Darparu tylino Indiaidd i'r pen
Trosolwg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu triniaeth tylino Indiaidd i'r pen. Mae'r gallu i addasu technegau tylino i gyd-fynd ag anghenion cleientiaid unigol a'r amgylchedd lle mae'r tylino yn digwydd yn ofyniad hanfodol. Mae'r gallu i ddarparu tylino Indiaidd i'r pen, gyda neu heb olewau hefyd yn ofynnol.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau tylino Indiaidd i'r pen
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau tylino Indiaidd i'r pen
3. cynnal triniaethau tylino Indiaidd i'r pen
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau tylino Indiaidd i'r pen**
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth
2. paratoi eich cleient a'ch hun er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant
3. sicrhau urddas a phreifatrwydd eich cleient bob amser
4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y driniaeth heb achosi anghysur iddynt
5. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill
sicrhau bod yr amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer y cleient a'r driniaeth
7. defnyddio dulliau gweithio sy'n osgoi'r risg o groes-heintio
8. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch
11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
12. cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau tylino Indiaidd i'r pen**
13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient
14. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw driniaeth
15. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
16. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
17. cynnal prawf sensitifrwydd i ganfod cyfaddasrwydd ar gyfer defnyddio olewau aromatherapi wedi'u cyn-gymysgu a chofnodi'r canlyniadau
18. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn unrhyw driniaeth
19. addasu eich gweithdrefnau paratoi i gyd-fynd â'r amgylchedd lle mae'r tylino yn digwydd
20. asesu nodweddion corfforol y cleient a chytuno ar amcanion y driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
Cynnal triniaethau tylino Indiaidd i'r pen**
21. darparu cefnogaeth briodol â chlustog i rannau gofynnol y corff yn ystod y driniaeth
22. addasu eich technegau tylino, trefn a chyfryngau tylino i fodloni nodweddion corfforol y cleient a'r ardaloedd i'w trin
23. amrywio dyfnder, rhythm a phwysau'r technegau tylino i fodloni amcanion y driniaeth, ardaloedd y driniaeth a nodweddion corfforol a hoffterau'r cleient
24. cyd-drefnu eich technegau anadlu gyda rhai'r cleient
25. cymryd camau adferol os bydd adweithiau neu anghysur yn digwydd yn ystod hynt y driniaeth
26. gwirio lles y cleient trwy gydol y driniaeth a chaniatáu digon o amser gwella ar ôl y driniaeth
27. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig ac yn bodloni amcanion triniaeth
y cytunwyd arnynt
28. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd
29. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu triniaethau tylino Indiaidd i'r pen**
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient
3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol
4. y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol ar eich cyfer chi a'ch eiddo
5. y rhesymau dros gynnal urddas a phreifatrwydd y cleient yn ystod y driniaeth
6. technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham mae'r rhain yn bwysig
7. yr amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis, gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig
8. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
9. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lân er mwyn osgoi croes-heintio
10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio'n ddiogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
11. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
13. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
14. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau tylino Indiaidd i'r pen**
15. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
16. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
17. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed
18. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol
19. pwysigrwydd cytuno ar driniaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
20. pwysigrwydd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y driniaeth
21. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
22. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth
23. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
24. y camau angenrheidiol mewn cysylltiad â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
25. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
26. sut i asesu'n weledol nodweddion corfforol y cleient
27. achosion namau a chyflyrau ystum y corff
28. meini prawf ar gyfer dewis techneg tylino ar gyfer cyflyrau croen, croen pen a gwallt gwahanol
29. gweithdrefn cynnal prawf sensitifrwydd croen cyn defnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod a chofnodi'r canlyniadau
30. y rhesymau dros gynnal prawf sensitifrwydd croen cyn defnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod a chofnodi'r canlyniadau
31. sut i baratoi'r driniaeth i gyd-fynd ag amgylcheddau gwaith gwahanol
Cynnal triniaethau tylino Indiaidd i'r pen**
32. rhannau'r corff sy'n gofyn am gefnogaeth â chlustog yn ystod y driniaeth a sut i'w darparu
33. defnyddio technegau tylino Indiaidd i'r pen i fodloni amcanion amrywiol y driniaeth
34. sut i addasu dilyniant, dyfnder a phwysau'r technegau tylino i gyd-fynd â phriodweddau corfforol y cleient, yr ardaloedd i'w trin a hoffterau'r cleient
35. sut gall cyd-drefnu eich technegau anadlu gyda rhai'r cleient gwella effeithlonrwydd y driniaeth
36. gwreiddiau a thraddodiadau tylino Indiaidd i'r pen ac Ayurveda
37. egwyddorion ac arferion pwyntiau marma a'u pwrpas
38. egwyddorion ac arferion y saith brif chakra a'u pwysigrwydd mewn cysylltiad â'r driniaeth tylino Indiaidd i'r pen
39. buddion y driniaeth tylino Indiaidd i'r pen
40. y camau adferol i'w cymryd os bydd gwrtharwyddion neu anesmwythdra yn digwydd yn ystod y driniaeth
41. anatomi a ffisioleg y pen, gwddf ac ysgwyddau
42. pam mae'n bwysig gwirio lles y cleient trwy gydol y driniaeth a chaniatáu amser adfer digonol ar ôl y driniaeth
43. y dulliau a ddefnyddir i werthuso effeithiolrwydd triniaethau tylino Indiaidd i'r pen.
