Darparu triniaethau tylino’r corff gan ddefnyddio technegau ar lefel uwch

URN: SKABS3
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes harddwch sy'n darparu triniaethau tylino'r corff gan ddefnyddio technegau tylino ar lefel uwch. Bydd technegau ar lefel uwch yn cynnwys y defnydd o offer llaw nad ydynt yn wresol a thechnegau tylino amgen. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw*:*

  1. Darparu triniaethau tylino'r corff gan ddefnyddio technegau ar lefel uwch

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth tylino'r corff ar lefel uwch, i gynnwys:

3.1 hanes triniaethau

3.2 gweithgareddau diweddar

3.3 y gyfundrefn gyfredol ar gyfer gofal o'r croen
3.4 proffil y ffordd o fyw

3.5 dewisiadau triniaeth amgen

  1. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y drinaeth tylino'r corff arfaethedig ar lefel uwch, i gynnwys:

4.1 canlyniadau disgwyliedig

4.2 gwrth-weithredoedd

4.3 adweithiau niweidiol

4.4 teimlad corfforol

5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth tylino’r corff yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant

6. gwneud prawf(profion) cyn y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen

  1. paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn  yn unol â'r protocol triniaethau tylino'r corff ar lefel uwch, i gynnwys:

7.1 cadw'r unigolyn yn gyfforddus a chadw ei urddas

  1. gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen, i gynnwys:

8.1 dosbarthiad o'r math o gorff a nodweddion y corff

8.2 dadansoddiad o’r ystumiau

  1. cyflawni rhagdriniaeth yn unol â'r protocol triniaethau tylino'r corff ar lefel

  2. dewis cyfrwng tylino ac offer a chyfarpar i'w ddefnyddio yn unol â'r protocol triniaeth tylino'r corff ar lefel uwch

  3. dodi'r cyfrwng tylino a chyflawni'r technegau tylino ar lefel uwch gan ddefnyddio technegau dodi yn unol â'r protocol triniaeth tylino'r corff ar lefel uwch, i gynnwys:

11.1 cadw eich ystumiau a'ch safiad eich hun

  1. gwirio pwysedd, rhythm a llif y tylino gyda'r unigolyn ac addasu'r technegau tylino gyda dwylo ar lefel uwch yn unol ag anghenion yr unigolyn

  2. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth tylino'r corff ar lefel uwch

  3. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  4. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaethau tylinio'r corff ar lefel uwch, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  5. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  6. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth tylino'r corff ar lefel uwch a gweithredu'n briodol

  7. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth

19. cofnodi canlyniad y driniaeth tylino’r corff ar lefel uwch a’r gwerthusiad ohoni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaeth tylinio’r corff ar lefel uwch a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
2. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
3. y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu’r awdurdod lleol i chi eich hun a’ch adeilad
4. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
5. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma 
6. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r driniaeth harddwch, i gynnwys: 6.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol 
7. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
8. diben triniaethau tylino’r corff, y defnydd ohonynt a’u cyfyngiadau mewn perthynas â’r canlynol:
8.1 hanes meddygol o’r gorffennol a chyfredol
8.2 proffil perthnasol y ffordd o fyw
8.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
8.4 diffygion a chyflyrau ystumiol
9. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â thriniaethau tylino’r corff ar lefel uwch a sut i ymateb
10. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth tylino’r corff ar lefel uwch
11. pam ei bod hi’n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau y mae’n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth tylino’r corff ar lefel uwch
12. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus
13. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
14. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer triniaeth tylino’r corff ar lefel uwch
15. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth tylino’r corff
 16. sut i wneud profion cyn triniaeth a’u dehongli
17. pa mor aml dylid darparu triniaethau tylino’r corff ar lefel uwch a’r effaith allant ei gael ar iechyd a lles yr unigolyn proffesiynol, i gynnwys:
17.1 ffyrdd y gellir osgoi risgiau i iechyd a lles
17.2 osgoi anafiadau sy’n gysylltiedig â gwaith
17.3 cadw eich lles personol chi
18. pwysigrwydd cadw ystum a safiad eich corff drwy gydol triniaeth dylino, i gynnwys:
18.1 sut all ystum a safiad gefnogi llif ac effeithiolrwydd y driniaeth
19. sut i gadw’r unigolyn yn gyfforddus a gofalu amdano/i drwy gydol y driniaeth yn unol â thyliniad y corff ar lefel uwch, i gynnwys: 
19.1 sut gall yr amgylchedd hyrwyddo tawelu neu symbylu canfyddiadau amlsynhwyrol y corff 
20. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r corff a’r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth:
20.1 pam bod hi’n bwysig nodi diffygion a chyflyrau ystumiol yr unigolyn a sut ellir eu gwella 
21. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
22. y cyfryngau tylino a ddefnyddir gyda thylino’r corff ar lefel uwch a’u heffeithiau
23. y mathau o, manteision a chyfyngiadau technegau tylino sylfaenol a ddefnyddir mewn triniaeth tylino’r corff ar lefel uwch, i gynnwys
24. y mathau o, manteision a chyfyngiadau technegau tylino ar lefel uwch ac offer llaw nad ydynt yn wresol a ddefnyddir mewn triniaeth tylino’r corff ar lefel uwch i gynnwys:
24.1 risgiau cysylltiedig a sut i ymateb iddynt
25. y mathau o dechnegau tylino’r corff ar lefel uwch a’u heffeithiau 
26. sut gellir addasu technegau tylino’r corff ar lefel uwch er mwyn creu effeithiau therapiwtig
27. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch a chyfarpar yn unol â’r protocol triniaethau tylino’r corff ar lefel uwch
28. pam ei bod yn bwysig egluro’r broses driniaeth a’r teimlad a ddaw yn ei sgil i’r unigolyn
29. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
30. pwysigrwydd rhoi amser i’r unigolyn i ymadfer ar ôl triniaeth tylino’r corff
31. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 
32. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth tylino corff yr unigolyn 
33. canlyniadau disgwyliedig triniaethau tylino’r corff ar lefel uwch
34. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
35. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth tylino’r corf far lefel uwch a’r gwerthusiad ohoni
36. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth tylino’r corff  ar lefel uwch


