Gwella nodweddion yr wyneb gan ddefnyddio technegau microbigmentiad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio microbigmentiad, math o datŵ cosmetig, i greu effeithiau i wella, cywiro a diffinio nodweddion yr wyneb. Mae'n cynnwys y sgiliau sy'n gysylltiedig â darparu ymgynghoriad trylwyr gyda'r cleient i lunio a chyflwyno cwrs o driniaeth penodol wedi'i deilwra i gyd-fynd ag anghenion cleientiaid unigol. Byddwch yn paratoi ar gyfer ac yn cyflawni ystod o effeithiau microbigmentiad, yn ogystal â darparu cyngor ôl-ofal.
Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth ddefnyddio technegau microbigmentiad
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
3. cyflawni triniaethau microbigmentiad
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth ddefnyddio technegau microbigmentiad
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth
2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
3. sicrhau urddas a phreifatrwydd eich cleient ar bob amser
4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth heb achosi iddynt deimlo'n anghysurus
5. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth
7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
8. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch
11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
12. cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient
14. cyflawni profion i sefydlu ymateb y cleient ac addasrwydd ar gyfer triniaeth
15. gwrthod triniaeth i blant dan 18 oed, oni bai bod rhesymau meddygol dros wneud
16. sicrhau eich bod yn gweithio dan gyfarwyddyd gweithiwr meddygol a bod rhiant neu warchodwr yn bresennol, cyn trin plant am resymau meddygol
17. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd camau angenrheidiol
18. nodi a chytuno ar yr ardaloedd i'w trin, disgwyliadau'r cleient, amcanion y driniaeth a chost
19. sicrhau caniatâd ysgrifenedig, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y driniaeth
20. dewis a pharatoi cyfarpar i fodloni gofynion cyfreithiol a diogelwch ac amcanion y driniaeth
21. glanhau'r ardaloedd i'w trin a nodi nodweddion croen y cleient a phigmentau lliw posibl sy'n bodloni anghenion y cleient
22. cymryd tystiolaeth ffotograffig o'r ardaloedd i'w trin, yn ystod gwahanol gamau triniaeth
Cyflawni triniaethau microbigmentiad
23. taenu cynnyrch neu ddyfais i sicrhau cysur y cleient
24. esbonio'r teimlad corfforol a achosir gan y driniaeth i'r cleient
25. marcio'r ardaloedd i'w trin a chytuno ar y cynllun gyda'r cleient
26. dewis ffurfweddiad nodwydd i gyflawni'r effaith dymunol
27. llwytho'r nodwydd mewn ffordd sy'n osgoi difrodi a halogi'r nodwydd
28. defnyddio pigmentau lliw yn unol ag amcanion y driniaeth
29. defnyddio technegau mewnblannu mewn ffordd fydd yn sicrhau'r effeithiau a ddymunir
30. trin y croen, i fodloni anghenion y technegau mewnblannu
31. defnyddio'r teclyn llaw ar yr ongl, cyflymder a gwasgedd cywir i fodloni'r amcanion y driniaeth ofynnol
32. gwirio lles y cleient a monitro lefel adwaith y croen trwy gydol y driniaeth
33. sicrhau bod yr effeithiau terfynol yn bodloni amcanion y driniaeth a boddhad y cleient
34. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd
35. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol wrth ddefnyddio technegau microbigmentiad
*
1. eich cyfrifoldebau dros *iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. y cyfrifoldebau dan ddeddfwriaeth ac is-ddeddfau ar gyfer triniaethau microbigmentiad
3. pwysigrwydd gwirio canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer darparu triniaethau microbigmentiad
4. eich gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient
5. eich gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol
6. y rhesymau dros sicrhau urddas a phreifatrwydd cleient
7. sut y gall technegau gosod ac arferion gwaith diogel atal anaf yn gysylltiedig â'r gwaith
8. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer triniaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig
9. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
10. pam ei bod yn bwysig osgoi traws heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lanwaith
11. y rhesymau dros ddefnyddio offer amddiffynnol personol a nwyddau traul atal un defnydd
12. pam yr argymhellir eich bod yn cael imiwneiddiad rhag hepatitis B wrth gyflawni microbigmentiad
13. achosion a pheryglon amlygiad damweiniol i wastraff clinigol
14. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
15. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn, yn amodol i ofynion Awdurdodau Lleol
16. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
17. y rhesymau dros gwblhau triniaethau o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
18. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
19. sut i gwblhau cofnodion ymgynghoriad, gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
20. pwysigrwydd profion cyn triniaeth a sut i'w cyflawni i bennu addasrwydd cleient ar gyfer triniaeth
21. pam ei bod yn bwysig, cyn trin plant am resymau meddygol, sicrhau eich bod yn gweithio dan gyfarwyddyd gweithiwr meddygol, bod rhiant neu warchodwr yn bresennol ac wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig
22. y rhesymau dros ystyried cyflwr corfforol a seicolegol y cleient, hanes meddygol a thriniaeth microbigmentiad blaenorol
23. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth a pham
24. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
25. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
26. pwysigrwydd a'r rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid ar ymarferwyr meddygol
27. y rhesymau dros gytuno ar yr ardaloedd i'w trin, disgwyliadau'r cleient, amcanion y driniaeth a chostau gyda'r cleient
28. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient cyn triniaeth
29. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
30. paratoi'r ardal driniaeth yn unol â chynllun y driniaeth a gofynion cyfreithiol a iechyd a diogelwch
31. y rhesymau dros lanhau a pharatoi'r ardal i'w thrin yn drylwyr
32. sut i baru pigmentau eich lliw i wahanol nodweddion croen
33. arwyddocâd cyfreithiol cynhyrchu tystiolaeth ffotograffig glir o ansawdd ar wahanol gamau o'r driniaeth
Cyflawni triniaethau microbigmentiad
34. mathau, defnyddiau a chyfyngiadau anaesthetig a dyfeisiau argroenol
35. sut i ddisgrifio teimlad corfforol y driniaeth i'r cleient
36. sut mae'r trothwy poen a sensitifrwydd yn amrywio o un cleient i'r llall ac o apwyntiad i apwyntiad
37. pam ei bod yn bwysig cynllunio siâp a lleoliad ardaloedd i'w trin
38. y gwahanol fathau o ffurfweddiad nodwyddau a'u heffeithiau
39. achosion difrod i nodwyddau a pham na ddylid defnyddio nodwyddau wedi eu difrodi
40. sut i ddethol, cymysgu a phrofi pigmentau lliw i weddu i wahanol amcanion triniaeth a nodweddion croen
41. mathau a phriodweddau pigmentau ac asiantau cludo sydd ar gael ar gyfer y driniaeth
42. defnyddiau a chyfyngiadau pigmentau wedi eu cymysgu a'u gwanedu
43. pwysigrwydd prynu offer, nodwyddau a phigmentau wedi eu rheoleiddio gan yr UE a'r Deyrnas Unedig
44. egwyddorion theori lliw parthed triniaethau microbigmentiad
45. sut mae pigmentau lliw yn newid trwy gydol proses y driniaeth a gwellhad
46. gweithredu theori lliw i newid canlyniadau lliw annymunol wedi'r broses wella
47. dethol, defnyddio a gweithredu gwahanol driniaethau microbigmentiad
48. y gwahanol dechnegau mewnblannu i greu'r effeithiau a dymunir
49. pam eich bod yn trin y croen i sicrhau mewnblannu pigment yn effeithiol
50. yr ongl, cyflymder a gwasgedd cywir wrth ddefnyddio'r teclyn llaw i gyflawni'r dyfnder lliw a dosbarthiad pigment a chwenychir
51. pam ei bod yn bwysig gwirio lles y cleient a monitro adwaith y croen trwy gydol y driniaeth
52. yr adweithiau i microbigmentiad, sut i ddelio â hwy a'r cyngor i roi i gleientiaid
53. pwysigrwydd sicrhau bod yr effeithiau terfynol yn bodloni cynllun y driniaeth a boddhad y cleient
54. gwahanol dechnegau dileu pigment a'u cyfyngiadau
55. effaith triniaeth laser ar ditaniwm deuocsid
56. anatomi a ffisioleg yn ymwneud â thechnegau microbigmentiad
57. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a thriniaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori
1. holi
2. gwrando
3. edrych
4. teimlo
5. ysgrifenedig
**
Profion**
1. pigment
2. anaesthetig argroenol
Ardaloedd i'w trin
1. gwefusau
2. aeliau gyda gwallt presennol
3. aeliau heb wallt presennol
4. amrant uchaf
5. amrant isaf
6. smotyn harddwch
Amcanion y driniaeth
1. diffinio nodweddion yr wyneb
2. creu nodweddion
3. cywiro nodweddion
4. gwella a chydbwyso nodweddion
5. cyflwyno lliw i'r croen
Nodweddion croen
1. math
2. tôn
3. cyflwr
4. anhwylderau
Pigmentau
1. organig
2. anorganig
3. gwanedydd pigment
Nodwydd
1. fflat
2. magnwm
3. crwn
4. pwynt sengl
5. llethrog
6. micro
7. cysgodwyr a leinwyr
Technegau gweithredu
1. pwyntiliaeth
2. pendil
3. cysgodi
4. wyffurf
5. croeslinellu