44. y cyngor a'r argymhellion y dylech eu rhoi ar gynnyrch a thriniaethau i'ch cleient
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori**
1. holi
2. gwrando
3. edrych
4. teimlo
5. ysgrifenedig
Camau angenrheidiol**
1. annog y cleient i ofyn am gyngor meddygol
2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y driniaeth
3. addasu triniaeth
Nodweddion corfforol**
1. ystum
2. tyndra'r cyhyrau
3. oed
4. iechyd
5. cyflwr y croen
6. cyflwr y gwallt
7. cyflwr y croen pen
Amcanion y driniaeth**
1. ymlacio
2. ymdeimlad o les
3. ysbrydoledig
4. gwella cyflwr y gwallt a chroen y pen
Technegau tylino**
1. effleurage
2. petrissage
3. tapio
4. ffrithiant
5. aciwpwyso pwynt marma
Ardaloedd i'w trin**
1. wyneb
2. pen
3. brest ac ysgwyddau
4. breichiau a dwylo
5. cefn
6. chakras
Cyngor ac argymhellion**
1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol
4. cyngor ar ôl y driniaeth
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch**
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy**
1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. using disposable items
6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
7. defnyddio paent â chemegau isel
8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol**
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oed
4. anabledd
5. rhyw
Gwrtharwyddion sy'n atal
1. afiechydon heintus y croen
2. camweithrediad y system nerfol
3. meinwe craith diweddar
4. lympiau a chwyddiadau heb ddiagnosis
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu
1. mynd trwy driniaeth feddygol
2. clefyd siwgr nad yw dan reolaeth
3. epilepsi
4. pwysedd gwaed uchel/isel
5. hanes o thrombosis neu emboledd
6. meddyginiaeth
7. beichiogrwydd
8. tyllu rhannau o'r corff
9. briwiau a chrafiadau
10. yn ystod triniaeth ganser
Adweithiau**
1. cochni
2. hyperemia
3. adwaith alergaidd i gynnyrch
Anatomi a ffisioleg**
1. strwythur a swyddogaethau'r croen
2. strwythur, swyddogaeth, safle a gweithred y cyhyrau
3. safle a swyddogaeth yr esgyrn
4. strwythur a swyddogaeth system cylchrediad y gwaed
5. strwythur a swyddogaeth y system lymffatig
6. egwyddorion sylfaenol y system nerfol ganolog a'r system nerfol awtonomig
7. egwyddorion sylfaenol y systemau endocrinaidd, anadlol, arogleuol, treulio ac ysgarthol
Cyngor ac argymhellion**
1. triniaethau ychwanegol
2. cynnyrch ychwanegol
3. ffactorau a newidiadau ffordd o fyw a allai fod yn ofynnol i wella effeithiolrwydd y driniaeth megis diet, ymarfer, straen a chwsg
4. cyfyngiadau ar ôl y driniaeth ac anghenion triniaeth yn y dyfodol
5. mae'r cyngor ar ôl y driniaeth yn cynnwys yfed digon o ddŵr ac ymlacio
6. cyfnodau o amser rhwng triniaethau
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd gweithio hyblyg
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Ayurveda**
System iachusol Indian Ayurvedic hynafol sy'n cyfuno therapïau a chwmpasu'r meddwl, corff a'r ysbryd.
Chakras**
Mae'r gair hynafol Sansgrit 'chakra' yn golygu 'olwyn egni'. Mae chakras yn gweithredu fel cyswllt rhwng y corff emosiynol a chorfforol.
Pwyntiau Marma**
Pwyntiau egni hanfodol a ddiffinnir fel safle anatomegol lle mae cnawd, gwythiennau, rhydwelïau, gewynnau, esgyrn a chymalau yn cwrdd. Gweithredir tylino aciwpwysol ar y pwyntiau egni hanfodol hyn. Mae'r gair hynafol Sansgrit 'marma' yn golygu cudd neu ddirgel.