Darparu triniaethau lles a holistig therapiwtig gan gymysgu olewon hanfodol
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Harddwch sy'n darparu triniaethau therapiwtig, lles a holistig gan ddefnyddio olewon hanfodol wedi eu cymysgu. Bydd technegau yn cynnwys y sylfaen gymysgu, olewon canol ac uchaf er mwyn creu profiadau a thriniaethau therapiwtig. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Darparu triniaeth therapiwtig lles a holistig treatment gan gymysgu olewon
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol, i gynnwys:
3.1 alergeddau y gwyddir amdanynt
3.2 hanes triniaethau
3.3 hanes profiad
3.4 gweithgareddau diweddar
3.5 y gyfundrefn gyfredol ar gyfer gofal o'r croen
3.6 proffil y ffordd o fyw
3.7 dewisiadau triniaeth amgen
4. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol arfaethedig, i gynnwys:
4.1 canlyniadau disgwyliedig
4.2 gwrth-weithredoedd
4.3 adweithiau niweidiol
**4.4 teimlad corfforol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant
- gwneud prawf(profion) o flaen y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen
7. paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol, i gynnwys:
7.1 cadw'r unigolyn yn gyfforddus a chadw ei urddas
8. gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen, i gynnwys:
8.1 dosbarthiad o'r math o gorff a nodweddion y corff
**8.2 dadansoddiad o’r ystumiau
- dewis a chymysgu'r olewon hanfodol o fewn cludwr i greu cyfrwng tylino yn unol â'r protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol, i gynnwys:
9.1 edrych i weld pa mor gydnaws yw'r unigolyn gydag arogl yr olewon wedi eu cymysgu
Profiad
10. taenu'r olewon hanfodol er mwyn creu naws ac awyrgylch sy'n cydfynd ag anghenion yr unigolyn
Tylino
cynnal technegau anadlu dwfn gyda'r unigolyn
dodi'r olewon aromatherapi sydd wedi eu cymysgu a gwneud y tyliniad gan ddefnyddio technegau tylino therapiwtig fel ag y cytunwyd yn y protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol, i gynnwys:
12.1 cadw eich ystumiau a'ch safiad eich hun
gwirio pwysedd, rhythm a llif y tylino gyda'r unigolyn ac addasu'r technegau tylino therapiwtig yn unol ag anghenion yr unigolyn
monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol
15. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol a gweithredu'n briodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol amdanoch chi eich hun a'ch adeilad
pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
y defnydd o a chyfyngiadau triniaethau a/neu phrofiadau olewon hanfodol, mewn perthynas â'r canlynol:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw
7.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.4 disgwyliadau'r unigolyn
8. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â thriniaethau a/neu phrofiadau olewon hanfodol a sut i ymateb
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol
pam bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol
y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus
12. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
13. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol
- pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol
15. sut i wneud profion cyn triniaeth a'u dehongli
16. pa mor aml dylid darparu triniaethau a/neu phrofiadau olewon hanfodol a’r effaith gallant ei gael ar iechyd a lles yr unigolyn proffesiynol, i gynnwys:
16.1 ffyrdd y gellir osgoi risgiau i iechyd a lles
16.2 osgoi anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith
16.3 cadw eich lles personol chi
- pwysigrwydd cadw ystum a safiad eich corff drwy gydol triniaeth dylino olewon hanfodol, i gynnwys:
17.1 sut mae'n effeithio ar gefnogaeth, llif ac effeithiolrwydd y driniaeth
- cadw'r unigolyn yn gyfforddus a gofalu amdano/i drwy gydol y driniaeth yn unol â'r driniaeth olewon hanfodol, i gynnwys:
18.1 sicrhau bod yr amgylchedd yn fodd o hybu tawelwch neu ysgogiad o ganfyddiadau amlsynhwyrol y corff unol â'r protocol triniaeth olewon hanfodol
pam bod hi'n bwysig nodi diffygion a chyflyrau ystumiol yr unigolyn a sut ellir eu gwella
pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
y grwpiau o olewon hanfodol a'u heffeithiau ar anhwylderau cyffredin, i gynnwys:
22.1 y mathau o olewon hanfodol a'u risgiau cysylltiedig sy'n gysylltiedig â gwenwyndra
y gwahanaeth rhwng olewon hanfodol sylfaen, canol a note uchaf
pan bod angen sylfaen, canol a notes uchaf i gyd mewn cymysgfa aromatherapi, i gynnwys:
