylderau'r galon
HIV
hepatitis
dan 18 oed
Cyngor ac argymhellion
trefnu apwyntiad yn y dyfodol, 4-12 wedi'r driniaeth, i asesu canlyniadau'r driniaeth
osgoi gweithgareddau a chynnyrch penodol yn ystod proses gwella'r croen
defnydd o gynnyrch gofal croen yn ystod y broses wella, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
hysbysu'r cleient i osgoi rhoi gwaed am gyfnod o bedwar mis wedi'r driniaeth
osgoi triniaethau neu weithdrefnau penodol wedi'r driniaeth megis sgan MRI, chwistrelliadau a thriniaeth laser
asesiad yn dilyn triniaeth trwy adborth y cleient, fel holiadur, galwad ffôn, ymweliad dilynol nesaf
Anatomi a ffisioleg
strwythur a swyddogaethau'r croen
swyddogaeth sylfaenol gwaed ac egwyddorion cylchrediad
strwythur a swyddogaeth sylfaenol y rhydwelïau, gwythiennau a chapliarïau
egwyddorion a swyddogaethau sylfaenol y system lymffatig
diben a swyddogaeth ffagosytau a sut maent yn effeithio ar y pigment
proses wella'r croen yn dilyn triniaethau microbigmentiad ac adnewyddiad y croen
diben a swyddogaeth melanin a sut mae'n effeithio ar y pigment
strwythur y llygad a'r gwefusau a sut y gall hyn effeithio ar y triniaethau
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
parodrwydd i ddysgu
agwedd hyblyg i weithio
gweithiwr tîm
agwedd bositif
moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
y gallu i hunan-reoli
cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych
defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Dyfais
Dyfais electronig sy'n ceisio oeri'r croen a lleihau teimlad yn y croen i wneud microbigmentiad yn fwy cyfforddus i'r cleient.
Gweithiwr meddygol
Gallai hyn gynnwys llawfeddygon plastig ac ailadeiladol, oncolegwyr, seiciatryddion a meddygon teulu.
Wyffurf
Techneg mewnblannu a ddefnyddir mewn microbigmentiad, ble dodir y pigment mewn symudiad cylchol gorgyffyrddol.
Pwyntiliaeth
Techneg mewnblannu a ddefnyddir mewn microbigmentiad ble mae arwyneb yn cael ei orchuddio gyda dotiau man o bigment lliw i greu effaith gysgodol, er enghraifft llinell waelod yr amrantau a'r areola.
Anaesthetig argroenol (asiant merwino)
Eli a roddir ar arwyneb y croen fel modd o leihau poen. Gellir ei roi cyn ac yn ystod triniaeth.