Darparu triniaethau trydanol i'r wyneb
Trosolwg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwella cyflwr y wyneb a'r croen gan ddefnyddio gwahanol gyfarpar trydanol i'r wyneb. Mae'n cynnwys y sgiliau sy'n gysylltiedig â darparu ymgynghoriad trylwyr â'r cleient i lunio a chyflwyno cwrs o driniaeth benodol wedi'i deilwra i gyd-fynd ag anghenion cleientiaid. Mae'r gallu i ddarparu cyngor ôl-ofal perthnasol hefyd yn ofynnol.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau trydanol i'r wyneb
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau trydanol i'r wyneb
3. cynnal triniaethau trydanol i'r wyneb
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau trydanol i'r wyneb**
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth
2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
3. cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient
4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth
5. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill
6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth
7. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y driniaeth
8. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
9. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
10. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch
12. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
13. cwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau trydanol i'r wyneb**
14. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient
15. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw driniaeth
16. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
17. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol
18. cytuno ar y driniaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
19. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y driniaeth
20. cynnal prawf/profion cyn y driniaeth i bennu sensitifrwydd y croen
21. adnabod math o groen a chyflwr croen y cleient
22. sicrhau bod croen y cleient wedi'i baratoi i gyd-fynd â'r math o gyfarpar i'w ddefnyddio
23. dewis offer a chyfarpar a chynnyrch i gyd-fynd â'r amcanion triniaeth a mathau o groen a chyflwr croen y cleient
Cynnal triniaethau trydanol i'r wyneb**
24. rhoi gwybodaeth i'r cleient am y teimlad a'r sŵn y mae'r cyfarpar yn ei gynhyrchu
25. esbonio gweithdrefn y driniaeth wrth y cleient, yn ystod pob cam o'r broses
26. defnyddio ac addasu'r cyfarpar, yr offer a hyd y driniaeth i gyd-fynd â math o groen, cyflwr croen ac amcanion triniaeth y cleient
27. cynnal tyniad milia gan isafu ar yr anghysur i'r cleient a difrod i'r croen
28. cymryd camau adferol os yw'r cleient yn profi anghysur neu adweithiau
29. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig ac yn bodloni amcanion triniaeth y cytunwyd arnynt
30. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd
31. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau trydanol i'r wyneb**
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer amddiffyn a pharatoi cleient
3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun
4. y rhesymau dros gynnal urddas a phreifatrwydd y cleient
5. technegau gosod eich hun a'r cleient mewn safle diogel i atal anghysur
6. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer triniaethau megis, gwresogi, sain ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig
7. pam mae hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
8. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
9. pam mae'n bwysig osgoi croes-heintio uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy weithio'n ddiogel ac yn lân
10. gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
11. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
13. gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
14. y rhesymau dros gwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau trydanol i'r wyneb**
15. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
16. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
17. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu gwasanaethau i blant sy'n iau na 16 oed
18. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol
19. pwysigrwydd cytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
20. arwyddocâd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y driniaeth
21. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
22. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth
23. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
24. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
25. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
26. sut i gynnal a dehongli profion cyn y driniaeth
27. sut i asesu tyndra cyhyrau'r wyneb, math o groen a chyflwr
28. dethol a pharatoi offer, cyfarpar a chynnyrch ar gyfer triniaethau trydanol i'r wyneb
Cynnal triniaethau trydanol i'r wyneb**
29. pam mae'n bwysig esbonio proses y driniaeth, teimlad y cyfarpar a'r sŵn wrth y cleient
