Cyflawni adnewyddiad ffoto o'r croen yn defnyddio golau pylsedig dwys neu systemau laser

URN: SKABT28
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Therapi Sba
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio golau pylsedig dwys (IPL) a systemau laser ar gyfer adnewyddiad ffoto o'r croen. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd arferion gwaith diogel ac yn rhoi pwyslais ar nodi a rheoli peryglon yn y gweithle. Byddwch yn cyflawni ymgynghoriad trylwyr gyda'r cleient i nodi cyflyrau croen, llunio cynllun triniaeth unigol, darparu triniaeth a chyngor ôl-ofal.


Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.


Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth berfformio adnewyddiad ffoto gan ddefnyddio golau pylsedig dwys neu systemau laser

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

3. cyflawni triniaethau adnewyddiad ffoto golau pylsedig dwys neu laser​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth berfformio adnewyddiad ffoto yn defnyddio golau pylsedig dwys neu systemau laser


1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth

2. paratoi a diogelu'ch cleient a'ch hun gydag offer amddiffynnol personol o fewn yr ardal a reolir

3. cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient ar bob amser

4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth heb achosi anghysur iddynt

5. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill

6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth

7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

8. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnyddio cyfarpar, deunydd a chynnyrch yn ddiogel

11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

12. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau


13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient

14. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd camau angenrheidiol

15. cytuno ar y driniaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

16. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal pob triniaeth

17. nodi hanes meddygol, dosbarthiad croen, amcanion trin, ardal i'w thrin, cyflwr a sensitifrwydd croen y cleient

18. cymryd tystiolaeth ffotograffig cyn y driniaeth o'r ardal i'w thrin gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

19. esbonio'r teimlad corfforol a achosir gan y driniaeth i'r cleient

20. gosod yr ardal a reolir i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

21. paratowch yr ardal i'w thrin a chyflawni prawf ar ddarn o'r croen i sefydlu ymateb ac addasrwydd i'r driniaeth

22. i sicrhau bod y cleient yn llofnodi wedi derbyn gweithdrefnau ôl-ofal, yn dilyn y prawf ar ddarn o'r croen

23. nodi a chytuno ar ganlyniadau ymarferol ar gyfer triniaeth i weddu i ddosbarthiad croen a chyflwr corff y cleient

Cyflawni triniaethau adnewyddiad ffoto golau pylsedig dwys neu laser


24. goleuo'r ardal i'w thrin i sicrhau gwelededd da

25. sicrhau bod yr ardal i'w thrin yn lân, rhydd o olew ac yn sych cyn y driniaeth

26. marcio'r ardal i'w thrin i sicrhau cywirdeb y driniaeth

27. cyflawni dulliau oeri yn unol ag amcanion y driniaeth

28. galluogi a gosod y manylebau ac amrywiolion offer i fodloni'r cynllun triniaeth a gytunwyd

29. sicrhau y defnyddir yr offer llaw ar ongl a gwasgedd cywir

30. trin y croen i gael mynediad, yn ddibynnol ar yr ardal i'w thrin

31. gweithio'n systematig i gwmpasu'r ardal i'w thrin

32. gwirio lles eich cleient a monitro lefel adwaith y croen trwy gydol y driniaeth

33. cwblhau'r driniaeth trwy ddychwelyd yr offer i'r modd parod

34. rhoi cynnyrch lleddfol a lliniarol ar yr ardal wedi ei thrin

35. cymryd lluniau clir wedi'r driniaeth o'r ardaloedd a driniwyd

36. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd

37. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth berfformio adnewyddiad ffoto yn defnyddio golau pylsedig dwys neu systemau laser


1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. pwysigrwydd a rhesymau dros ddilyn protocolau sefydliadol a thriniaeth

3. y cyfrifoldebau dan reoliadau trwyddedu awdurdod lleol ar eich cyfer chi a'ch eiddo a phwysigrwydd dilyn rheolau lleol ble fo'n berthnasol

4. eich cyfrifoldebau dros ddilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cyflawni triniaethau laser

5. eich cyfrifoldebau cyfreithiol dros wirio canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer darparu triniaethau laser a golau pylsedig dwys (IPL)

6. pwysigrwydd cyflawni Craidd Gwybodaeth i fodloni canllawiau yswiriant

7. achosion a pheryglon amlygiad damweiniol i belydriad optegol a phwysigrwydd gwisgo offer amddiffynnol personol ac egwyddorion Uchafswm Amlygiad Goddefol

8. pam ei bod yn bwysig i gynnal urddas a phreifatrwydd y cleient

9. sut y gall safle eich cleient a chithau a'ch dulliau gweithio effeithio ar y canlyniad dymunol a lleihau blinder a'r risg o anaf

10. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig

11. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

12. pam ei bod yn bwysig osgoi traws heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lanwaith

13. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

14. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

15. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

16. achosion a pheryglon amlygiad damweiniol i wastraff clinigol megis llafnau rasel

17. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

18. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau


19. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

20. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

21. y rhesymau pam na ddylid cyflawni triniaethau golau pylsedig dwys a laser ar blant dan 18 oed

