Darparu triniaethau tylino holistig i’r pen, gwddf a’r ysgwydd
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Harddwch sy'n darparu triniaethau tylino holistig i'r croen, wyneb, gwddf, gwddf isel a'r ysgwydd uchaf. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Darparu triniaeth dylino holistig i'r pen, gwddf a'r ysgwydd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
- cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
3. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth tylino'r pen, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 gweithgareddau diweddar
3.3 y gyfundrefn gyfredol ar gyfer gofal o'r croen
3.4 proffil y ffordd o fyw
3.5 dewisiadau triniaeth amgen
- cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y drinaeth tylino'r pen, i gynnwys:
4.1 canlyniadau disgwyliedig
4.2 gwrth-weithredoedd
4.3 adweithiau niweidiol
4.4 teimlad corfforol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth tylino therapi gwresol corff yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant
6. cynnal prawf (profion) o flaen y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen
- paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth tylino'r pen, i gynnwys:
7.1 cadw'r unigolyn yn gyfforddus a chadw ei urddas
- gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen, i gynnwys:
8.1 math o groen, dosbarthiad y croen a chyflwr y croen
8.2 dosbarthiad, cyflwr a dwysedd y gwallt
8.3 cyflwr croen y pen
- dewis cyfrwng tylino i'w ddefnyddio yn unol â'r protocol triniaeth tylino'r pen:
9.1 wyneb, gwddf, gwddf isel a'r ysgwyddau uchaf
9.2 croen y pen
dodi cyfrwng tylino a chyflawni technegau tylino'r pen fel ag y cytunwyd yn y cynllun triniaeth tylino'r pen
gwirio pwysedd tyniniad y pen gyda'r unigolyn ac addasu'r technegau tylino yn unol ag anghenion yr unigolyn
12. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth tylino'r pen
gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth tylino'r pen, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth tylino'r pen a gweithredu'n briodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
18. cofnodi canlyniad y driniaeth tylino’r pen a’r gwerthusiad ohoni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn cyflawni triniaethau tylino'r pen a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
- pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
7. sut mae egwyddorion ayurfedaidd dwyreiniol traddodiadol a thylino pen Indiaidd wedi esblygu i ymgorffori anghenion amrywiol unigolion a’r amlylchedd, i gynnwys:
7.1 sut i ymgorffori'r egwyddorion hyn yn ymarferol ac addasu safle'r unigolyn
- diben, y defnydd o a chyfyngiadau triniaeth tylino'r pen, mewn perthynas â'r canlynol:
8.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
8.2 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw
8.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
8.4 disgwyliadau'r unigolyn
9. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â thriniaeth tylino’r pen a sut i ymateb iddynt
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth tylino'r pen
pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth tylino'r pen
y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus
14. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer triniaeth tylino’r pen
pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth tylino'r pen
sut i wneud profion cyn triniaeth a'u dehongli
pa mor aml ddylid darparu triniaethau tylino'r pen a'r effaith allant ei gael ar iechyd a lles yr unigolyn proffesiynol, i gynnwys:
17. 1ffyrdd y gellir osgoi risgiau i iechyd a lles
17.2 osgoi anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith
17.3 cadw eich lles personol chi
pwysigrwydd cadw ystum a safiad eich corff drwy gydol triniaeth tylino'r pen, i gynnwys
cadw'r unigolyn yn gyfforddus a gofalu amdano/i drwy gydol y driniaeth yn unol â thyliniad o'r pen, i gynnwys:
19.1 sicrhau bod yr amgylchedd yn hyrwyddo tawelu neu symbylu canfyddiadau amlsynhwyrol y corff yn unol â'r protocol triniaeth tylino'r pen
pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r gwallt, croen a chroen y pen er mwyn penderfynu ar y cynllun tylino'r pen
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
y cyfryngau tylino a ddefnyddir gyda thriniaeth tylino'r pen a'u heffeithiau, i gynnwys:
22.1 pryd mae hi’n briodol gwneud tyliniad o’r pen heb ddefnyddio cyfrwng tylino
23. y mathau o dechnegau therapi gwresol mewn triniaeth tylino’r pen, eu manteision a chyfyngiadau eu defnyddio, i gynnwys:
sut y gall technegau tylino therapi gwresol gael eu haddasu i greu effeithiau therapiwtig
sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth tylino'r pen
pam ei bod yn bwysig egluro'r broses driniaeth a'r teimlad a ddaw yn ei sgil i'r unigolyn
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
pwysigrwydd rhoi amser i'r unigolyn i ymadfer ar ôl triniaeth tylino therapi gwresol
29. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth tylino pen yr unigolyn
canlyniadau disgwyliedig triniaeth tylino'r pen
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
33. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth tylino’r pen a’r gwerthusiad ohoni
- y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth tylino'r pen
Cwmpas/ystod
Proffil ffordd o fyw
- geneteg
- ymborth
- galwedigaeth
- cwsg
- lles
- lefel straen
Adweithiau niweidiol
gorwaedu
cleisio
alergedd
ymateb iachau gormodo
Protocol triniaeth tylino'r pen
amgylchedd waith
iechyd a diogelwch
atal a rheoli haint
cynllun gwasanaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
canlyniadau profion
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol
Dosbarthiad y croen
- Graddfa Fitzpatrick
- Graddfa Lancer
- Phenoteip a genoteip
Cyfrwng tylino
1. olew2. hyfen
3. di-olew
Technegau tylino
- effleurage
- petrissage
- tapio
- ffrithiant
- dirgryniadau
- pwynt pwysedd
- draenio lymphatig
- pwysedd wedi addasu
- technegau ayurvedaidd dwyreiniol
Cyfarwyddiadau
hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
* *1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau
ffactorau cynhenid ac anghynghenid sy'n effeithio ar swyddogaethau'r corff dynol a bioleg gyflawn
effeithiau corfforol, seicolegol a ffisiolegol triniaethau tyliniad o'r pen, gwddf ac ysgwydd
Anafiadau sy'n gysylltiedig â Gwaith
anaf straen ailadroddus
ystumiol
llid y croen
dysychiadiad
blinder
Effeithiau therapiwtig
1.dadwenwyno
ysgogol
tonio
ymlacio
teimlo'n well
lleddfu poen ysgafn
gwella'r swyddogaeth imiwnedd
gwella'r swyddogaeth niwrolegol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Anatomeg a ffisioleg
Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, arogleuol, ymylol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau
Gwrth Weithred
Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Tylino pen Indiaidd
Mae tylino pen Indiaidd yn driniaeth ayurvedaidd ac yn draddodiadol caiff ei wneud ar yr unigolyn pan mae ar ei eistedd.
Bioleg Gyflawn
Ffactorau amgylcheddol ac sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw ac sy'n effeithio ar y corff dynol.
Canfyddiad amlsynhwyrol
Disgrifir canfyddiad amlsynhwyrol fel annog ymwybyddiaeth ofalgar.
Defnyddir technegau i godi'r effaith a ddymunir.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1, SKAS1, SKAS2, SKAS3