Darparu triniaethau therapi cerrig

URN: SKABT19
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Therapi Sba
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau sy'n gysylltiedig â darparu triniaethau therapi cerrig poeth ac oer. Mae'n cynnwys tylino a gosod cerrig ar y pen, yr wyneb a'r corff. Mae'r gallu i addasu triniaethau therapi cerrig i gyd-fynd ag anghenion cleientiaid unigol yn ofyniad hanfodol.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau therapi cerrig

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau therapi cerrig

3. cynnal triniaethau therapi cerrig ​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau therapi cerrig**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth

2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

3. cynnal urddas a phreifatrwydd eich cleient bob amser

4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth

5. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill

6. darparu cefnogaeth â chlustog i rannau gofynnol y corff yn ystod y driniaeth

7. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r driniaeth

8. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

9. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

10. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch

12. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

13. cwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau therapi cerrig**

14. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

15. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw driniaeth

16. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y driniaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16

17. adnabod unrhyw wrtharwyddion  a chymryd y camau angenrheidiol

18. cynnal prawf sensitifrwydd croen a chlwt prawf thermol ar ardaloedd croen perthnasol

19. cytuno ar yr amcanion triniaeth a'r canlyniadau gyda'r cleient sy'n bodloni eu hanghenion

20. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y driniaeth

21. asesu nodweddion corfforol y cleient a dewis cerrig triniaeth i fodloni anghenion y driniaeth

22. gwirio bod y dŵr ar y tymheredd gofynnol cyn gosod y cerrig

Cynnal triniaethau therapi cerrig**

23. rhoi gwybodaeth i'r cleient am y teimlad sy'n cael ei greu gan y cerrig triniaeth, yn ystod pob cam o'r broses

24. amddiffyn croen y cleient yn erbyn eithafion tymheredd yn ystod gosod cerrig ar y blaen a'r cefn

25. gosod cerrig triniaeth ar y pwyntiau chakra, i fodloni'r amcanion triniaeth y cytunwyd arnynt

26. gosod cerrig triniaeth o dan y corff, gan sicrhau cysur y cleient

27. dewis a thaenu olew triniaeth i fodloni'r amcanion triniaeth

28. rheoli technegau triniaeth i atal y croen rhag cael gormod o gysylltiad â gwres

29. addasu'ch technegau therapi cerrig a dilyniant i fodloni nodweddion corfforol, ardal(-oedd) triniaeth ac amcanion triniaeth y cleient

30. amrywio dyfnder, rhythm, a phwysau'r technegau triniaeth i fodloni amcanion triniaeth a nodweddion corfforol a hoffterau'r cleient

31. cymryd camau adferol os bydd adweithiau neu anghysur yn digwydd yn ystod hynt y driniaeth

32. gwirio lles y cleient trwy gydol y triniaethau a rhoi digon o amser i'r cleient adfer ar ôl y driniaeth

33. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig ac yn bodloni amcanion triniaeth y cytunwyd arnynt

34. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd

35. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau therapi cerrig**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer amddiffyn a pharatoi cleient

3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun

4. eich cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu awdurdod lleol drosoch eich hun a'ch lleoliad

5. y rhesymau dros gynnal urddas a phreifatrwydd y cleient yn ystod y driniaeth

6. technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham mae defnyddio'r rhain yn bwysig

7. rhannau'r corff sy'n gofyn am gefnogaeth â chlustog yn ystod y driniaeth a sut i'w darparu

8. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis, gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig

9. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

10. dulliau a ddefnyddir i ddiheintio cerrig triniaeth ar ôl pob triniaeth

11. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lân er mwyn osgoi'r risg o groes-heintio

12. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

13. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

14. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

15. gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

16. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau therapi cerrig**

17. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

18. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

19. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu gwasanaethau i blant sy'n iau na 16 oed

20. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

21. pwysigrwydd cytuno â'r cleient ar driniaeth sy'n bodloni eu hanghenion

22. arwyddocâd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y driniaeth

23. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

24. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth

25. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

26. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

27. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

28. sut i asesu'n weledol nodweddion corfforol gwahanol gleientiaid

29. gweithdrefnau cynnal prawf sensitifrwydd croen cyn defnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod a chlwt prawf thermol

30. rhesymau dros gynnal profion cyn triniaethau therapi cerrig a chofnodi'r canlyniadau

31. sut i baratoi'r ardal driniaeth a'r cleient ar gyfer triniaethau therapi cerrig