22. pwysigrwydd cytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

23. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i dderbyn y gwasanaeth

24. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

25. y gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth a pham

26. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

27. pwysigrwydd a'r rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

28. sut i baru manylebau ac amrywiolion triniaeth i weddu i ddosbarthiadau croen ac amcanion triniaeth

29. arwyddocâd cyfreithiol cynhyrchu tystiolaeth ffotograffig glir cyn ac wedi'r driniaeth

30. sut i ddisgrifio teimlad corfforol y driniaeth i'r cleient

31. sut mae'r trothwy poen a sensitifrwydd yn amrywio o un cleient i'r llall

32. pam ei bod yn bwysig cyflawni profion ar ddarnau o groen a sut i'w cyflawni i bennu addasrwydd y cleient ar gyfer triniaeth

33. y rhesymau dros ddarparu cyfarwyddiadau ôl-ofal ysgrifenedig yn syth wedi'r prawf ar ddarn o groen

34. triniaethau gofal croen eraill a allai amharu ar IPL a thriniaethau laser fel lliwio'r croen a microbigmentiad

35. y triniaethau y gellid eu rhoi ar y cyd ag neu wedi pilio adnewyddiad ffoto ar y croen

36. sut i baratoi'r cofnodion ymgynghori

Cyflawni triniaethau adnewyddiad ffoto golau pylsedig dwys neu laser


37. pwysigrwydd goleuo da yn yr ardal a reolir a goleuo'r ardal i'w thrin

38. paratoi'r ardal i'w thrin a pham y gall hyn amrywio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

39. y cyfarpar a thechnegau marcio cywir i'w defnyddio

40. y gwahanol fathau o ddulliau oeri a ddefnyddir a phryd a sut i'w defnyddio

41. sut i baru manylebau ac amrywiolion triniaeth i weddu i ddosbarthiadau croen ac amcanion triniaeth

42. manylebau ac amrywiolion a therminoleg IPL a laserau o ran ymarfer triniaeth

43. gwahanol effeithiau triniaeth adnewyddu ffoto ar y croen

44. pam a sut i drin y croen yn ystod triniaeth

45. pam ei bod yn bwysig dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr i osod y teclyn llaw ar yr ongl a gwasgedd cywir

46. y gwahanol fathau o offer IPL a laser a'u manteision ac anfanteision

47. sut i ddehongli'r labeli rhybudd ar offer IPL a laser

48. nodweddion golau a sut mae'n rhyngweithio gyda chroen a gwallt

49. sut i weithio'n systematig, gan osgoi gorgyffwrdd triniaeth ormodol ar draws y mannau i'w trin

50. monitro gweithdrefnau ar gyfer gwirio'r cleient a'r adran i'w thrin

51. y gwahanol fathau o telangiectasis arwynebol y gellir ei drin, yn cynnwys: Naevi Corryn a sbotiau Campbell De Morgan

52. adweithiau posibl a allai ddigwydd a sut i ddelio â hwy

53. egwyddorion y sbectrwm electromagnetig

54. peryglon posibl defnyddio offer IPL a laser

55. anatomi a ffisioleg y croen

56. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Ardal a reolir

1. ardal wedi amgáu

2. pwyntiau mynediad ac allanfa y gellir eu cloi

3. arwyddion

4. cyn lleied â phosibl o arwynebau adlewyrchol

5. gorchudd addas ar ffenestri

6. rhagofalon tân digonol a gwasanaeth addas

7. awyru digonol

Cyfarpar

1. laser

2. golau pylsedig dwys (IPL)

Technegau ymgynghori

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. archwiliad corfforol

5. ysgrifenedig

Nodau triniaeth

1. lleihau mân linellau

2. noson allan heb bigmentiad

3. lleihau telangiectasis arwynebol

4. gwella gwedd croen wedi heneiddio'n ffoto

5. gwella gwedd croen brycheulyd

Ardal i'w thrin

1. wyneb

2. gwddf

3. y frest

4. dwylo

5. rhannau eraill o'r corff sy'n cynnwys briwiau addas ar gyfer triniaeth

Manylebau ac amrywiolion

1. tonfedd(i)

2. ffliwens

3. hyd neu led pyls

4. oedi pyls

5. cyfradd ailadrodd pyls

6. maint y smotyn

7. dyfeisiau oeri

8. cyfarpar llaw

Cyngor ac argymhellion

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. y cyfnodau amser a argymhellir rhwng triniaethau

4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol​


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Protocolau sefydliadol a thriniaeth

1. rheolaeth y clinig

2. ymgynghori â'r cleient

3. cadw cofnodion

4. rheoli gwastraff

5 diogelwch IPL a laser

6. gweithdrefnau ôl-ofal

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

7. defnyddio paent â chemegau isel

8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon


Anghenion amrywiol

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oed

4. anabledd

5. rhyw

 

Gwrtharwyddion sy'n atal

1. croen gyda lliw haul a lliw haul ffug

2. beichiogrwydd

3. rhai meddyginiaethau llysieuol

4. rhai meddyginiaethau ffoto-sensitif ar y cyd â chanllawiau Cymdeithas Laser Meddygol Prydain

