Trin diffygion croen gan ddefnyddio technegau epiladu trydanol uwch
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau sy'n gysylltiedig â chyflawni triniaethau epiladu trydanol uwch i drin tagiau croen, milia, telangiectasis, angioma corryn a Campbell de Morgan. Byddwch yn cyflawni ymgynghoriad trylwyr gyda'r cleient, yn llunio cynllun triniaeth unigol, darparu triniaeth a chyngor ôl-ofal.
Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
*
*1. cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddefnyddio offer epiladu trydanol i drin diffygion croen y cleient
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
3. trin diffygion croen
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddefnyddio offer epiladu trydanol i drin diffygion croen y cleient
*
*1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth
2. paratoi a diogelu'ch cleient a'ch hun gydag offer amddiffynnol personol o fewn yr ardal driniaeth
3. sicrhau urddas, preifatrwydd a chysur eich cleient ar bob amser
4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth heb achosi iddynt deimlo'n anghysurus
5. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth
7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
8. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch
11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
12. cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient
14. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw driniaeth
15. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
16. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd camau angenrheidiol
17. cytuno ar y driniaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
18. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y driniaeth
19. defnyddio technegau ymgynghori i sefydlu hanes meddygol, dosbarthiad a chyflwr croen y cleient
20. nodi unrhyw ddiffygion croen, yr ardal i'w thrin, disgwyliadau'r cleient ac amcanion y driniaeth
21. cymryd lluniau o'r ardal i'w thrin gan ddilyn arferion sefydliadol
22. esbonio'r teimlad corfforol a achosir gan y driniaeth i'r cleient
23. cyflawni prawf ar ddarn o'r croen cyn triniaeth, gan ddilyn gofynion sefydliadol
24. dewis a pharatoi offer a chynnyrch i weddu i amcanion y driniaeth
Trin diffygion croen
25. sicrhau bod yr ardal fydd yn cael ei thrin yn lân, rhydd o olew ac yn sych
26. defnyddio'r maint a'r math priodol o nodwydd i drin y gwallau ar y croen
27. llwytho a defnyddio nodwyddau gan osgoi difrod a halogi trwy gydol y driniaeth
28. goleuo'r ardal i'w thrin a defnyddio chwyddhad i sicrhau gwelededd da yn ystod triniaeth
29. sicrhau bod eich technegau triniaeth yn lleihau anghysur i'r cleient
30. gweithio'n systematig i drin diffygion croen o fewn yr ardal a gytunwyd
31. trin y croen, i fodloni anghenion gwahanol ddiffygion croen
32. addasu eich technegau triniaeth yn unol â'r lefel o adwaith i'r croen
33. rhoi cynnyrch neu orchudd di-haint ar yr ardal wedi ei thrin
34. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd
35. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio wrth ddefnyddio offer trydanol i drin diffygion croen y cleient
*
1. eich cyfrifoldebau dros *iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. y rhesymau dros wirio canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer darparu triniaethau epiladu uwch
3. y cyfrifoldebau dan reoliadau trwyddedu awdurdod lleol ar eich cyfer chi a'ch eiddo
4. pam ei bod yn bwysig i gynnal urddas, preifatrwydd a chysur eich cleient
5. sut y gall safle eich cleient a chithau effeithio ar y canlyniad dymunol a lleihau blinder a'r risg o anaf
6. pwysigrwydd hylendid personol, amddiffyniad a chyflwyniad o ran cynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle
7. y mathau o anafiadau cysylltiedig â'r gwaith sy'n gysylltiedig â chyflawniad epiladu uwch a sut y gellir eu hosgoi
8. yr amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig
9. y dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
10. pam ei bod yn bwysig osgoi traws heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lanwaith
11. y peryglon a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyflawni triniaethau epiladu uwch a sut y gellir lleihau'r rhain
12 y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
13. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
14. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
15. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau
16. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
17. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
18. y gofynion cyfreithiol ar gyfer trin plant sy'n iau na 16 oed
19. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n amrywio'n genedlaethol
20. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
21. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient cyn triniaeth
22. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
23. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth a pham
24. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
25. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
26. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
27. sut i adnabod y gwahanol fathau a dosbarthiadau o groen
28. gwahanol fathau ac achosion diffygion croen
29. pam ei bod yn ddoeth i dynnu lluniau o'r ardal i'w thrin cyn ac wedi'r driniaeth a sut ddylid eu tynnu