30. sut i ddefnyddio ac addasu cyfarpar trydanol i'r wyneb i gyd-fynd â gwahanol fathau o groen, cyflyrau croen ac amcanion triniaeth
31. buddion ac effeithiau gwahanol fathau o gyfarpar trydanol i'r wyneb
32. buddion cynnyrch sydd ar gael ar gyfer triniaethau trydanol i'r wyneb a'u heffeithiau
33. math o geryntau trydanol sy'n cael eu cynhyrchu gan y cyfarpar sy'n cael eu defnyddio a'u heffeithiau ar y wyneb
34. y technegau a ddefnyddir i dynnu milia sy'n achosi'r difrod lleiaf i'r croen
35. mathau o driniaethau y gellid eu rhoi ar y cyd â, neu ar ôl, triniaethau trydanol i'r wyneb
36. risgiau sy'n gysylltiedig â thriniaethau trydanol i'r wyneb a sut i ddelio â hwy
37. anatomi a ffisioleg y wyneb, gwddf ac ysgwyddau
38. sut y mae heneiddio yn effeithio ar y croen ac yn cyfyngu ar effeithiolrwydd triniaethau trydanol
39. adweithiau posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid
40. y dulliau a ddefnyddir i werthuso effeithiolrwydd triniaethau trydanol i'r wyneb
41. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a thriniaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori**
1. holi
2. gwrando
3. edrych
4. teimlo
5. ysgrifenedig
Camau angenrheidiol**
1. addasu'r driniaeth
2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y driniaeth
3. annog y cleient i geisio cyngor meddygol
Math o groen**
1. olewog
2. sych
3. cyfuniad
Cyflwr y croen**
1. sensitif
2. aeddfed
3. dadhydredig
4. llawn
5. fasgwlaidd
Offer a chyfarpar**
1. amledd uchel uniongyrchol
2. trydanol
3. microgerrynt
4. microsgraffiniad
Amcanion y driniaeth**
1. gwell cyflwr y croen
2. gwell amlinell a chyflwr cyhyrau
3. gwell gwead croen
4. gwell draeniad lymffatig
Cyngor ac argymhellion**
1. cynnyrch gofal yn y cartref addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. cyfnodau o amser rhwng triniaethau
4. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch**
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy**
1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. defnyddio eitemau untro
6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
7. defnyddio paent â chemegau isel
8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol**
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oed
4. anabledd
5. rhyw
Gwrtharwyddion sy'n atal
1. clefydau croen heintus
2. trafferthion ar y system nerfol
3. meinwe craith ddiweddar
4. lympiau a chwyddiadau heb ddiagnosis
5. triniaeth ganser
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu
1. mynd trwy driniaeth feddygol
2. clefyd siwgr nad yw dan reolaeth
3. epilepsi
4. pwysedd gwaed uchel/isel
5. microbigmentiad
6. hanes o thrombosis neu emboledd
7. botox
8. llenwadau'r croen
9. pinnau neu blatiau metel
10. meddyginiaeth
11. beichiogrwydd
12. tyllau
13. pryder
14. toriadau a chrafiadau
15. cleisiau
16. brwsio neu bilio cemegol diweddar
17. IPL neu laser a diflewiad
18. anhwylder/clefyd y galon
19. rheolydd calon
20. meddyginiaeth sy'n achosi i'r croen deneuo neu enyniad er enghraifft steroidau, accutane a retinolau
21. sgraffiniad diweddar
Anatomi a ffisioleg**
1. safle prif esgyrn y penglog a gwregys ysgwydd a swyddogaethau'r penglog
2. safleoedd a gweithredoedd y grwpiau cyhyrau'r wyneb yn yr wyneb, gwddf ac ysgwyddau
3. diffiniad 'tarddle' a 'mewnosodiad' cyhyr
4. adeiladwaith a swyddogaethau'r croen
5. adeiladwaith a swyddogaeth rhedwelïau, gwythiennau a chapilarïau yn y wyneb, gwddf ac ysgwyddau
6. adeiladwaith a swyddogaeth y system lymffatig yn yr wyneb, gwddf ac ysgwyddau
7. egwyddorion sylfaenol system nerfol ganolog, pwyntiau modur a system awtonomig
8. effaith triniaethau trydanol ar gyhyrau'r wyneb, croen, cylchrediad y gwaed, systemau lymffatig a nerfol
9. sut y mae heneiddio yn effeithio ar y croen ac yn cyfyngu ar effeithiolrwydd triniaethau trydanol i'r wyneb
Adweithiau**
1. llosg galfanig
2. llid
3. adwaith alergaidd
4. cochni gormodol
5. gor/hypobigmentiad
Cyngor ac argymhellion**
1. gwasanaethau ychwanegol
2. cynnyrch ychwanegol
3. buddion cwrs o driniaeth
4. ffactorau a newidiadau ffordd o fyw a allai fod yn ofynnol i wella effeithiolrwydd y driniaeth
5. cyfyngiadau ar ôl y driniaeth ac anghenion triniaeth yn y dyfodol
6. cynnyrch i'w defnyddio yn y cartref a fydd o fudd i'r cleient ac yn ei amddiffyn a'r rheini i'w hosgoi a pham
7. sut y gall trefniadau gofal croen effeithio a gwella ar effeithiolrwydd y driniaeth
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd gweithio hyblyg
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Llawn**
Cyflwr o fod wedi'i orlwytho, wedi'i dagu neu'i flocio gyda gwaed neu lysnafedd.
Prawf sensitifrwydd y croen**
Prawf i bennu a oes gan y cleient alergedd i gynnyrch sy'n cael ei daenu.
Clwt prawf**
Hwn yw'r prawf sy'n pennu gradd adwaith y croen a'r sensitifrwydd. Gellir defnyddio clytiau prawf i brofi graddau sensitifrwydd gwres ac ymateb poen ynghyd ag ymateb y croen. Gall clwt prawf gynnwys prawf clwt, prawf thermol neu brawf cyffwrdd.