Darparu tyliniad o’r corff gan ddefnyddio technegau therapi gwresol
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes harddwch sy'n darparu triniaethau tylino'r corff gan ddefnyddio technegau therapi gwresol. Mae cyfarpar therapi gwresol yn cynnwys offer llaw neu baratoadau sy'n rhyddhau tymheredd. Mae nhw'n gofyn am gael eu cynhesu neu oeri cyn ac yn ystod y driniaeth. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Darparu triniaeth tylino'r corff gan ddefnyddio technegau therapi gwresol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth tylino gwresol y corff, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 hanes profiad
3.3 gweithgareddau diweddar
3.4 y gyfundrefn gyfredol ar gyfer gofal o'r croen
3.5 proffil y ffordd o fyw
3.6 dewisiadau triniaeth amgen
- cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y drinaeth tylino therapi gwresol, i gynnwys:
4.1 canlyniadau disgwyliedig
4.2 gwrth-weithredoedd
4.3 adweithiau niweidiol
4.4 teimlad corfforol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth tylino therapi gwresol corff yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant
cynnal prawf(profion) o flaen y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen
paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth tylino therapi gwresol, i gynnwys:
7.1 cadw'r unigolyn yn gyfforddus a chadw ei urddas
- gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen, i gynnwys:
8.1 dosbarthiad o'r math o gorff a nodweddion y corff **
8.2 dadansoddiad o'r ystumiau
- dewis a pharatoi'r offer llaw a'r cyfarpar a'r tymheredd ar gyfer y therapi gwresol, yn unol â'r protocol triniaeth tylino therapi gwresol, i gynnwys:
9.1 gwirio’r tymheredd yn aml
9.2 addasiadau yn unol â man triniaeth yr unigolyn
- hyrwyddo lles drwy weithio gyda phwyntiau chakra'r unigolyn
Tylino
- dodi'r cyfrwng tylino a chyflawni tylino'r corff gan ddefnyddio technegau therapi gwresol, fel ag y cytunwyd yn y cynllun triniaeth therapi gwresol, i gynnwys:
11.1 cynnal eich ystumiau a'ch safiad eich hun
11.2 defnyddio technegau sy'n osgoi anaf i'r unigolyn
gwirio pwysedd, rhythm a llif y tylino therapi gwresol gyda'r unigolyn ac addasu'r technegau tylino therapi gwresol yn unol ag anghenion yr unigolyn
monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth tylino therapi gwresol
gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth tylino therapi gwresol, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth tylino therapi gwresol a gweithredu'n briodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
19. cofnodi canlyniad y driniaeth tylino therapi gwresol a’r gwerthusiad ohoni
*
*
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau tylino therapi gwresol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys: 5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
7. diben triniaeth tylino therapi gwresol, y defnydd ohoni a’i chyfyngiadau, mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 proffil perthnasol y ffordd o fyw
7.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.4 diffygion a chyflyrau ystumiol
8. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â thriniaeth tylino therapi gwresol a sut i ymateb iddynt
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth tylino therapi gwresol
pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau'r unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth tylino therapi gwresol
11. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus
- y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
13. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer triniaeth tylino therapi gwresol
pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth tylino therapi gwresol
sut i wneud profion cyn triniaeth a'u dehongli
pa mor aml dylid darparu triniaethau tylino therapi gwresol a'r effaith allant ei gael ar iechyd a lles yr unigolyn proffesiynol, i gynnwys:
16.1 ffyrdd y gellir osgoi risgiau i iechyd a lles
16.2 osgoi anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith
16.3 cadw eich lles personol chi
- pwysigrwydd cadw ystum a safiad eich corff drwy gydol triniaeth dylino therapi gwresol, i gynnwys:
17.1 cefnogi llif ac effeithiolrwydd y driniaeth