6. ysgubiad
7. strôc
Effeithiau
1. aeliau strôc gwallt
2. aeliau wedi cysgodi
3. leiniwr llygaid
4. gwella amrantau
5. leiniwr gwefusau
6. cochi gwefusau
7. cysgodi gwefusau
Cyngor ac argymhellion
1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. y cyfnodau amser a argymhellir rhwng triniaethau
4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Deddfwriaeth ac is-ddeddfau
1. cyfryngau merwino'r croen
2. glanhau a diheintio
3. gwaredu ar wastraff (y Ddeddf Meddyginiaethau a Meddyginiaethau a Darpariaethau Amrywiol)
4. rheoliadau
5. Deddf Tatŵs ar Blant
6. pigmentau
7. nodwyddau
8. offer
Anafiadau yn gysylltiedig â gwaith
1. atal anaf straen ailadroddus (RSI)
2. anaf i'r cefn
3. syndrom twnnel arddyrnol
4. straen i'r gwddf
5. straen i'r llygad
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. defnyddio eitemau untro
6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
7. defnyddio paent â chemegau isel
8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Cofnodion ymgynghori
1. hanes meddygol
2. cyflwr emosiynol
3. tôn lliw naturiol
4. sensitifrwydd croen
5. llofnodion
6. disgwyliadau'r cleient
7. cofnodion triniaeth - ardal a chafodd ei thrin, dull triniaeth, pigmentau lliw a ddefnyddiwyd, amser a hyd, math o nodwydd a defnydd, canlyniad y driniaeth
Anghenion amrywiol
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oed
4. anabledd
5. rhyw
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu
1. epilepsi
2. chwistrelladwyon
3. cyflyrau ac anhwylderau croen chwyddedig a heintiedig
4. afiechydon heintus
5. mannau geni yn ardal y driniaeth
6. meddyginiaethau sy'n achosi teneuo neu lid i'r croen
7. diagnosis o scleroderma
8. angioma pigmentaidd
9. pilio cemegol canolig/dwfn
10. dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau hamdden
11. herpes simplecs
12. beichiogrwydd
Gwrtharwyddion sy'n atal
1. hyper-bigmentiad ar y gwefusau
2. llawdriniaeth ddiweddar ar yr wyneb (o fewn 6 mis)
3. alergeddau
4. haemoffilia
5. creithiau hypertroffig
6. dysmorffia corfforol
Gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol
1. clefyd siwgr a reolir gan inswlin
2. meddyginiaeth sy'n teneuo'r gwaed
3. cemotherapi
4. pwysedd gwaed uchel
5. anhwylderau'r galon
6. HIV
7. hepatitis
8. dan 18 oed
Adweithiau
1. cochni gormodol
2. crafiadau cornaidd
3. mudiad pigment
4. pothellu
5. anghysur gormodol
6. oedema
7. adweithiau yn arwain at gleisio
8. llosg dynad
9. pendro
10. pigo
11. pwys
12. anaffylacsis
13. poen
Anatomi a ffisioleg
1. strwythur a swyddogaethau'r croen
2. swyddogaeth sylfaenol gwaed ac egwyddorion cylchrediad
3. strwythur a swyddogaeth sylfaenol y rhydwelïau, gwythiennau a chapliarïau yn yr wyneb a'r gwddf
4. egwyddorion a swyddogaeth y system lymffatig yn yr wyneb a'r gwddf
5. diben a swyddogaeth ffagosytau a sut maent yn effeithio ar y pigment
6. proses wella'r croen yn dilyn triniaethau microbigmentiad
7. diben a swyddogaeth melanin a sut mae'n effeithio ar y pigment
8. strwythur y llygad a'r gwefusau a sut y gall hyn effeithio ar y driniaeth
Cyngor ac argymhellion
1. trefnu apwyntiad yn y dyfodol, 4-12 wedi'r driniaeth, i asesu canlyniadau'r driniaeth
2. osgoi gweithgareddau a chynnyrch penodol yn ystod proses gwella'r croen
3. defnydd o gynnyrch gofal croen yn ystod y broses wella
4. hysbysu'r cleient i osgoi rhoi gwaed am gyfnod o bedwar mis wedi'r driniaeth
5. osgoi triniaethau neu weithdrefnau penodol wedi'r driniaeth megis sgan MRI, chwistrelliadau a thriniaeth laser
6. asesiad yn dilyn triniaeth trwy adborth y cleient, fel holiadur, galwad ffôn, ymweliad dilynol nesaf
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd hyblyg i weithio
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Dyfais
Dyfais electronig sy'n ceisio oeri'r croen a lleihau teimlad yn y croen i wneud microbigmentiad yn fwy cyfforddus i'r cleient.
Gweithiwr meddygol
Gallai hyn gynnwys llawfeddygon plastig ac ailadeiladol, oncolegwyr, seiciatryddion a meddygon teulu
Wyffurf
Techneg mewnblannu a ddefnyddir mewn microbigmentiad, ble dodir y pigment mewn symudiad cylchol gorgyffyrddol.
Pwyntiliaeth
Techneg mewnblannu a ddefnyddir mewn microbigmentiad ble mae arwyneb yn cael ei orchuddio gyda dotiau man o bigment lliw i greu effaith gysgodol, a ddefnyddir ar ardaloedd fel llinell waelod yr amrantau a'r areola.
Anaesthetig argroenol (asiant merwino)
Eli a roddir ar arwyneb y croen fel modd o leihau poen. Gellir ei roi cyn ac yn ystod triniaeth.