32. pwysigrwydd gwirio tymheredd dŵr cyn y driniaeth

Cynnal triniaethau therapi cerrig**

33. mathau o ddefnyddiau a ddefnyddir i amddiffyn croen y cleient yn erbyn eithafion tymheredd

34. technegau dewis cerrig, gan gynnwys maint cywir, math, siâp ac ansawdd

35. sut i ddewis y cyfrwng tylino cywir i gyd-fynd ag anghenion y cleient

36. sut i gyflwyno a gosod y cerrig triniaeth i uchafu ar eu buddion a sicrhau cysur y cleient

37. pwysigrwydd rheoli tymheredd y cerrig yn ystod y driniaeth a sut i gynnal hyn

38. technegau trin diogel i osgoi sŵn ac aflonyddu gormodol

39. buddion dewis a gosod cerrig penodol ar y saith prif chakra

40. sut i addasu ac amrywio'ch technegau triniaeth a dilyniant i fodloni nodweddion corfforol ac ardal(oedd) i'w trin y cleient

41. buddion ac effeithiau defnyddio cerrig poeth ac oer, naill ar eu pennau eu hunain neu gyflwyno dau dymheredd yn ystod triniaeth

42. pum elfen therapi cerrig

43. egwyddorion a nodweddion sylfaenol y saith prif chakra a'u harwyddocâd i arfer triniaeth therapi cerrig

 44. dulliau oeri cerrig

45. gofynion storio gwahanol fathau o gerrig

46. y camau adferol i'w cymryd os bydd adweithiau neu anghysur yn digwydd yn ystod hynt y driniaeth

47. sut i addasu technegau therapi cerrig i atal anafiadau cysylltiedig â gwaith

48. anatomi a ffisioleg y corff

49. effeithiau corfforol a seicolegol triniaethau therapi cerrig poeth ac oer

50. pam mae'n bwysig gwirio lles y cleient trwy gydol y driniaeth a chaniatáu amser adfer digonol ar ôl y driniaeth

51. y dulliau a ddefnyddir i werthuso effeithiolrwydd y triniaethau therapi cerrig

52. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau i'r cleient ​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y driniaeth

3. addasu'r driniaeth

Amcanion y driniaeth**

1. ymlacio

2. dyrchafol

3. synnwyr lles

4. rhyddhau tensiwn cyhyrol

Nodweddion corfforol**

1. math o gorff

2. ystum

3. tyndra'r cyhyrau

4. oed

5. iechyd

6. cyflyrau croen

Cerrig triniaeth**

1. basalt

2. marmor

3. cerrig rhannol werthfawr

Technegau triniaeth**

1. effleurage

2. petrissage

3. ffrithiant

4. tapio

5. twcio

6. lleoli

7. pwynt sbardun

Technegau therapi cerrig**

1. troi cerrig

2. cerrig poeth ac oer am yn ail

3. defnyddio cerrig poeth yn unig

4. defnyddio cerrig oer yn unig

5. cyfuno mathau a meintiau cerrig

Ardaloedd i'w trin**

1. wyneb

2. pen

3. gwddf, brest ac ysgwyddau

4. breichiau a dwylo

5. abdomen

6. cefn

7. coesau a thraed

Cyngor ac argymhellion**

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol

4. cyngor ar ôl y driniaeth


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy**

1. lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. lleihau'r defnydd  ynni (offer ynni effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn ecogyfeillgar, wedi'u hailgylchu

7. defnyddio paent â lefelau isel o gemegau

8. defnyddio cynnyrch organig gwrth-alergedd

9. defnyddio deunydd pecynnu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd

10. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

11. annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oedran

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

1. clefydau croen heintus

2. camweithrediad y system nerfol

3. meinwe craith ddiweddar

4. lympiau a chwyddiadau heb ddiagnosis

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu

1. mynd trwy driniaeth feddygol

2. clefyd siwgr nad yw dan reolaeth

3. epilepsi

4. pwysedd gwaed uchel/isel

5. hanes o thrombosis neu emboledd

6. gwythiennau chwyddedig

7. pinnau neu blatiau metel

8. meddyginiaeth

9. beichiogrwydd

10. tyllu rhannau o'r corff

11. toriadau a chrafiadau

12. yn ystod triniaeth ganser

Adweithiau**

1. cochni

2. hyperemia

3. adwaith alergaidd i gynnyrch

Anafiadau cysylltiedig â gwaith**

1. anaf i'r cefn

2. syndrom twnnel arddyrnol

3. straen i'r gwddf

4. anaf straen ailadroddus (RSI)

