Cynllunio a darparu colur chwistrell baent
Trosolwg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu colur chwistrell baent ar gyfer y wyneb a'r corff. Bydd angen i chi ddangos eich bod chi'n gallu cynnal amrywiaeth o gynlluniau a thechnegau colur chwistrell baent. Mae angen y gallu hefyd i ddefnyddio ystod o gynnyrch chwistrell baent. Mae defnydd a chynnal cywir ar y cyfarpar yn agwedd hanfodol o'r safon hon.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu colur chwistrell baent
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer colur chwistrell baent
3. taenu colur chwistrell baent
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu colur chwistrell baent**
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
3. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth
4. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill
5. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth
6. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
8. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch
11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
12. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer colur chwistrell baent**
13. defnyddio technegau ymgynghori i bennu'r cynllun chwistrell baent ac ardal daenu
14. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth
15. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
16. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol
17. adnabod a chytuno gyda'r cleient gynllun sy'n bodloni eu hanghenion
18. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y colur chwistrell baent
19. sicrhau bod y croen yn lân cyn taenu'r colur chwistrell baent
20. dewis colur chwistrell baent i gyd-fynd â math o groen a chyflwr croen y cleient a'r cynllun chwistrell baent y cytunwyd arno
21. profi'r gwasgedd aer a gweithrediad y gwn chwistrellu cyn ei ddefnyddio
Taenu colur chwistrell aer**
22. defnyddio cyfarpar, colur chwistrell baent ac adnoddau i fodloni'r cynllun y cytunwyd arno
23. defnyddio technegau chwistrell baent i gyflawni'r effaith ddymunol
24. taenu colur chwistrell baent yn y drefn ofynnol
25. defnyddio technegau sy'n isafu ar risg o gynnyrch yn lledaenu y tu hwnt i'r ardal driniaeth
26. addasu gwasgedd aer i gyd-fynd â'r ardal daenu
27. gorffen y taenu gan ddefnyddio colur confensiynol
28. sicrhau bod pob elfen o'r colur yn cyfuno i ategu ei gilydd a chyflawni'r edrychiad dymunol a'r cynllun y cytunwyd arno
29. selio'r cynllun colur gorffenedig yn ôl yr angen
30. rhoi cyngor ac argymhellion i'r cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
31. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu colur chwistrell baent**
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer amddiffyn a pharatoi cleient
3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun
4. technegau gosod eich hun a'r cleient mewn safle diogel i atal anghysur
5. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis, gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig
6. pam mae hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
7. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
8. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lân er mwyn osgoi'r risg o groes-heintio
9. gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
11. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
12. gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
13. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer colur chwistrell baent**
14. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
15. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
16. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed
17. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol
18. pwysigrwydd cytuno i wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
19. pwysigrwydd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y gwasanaeth
20. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
21. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth
22. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
23. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
24. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
25. sut i adnabod gwahanol fathau o groen, nodweddion a chyflyrau
26. sut i ddewis a pharu colur chwistrell baent i gyd-fynd â gwahanol fathau o groen ac arlliwiau croen
27. pam mae'n rhaid gwirio a phrofi cyfarpar chwistrell baent cyn eu defnyddio
Taenu colur chwistrell baent**
28. y gwahanol fathau o gynnyrch a chyfarpar chwistrell baent sydd ar gael
29. egwyddorion sylfaenol theori lliw cyflenwol
30. dewis, asio a chymysgu cynnyrch chwistrell baent
31. defnydd ac effeithiau gwahanol dechnegau chwistrell baent
32. ystyr PSI a'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â defnydd ar gyfarpar chwistrell baent dan wasgedd
33. sut i greu gwahanol effeithiau trwy amrywio'r PSI
34. sut y gall pellter a gwasgedd effeithio ar orchudd a dwyster y lliw
35. yr achlysuron pan fyddai'n well defnyddio technegau colur confensiynol
36. pryd i adael rhai ardaloedd o'r wyneb wrth ddefnyddio technegau chwistrell baent
37. y dulliau a ddefnyddir i lanhau a chynnal cyfarpar ac ategolion chwistrell baent
38. y mathau o broblemau a all ddigwydd yn ystod taenu colur chwistrell baent a sut i'w cywiro
39. adweithiau posibl a allai ddigwydd yn ystod chwistrellu paent a sut i ddelio â hwy
40. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
41. cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori**
1. holi
2. gwrando
3. edrych
4. teimlo
5. ysgrifenedig
Cynllun chwistrell baent**
1. amlinellu
2. tatŵio
3. 3D
4. colur ffasiwn
5. ffantasi
6. colur naturiol
Ardal i'w thaenu**
1. wyneb
2. gwallt
3. corff
Camau angenrheidiol**
1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol
2. esbonio pam nad oedd modd cynnal y gwasanaeth
3. addasu'r gwasanaeth
Colur chwistrell baent**
1. â sylfaen silicon
2. â sylfaen ddŵr
3. â sylfaen alcohol
Adnoddau**
1. tap masgio
2. stensiliau
3. brwshys
4. cywasgwr
5. gwn aer a phibell
6. cyfarpar amddiffyn personol
Technegau chwistrell baent**
1. pylu lliw
2. asio
3. goleuo ac arlliwio
4. stensilio
5. masgio
6. llaw rydd
7. gwyntyllu
8. byrlymu cefn
9. golchi lliw cyfartal
Cyngor ac argymhellion**
1. cynnyrch ôl-ofal a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol
4. gweithdrefnau tynnu colur
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch**
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gweithio amgylcheddol a chynaliadwy**
1. lleihau gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. lleihau'r defnydd ynni (offer ynni effeithlon, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. lleihau'r defnydd o ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. defnyddio eitemau untro
6. defnyddio dodrefn ecogyfeillgar, wedi'u hailgylchu
7. defnyddio paent â lefelau isel o gemegau
8. defnyddio cynnyrch organig gwrth-alergedd
9. defnyddio deunydd pecynnu sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd
10. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
11. annog teithiau lleihau carbon i'r gwaith
Anghenion amrywiol**
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oedran
4. anabledd
5. rhyw
Gwrtharwyddion**
1. crafiadau
2. clwyfau agored
3. brechau
4. pwythau
5. asthma
6. cyflyrau bronciol
7. clawstroffobia
Cyngor ac argymhellion**
1. cynnyrch ôl-ofal a'u defnydd
2. gwasanaethau ychwanegol
3. gweithdrefnau tynnu colur
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd gweithio hyblyg
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
PSI**
Talfyriad o 'Pound per Square Inch' yn ymwneud â'r gwasgedd aer sy'n dod o'r cywasgydd trwy'r gwn ar y croen. Bydd hyn yn cael ei addasu yn unol â'r gorchudd gofynnol a safle a maint yr ardal.