- cadw'r unigolyn yn gyfforddus a gofalu amdano/i drwy gydol y driniaeth yn unol â thyliniad therapi gwresol, i gynnwys:
18.1 sicrhau bod yr amgylchedd yn hyrwyddo tawelu neu symbylu canfyddiadau amlsynhwyrol y corff yn unol â'r protocol triniaeth tylino therapi gwresol
- pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth therapi gwresol
20. pam ei bod yn bwysig nodi diffygion a chyflyrau ystumiol yr unigolyn a sut ellir eu gwella
- y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, i gynnwys:
21.1 addasiadau yn dibynnu ar fan triniaeth yr unigolyn
- y cyfryngau tylino a ddefnyddir gyda thriniaeth tylino therapi gwresol a'u heffeithiau, i gynnwys:
22.1 pryd mae hi'n briodol gwneud tyliniad therapi gwresol heb ddefnyddio cyfrwng tylino
- y mathau o gyfarpar therapi gwresol sydd ar gael, i gynnwys:
23.1 y rhesymau pam na ddylid defnyddio therapi gwresol mewn modd statig ar y croen a pham bod angen symudiadau cyson
- y mathau o, manteision a chyfyngiadau defnyddio technegau therapi gwresol mewn triniaeth dylino, i gynnwys:
24.1 y manteision cysylltiedig ac osgoi anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith 24.2 risgiau cysylltiedig a sut i ymateb
y mathau o dechnegau tylino therapi gwresol a'u heffeithiau
sut y gall technegau tylino therapi gwresol gael eu haddasu i greu effeithiau therapiwtig
sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth tylino therapi gwresol
28. pam ei bod yn bwysig egluro'r broses driniaeth a'r teimlad a ddaw yn ei sgil i'r unigolyn
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
pwysigrwydd rhoi amser i'r unigolyn i ymadfer ar ôl triniaeth tylino therapi gwresol
31. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth tylino therapi gwresol yr unigolyn
canlyniadau disgwyliedig triniaethau tylino therapi gwresol
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
35. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth tylino therapi gwresol a’r gwerthusiad ohoni
- y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth tylino therapi gwresol
Cwmpas/ystod
Proffil ffordd o fyw
geneteg
ymborth
galwedigaeth
cwsg
lles
lefel straen
Adweithiau niweidiol
- gorwaedu
- cleisio
- alergedd
- ymateb iachau gormodol
Protocol triniaeth therapi gwresol
* *
amgylchedd waith
iechyd a diogelwch
atal a rheoli haint
cynllun triniaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
canlyniadau profion
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol
*
**
**
**
*Nodweddion y corff
- tôn y cyhyrrau
- tensiwn y cyhyrrau
- dwysedd y blew
- cylchrediad araf
- dosbarthiad y croen
- cyflwr y croen
- hydwythedd llac
- ystumiau
Offer a Chyfarpar
- offer llaw sydd angen eu cynhesu
- offer llaw sydd angen eu oeri
- cyfarpar cynhesu a pharatoadau
- cyfarpar oeri a pharatoadau
Cyfrwng tylino
- olew
- hufen
Technegau tylino therapi gwresol
- effleurage
- petrissage
- ffrithiant
- tapio
- pwynt pwysedd
- draenio lymphatig
- defnyddio offer llaw sy'n gofyn eu cynhesu
- defnyddio offer llaw sy'n gofyn eu hoeri
- dodi cerrig pwyntiau o'r corff
- pwynt clicied, tycio a thapio
*
*Cyfarwyddiadau
hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau
- ffactorau cynhenid ac anghynghenid sy'n effeithio ar swyddogaethau'r corff dynol a bioleg gyflawn
- effeithiau corfforol, seicolegol a ffisiolegol tyliniad o'r corff ar lefel uwch
Anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
G*wrtharwydd llwyr*
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Anatomeg a ffisioleg
Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, arogleuol*,* **ymylol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau
Dosbarthiad y math o gorff
Nodir mathau'r corff fel dosbarthiadau endomorff, mesomorff ac ectomorff.
Gwrth Weithred
Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Bioleg Gyflawn
Ffactorau amgylcheddol ac sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw ac sy'n effeithio ar y corff dynol.
Canfyddiad amlsynhwyrol
Disgrifir canfyddiad amlsynhwyrol fel annog ymwybyddiaeth ofalgar. Defnyddir technegau i godi'r effaith a ddymunir.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
* *
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau. carreg, arenfaen, cwarts, cerrig basalt, powltrisiau a chywasgwyr ac olewau tylino cannwyll.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1