5. math a lliw croen amhriodol

6. creithio celoid

7. canser y croen

8. lupus

9. melasma

10. clefyd siwgr direolaeth

 


Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

1. microbigmentiad

2. clefyd siwgr – triniaeth fasgwlar ar gyfer gwaelod y goes

Cofnodion ymgynghori

1. hanes y cleient

2. triniaethau croen blaenorol

3. hanes meddygol

4. cyflwr emosiynol a chorfforol

5. cyfyngiadau a therfynau'r driniaeth

6. hanes torheulo

7. dosbarthiad y croen

8. cyflwr y croen

9. llofnod y cleient

10. llofnod yr ymarferwr​

Gwrtheffeithiau

1. croen yn troi'n llwyd neu'n wyn

2. cochni

3. pothellu

4. newidiadau pigmentaidd

5. anghysur gormodol

6. oedema

7. creithio

8. newidiadau i liw briwiau fasgwlaidd

Anatomi a ffisioleg

1. strwythur a swyddogaethau'r croen

2. egwyddorion y system gylchredol a'r system lymffatig

3. proses heneiddio croen yn cynnwys effeithiau ffordd o fyw a'r amgylchedd

4. clefydau ac anhwylderau croen

Cyngor ac argymhellion

1. gwasanaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. y ffactorau ffordd o fyw a newidiadau a allai fod yn ofynnol i wella effeithlonrwydd y driniaeth

4. anghenion triniaeth yn y dyfodol a gwaith cynnal parhaus i gadw'r canlyniadau optimaidd

5. newidiadau gweledol i'r croen ac amser adfer

6. defnydd o gynnyrch gofal croen a argymhellir yn ystod y broses wella megis amddiffyniad haul ffactor uchel

7. gwrtheffeithiau ac adweithiau yn dilyn triniaeth a sut i ddelio â hwy

8. asesiad yn dilyn triniaeth trwy adborth y cleient, fel holiadur, galwad ffôn, ymweliad dilynol nesaf

9. effeithiol wedi'r driniaeth a phwysigrwydd cleientiaid yn osgoi amlygiad i'r haul, triniaeth gwres a gweithgaredd corfforol egnïol


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd hyblyg i weithio

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

3. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

4. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

5. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

6. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

7. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

8. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

9. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

10. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

11. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Craidd gwybodaeth

Bwriedir y cwrs hwn, a gymeradwywyd gan Gymdeithas Laser Meddygaeth Prydain - BMLA, ar gyfer gweithredwyr a staff eraill mewn Clinigau yn defnyddio systemau Laserau a Golau Pylsedig Dwys ar gyfer cael gwared ar wallt, arlliwio croen, deintyddiaeth, cael gwared ar datŵau a thriniaethau eraill tebyg. Mae wedi ei gynllunio i ddarparu sylfaen yn hanfodion defnydd diogel o systemau IPL, ac i fodloni'r gofynion hyfforddi a geir ym Mwletin Dyfeisiau'r MHRA DB2008(03) "Guidance on the safe use of lasers, intense light source systems and LEDs in medical, surgical, dental and aesthetic practice".


Ynni

Mesurir ynni mewn Jouleau (J) a dyma gynnyrch pŵer laser (watiau) ac amser (eiliadau).


Graddfa lliw ethnig

Mae'r raddfa lliw ethnig yn fesur o raddfa pigment naturiol yng nghroen cleientiaid o darddiad ethnig.


Graddfa ddosbarthu Fitzpatrick

Fe'i dyfeisiwyd ym 1975 ym Mhrifysgol Harvard, ac mae hon yn system ddosbarthiad croen, a fesurir ar raddfa o 1 i 6 ar sail adwaith ffotosensitifrwydd i ymbelydredd uwchfioled.


Ffliwens

Ffliwens yw'r amrywiolyn triniaeth a osodir gan yr ymarferwr laser yn ôl gwerthusiad o'r claf a'r math o groen ac mae'n pennu effeithlonrwydd y driniaeth.


Amlygiad Goddefol Uchaf (MPE)

Dyma'r pŵer uchaf o ffynhonnell golau a ystyrir i fod yn ddiogel, mewn geiriau eraill yr hyn sydd â'r tebygolrwydd lleiaf o achosi difrod.


Pŵer

Y raddfa y byddwn yn darparu'r ynni, a fesurir mewn watiau (w).


Dosbarthiad y croen

Gweler graddfa ddosbarthu Fitzpatrick.


Clwt prawf

Hwn yw'r prawf sy'n pennu gradd ymateb y croen a'r sensitifrwydd. Gellir defnyddio clytiau prawf i brofi graddau sensitifrwydd gwres ac ymateb i boen ynghyd ac ymateb y croen. Gall clwt prawf cynnwys prawf clwt, prawf thermol neu brawf cyffwrdd.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB35

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Therapydd Sba, Arbenigwr Gofal Croen

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arbenigwr croen; laser; golau pylsedig dwys; IPL;