Cyflawni tylino gydag olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod

URN: SKABT17
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Therapi Sba
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymdrin â'r sgiliau sy'n gysylltiedig â pharatoi cleientiaid ar gyfer tylino gydag olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod, a'i ddarparu. Mae'r gallu i addasu defnydd yr olewau wedi'u cymysgu'n barod a'r technegau tylino i fodloni anghenion cleient unigol yn hanfodol.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu tylino gydag olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod

2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod

3. tylino'r corff gydag olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu tylino gydag olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod**

1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y driniaeth

2. paratoi eich cleient a'ch hun er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a'r diwydiant

3. cynnal urddas a phreifatrwydd y cleient bob amser

4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni gofynion y driniaeth

5. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill

6. sicrhau bod yr amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer y cleient a'r driniaeth

7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

8. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch

11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

12. cynnal y driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod**

13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun triniaeth y cleient

14. sicrhau caniatâd gwybodus wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw driniaeth

15. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

16. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol

17. cynnal prawf sensitifrwydd croen i ganfod cyfaddasrwydd ar gyfer defnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod a chofnodi'r canlyniadau

18. cytuno ar yr amcanion triniaeth a'r canlyniadau gyda'r cleient sy'n bodloni eu hanghenion

19. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn unrhyw driniaeth

20. asesu nodweddion corfforol y cleient i bennu cynllun triniaeth

21. dewis olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod sydd yn bodloni amcanion y driniaeth ac anghenion y cleient

Tylino'r corff gydag olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod**

22. darparu cefnogaeth i a chlustogi ardaloedd priodol y corff yn ystod y driniaeth

23. addasu eich technegau tylino, dilyniant a defnydd olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod i fodloni nodweddion corfforol y cleient a'r ardaloedd triniaeth

24. amrywio dyfnder, rhythm a phwysau'r symudiadau tylino i fodloni amcanion y driniaeth, ardaloedd y driniaeth a nodweddion corfforol a hoffterau'r cleient

25. cyd-drefnu technegau anadlu gyda rhai'r cleient

26. cadarnhau lles eich cleient drwy'r driniaeth a chaniatáu amser adfer digonol ar ôl y driniaeth

27. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig a'u bod yn fodlon â'r amcanion triniaeth y cytunwyd arnynt

28. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y driniaeth a ddarparwyd

29. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu tylino gydag olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod**

1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient

3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol

4. eich cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu awdurdod lleol drosoch eich hunan a'ch lleoliad

5. y rhesymau dros gynnal urddas a phreifatrwydd yn ystod y driniaeth

6. technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham ei bod hi'n bwysig defnyddio'r rhain

7. amodau amgylcheddol sy'n angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis, gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig

8. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

9. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lân er mwyn osgoi croes-heintio

10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gweithio'n ddiogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

11. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

13. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

14. y rhesymau dros gwblhau'r driniaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod**

15. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

16. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

17. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed

18. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol

19. pwysigrwydd cytuno gyda'r client ar y driniaeth sy'n bodloni ei anghenion

20. pwysigrwydd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y driniaeth

21. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

22. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y driniaeth

23. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

24. y camau angenrheidiol mewn cysylltiad â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

25. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

26. y weithdrefn ar gyfer cynnal prawf sensitifrwydd croen cyn defnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod a chofnodi'r canlyniadau

27. y rhesymau dros gynnal prawf sensitifrwydd croen cyn defnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod a chofnodi'r canlyniadau

28. sut i asesu nodweddion corfforol y cleient wrth edrych

29. achosion namau a chyflyrau ystum y corff

30. sut i baru olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod gyda mathau a chyflyrrau croen gwahanol ac amcanion y triniaethau

31. y mathau o olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod sydd ar gael, eu pwrpas a'u priodweddau buddiol

Tylino'r corff gydag olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod**

32. rhannau'r corff a allai fod angen cefnogaeth a chlustogi yn ystod y driniaeth a sut i'w darparu

33. defnyddio a thaenu technegau tylino i fodloni amryw o amcanion triniaeth

34. sut i addasu dilyniant, dyfnder a phwysau'r tylino i gyd-fynd â nodweddion corfforol y cleient, amcanion y driniaeth, yr ardaloedd i'w trin a hoffterau'r cleient

35. rhannau'r corff a nodweddion y corff sydd angen gofal arbenning wrth dylino gydag olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod

36. manteision cyd-drefnu eich technegau anadlu gyda rhai'r cleient

37. sut i ddefnyddio, storio a chynnal olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod

38. cyfyngiadau defnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod a phryd i gyfeirio cleientiaid at aromatherapydd clinigol

39. y camau adferol i'w cymryd os bydd gwrtharwyddion neu anesmwythdra yn digwydd yn ystod y driniaeth

40. pam mae'n bwysig gwirio lles y cleient trwy gydol y driniaeth a chaniatáu amser adfer digonol ar ôl y driniaeth

41. anatomi a ffisioleg y corff

 42. effeithiau corfforol a seicolegol tylino gydag olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod

43. y dulliau a defnyddir i werthuso effeithiolrwydd tylino gydag olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod

44. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau i'ch cleient


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori**

1. holi

2. gwrando

3. edrych

4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol**

1. annog y cleient i ofyn am gyngor meddygol

2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y driniaeth

3. addasu triniaeth

Nodweddion corfforol**

1. math o gorff

2. ystum

3. tyndra'r cyhyrau

4. oed

5. iechyd

6. cyflwr y croen

Amcanion y driniaeth**

1. ymlacio

2. ymdeimlad o les

3. ysbrydoledig

4. bywhaol

Technegau tylino**

1. effleurage

2. petrissage

3. tapio

4. gwasgbwynt

Ardaloedd i'w trin**

 1. wyneb

2. pen

3. brest ac ysgwyddau

4. breichiau a dwylo

5. abdomen

6. cefn

7. ffolennau

8. coesau a thraed

Cyngor ac argymhellion**

1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

3. cynnyrch a thriniaethau yn awr ac yn y dyfodol

4. cyngor ar ôl y driniaeth


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch**

1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy**

1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

4. atal llygredd

5. defnyddio eitemau untro

6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

7. defnyddio paent â chemegau isel

8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol**

1. diwylliannol

2. crefyddol

3. oed

4. anabledd

5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal**

 1. afiechydon heintus y croen

2. camweithrediad y system nerfol

3. meinwe craith diweddar

4. lympiau a chwyddiadau heb ddiagnosis

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu**

1. mynd trwy driniaeth feddygol

2. clefyd siwgr nad yw dan reolaeth

3. epilepsi

4. pwysedd gwaed uchel/isel

5. hanes o thrombosis neu emboledd

6. meddyginiaeth

7. beichiogrwydd

8. tyllu rhannau o'r corff

9. briwiau a chrafiadau

10. yn ystod triniaeth ganser

Adweithiau**

1. cochni

2. hyperemia

3. alergedd i olewau aromatherapi wedi'u cymysgu'n barod

Anatomi a ffisioleg**

1. strwythur a swyddogaeth celloedd a meinweoedd

2. strwythur, swyddogaeth a gwahanol fathau o gyhyrau

3. safleoedd a gweithredoedd prif grwpiau cyhyrau a adnabuwyd o fewn ardaloedd i'w trin yn y corff

4. safle a swyddogaeth prif esgyrn a chymalau'r sgerbwd

5. sut i adnabod diffygion a chyflyrau'r ystum

6. strwythur a swyddogaeth y system cylchrediad y gwaed

7. strwythur a swyddogaeth y system lymffatig

8. egwyddorion sylfaenol y system nerfol ganolog a'r system awtonomig

9. egwyddorion sylfaenol y systemau endocrinaidd, anadlol (yn cynnwys sinysau a blwb arogli), treulio ac ysgarthiol

10. strwythur a swyddogaethau'r croen

11. strwythur a lleoliad y meinwe bloneg

Corfforol a seicolegol**

Effeithiau corfforol:

1. ymlacio cyhyrau

2. sbarduno systemau cylchrediad y gwaed a'r system lymffatig

3. yn tawelu neu'n sbarduno ffibrau nerfol

Effeithiau seicolegol:

1. rhyddhau straen a thensiwn

2. gwell lles cyffredinol

3. tawelu ac ymlacio

Cyngor ac argymhellion**

1. triniaethau ychwanegol

2. cynnyrch ychwanegol

3. ffactorau a newidiadau ffordd o fyw a allai fod yn ofynnol i wella effeithiolrwydd y driniaeth megis deiet, ymarfer, straen a chwsg

4. cyfyngiadau ar ôl y driniaeth ac anghenion triniaeth yn y dyfodol

5. mae'r cyngor ar ôl y driniaeth yn cynnwys yfed digon o ddŵr ac ymlacio

6. cyfnodau o amser rhwng triniaethau​


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. parodrwydd i ddysgu

2. agwedd weithio hyblyg

3. gweithiwr tîm

4. agwedd bositif

5. moeseg bersonol a phroffesiynol​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.​


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

1. y gallu i hunan-reoli

2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad​


Geirfa

Mathau o gorff**

Mae ectomorff yn aml islaw'r pwysau cyfartalog am eu taldra a bydd ganddynt ymddangosiad tenau. Mae ectomorffau yn dueddol o fod â metabolaeth uchel iawn ac yn aml yn cwyno o fwyta di-baid heb fagu unrhyw bwysau neu ychydig iawn o bwysau.

Mae'r math o gorff endomorffig i'r gwrthwyneb yn llwyr i'r ectomorff.

Bydd yr unigolyn fel arfer yn fwy ei ymddangosiad gyda

chroniad braster trymach ac ychydig iawn o ddiffiniad i'r cyhyrau. Maen nhw'n ei chael hi'n anodd colli pwysau, hyd yn oed pan fyddant ar ddiet ac yn ymarfer.

Mae gan mesomorff gorff mwy cyhyrol a thenau ac mae rhywle rhwng ectomorff ac endomorff ac felly'n arddangos rhinweddau'r ddau. Hwyrach fod ganddynt ffrâm fwy na'r endormoff ond canran braster y corff is na'r ectomorff. Yn aml dyma'r math o gorff y mae pawb ei eisiau.

Aromatherapydd clinigol**

Ymarferydd cymwys sy'n gallu dewis olewau naws a'u cymysgu gydag olewau cludoyn er mwyn trin afiechydon corfforol a seicolegol.

Prawf sensitifrwydd croen**

Mae'r prawf hwn yn pennu a oes gan y cleient alergedd i'r cynnyrch sy'n cael ei daenu.

Cynllun triniaeth**

Y camau neu'r cynllun yr ydych yn bwriadu eu dilyn wrth roi triniaeth arbennig. Mae cynnwys sylfaenol y cynllun triniaeth yn cynnwys yr ardaloedd i'w trin, y math o driniaeth, cynnyrch a/neu offer i'w defnyddio, gwrtharwyddion hysbys, adweithiau, cyngor ar y driniaeth, llofnod y cleient ac adborth y cleient.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB24

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Therapydd Sba, Therapydd Tylino

Cod SOC


Geiriau Allweddol

tylino; wedi'u cyn-gymysgu; aromatherapi; olewau