Darparu gwasanaethau cwyro personol i ddynion
Trosolwg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chael gwared â blew o rannau personol y corff gan ddefnyddio technegau cwyro amrywiol. Bydd angen i chi allu ymgynghori â'r cleient, paratoi ar gyfer y gwasanaeth cwyro a chynhyrchu cynllun triniaeth. Bydd angen i chi hefyd darparu cyngor gwasanaeth i'r cleient, yn enwedig yn ymwneud ag osgoi gweithgareddau penodol a defnyddio cynnyrch gofal yn y cartref.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau cwyro personol i ddynion
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau cwyro personol i ddynion
3. cael gwared ar flew diangen
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gael gwared â blew gan ddarparu cwyro personol i ddynion**
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch a gwarchod trwy gydol y gwasanaeth
2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
3. gwarchod dillad eich cleient drwy gydol y gwasanaeth
4. cynnal gwyleidd-dra a phreifatrwydd eich cleient bob amser
5. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth
6. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
7. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth
8. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
9. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
10. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
11. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
12. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch
13. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
14. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau cwyro personol i ddynion**
15. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient
16. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw wasanaeth
17. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
18. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
19. cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
20. esbonio'r adweithiau posibl i'r cleient cyn cynnal y gwasanaeth cwyro
21. sicrhau caniatâd gwybodus ysgrifenedig, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth cwyro
22. esbonio'r weithdrefn cwyro personol ac unrhyw adweithiau posibl i'r cleient, cyn y gwasanaeth cwyro
23. dewis cyfarpar, deunydd, taenwyr a chynnyrch cwyr ar gyfer y gwasanaeth cwyro
24. sicrhau bod y broses o baratoi'r cleient yn bodloni'r cynllun gwasanaeth y cytunwyd arni
Cael gwared ar flew diangen**
25. defnyddio cynnyrch taenu cyn cwyro
26. cynnal prawf thermal yn union cyn y gwasanaeth cwyro ar ddarn addas o groen yng nghesail y forddwyd
27. canfod patrwm tyfu'r blew a chyflwr y croen yn yr ardal sydd i'w drin
28. taenu a chael gwared â'r cwyr yn unol â gofynion y dull tynnu blew a phatrymau tyfu'r blew
29. sicrhau bod y gwasanaeth cwyro yn isafu ar risg o groes-heintio a halogiad ac yn dilyn gweithdrefnau gwarchod
30. sicrhau bod eich technegau gwaith yn isafu ar anghysur i'r cleient
31. gwirio lles y cleient trwy gydol y gwasanaeth cwyro
32. sicrhau bod yr ardal triniaeth yn cael ei adael heb gwyr a blew ac wedi'i thrin â chynnyrch ôl-gwyro
33. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig
34. rhoi cyngor ac argymhellion i'r cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
35. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau cwyro personol i ddynion**
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer sicrhau bod gweithdrefnau gwarchod yn weithredol
3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient
4. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol
5. y rhesymau dros gynnal gwyleidd-dra a phreifatrwydd eich cleient bob amser
6. technegau gosod eich hun a'ch cleient i osgoi anghysur
7. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru, a pham bod y rhain yn bwysig
8. pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
9. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
10. dulliau gweithio yn ddiogel ac yn lân i osgoi'r risg o groes-heintio
11. gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
12. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
13. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
14. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
15. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau cwyro personol i ddynion**
16. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn dull proffesiynol
17. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
18. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i blant sy'n iau na 16 oed
19. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n gwahaniaethu yn genedlaethol
20. pwysigrwydd cytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
21. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i gynnal y gwasanaeth
22. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
23. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
24. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth
25. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
26. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
27. y rhesymau pam mae'n ddoeth i gynnal prawf sensitifrwydd croen cyn y gwasanaethau cwyro
28. pam mae'n bwysig esbonio'r weithdrefn ac unrhyw adweithiau posibl i'r cleient cyn gwasanaeth cwyro personol
30. pam mae'n bwysig bod y cleient ei hun yn glanhau'r ardal sydd i'w drin yn union cyn y gwasanaeth cwyro
Cael gwared ar flew diangen**
31. y rhesymau dros gynnal gweithdrefn clwt prawf thermol ac i docio blew hir cyn y gwasanaeth cwyro
32. sut i asesu cyflwr y croen a thwf blew yn yr ardal i'w thrin
33. y mathau o gyfarpar a chynnyrch cwyro a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau cwyro personol, yn cynnwys templedi siapio
34. swyddogaeth a diben cynnyrch cyn cwyro ac ôl-gwyro