Anatomi a ffisioleg**

1. strwythur a swyddogaeth celloedd a meinweoedd

 2. strwythur, swyddogaeth a gwahanol fathau o gyhyrau

3. safleoedd a gweithredoedd prif grwpiau cyhyrau a adnabuwyd o fewn ardaloedd i'w trin yn y corff

5. safle a swyddogaeth prif esgyrn a chymalau'r sgerbwd

6. sut i adnabod diffygion a chyflyrau'r ystum

7. strwythur a swyddogaeth y system cylchrediad y gwaed

8. strwythur a swyddogaeth y system lymffatig 

9. egwyddorion sylfaenol y system nerfol ganolog a'r system awtonomig

10. egwyddorion sylfaenol y systemau endocrinaidd, anadlol, treulio ac ysgarthol

11. strwythur a swyddogaeth y croen

12. strwythur a lleoliad y meinwe bloneg

Corfforol a seicolegol**

Effeithiau corfforol

1. ymlacio cyhyrau

2. sbarduno systemau cylchrediad y gwaed/lymffatig

3. tawelu neu'n sbarduno ffibrau nerfol

Effeithiau seicolegol

1. rhyddhau straen a thensiwn

2. gwell lles cyffredinol

3. tawelu ac ymlacio

Cyngor ac argymhellion**

1. triniaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. ffactorau a newidiadau ffordd o fyw a allai fod yn ofynnol i wella effeithiolrwydd y driniaeth megis diet, ymarfer, straen a chwsg

4. cyfyngiadau ar ôl y driniaeth ac anghenion triniaeth yn y dyfodol

5. cyngor ar ôl y driniaeth i gynnwys yfed digon o ddŵr ac ymlacio

 6. cyfnodau o amser rhwng triniaethau


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd gweithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad


Geirfa

Math o gorff**

Mae ectomorff yn aml islaw'r pwysau cyfartalog am eu taldra a bydd ganddynt ymddangosiad tenau. Mae ectomorffau yn dueddol o fod â metabolaeth uchel iawn ac yn aml yn cwyno o fwyta di-baid heb fagu unrhyw bwysau neu ychydig iawn o bwysau.

 Mae'r math o gorff endomorffig i'r gwrthwyneb yn llwyr i'r ectomorff.

Bydd yr unigolyn fel arfer yn fwy ei ymddangosiad gyda chroniad braster trymach ac ychydig iawn o ddiffiniad i'r cyhyrau. Maen nhw'n ei chael hi'n anodd colli pwysau, hyd yn oed pan fyddant ar ddiet ac yn ymarfer.

Mae gan mesomorff gorff mwy cyhyrol a thenau ac mae rhywle rhwng ectomorff ac endomorff ac felly'n arddangos rhinweddau'r ddau. Hwyrach fod ganddynt ffrâm fwy na'r endormoff ond canran braster y corff is na'r ectomorff. Yn aml dyma'r math o gorff y mae pawb ei eisiau.

Pum elfen therapi cerrig**

Yn gyffredinol credir mai daear, tân, coed, metel a dŵr. Credir bod therapi cerrig yn darparu cydbwysedd yn y corff trwy gwmpasu pob un o'r pum elfen o fewn y gwasanaeth.

Cerrig rhannol werthfawr**

Gellir cynnwys y rhain o fewn y lleoliad therapi cerrig i gyfoethogi buddion y driniaeth, megis ar gyfer clirio a chydbwyso chakras.

Profion sensitifrwydd croen**

Mae'r prawf hwn yn pennu a oes gan y cleient alergedd i'r cynnyrch sy'n cael ei daenu.

Tapio**

Mae'r dechneg hon yn gofyn i'r therapydd ddal carreg yn erbyn y corff wrth dapio'r llall yn rhythmig gydag un arall i greu effaith ddirgrynu.

Twcio**

Gosod carreg gynnes mewn safle o dan ardal y corff ar ôl iddi gael ei defnyddio ar gyfer triniaeth megis pengliniau, coesau ac ysgwyddau.

Lleoli**

Lleoli carreg mewn safle penodol ar y corff neu oddi tan y corff.

Pwynt Sbarduno**

Pwysau parhaus dwfn gyda charreg ar un ardal i gyflawni rhyddhad o densiwn cyhyrol.

Clwt prawf thermol**

Mae hyn er mwyn gwirio bod tymheredd y cerrig poeth yn gyfforddus i'r cleient cyn parhau â'r driniaeth. ​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB28

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Therapydd Sba, Therapydd Tylino

Cod SOC


Geiriau Allweddol

therapi cerrig; tylino cerrig