Darparu gwasanaethau cuddliwio arbenigol
Trosolwg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaethau cuddliwio croen arbenigol i fynd i'r afael ag ystod eang o gyflyrau, i adfer arlliw'r croen i gyd-fynd ag arlliw croen nad yw wedi'i effeithio. Mae hefyd yn ymdrin â defnyddio amrywiaeth o gynnyrch cuddliwio arbenigol, ynghyd â chyfarwyddyd cleient wrth daenu, cynnal a thynnu cuddliw eu croen eu hunain.
Er mwyn cynnal y safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu cuddliw croen arbenigol
2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer cuddliw croen arbenigol
3. cynnal cuddliw croen arbenigol
4. cyfarwyddo a chynghori'r cleient ar dechnegau cuddliw croen
5. gwerthuso llwyddiant y cyfarwyddyd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu cuddliw croen arbenigol**
1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
3. parchu urddas, preifatrwydd ac unrhyw sensitifrwydd yn eu hymddangosiad personol y cleient
4. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth heb achosi anghysur iddynt
5. sicrhau bod eich ystum a'ch dulliau gwaith eich hun yn isafu ar flinder a risg o anaf i'ch hun ac eraill
6. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth
7. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
8. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
9. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
10. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
11. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar ddefnydd diogel o gyfarpar, deunydd a chynnyrch
12. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
13. cwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer cuddliwio croen arbenigol**
14. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient
15. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth
16. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
17. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol
18. adnabod a chytuno ar anghenion cuddliwio'r croen a'r ardal i'w chuddliwio gyda'r cleient
19. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth
20. sicrhau bod y cleient yn deall cyfyngiadau cuddliwio'r croen
Cynnal cuddliwio croen arbenigol**
21. taenu cynnyrch gofal croen cydnaws a lliw cyflenwol cyn taenu cuddliw'r croen
22. defnyddio offer taenu, technegau a chynnyrch cuddliw sydd yn cyd-fynd orau â'r cleient â'u hanghenion cuddliw croen
23. sefydlu lliw derbyniol i gyd-fynd â'r ardal i'w chuddliwio i adfer lliw'r croen i'r arlliw croen amgylchynol
24. sicrhau bod cynnyrch cuddliw yn cael eu taenu i gyflawni'r dwyster, lliw ac effaith gofynnol
25. taenu cynnyrch gofal croen a chosmetig cydnaws ar ôl taenu cuddliw croen
26. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
27. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Cyfarwyddo a chynghori'r cleient ar dechnegau chuddliwio croen**
28. trafod ac argymell cynnyrch cuddliw ac offer a thechnegau taenu i fodloni anghenion cuddliwio croen y cleient
29. dangos sut i daenu ar yr ardal i'w cuddliwio a gwirio dealltwriaeth y cleient
30. defnyddio technegau cyfarwyddol sy'n cael eu cyflwyno ar gyflymder sy'n addas i'r cleient
31. tywys y cleient trwy hunan-daenu a thynnu cynnyrch cuddliw'r croen
32. tywys y cleient ar sut i ddewis a thaenu cynnyrch cosmetig a gofal croen cydnaws, i'w defnyddio o dan neu ar ben eu cuddliw
33. rhoi amser i'r cleient ymarfer technegau cuddliwio croen ar ei hun
34. rhoi cyfleoedd i'r cleient roi adborth, gofyn cwestiynau a cheisio eglurhad
35. atgoffa'r cleient o'r angen i geisio barn feddygol os yw unrhyw anafiadau, mannau geni neu gyflyrau yn newid
36. atgoffa'r cleient y dylent roi'r gorau i ddefnyddio'r cynnyrch cuddlliw hyd nes bod barn feddygol wedi'i cheisio
Gwerthuso llwyddiant y cyfarwyddyd**
37. gofyn i'ch cleient wneud gwerthusiad o'u dysg eu hunain a rhoi unrhyw gyfarwyddyd ychwanegol i fodloni eu hanghenion
38. gofyn cwestiynau i'ch cleient ar gyflwyniad y broses gyfarwyddo a chofnodi'u hadborth