30. sut i ddisgrifio teimlad corfforol y driniaeth i'r cleient a beth all effeithio ar drothwy poen y cleient
31. pwysigrwydd cyflawni prawf ar ddarn o groen a darparu cyfarwyddiadau ôl-ofal
32. y cyfyngiadau ar driniaethau epiladu uwch megis cost, amser, nifer o driniaethau, cyfradd wella ac ymroddiad y cleient
33. sut mae triniaethau gofal croen eraill yn effeithio ar sensitifrwydd croen a allai amharu ar driniaeth
34. sut i ddewis a pharatoi'r cynnyrch, offer a deunyddiau ar gyfer y driniaeth
Trin diffygion croen
35. mathau a meintiau'r nodwyddau sydd ar gael i drin diffygion ar y croen
36. sut i lwytho a defnyddio'r nodwyddau i osgoi difrod a halogiad
37. pam ei bod hi'n bwysig defnyddio chwyddiad ac i oleuo'r ardal driniaeth
38. gwahanol fathau ac achosion diffygion croen
39. effeithiau gwahanol geryntau a ddefnyddir ar gyfer diffygion croen
40. sut i ymestyn a thrin y croen i sicrhau canlyniadau triniaeth effeithiol
41. y rhesymau dros weithio'n systematig gyda'r bylchau cywir ar draws yr ardal a fydd yn cael ei thrin
42. pwysigrwydd adnabod a monitro adwaith y croen wrth drin gwahanol fathau o ddiffygion croen
43. pam a sut i gael gwared ar weddillion croen o'r nodwydd yn ystod triniaeth
44. sut i addasu arddwysedd a chyfnod llif y cerrynt yn ystod triniaeth
45. adweithiau posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w gael
46. anatomi a ffisioleg y croen
47. pwysigrwydd asesiad yn dilyn triniaeth trwy adborth y cleient, fel holiadur, galwad ffôn, ymweliad dilynol nesaf
48. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori
1. holi
2. gwrando
3. edrych
4. teimlo
5. ysgrifenedig
Diffygion croen
1. milia
2. tag croen
3. telangiectasis
4. angioma corryn
5. Campbell de Morgan
Technegau triniaeth
1. dyfnder a gwasgedd nodwydd
2. dwyster cerrynt
3. cyfnod llif y cerrynt
4. dethol nodwydd
5. bylchiad ardaloedd i'w trin
Cyngor ac argymhellion
1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. y cyfnodau amser a argymhellir rhwng triniaethau
4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
8. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
9. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
10. Y Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
11. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. defnyddio eitemau untro
6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
7. defnyddio paent â chemegau isel
8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oed
4. anabledd
5. rhyw
Gwrtharwyddion sy'n atal
1. rheoliaduron y galon
2. haemoffilia
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu
1. soriasis
2. ecsema
3. acne
4. epilepsi
5. clefyd siwgr
6. clefyd heintus ac ymledol
**
Gwrtheffeithiau**
1. cochni
2. oedema
3. blansio
4. gwaedu
Anatomi a ffisioleg
1. strwythur a swyddogaethau'r croen
2. egwyddorion trwsio cellol ac adnewyddiad
3. egwyddorion y system nerfol awtonomig
4. strwythur a swyddogaeth y system gylchredol
5. strwythur a swyddogaeth y system lymffatig
6. strwythur, swyddogaeth a diffyg y system endocrinaidd
7. sut mae melanin yn effeithio ar driniaeth
Cyngor ac argymhellion
1. gwasanaethau ychwanegol
2. cynnyrch ychwanegol
3. adweithiau arferol a all ddigwydd wedi triniaeth a sut i ddelio â hwy
4. y ffactorau ffordd o fyw a newidiadau a allai fod yn ofynnol i wella effeithlonrwydd y driniaeth
5. pwysigrwydd triniaethau yn y dyfodol i gynnal y canlyniadau gorau
6. pwysigrwydd osgoi cynnyrch penodol yn ystod proses gwella'r croen, megis cynnyrch persawrus neu seiliedig ar gemegau, asiantau diblisgo
7. pwysigrwydd osgoi cyffwrdd yr ardal sydd wedi ei thrin a chael gwared ar grach
8. pwysigrwydd defnyddio cynnyrch addas i gynorthwyo'r broses wella
9. triniaethau pellach i hybu canlyniadau'r driniaeth, er enghraifft, triniaeth wynebol, adnewyddiad ffoto
10. pwysigrwydd rhoi cyngor ôl-ofal manwl a chywir i gleientiaid, i osgoi difrod yn dilyn triniaeth
11. pwysigrwydd asesiad yn dilyn triniaeth trwy adborth y cleient, er enghraifft holiadur, galwad ffôn, ymweliad dilynol nesaf
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd weithio hyblyg
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a di-eiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar y cleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Blansio
Gwynnu'r epidermis.
Campbell de Morgan
Crynodiadau aflinol o waed sy'n bresennol ar arwyneb y croen, gyda haen dryloyw o groen drosto; gall fod wedi'i godi neu'n fflat ac mae'n amrywio o ran maint.
Gelwir hefyd yn Angioma Ceirios neu sbotiau gwaed.
Tagiau croen
Cyflwr croen ffibrog a geir yn unigol neu mewn grwpiau. Yn cynnwys meinwe ffibrog o faint a lliw amrywiol. Ceir fel arfer ar y gwddf, cesail a'r forddwyd ac fe elwir hefyd yn bapiloma coesynnog, papiloma epithelaidd ffibro neu simplecs polyp neu ffibroma wedi'i godi.
Angioma Corryn (Angioma Telangiectasis)
Llestr gwaed agored canolog gyda chapliarïau llai yn rheiddio ohono, fel coesau pry cop.
Telangiectasis
Capilari sy'n agored yn barhaol neu grŵp o gapliarïau sy'n weladwy ar arwyneb y croen. Gelwir yn gyffredin yn wythiennau edau.
Clwt prawf
Hwn yw'r prawf sy'n pennu gradd ymateb y croen a'r sensitifrwydd. Gellir defnyddio clytiau prawf i brofi graddau sensitifrwydd gwres ac ymateb i boen ynghyd ac ymateb y croen. Gall clwt prawf cynnwys prawf clwt, prawf thermol neu brawf cyffwrdd.