Darparu triniaethau therapi trydanol i’r wyneb

URN: SKABS2
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. *Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Harddwch sy'n darparu triniaethau therapi trydanol i'r wyneb gan ddefnyddio'r technolegau canlynol Galfanig, Meicro gerynt, Meicro dermabrasiwn, deuod allyrru golau (LED) golau tanbeidrwydd isel (llai na 500mW), Dyfeisiadau cynhesu'r croen, amleddau radio/Amledd uchel (3KHz – 300GHz), cyfarpar draenio lymphatig ac Uwchsain i wella a chynnal cyflwr y croen a'r corff. ***Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth i'r wyneb, i gynnwys:

3.1 hanes triniaethau

3.2 y gyfundrefn ar gyfer gofal o'r croen

3.3 ffordd o fyw

3.4 dewisiadau triniaeth amgen

  1. trafod a chytuno ar y rhaglen preimio'r croen neu'r argymhellion y gofynnir amdanynt, cyn y driniaeth drydanol i'r wyneb

5. 5. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y drinaeth drydanol arfaethedig i’r wyneb, i gynnwys:

5.1 canlyniadau disgwyliedig

5.2 gwrth-weithredoedd

5.3 adweithiau niweidiol

5.4 gofynion cyn ac ar ôl y driniaeth

5.5 teimlad corfforol a sŵn

6. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth drydanol i’r wyneb yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant

  1. gwneud prawf(profion) o flaen y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen

  2. paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth drydanol i'r wyne*b*

  3. taflu goleuni ar fan triniaeth yr unigolyn a'i chwyddo yn unol â'r protocol triniaeth drydanol i'r wyneb

10. gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen, i gynnwys:

10.1 dosbarthiad o'r croen

10.2 cyflwr y croen

10.3 math o groen

  1. dewis offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth drydanol i'r wyneb, i gynnwys:

11.1 profi'r offer a'r cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol 

12. gwneud y driniaeth drydanol i'r corff yn unol â'r protocol triniaeth trydanol i'r wyneb, i gynnwys:

12.1 ailadrodd y broses driniaeth, teimlad corfforol a sŵn sydd wedi ei greu gan y cyfarpar i’r unigolyn 

12.2 defnyddio ac addasu'r cyfarpar, offer a hyd y driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth drydanol i'r wyneb

  1. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth drydanol i'r wyneb

  2. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  3. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth drydanol i'r wyneb, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  4. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  5. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth drydanol i'r wyneb a gweithredu'n briodol

  6. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth

19. cofnodi canlyniad y driniaeth drydanol i’r wyneb a’r gwerthusiad ohoni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau therapi trydanol i'r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

3. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf

  1. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

  1. y mathau o dechnolegau trydanol i'r wyneb a ddefnyddir mewn triniaethau i'r wyneb a'r effeithiau ffisiolegol ar y croen a meinwe'r cyhyr, i gynnwys:

7.1 y math o gerrynt a ddefnyddir

7.2 risgiau cysylltiedig a sut i ymateb

  1. diben, y defnydd o a chyfyngiadau triniaeth drydanol i'r wyneb mewn perthynas â'r canlynol, i gynnwys:

8.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol

8.2 hanes triniaethau

8.3 cyflwr y croen

8.4 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw

8.5 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol

8.6 disgwyliadau'r unigolyn

9. sut y gall rhaglen preimio'r croen ac argymhellion cyn triniaeth fod yn fuddiol i ganlyniadau triniaeth drydanol i'r wyneb

10. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda thriniaeth drydanol i'r wyneb a sut i ymateb

  1. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth drydanol i'r wyneb

  2. pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth drydanol i'r wyneb

  3. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus

  4. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

15. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer triniaeth drydanol i’r wyneb 

  1. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth drydanol i'r wyneb

  2. sut i wneud profion cyn triniaeth a'u dehongli

  3. pwysigrwydd chwyddo, paratoi man triniaeth yr unigolyn a thaflu goleuni arno pan yn gwneud dadansoddiad o'r croen

  4. pwysigrwydd dadansoddiad o'r corff a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth a'r cyfarpar trydanol ar gyfer yr wyneb i'w ddefnyddio

  5. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  6. y cynnyrch a ddefnyddir ar y cyd gyda thriniaethau trydanol i'r wyneb a'r risgiau cysylltiedig

  7. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth drydanol i'r wyneb

  8. y mathau o driniaethau y gellir eu rhoi ar y cyd â, neu ar ôl triniaethau trydanol i'r wyneb

  9. pam ei bod yn bwysig egluro'r broses driniaeth, sŵn y cyfarpar a'r teimlad i'r unigolyn

  10. pwysigrwydd defnyddio cynnyrch wedi'r driniaeth, i gynnwys: 25.1 pryd a pham mae ffactor gwarchod rhag yr haul, cynnyrch wedi'r driniaeth, yn cael ei ddefnyddio