35. cynhwysion a chyfansoddiad gwahanol gynnyrch cwyro
36. cyfaddasrwydd cynnyrch cwyro penodol ar gyfer mathau o wahanol o flew
37. gofynion taenu a thynnu cynnyrch mewn perthynas â chyfeiriad twf y blew
38. manteision, anfanteision a chyfyngiadau triniaethau cwyro
39. sut i gefnogi croen y cleient yn ystod y broses cwyro personol er mwyn osgoi cyffwrdd â lle amhriodol
40. pam mae'n angenrheidiol ymddwyn mewn modd proffesiynol er mwyn osgoi camddehongli ymddygiad
41. sut i ddelio ag amgylchiadau lle y mae ymddygiad y cleient yn mynd yn erbyn statws proffesiynol y driniaeth
42. dulliau eraill o gael gwared ar flew ac effaith y dulliau hyn ar y broses gwyro
43. yr adweithiau a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i'r cleientiaid
44. adwaith disgwyliedig y croen i gwyro
45. strwythur genitalia dyn
46. strwythur a swyddogaethau'r croen a'r blew
47. y gylchred twf blew, y gwahanol fathau o dwf blew ac achosion twf blew
48. y gweithgareddau i'w hosgoi ar ôl cwyro a pham mae'r rhain yn bwysig
49. gofynion ôl-ofal a chynnal ar gyfer triniaethau cwyro personol a pham mae'r rhain yn bwysig
50. y cyngor ac argymhellion** ar gynnyrch a gwasanaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori**
1. holi
2. gwrando
3. edrych
4. teimlo
5. ysgrifenedig
Camau angenrheidiol**
1. addasiad y gwasanaeth cwyro
2. esbonio pam na ellid cynnal y gwasanaeth cwyro
3. annog y cleient i geisio cyngor meddygol
Gwasanaeth cwyro**
1. cefn isaf
2. pen-ôl
3. ardal refrol
4. ceillgwd
4. pidyn
Cwyr**
1. cwyr poeth
2. cwyr cynnes
Paratoi'r cleient**
1. tynnu ategolion a dillad fel sy'n briodol ar gyfer y driniaeth
2. amddiffyn dillad
3. y cleient i lanhau'r ardal a fydd yn cael ei thrin
4. tocio blew hir ar gyfer y driniaeth
Cynnyrch taenu cyn cwyro**
1. olewau
2. powdrau
Technegau gwaith**
1. ymestyn a thrin y croen yn ystod taenu a'r tynnu
2. cyflymder tynnu cynnyrch
3. cyfeiriad ac ongl y tynnu
4. gwiriadau parhaus ar dymheredd y cynnyrch
Cyngor ac argymhellion**
1. cynnyrch gofal yn y cartref addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. cyfnodau o amser rhwng gwasanaethau
4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch**
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy**
1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. defnyddio eitemau untro
6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
7. defnyddio paent â chemegau isel
8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol**
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oed
4. anabledd
Gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol**
1. heintiau troethol
2. heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
3. llau pwbig
4. afiechyd heintus y croen
5. chwydd gwyn
Gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu**
Cyfyngu:
1. meddyginiaeth sy'n effeithio ar y croen, gwaed neu'r system imiwnedd
2. brech gwres
3. llosg haul
4. clefyd siwgr
5. mannau geni
6. blew sy'n tyfu i'r byw wedi'u heintio
7. tagiau croen
8. meinwe craith ddiweddar
9. clwyf y marchogion allanol
Atal:
1. croen tenau a bregus
2. alergeddau hysbys i gynnyrch a chynhwysion megis resin sydd mewn plastrau a chwyr
4. afiechydon croen difrifol a heintus
5. gwythiennau faricos difrifol
Gwasanaethau cwyro personol**
1. cefn isaf
2. pen-ôl
3. ardal refrol
4. ceillgwd
4. pidyn
Dulliau cael gwared ar flew**
1. plicio
2. eillio
3. hufennau tynnu blew
4. tynnu blew yn drydanol
5. menig garw
6. lleihau blew gyda golau
7. edafu
8. diflewio yn drydanol
Adweithiau**
1. cleisio
2. smotiau gwaed
3. ysgraffiniadau
5. blew wedi torri
5. adwaith histamin
6. cochni gormodol
7. aildyfiant gormodol ac aildyfiant llai
8. llosgiadau
9. enyniad
Strwythur genitalia dyn**
1. blaengroen
2. glans penis
3. ceillgwd
4. vas deferens
5. ceilliau
6. epididymis
7. chwarennau semenol
8. chwarennau atodol
9. chwarren brostad
Strwythur a swyddogaethau'r croen**
Strwythur:
1. haenau'r uwchgroen
2. dermis
3. haen isgroenol
4. ffoligl gwallt
5. siafft gwallt
6. chwarren sebacus
7 cyhyr arrector pili
8. chwarren chwys
9. llestrau gwaed a lymff
10. terfyniadau nerf synhwyro
Swyddogaethau:
1. sensitifrwydd
2. rheoli gwres
3. amsugniad
4. amddiffyn
5. ysgarthu
6. secretiad
7. cynhyrchu fitamin D
Cylchred twf blew**
1. anagen
2. catagen
3. telogen
Gwahanol fathau o dwf blew**
1. terfynol
2. vellus
3. blew yn tyfu i'r byw
Achosion twf blew**
1. argroenol
2. genedigol
3. systemig
Gweithgareddau i'w hosgoi ar ôl cwyro**
1. gwres megis sawna, haul a bath poeth
2. defnyddio cynnyrch â phersawr neu gemegau
3. gwisgo dillad sy'n cyfyngu
4. cyffwrdd â'r ardal sydd wedi'i thrin
5. nofio ac ymarfer eraill
Cyngor ac argymhellion**
1. gwasanaethau ychwanegol
2. cynnyrch ychwanegol
3. gofynion ôl-ofal ar gyfer cwyro personol a pham mae'r rhain yn bwysig
4. argymell i'r cleient ddychwelyd ar gyfer gwasanaethau cwyro bob 6-8 wythnos
5. hylendid toiled personol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd gweithio hyblyg
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Gwarchod**
Mae hyn yn cyfeirio at yr hyn rydym yn ei wneud i hyrwyddo lles plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn eu gwarchod nhw rhag niwed.
Clwt prawf**
Hwn yw'r prawf sy'n pennu gradd ymateb y croen a'r sensitifrwydd. Gellir defnyddio clytiau prawf i brofi graddau sensitifrwydd gwres ac ymateb i boen ynghyd ac ymateb y croen. Gall clwt prawf gynnwys prawf clwt, prawf thermol neu brawf cyffwrdd.
Cwyr cynnes**
Yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, hufen, cwyr mêl a chynnyrch yn seiliedig ar siwgr, gyda neu heb ychwanegion megis coeden de a lafant, wedi'u taenu gyda sbatwla neu ddulliau mecanyddol eraill ac wedi'u tynnu gyda stribedi.