Darparu triniaeth diflewio trydanol

URN: SKABT26
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau sy'n gysylltiedig â chynnal triniaethau trydanol gyda nodwydd er mwyn cael gwared ar flew, gan ddefnyddio cerrynt eiledol a thechnegau blendio. Bydd angen i chi ymgynghori'n drylwyr gyda'r cleient, ffurfio cynllun gwasanaeth unigol, darparu triniaeth a chyngor ôl-ofal.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau diflewio trydanol

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau

3. cyflawni triniaeth diflewio trydanol​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau diflewio trydanol**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth

2. paratoi a gwarchod eich cleient a'ch hun gyda chyfarpar amddiffyn personol o fewn yr ardal dan reolaeth

3. cynnal urddas, preifatrwydd a chysur eich cleient bob amser

4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth heb achosi anghysur iddynt

5. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill

6. sicrhau bod yr amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer y cleient a'r driniaeth

7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

8. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch

11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

12. cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau**

13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient

14. sicrhau caniatâd gwybodus wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw driniaeth

15. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

16. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol

17. cytuno ar driniaeth a chanlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

18. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn unrhyw driniaeth

19. adnabod math o flew, a math a chyflwr croen y cleient, yr ardal a fydd yn cael ei thrin ac amcanion y driniaeth

20. tynnu lluniau o'r ardal a fydd yn cael ei thrin, gan ddilyn arferion sefydliadol

21. esbonio'r teimlad corfforol a grëir gan y driniaeth

22. cynnal prawf clwt cyn y driniaeth, gan ddilyn gofynion sefydliadol

23. dewis a pharatoi cyfarpar a chynnyrch i fodloni amcanion y driniaeth

Cyflawni triniaeth diflewio trydanol**

24. sicrhau bod yr ardal a fydd yn cael ei thrin yn lân, yn rhydd o olew ac yn sych

25. dewis triniaethau diflewio trydanol sy'n addas ar gyfer math o flew, a math a chyflwr croen y cleient

26. defnyddio nodwydd o fath a maint sy'n addas i drin math o flew, a math a chyflwr croen y cleient

27. gosod a defnyddio nodwyddau gan osgoi difrod a heintio trwy gydol y driniaeth

28. goleuo'r ardal driniaeth a defnyddio chwyddiad i sicrhau'r gwelededd orau yn ystod y driniaeth

29. trin y croen i fodloni anghenion yr ardal a fydd yn cael ei thrin

30. sicrhau bod daliwr y nodwydd a'r nodwydd ei hun yn cael eu defnyddio ar yr ongl, cyfeiriad a dyfnder cywir ar gyfer y ffoligl blew a'r ardal a fydd yn cael ei thrin

31. addasu arddwysedd a chyfnod llif y cerrynt fel eu bod yn addas ar gyfer goddefgarwch ac adwaith croen y cleient

32. gweithio'n systematig i dynnu'r blew o'r ffoligl sydd wedi ei thrin heb dyniant

33. taenu cynnyrch ôl ofal i'r ardal driniaeth

34. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd

35. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau diflewio trydanol**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. y rhesymau dros wirio canllawiau yswiriant cyfredol ar gyfer darparu triniaethau diflewio trydanol

3. y cyfrifoldebau am eich hun a'ch adeilad mewn perthynas â rheoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol

4. pam mae hi'n bwysig cynnal urddas, preifatrwydd a chysur y cleient

5. sut gall safle'ch cleient a'ch hun effeithio'r canlyniad dymunol a lleihau blinder a'r risk o anaf

6. pwysigrwydd hylendid, amddiffyniad a chyflwyniad personol er mwyn cynnal iechyd a diogelwch yn eich gweithle

7. y mathau gwahanol o anafiadau yn y gweithle sy'n gysylltiedig â darparu diflewio trydanol a sut y gellir eu hosgoi

8. amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer triniaethau megis, gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig

9. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

10. pam mae hi'n bwysig osgoi croes-heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol drwy weithio'n ddiogel ac yn lân

11. y peryglon a'r risgiau sy'n gysylltiedig â darparu triniaethau diflewio datblygedig a sut y gellir lleihau'r rhain

12. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

13. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

14. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

15. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau**

16. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

17. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

18. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu triniaethau i blant sy'n iau na 16 oed

19. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

20. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

21. pwysigrwydd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y driniaeth

22. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

23. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth a pham

24. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

25. y camau angenrheidiol mewn cysylltiad â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

26. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

27. sut i adnabod gwahanol fathau o dwf blew, mathau blew, mathau chyflyrau croen

28. pam mae'n ddoeth tynnu lluniau o'r ardal driniaeth cyn ac ar ôl triniaethau a sut y dylid eu tynnu

29. sut i ddisgrifio teimlad corfforol y driniaeth i'r cleient a beth all effeithio ar drothwy poen y cleient

30. y rhesymau pam mae hi'n ddoeth cynnal prawf clwt cyn y driniaeth a darparu cyfarwyddiadau ôl-ofal

31. pwysigrwydd rhoi gwybodaeth yn cynnwys defnydd cymhorthion gweledol i helpu'r cleient i ddeall y gylchred twf blew

32. y cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â thriniaethau diflewio trydanol, megis cost, amser, nifer y triniaethau, y cyfnod gwella ac ymrwymiad y cleient

33. sut mae sensitifrwydd y croen yn cael ei effeithio gan driniaethau croen eraill y gall atal diflewio trydanol

34. sut i baratoi'r cyfarpar, cynnyrch a deunyddiau ar gyfer triniaethau diflewio trydanol