39. defnyddio adborth cleient i wneud gwelliannau i'ch technegau a chyflwyno cyfarwyddyd cuddliw croen eich hun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu cuddliw croen arbenigol**
1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer paratoi cleient
3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol eich hun
4. technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel ar gyfer taenu'r cuddliw croen gorau
5. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau megis, gwresogi ac awyru, a pham mae'r rhain yn bwysig
6. pam mae hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
7. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
8. dulliau gweithio'n ddiogel ac yn lân er mwyn osgoi'r risg o groes-heintio
9. gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
10. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
11. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar ddefnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
12. gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
13. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer cuddliw croen arbenigol**
14. pam mae'n bwysig cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
15. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
16. y gofynion cyfreithiol dros ddarparu triniaeth i blant sy'n iau na 16 oed
17. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hyn yn amrywio'n genedlaethol
18. pwysigrwydd cytuno i wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
19. pwysigrwydd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient i gynnal y gwasanaeth
20. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
21. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth
22. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
23. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
24. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
25. pam mae'n bwysig osgoi technegau cwestiynu busneslyd
26. pam mae'n bwysig parchu urddas, preifatrwydd ac unrhyw sensitifrwydd yn ymwneud â'u hymddangosiad eu hunain y cleient
27. eich cyfyngiadau eich hunain wrth ddelio gyda chleientiaid sydd angen gwasanaethau cuddliwio croen arbenigol
28. pam mae angen i gleientiaid werthfawrogi cyfyngiadau eu cuddliw croen a chael disgwyliadau realistig o ganlyniad y cuddliwio
Cynnal cuddliw croen arbenigol**
29. pam mae'n bwysig profi ar ardal fach i weld a yw'r lliw yn gweddu
30. rhesymau dros daenu lliw cyflenwol cyn paru'r croen
31. ystod ac argaeledd cynnyrch cuddliw croen a ble y gellir cael gafael arnynt
32. dewis a thaenu cynnyrch i fodloni anghenion cyflyrau unigol
33. egwyddorion theori lliw
34. priodoleddau a chyfyngiadau cynnyrch cuddliw croen
35. y gwahanol nodweddion mewn cynnyrch cuddliw croen
36. cydnawsedd a chyfyngiadau cynnyrch cosmetig a gofal croen eraill a ddefnyddir ar y cyd gyda chuddliw croen
37. cydnawsedd a chyfyngiadau triniaethau eraill a ddefnyddir ar y cyd â chuddliw croen
38. gwahanol fathau o groen a nodweddion croen
39. adeiladwaith a swyddogaethau'r croen
40. achosion ac ymddangosiad cyflyrau croen sy'n debyg o fod angen eu cuddliwio
41. goleusensitifedd y croen a sut mae'n gwahaniaethu gyda gwahanol grwpiau croen megis System Ddosbarthu Fitzpatrick
42. priodoleddau gwahanol fathau o feinwe craith
43. pwysigrwydd deall cyflyrau megis dysmorffia corff
44. effeithiau seicolegol delwedd newidiol ar y cleient
45. yr ymdriniaeth seicolegol gywir wrth weithio gyda phobl sydd angen cuddliw croen
46. yr adweithiau posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid
47. buddion cadw'ch deunydd cyfeirio'ch hun ar daenu cuddliw a chyflyrau
Cyfarwyddo, cynghori a gwerthuso'r gwasanaeth**
48. sut i gynllunio sesiynau cyfarwyddo cuddliw croen
49. dulliau cyflwyno gwybodaeth a chyfarwyddiadau
50. dulliau dangos technegau taenu cuddliw croen a defnyddio offer a chyfarpar
51. sut i baru'r cyfarwyddyd gydag anghenion dysgu'r cleient wrth daenu cuddliw croen
52. ffyrdd o wirio dealltwriaeth y cleient a'u gallu i daenu cuddliw croen ar eu hunain
53. sut i addasu a theilwra'ch cyfarwyddyd cuddliw croen i fodloni anghenion unigol