  11. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

27. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol

  1. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y driniaeth drydanol i'w wyneb

  2. canlyniadau disgwyliedig triniaethau trydanol i'r wyneb

  3. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol

  4. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y driniaeth drydanol i'r wyneb

  5. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth drydanol i'r wyneb


Cwmpas/ystod

Adweithiau niweidiol

  1. gormodedd o waed

  2. llosg galfanig

  3. cleisio

  4. llid

  5. alergedd

  6. gorliwiad/ tanliwiad o'r croen

7. chwydd gwyn

*
*

Protocol triniaeth drydanol i'r wyneb

  1. amgylchedd waith

  2. iechyd a diogelwch

  3. atal a rheoli haint

  4. cynllun gwasanaeth

  5. cydsyniad gwybodus

  6. rheoli data

  7. canlyniadau profion

  8. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  9. archwilio ac atebolrwydd

10.  cyfarwyddiadau a chyngor

11.  cynaliadwyedd

12.  rheoli gwastraff

13.  ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

14.  ymarfer adfyfyriol

Dosbarthiad y croen

  1. Graddfa Fitzpatrick
  2. Phenoteip a genoteip
  3. Graddfa Lancer 
**Cyflwr y croen**
  1. hydwythedd llac
  2. gorliwio a thanliwio
  3. tagedig
  4. llinorog
  5. bregus
  6. fasgwlaidd
  7. sensiteiddiedig

  8. sensitif

  9. wedi sychu

  10. ffoto sensitif

  11. wedi ei niweidio

  12. wedi sychu

  13. wedi dylu

**Math o groen**
  1. sych
  2. olewog
  3. wedi ei gyfuno
  4. cytbwys
**Cyfarwyddiadau**
1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol
**Anatomeg a ffisioleg**
  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
  2. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
  3. ffactorau cynhenid ac anghynghenid sy'n effeithio ar gyflwr y croen
  4. meini prawf graddio acne
  5. swyddogaeth rhwystro'r croen
  6. effeithiau corfforol, seicolegol a ffisiolegol triniaethau trydanol i'r wyneb
**Technolegau trydanol ar gyfer yr wyneb**
  1. galfanig
  2. meicro gerrynt
  3. Meicro dermabrasiwn
  4. deuod allyrru golau (LED) golau tanbeidrwydd isel (llai na 500mW)
  5. dyfeisiadau cynhesu'r croen
  6. amleddau radio/Amledd uchel (3KHz – 300GHz)
7. cyfarpar draenio lymphatig 8. uwchsain 9. technolegau dadansoddi’r croen
**Triniaethau i'r wyneb**
  1. dadansoddi'r croen
  2. cyngor am gynnyrch ar gyfer y croen a gofal o'r croen
  3. triniaeth drydanol i'r wyneb
** **

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

G*wrtharwydd llwyr*

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a ffisioleg

Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau

Dosbarthiad y math o gorff

Nodir mathau'r corff fel dosbarthiadau endomorff, mesomorff ac ectomorff.

Gwrth Weithred

Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

Gwrthawrydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd  ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau

Cyflwr croen sensitif

Cynnydd mewn adweithedd capilaraidd genetig a newid yn y swyddogaeth rhwystr gan arwain at freuder epidermal cynhenid.

Cyflwr croen sensiteiddiedig

Mae cyflwr croen sensiteiddiedig yn digwydd o ganlyniad i ffactorau amgylcheddol ac sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw sydd naill ai'n cynyddu cytocinau llidiol a modylyddion neu atal y rhwystr croen

Swyddogaeth rhwystro'r croen

Y rhwystr adnewyddol, biogemegol sy'n gwarchod ein systemau mewnol rhag ymosodwyr amgylcheddol a phathogennau, ac sy'n helpu i rwystro colli dŵr yn draws- epidermol. Wedi ei wneud o gelloedd wedi eu cornio, ffactorau sy'n lleithio'n naturiol, lipidau rhwystrol a meicrobiom y croen. 

Dosbarthiad y croen

Gellir cyfeirio at raddfeydd dosbarthu'r croen fel y raddfa fitzpatrick, y raddfa lancer a ffenoteip genoteipiau.

Rhaglen preimio'r croen

Mae rhaglen preimio'r croen yn set o gyfarwyddiadau a gall yr unigolyn eu gwneud cyn y driniaieth er mwyn cael y canlyniadau gorau.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABT20

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

triniaeth drydanol i’r wyneb, galfanig, meicro gerynt, Meicro dermabrasiwn, deuod allyrru golau (LED) golau tanbeidrwydd isel (llai na 500mW), dyfeisiadau cynhesu’r croen, amleddau radio/Amledd uchel (3KHz – 300GHz), cyfarpar draenio lymphatig, uwchsain