Darparu gwasanaethau taenu lliw haul eich hun

URN: SKABT24
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Therapi Sba
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â thaenu amryw o gynnyrch lliwio haul eich hun.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau taenu lliw haul eich hun

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau taenu lliw haul eich hun

3. taenu cynnyrch taenu lliw haul eich hun


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau taenu lliw haul eich hun**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

2. paratoi eich cleient a'ch hun er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. gosod eich cleient mewn safle i fodloni gofynion y gwasanaeth

4. cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient bob amser

5. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill

6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

7. sicrhau bod eich ardal waith yn lân a thaclus drwy'r gwasanaeth

8. defnyddio dulliau gweithio sy'n osgoi'r risg o groes-heintio

9. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

10. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch

12. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

13. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau taenu lliw haul eich hun**

14. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

15. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw wasanaeth

16. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y driniaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16

17. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol

18. cytuno ar driniaeth a chanlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

19. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn unrhyw driniaeth

20. cynnal prawf sensitifrwydd croen a chofnodi'r canlyniadau

21. dewis cyfarpar a chynnyrch i fodloni gofynion y cleient

22. sicrhau bod croen y cleient yn lân ac wedi'i pharatoi ar gyfer y fath gynnyrch lliw haul fydd yn cael ei ddefnyddio

Defnyddio cynnyrch taenu lliw haul eich hun**

23. profi gwasgedd a gweithrediad y gwn chwistrellu cyn ei ddefnyddio

 24. defnyddio cyfarpar a chynnyrch i fodloni gofynion y cleient

25. defnyddio technegau chwistrellu lliw haul mewn ffordd reoledig o'r pellter gofynnol o'r corff i gyflawni'r effaith a ddymunir

26. taenu cynnyrch yn gyson yn y drefn gywir i gyflawni'r effaith a ddymunir

27. defnyddio technegau sy'n isafu ar risg o gynnyrch yn lledaenu y tu hwnt i'r ardal driniaeth a'r amgylchedd o'i chwmpas

28. cywiro unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y broses taenu

29. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig

30. rhoi cyngor ac argymhellion i'r cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd

31. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau taenu lliw haul eich hun**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. paratoi eich cleient er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. math o gyfarpar diogelu personol y dylai'r therapydd a'r cleient eu gwisgo ar gyfer gwasanaeth taenu lliw haul eich hun a pham

4.y rhesymau dros gynnal urddas a phreifatrwydd y cleient

5. technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham mae defnyddio'r rhain yn bwysig

6. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis, gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig

7. pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

8. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

9. dulliau gweithio yn ddiogel ac yn lân ac sy'n isafu ar risg o groes-heintio

10. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

11. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

13. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

14. y rhesymau dros gwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau taenu lliw haul eich hun**

15. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

16. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

17. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed

18. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

19. pwysigrwydd cytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

20. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i gynnal y gwasanaeth

 21. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

22. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth

23. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

24. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

25. y weithdrefn ar gyfer cynnal prawf sensitifrwydd croen cyn cynnal gwasaneth taenu lliw haul eich hun

26. y rhesymau dros gynnal prawf sensitifrwydd croen cyn gwasanaeth taenu lliw haul eich hun a chofnodi'r canlyniadau

27. sut i ddewis cynnyrch i gyd-fynd â math croen a hoffterau'r cleient

28. sut i baratoi croen y cleient i gyd-fynd â'r cynnyrch a chyfarpar a ddefnyddir

29. y rhesymau dros ddigennu a lleithio'r croen cyn gwasanaeth taenu lliw haul eich hun

Defnyddio cynnyrch taenu lliw haul eich hun**

30. y mathau o gyfarpar ar gael ar gyfer chwistrellu lliw haul, eu nodweddion a sut a phryd i'w defnyddio

31. ystyr PSI a pham y caiff ei addasu i gyd-fynd â maint yr ardal a'r gorchudd gofynnol

32. y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â defnyddio cyfarpar chwistrellu lliw haul dan wasgedd

33. pwysigrwydd defnyddio cyfarpar gyda medrydd gwasgedd

34. sut i lanhau, cynnal ac ailosod cyfarpar chwistrellu lliw haul ac ategolion cysylltiedig

35. mathau o broblemau a all ddigwydd gyda chyfarpar chwistrellu lliw haul a sut i'w cywiro

36. y mathau o gynnyrch taenu lliw haul eich hun sydd ar gael a'u manteision ac anfanteision

37. cynhwysion cynnyrch lliw haul, digennu a lleithio

38. effeithiau cynnyrch lliw haul ar y croen

39. strwythur y croen

40. y gwahanol fathau o anhwyldebau pigmentiad y croen a sut y gallent effeithio ar ganlyniad y gwasanaeth taenu lliw haul

41. defnydd ac effeithiau cynnyrch hybu lliw haul

42. sut a phryd i ddefnyddio cynnyrch cywiro lliw haul

43. y rhesymau dros roi cyngor i'r cleient cyn ac ar ôl triniaeth

44. cynnyrch i'w defnyddio adref a fydd o fudd i'r cleient a'r rhai i'w hosgoi a pham

45. y cyfyngiadau ôl-driniaeth sy'n berthnasol i daenu lliw haul eich hun

46. yr adweithiau a all ddigwydd o ganlyniad i daenu lliw haul eich hun a pha gyngor i'w roi i'r cleientiaid

47. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau i'r cleient​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i ofyn am gyngor meddygol

2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y driniaeth

3. addasu triniaeth

Offer**

1. gwn chwistrellu

2. cywasgwr

3. maneg gloywi

Cynnyrch**

1. hufenau lliw haul

2. geliau lliw haul

3. hylif chwistrellu lliw haul

4. hufen rhwystro

5. digenwyr

6. lleithyddion

Cyngor ac argymhellion**

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. cyfnodau amser rhwng gwasanaethau

4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol​


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy**

1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. using disposable items

6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

7. defnyddio paent â chemegau isel

8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oed

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

 1. asthma difrifol ar gyfer chwistrellu lliw haul

2. cyflyrau heintus y croen

3. cyflyrau bronciol ar gyfer chwistrellu lliw haul

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

1. clefyd siwgr sy'n ddibynnol ar inswlin

2. anhwyldebau pigmentiad

3. llosg haul

4. psorïasis

5. ecsema

6. briwiau a chrafiadau

Strwythur y croen**

1. haenau o epidermis

2. dermis

3. haen isgroenol

4. ffoligl y blewyn

5. siafft blewyn

6. chwarren sebwm

7. chwarren arrector pili

8. chwarren chwys

9. llestri gwaed a lymff

10. terfyniadau nerf synhwyro

Adweithiau**

1. llid y croen

2. chwydd

3. llosgi

4. cosi

5. llygaid llawn dagrau

6. pesychu

7. llewygu​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Gorbigmentiad**

Lliwiad gormodol o gymharu â'r croen amgylchynol oherwydd gormod o felanin megis smotiau oedran, brychni, marciau ymestyn, lliw haul, melasma a chloasma.

 Hypobigmentiad

Colli lliwiad o gymharu â'r croen amgylchynol megis lewcoderma, marciau ymestyn, creithiau, fitiligo.

PSI**

Talfyriad o 'pounds per square inch' yn ymwneud â'r gwasgedd aer sy'n dod o'r cywasgydd trwy'r gwn ar y croen. Bydd hyn yn cael ei addasu yn unol â'r gorchudd gofynnol a maint yr ardal.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB25

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Therapydd Sba

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwasanaethau taenu lliw haul eich hun; cynnyrch taenu lliw haul eich hun; cyfarpar taenu lliw haul eich hun