Cyflawni diflewio trydanol**

35. y gwahanol fathau a defnydd o gyfarpar, cynnyrch a deunyddiau sydd ar gael ar gyfer diflewio trydanol

36. sut i osod a defnyddio nodwyddau i osgoi difrod a heintio

37. pam mae hi'n bwysig defnyddio chwyddiad a goleuo'r ardal driniaeth

38. math a maint y nodwydd sy'n addas i'r math blew, diamedr, math croen a'r ardal driniaeth

39. pam a sut rydych yn ymestyn a thrin y croen yn ystod triniaeth

40. y rhesymau dros weithio'n systematig gyda'r bylchau cywir ar draws yr ardal a fydd yn cael ei thrin

41. sut i osod y nodwydd i mewn i'r ffoligl blew gyda golwg ar ddyfnder, ongl a chyfeiriad, a chanlyniadau gosod y nodwydd i mewn yn anghywir

42. sut i addasu arddwysedd a chyfnod llif y cerrynt fel eu bod yn addas ar gyfer goddefgarwch a sensitifrwydd croen y cleient

43. sut i ryddhau blew o wahanol fathau o ffoliglau heb dyniant

44. egwyddorion, defnydd a buddion cerhyntau eiledol megis tonfedd fer, amledd radio ac amledd uchel

46. y gwrtharwyddion posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a'r cyngor i'w roi i gleientiaid

47. anatomi a ffisioleg blew a chroen

48. y gylchred twf blew, achosion twf blew a sut mae'r rhain yn effeithio ar y driniaeth

49. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Cynllun triniaeth**

1. hanes meddygol

2. achosion twf blew

3. rheoli blew yn awr ac yn y gorffennol

4. gofal croen presennol

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i ofyn am gyngor meddygol

2. esbonio pam nad oedd modd cynnal triniaeth

3. addasu triniaeth

Math o flew**

1. mân

2. garw

3. cyrliog

Math a chyflwr y croen**

1. sych

2. olewog

3. sensitif

4. dadhydredig

Ardal i'w drin**

1. gwefus uchaf

2. gên

3. llinell bicini

4. aeliau

5. ceseiliau

6. gwddf

7. abdomen

8. brest

Triniaethau diflewio trydanol**

1. cerrynt eiledol

2. blendio

Math y nodwydd**

1. undarn

2. deuddarn

3. ynysedig

4. aur

5. gwrthstaen

Cyngor ac argymhellion**

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. y cyfnodau a argymhellir rhwng triniaethau

4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol

5. delio ag aildyfiant rhwng triniaethau​


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy**

1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

7. defnyddio paent â chemegau isel

8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oed

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

 1. rheoliaduron y galon

2. clefyd gwaedu

3. mewnblaniadau cochlea

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

1. psorïasis

2. ecsema

3. acne

4. epilepsi

5. clefyd siwgr

6. pinnau a phlatiau metel

7. afiechydon heintus

Gwahanol fathau o dwf blew**

1. terfynol

2. vellus

3. blew sy'n tyfu i'r byw

Adweithiau**

1. cochni

2. chwydd gwyn

3. gwelwi

4. gwaedu

5. cleisio

Anatomi a ffisioleg**

1. strwythur a swyddogaethau'r croen

2. egwyddorion gwella'r croen

3. strwythur blew a'i ffoligl

4. strwythur a swyddogaethau'r system endocrin

5. effaith camweithrediadau'r system endocrin ar dwf blew

6. egwyddorion y system gylchredol a lymffatig

Cylchred twf blew**

1. anagen

2. catagen

3. telogen

Achosion twf blew**

1. argroenol

2. genedigol

3. systemig

Cyngor ac argymhellion**

1. gwasanaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. yr adweithiau arferol y gall ddigwydd ar ôl triniaeth a sut i ddelio ag unrhyw adweithiau anarferol

4. cyfyngiadau ar ôl triniaeth ac anghenion triniaeth yn y dyfodol

5. y rhesymau dros osgoi'r gweithgareddau canlynol ar ôl triniaeth diflewio trydanol: triniaethau gwres, defnyddio cynnyrch â phersawr neu gemegau, gwisgo dillad cyfyngedig ar yr ardaloedd sydd wedi eu trin

6. cynnyrch at ddefnydd y cartref a fydd o fudd i ac yn gwarchod y cleient a'r rheini i'w hosgoi a pham

7. dulliau priodol i ddelio ag aildyfiant rhwng triniaethau​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. esbonio'n glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Cerrynt eiledol (triniaeth diflewio trydanol)**

Yn aml fe elwir cerrynt eiledol siglog yn ddiathermedd ac mae'n dinistrio celloedd twf blew gan ddefnyddio gwres.

Blendio (triniaeth diflewio trydanol)**

Taenu cerrynt union ac amledd uchel i'r ffoligl blew ar yr un pryd.

Nodwydd aur**

Nodwydd eurblatiog

Clwt prawf**

Hwn yw'r prawf sy'n pennu gradd ymateb y croen a'r sensitifrwydd. Gellir defnyddio clytiau prawf i brofi graddau sensitifrwydd gwres ac ymateb i boen ynghyd ac ymateb y croen. Gall clwt prawf cynnwys prawf clwt, prawf thermol neu brawf cyffwrdd.

Nodwydd deuddarn**

Nodwydd wedi'i wneud o ddau ddarn gwahanol o fetel wedi'u crebachu a'i gilydd.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB29

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Electrolegydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

trydanol; diflewio