Darparu gwasanaethau lliw haul uwchfioled

URN: SKABT25
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Therapi Sba
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu a monitro gwasanaethau lliw haul uwchfioled.

Mae'r gallu i ddarparu cyngor lliw haul sy'n berthnasol i fath o groen y cleient a sicrhau defnydd ar ganllawiau diwydiant cyfredol yn elfen hanfodol o'r safon hon.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a d​angos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau lliw haul uwchfioled

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau lliw haul uwchfioled

3. monitro gwasanaethau lliw haul uwchfioled 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau lliw haul uwchfioled**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y  gwasanaeth

2. paratoi'r cleient a'r ardal gwasanaeth i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

3. cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient bob amser

4. sicrhau bod cyfarpar yn cael eu glanhau a'u cynnal yn rheolaidd

5. darparu cynnyrch glanhau cyfarpar i'w defnyddio'n ddiogel ac yn rhwydd gan y cleient

6. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

7. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch

8. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

9. cwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau lliw haul uwchfioled**

10. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

11. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth

12. sicrhau bod oed y cleient yn bodloni gofynion cyfreithiol

13. gofyn cwestiynau i'ch cleient i adnabod os oes ganddynt unrhyw wrtharwyddion i wasanaethau lliw haul uwchfioled

14. sefydlu, cytuno a chofnodi math o groen a lliwiad y cleient

15. cymryd y camau angenrheidiol mewn ymateb i unrhyw wrtharwyddion a adnabuwyd ac argymell gwasanaethau lliw haul amgen

16. rhoi cyngor i'r cleient ar sut i lanhau a pharatoi'u croen cyn gwasanaethau lliw haul uwchfioled

17. esbonio wrth y cleient sut i ddefnyddio'r cyfarpar a rhoi cyfarpar diogelu personol iddynt

Monitro gwasanaethau lliw haul uwchfioled**

18. cynnal a chofnodi diogelwch cyfarpar lliw haul uwchfioled a phrofion gweithio ar gyfnodau penodol

19. sicrhau bod profion cyfarpar symudol a newid tiwbiau yn cael eu gwneud ar gyfnodau a nodir gan y cynhyrchwr a'u cofnodi yn y log cynnal

20. adrodd unrhyw broblemau cyfarpar wrth yr unigolyn perthnasol

21. sicrhau bod amseriad y sesiwn yn addas i fath o groen a lliwiad y cleient

22. dilyn canllawiau cyfredol ar gyfer sesiynau lliw haul uwchfioled drachefn

23. gwirio lles eich cleient ar ddiwedd pob sesiwn

24. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd

25. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

 Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau lliw haul uwchfioled**

1. eich cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth, safonau a chanllawiau iechyd a diogelwch cyfredol yn ymwneud â gwasanaethau lliw haul uwchfioled

2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer paratoi'r cleient a'r ardal gwasanaeth

3. math o gyfarpar diogelu personol y dylai'r cleient eu gwisgo ar gyfer gwasanaeth lliw haul uwchfioled a pham

4. y rhesymau dros gynnal urddas a phreifatrwydd y cleient bob amser

5. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig

6. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

7. dulliau gweithio yn ddiogel ac yn lân ac sy'n isafu ar risg o groes-heintio

8. gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

9. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

10. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

11. gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

12. y rhesymau dros gwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau lliw haul uwchfioled**

13. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

14. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

15. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y gwasanaeth

16. gofynion cyfreithiol dros ddarparu lliw haul uwchfioled i gleientiaid sy'n iau na 18 oed

17. gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar liw haul uwchfioled

18. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

19. mathau o wasanaethau taenu lliw haul eich hun y gellid eu hargymell mewn achos o wrtharwyddion i liw haul uwchfioled

20. rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

21. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleientiaid

22. pwysigrwydd glanhau croen y cleient yn drylwyr cyn y sesiwn uwchfioled

23. dealltwriaeth y cleient o ganllawiau lliw haul uwchfioled a gweithrediad cyfarpar uwchfioled, yn enwedig y botwm stopio mewn argyfwng

Monitro gwasanaethau lliw haul uwchfioled**

24. profion diogelwch cyfarpar lliw haul uwchfioled a gofynion cynnal

25. gwahanol fathau o gyfarpar a chynnyrch lliw haul uwchfioled sydd ar gael

26. ystod o gynnyrch paratoi'r croen cyn y driniaeth a'u heffeithiau

27. y meini prawf ar gyfer cyfrifo hyd y sesiwn i gyd-fynd ag arlliw a math o groen