Cwmpas/ystod

Proffil ffordd o fyw

  1. geneteg
  2. ymborth
  3. galwedigaeth
  4. cwsg
  5. lles
  6. lefel straen
**Adweithiau niweidiol** ****1. gwaedu
  1. cleisio

  2. alergedd

  3. chwydd gwyn

  4. ymateb iachau gormodol

**Nodweddion y corff**
  1. tôn y cyhyrrau
  2. tensiwn y cyhyrrau
  3. dwysedd y blew
  4. cylchrediad araf
  5. dosbarthiad y croen
  6. cyflwr y croen
  7. hydwythedd llac
  8. ystumiau
**Cyn y driniaeth**
  1. glanhau dwfn
  2. diblisgiad
  3. triniaethau i gynhesu'r croen

Protocol protocol triniaeth tylino'r corff at lefel uwch

 

1.  amgylchedd waith

2.   iechyd a diogelwch

3.   atal a rheoli haint

4.   cynllun triniaeth

5.   cydsyniad gwybodus

6.   rheoli data

7.   canlyniadau profion

8.   cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

9.   archwilio ac atebolrwydd

  1. cyfarwyddiadau a chyngor

  2. cynaliadwyedd

  3. rheoli gwastraff

  4. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

14.       ymarfer adfyfyriol

Cyfrwng tylino

 

  1. olew

  2. hufen

  3. di-olew

  4. powdr

Offer a Chyfarpar and Equipment

  1. dyfeisiadau i gynhesu'r croen
  2. offer llaw nad ydynt yn wresol
**Technegau Dodi**
  1. dwylo
  2. penelinoedd
  3. blaenau'r fraith
  4. garddwrn
  5. defnydd o offer llaw nad ydynt yn wresol
**Technegau tylino'r corff ar lefel uwch**
  1. effleurage
  2. petrissage
  3. tapio
  4. ffrithiannau
  5. dirgryniadau
  6. pwynt pwysedd
  7. draenio lymphatig
  8. meinwe dwfn
  9. cyffyrddiad ysgafn
  10. symudiadau goddefol
**Cyfarwyddiadau** ** **
  1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd

  2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth

  3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig

  4. triniaethau yn y dyfodol

**Anatomeg a ffisioleg**
  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
  2. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
  3. ffactorau cynhenid ac anghynghenid sy'n effeithio ar swyddogaethau'r corff dynol a bioleg gyflawn
  4. effeithiau corfforol, seicolegol a ffisiolegol tyliniad o'r corff ar lefel uwch
**Anafiadau sy'n gysylltiedig** **â** **gwaith**
  1. anaf straen ailadroddus

  2. ystumiol

  3. llid y croen

  4. dadhydradiad

  5. blinder

**Effeithiau therapiwtig**
  1. dadwenwyno
  2. ysgogol
  3. tonio
  4. ymlacio
  5. teimlo'n well
  6. lleddfu poen ysgafn
  7. gwella'r swyddogaeth imiwnedd
  8. gwella'r swyddogaeth niwrolegol






Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a ffisioleg

Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, arogleuol*,* **ymylol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau

Dosbarthiad y math o gorff

Nodir mathau'r corff fel dosbarthiadau endomorff, mesomorff ac ectomorff.

Gwrth Weithred

Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Bioleg Gyflawn

Ffactorau amgylcheddol ac sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw ac sy'n effeithio ar y corff dynol.

Offer llaw nad ydynt yn wresol

Rhywbeth gwahanol i'r technegau tylino â llaw a ddefnyddir mewn triniaethau tylino'r corff ar lefel uwch. Gall offer fod yn ddyfeisiadau tylino â llaw neu fecanyddol.

Canfyddiad amlsynhwyrol

Disgrifir canfyddiad amlsynhwyrol fel annog ymwybyddiaeth ofalgar. Defnyddir technegau i godi’r effaith a ddymunir.

Protocol**

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

Gwrthawrydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd A ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

* *


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2,l SKAB4, SKAB5, SKAB6,

SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABT16

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

Technegau tylino’r corff ar lefel uwch