24.1 y gymhareb a argymhellir ar gyfer ymarferion diogel ac i rwystro gwenwyndra
sut i gadw, trin, defnyddio a chael gwared o olewon hanfodol
y mathau o, manteision a chyfyngiadau rhag-driniaethau a ddefnyddir, cyn tyliniad sy'n defnyddio triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol
y mathau o, manteision a chyfyngiadau technegau tylino therapiwtig o fewn tyliniad â dwylo sy'n defnyddio olewon hanfodol, i gynnwys :
27.1 manteision cysylltiedig ac osgoi anafiadau sy'n gysylltidig â gwaith
27.2 risgiau cysylltiedig a sut i ymateb iddynt
- y mathau o dyliniad â dwylo sy'n defnyddio olewon hanfodol a/neu brofiad a'u heffeithiau
29. sut i ddefnyddio olewon hanfodol o fewn triniaethau a/neu phrofiadau a sut ellir eu haddaso i greu effeithiau therapiwtig
sut i baratoi a defnyddio cynnyrch a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaethau a/neu phrofiadau olewon hanfodol
pam ei bod yn bwysig egluro'r broses driniaeth a'r teimlad a ddaw yn ei sgil i'r unigolyn
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
pwysigrwydd rhoi amser i'r unigolyn i ymadfer ar ôl triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol
34. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol
canlyniadau disgwyliedig triniaethau a/neu phrofiad olewon hanfodol
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
38. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol a’r gwerthusiad ohonynt
- y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol
Cwmpas/ystod
Proffil ffordd o fyw
- geneteg
- ymborth
- galwedigaeth
- cwsg
- lles
- lefel straen
Adweithiau niweidiol
- gwaedu
- cleisio
- alergedd
- ymateb iachau gormodol
*
*Protocol triniaeth a/neu phrofiad olewon hanfodol
amgylchedd waith
iechyd a diogelwch
atal a rheoli haint
cynllun triniaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
canlyniadau profion
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol
*
**
**
**
**
**
**
*Nodweddion y corff
- tôn y cyhyr
- tensiwn y cyhyr
- dwysedd blew
- cylchrediad araf
- dosbarthiad y croen
- cyflwr y croen
hydwythedd llac
Ystumiau
Cyfrwng tylino
olew cludo
golchdrwyth
- hufenau
- gel
- fformwleiddiadau cyn cymysgu
Technegau tylino
- effleurage
- petrissage
- dirgryniadau
- pwynt pwysedd
- draenio lymphatig
- meinwe dwfn
- cyffyrddiad ysgafn
- goddefol
Cyfarwyddiadau
1.hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
triniaethau yn y dyfodol
*
**
*Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
- ffactorau cynhenid ac anghynghenid sy'n effeithio ar swyddogaethau'r corff dynol a bioleg gyflawn
- effeithiau corfforol, seicolegol a ffisiolegol defnyddio olewon hanfodol mewn lles therapiwtig a thriniaethau holistig
Anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith
- anaf straen ailadroddus
- ystumiol
- llid y croen
dadhydradiad
ystyriaethau gwenwyndra
- blinder
Grwpiau olew hanfodol
- blodyn (rhosyn, camri, lafant, mynawyd y bugail, Ylang ylang)
- ffrwythau (lemon, oren melys, leim, mandarin, grawnffrwyth)
- coed (ewcalyptws, coeden de, thus, cedrwydden, bensoin)
- llysiau (penrhudd yr ardd, mintys)
- notes sylfaen, canol ac uchaf
- fformwleiddiadau cyn cymysgu
Effeithiau therapiwtig
- dadwenwyno
- cydbwyso
- ysgogi
- tonio
- ymlacio
- teimlo'n well
- dyrchafol
- lleddfu poen ysgafn
- gwella swyddogaeth imiwnedd
- gwella swyddogaeth niwrolegol
- cicatrisant
- gwrthfirol
- gwrthseptig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
**Geirfa** ** ** |
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Anatomeg a ffisioleg
Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, arogleuol*,* **ymylol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau
Dosbarthiad y math o gorff
Nodir mathau'r corff fel dosbarthiadau endomorff, mesomorff ac ectomorff.
Gwrth Weithred
Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Canfyddiad amlsynhwyrol
Protocol**
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau
Effeithiau therapiwtig
Mae effeithiau therapiwtig yn ddisgrifiad o les corfforol, emosiynol a meddyliol a gynhyrchir gan driniaethau a phrofiadau holistig.
Gwenwyndra
Caiff gwenwyndra ei benderfynu gan adwaith unigolyn i wahanol ddosau o gemegolyn. Gall gwenwyndra neu adweithiau niweidiol ddigwydd o ganlyniad i anghydnawseddau gyda chymysgedd anghywir o gemegolion.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, KAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1