28. sut i adnabod effeithiau gormod o gysylltiad ac y pedair gradd cochni

29. egwyddorion y sbectrwm electromagnetig

30. pam nad yw rhai ardaloedd gwasgbwyntiau yn newid lliw

31. adeiladwaith a swyddogaethau'r croen

32. gwahanol fathau a nodweddion croen

33. sut i ddefnyddio Graddfa Ddosbarthiad Fitzpatrick i bennu arlliw'r croen

34. Cod Ymarfer Gwelyau Haul, dosbarthiadau croen a sut i'w dehongli a'u defnyddio

35. effaith a newidiadau y gall pelydrau UVA, UVB ac UVC eu cael ar y croen

36. pam na ddylai cleientiaid fynd y tu hwnt i gyfanswm nifer y sesiynau blynyddol a argymhellir

37. rhesymau pam y dylid addasu amserau sesiwn y cleient ar ôl newid tiwbiau uwchfioled

38. arweiniad, gwybodaeth a deunydd cymorth canser y croen sydd ar gael

39. yr adweithiau a all ddigwydd o ganlyniad i liw haul uwchfioled a pham

40. sut i adnabod adweithiau niweidiol sydd i'w gweld

41. pam mae hi'n bwysig gwirio lles y cleient ar ddiwedd sesiwn lliw haul uwchfioled

42. y cyfyngiadau ôl-driniaeth sy'n berthnasol i liw haul uwchfioled

43. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. gwrthod triniaeth

2. addasu'r driniaeth

3. esbonio pam nad oedd modd cynnal y driniaeth

4. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

Cyngor ac argymhellion**

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. yr angen i yfed dŵr ar ôl y gwasanaeth

3. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

4. cyfnodau o amser rhwng gwasanaethau

5. cyngor ar wasanaethau lliw haul amgen​


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy**

1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

7. defnyddio paent â chemegau isel

8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oed

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

1. hanes o ganser y croen

2. gormod o fannau geni a/neu frychni haul

3. mannau geni sydd wedi newid lliw, sy'n cosi a/neu waedu

4. hanes o losg haul

5. iau na 18 oed

6. croen nad yw'n newid lliw yng ngolau'r haul

7. meddyginiaeth sy'n achosi ffotosensitifrwydd croen

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

1. llosg haul

2. triniaethau gwres diweddar

3. defnyddio cynnyrch persawrus

4. triniaethau laser ac IPL diweddar

5. microsgraffinio diweddar

6. pilio cemegol diweddar

7. defnydd cyfredol ar steroidau

8. cynnyrch yn cynnwys cynhwysion ffotosensitif

Adeiladwaith a swyddogaethau'r croen**

Adeiladwaith:

1. haenau'r uwchgroen

2. y croen

3. haen tan y croen

4. ffoligl blew

5. siafft blew

6. chwarren sebwm

7. cyhyr arrector pili

8. chwarren chwys

9. llestri gwaed a phibelli lymff

10. terfyniadau nerf synhwyro

Swyddogaethau:

1. sensitifrwydd

2. rheoli gwres

3. amsugno

4. amddiffyn

5. ysgarthu

6. chwarenlif

7. cynhyrchu fitamin D

Adweithiau**

1. llosgi

2. pothellu

3. canser y croen

4. pigmentiad anwastad

5. teimlo'n wan

6. cyfog

7. clawstroffobia

8. heneiddio cyn amser

Adweithiau niweidiol**

1. difrod i'r llygaid

2. y croen yn heneiddio cyn amser

3. ymateb gwrthimiwnaidd a risg cynyddol o ddatblygu canserau'r croen nad yw'n felanoma​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Sbectrwm electromagnetig**

Mae'r sbectrwm electromagnetig yn cynnwys dau brif ffurf o ymbelydredd; uwchfioled, a ddefnyddir yn bennaf oherwydd ei effeithiau lliw haul ar y croen ac is-goch a ddefnyddir fel dull o gynhesu'r meinweoedd at ddibenion therapiwtig.

Cochni**

Cochni i'r croen a achosir gan enyniad, neu anaf i'r meinwe.

Graddfa Ddosbarthiad Fitzpatrick**

Fe'i dyfeisiwyd ym 1975 ym Mhrifysgol Harvard, ac mae hon yn system ddosbarthiad croen, a fesurir ar raddfa o 1 i 6 ar sail adwaith ffotosensitifrwydd i ymbelydredd uwchfioled. ​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB21

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Therapydd Sba

Cod SOC


Geiriau Allweddol

uwchfioled; lliw haul