54. cyngor ôl-ofal ar gadw, cynnal a thynnu cuddliw croen
55. y cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
56. gwahanol ddulliau o werthuso llwyddiant gweithgareddau cyfarwyddyd cuddliw croen
57. dulliau mwyaf addas o sicrhau a chofnodi adborth o weithgareddau cyfarwyddyd cuddliw croen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori**
1. holi
2. gwrando
3. edrych
4. teimlo
5. ysgrifenedig
Camau angenrheidiol**
1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol
2. esbonio pam nad oedd modd taenu'r cuddliw
3. addasu'r gwasanaeth cuddliw
Anghenion cuddliw**
1. tatŵs
2. meinwe craith atroffig
3. meinwe craith hypertroffig
4. meinwe craith celoid
5. gorbygmentiad
6. hypobygmentiad
7. cochni
8. cleisio
Ardal i'w chuddliwio**
1. pen neu wddf
2. brest neu ysgwyddau
3. aelodau
4. cefn
5. abdomen
Offer taenu**
1. brwshys
2. bysedd
3. sbyngau
4. pyffiau felôr
Cynnyrch cuddio**
1. hufenau cuddio
2. powdrau cuddio
3. cynnyrch gosod
4. staenau croen
Cyngor ac argymhellion**
1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
3. parhad a thynnu cynnyrch cuddliwio
4. anghenion triniaeth yn y dyfodol
Technegau hyfforddi**
1. arddangos sgiliau
2. esboniad ar lafar
3. defnyddio cyfarwyddiadau ysgrifenedig
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch**
1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd
9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy**
1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
4. atal llygredd
5. defnyddio eitemau untro
6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
7. defnyddio paent â chemegau isel
8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol**
1. diwylliannol
2. crefyddol
3. oed
4. anabledd
5. rhyw
Gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu**
1. crafiadau
2. clwyfau agored
3. brechau
4. pwythau
Gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol**
1. newidiadau strwythurol yn yr ardal i'w cuddliwio
2. anafiadau amheus, gan gynnwys mannau geni
3. heintiau
4. cyflyrau croen heb ddiagnosis clinigol
Triniaethau eraill**
1. triniaeth leol
2. triniaethau meddygol
3. triniaeth therapi harddwch
4. triniaeth therapi cyfannol
Cyflyrau croen y mae'n debyg y bydd angen eu cuddliwio**
1. hypobygmentiad megis fitiligo
2. olion beichiogi
3. gorbigmentiad megis melasma
4. smotiau oed
5. cochni megis acne rhosynnaidd
6. gwythiennau edau
7. creithiau
Cyflwyno gwybodaeth a chyfarwyddiadau**
1. yn ddarluniadol
2. ar lafar
3. dilyniant rhesymegol
4. cyflwyno symiau bach o wybodaeth ar y tro
Cyngor ac argymhellion**
1. gwasanaethau ychwanegol
2. cynnyrch ychwanegol
3. cynnyrch eraill y gellir eu defnyddio ar y cyd gyda chuddliwio croen
4. cynnyrch/sylweddau/amgylcheddau y dylid eu hosgoi
5. cynnal cynnyrch cuddliw
6. tynnu cynnyrch cuddliw
7. cynnyrch i'w defnyddio yn y cartref
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. parodrwydd i ddysgu
2. agwedd gweithio hyblyg
3. gweithiwr tîm
4. agwedd bositif
5. moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
9. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
1. y gallu i hunan-reoli
2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Meinwe craith atroffig**
Meinwe craith sydd islaw'r croen amgylchynol; craith fylchog.
Nodweddion cynnyrch cuddliw croen**
Effeithiau cadarnhaol defnyddio cynnyrch cuddliw, megis gwrth-ddŵr ac atal haul.
Cochni**
Cochni i'r croen a achosir gan enyniad, neu anaf i'r meinwe.
System Ddosbarthiad Fitzpatrick**
Fe'i dyfeisiwyd ym 1975 ym Mhrifysgol Harvard, mae hon yn system ddosbarthu'r croen, sy'n cael ei mesur ar raddfa o 1 i 6, wedi'i seilio at adwaith ffotosensitifrwydd i ymbelydredd uwch fioled.
Meinwe craith hypertroffig**
Meinwe craith sy'n uwch na'r croen amgylchynol; craith ymwthiol.
Gorbygmentiad**
Lliwiad gormodol o gymharu â'r croen amgylchynol oherwydd melanin gormodol (er enghraifft smotiau oed, brychni, olion beichiogi, lliw haul, melasma a chloasma).
Hypobygmentiad**
Colli lliwiad o'i gymharu ag ardal y croen amgylchynol (er enghraifft lewcoderma, olion beichiogi, creithiau, fitiligo).