Darparu triniaethau therapi trydanol i’r corff
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. *Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Harddwch sy'n darparu triniaethau therapi trydanol i'r corff gan ddefnyddio'r technolegau canlynol Ysgogi Trydanol o'r Cyhyr, Galfanig, Meicro gerynt, Meicro dermabrasiwn, deuod allyrru golau (LED) golau tanbeidrwydd isel (llai na 500mW), Dyfeisiadau cynhesu'r croen, amleddau radio/Amledd uchel (3KHz – 300GHz), draenio lymphatig cyfarpar draenio ac Uwchsain i wella a chynnal cyflwr y croen a'r corff. ***Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr o'r safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth therapi trydanol i'r corff, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 hanes profiad
3.3 y gyfundrefn gyfredol ar gyfer gofal o'r croen
3.4 proffil y ffordd o fyw
3.5 dewisiadau triniaeth amgen
- cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y drinaeth therapi trydanol i'r corff, i gynnwys:
4.1 canlyniadau disgwyliedig
4.2 gwrth-weithredoedd
4.3 adweithiau niweidiol
4.4 teimlad corfforol a sŵn
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth y corff yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant
6. gwneud prawf (profion) o flaen y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen
- paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth trydanol i'r corff
8. gwneud dadansoddiad o'r corff a'r croen, i gynnwys: 8.1 dosbarthiad o'r math o gorff a nodweddion y corff
- dewis offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth trydanol i'r corff, i gynnwys:
9.1 profi'r offer a'r cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
- gwneud y driniaeth drydanol i'r corff yn unol â'r protocol triniaeth trydanol i'r corff, i gynnwys:
10.1 ailddatgan y broses driniaeth, teimlad corfforol a sŵn sydd wedi ei greu gan y cyfarpar i'r unigolyn
10.2 defnyddio ac addasu'r cyfarpar, offer a hyd y driniaeth yn ôl y protocol triniaeth drydanol i'r corff
11. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth drydanol i'r corff
12. weithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth drydanol i'r corff, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth drydanol i'r corff, a gweithredu'n briodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
17. cofnodi canlyniad y driniaeth drydanol i’r corff a’r gwerthusiad ohoni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau trydanol i'r corff a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
diben, y defnydd o a chyfyngiadau triniaeth drydanol i'r corff mewn perthynas â'r canlynol:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw
7.3 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.4 disgwyliadau'r unigolyn
yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda thriniaeth drydanol i'r corff a sut i ymateb
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth drydanol i'r corff
10. pam ei bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth drydanol i'r corff
y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus
y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
13. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer triniaeth drydanol i’r corff
pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth drydanol i'r corff
sut i wneud profion cyn triniaeth a'u dehongli
pwysigrwydd dadansoddiad o'r corff a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
y mathau o, manteision a chyfyngiadau technolegau trydanol i'r corff a'r effeithiau ffisiolegol ar y croen a meinwe'r cyhyr, i gynnwys: 18.1 y math o gerynt a ddefnyddir
18.2 risgiau cysylltiedig a sut i ymateb
y cynnyrch a ddefnyddir ar y cyd gyda thriniaethau trydanol i'r corff a'r risgiau cysylltiedig
sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth drydanol i'r corff
y mathau o driniaethau y gellir eu rhoi ar y cyd â, neu ar ôl triniaethau trydanol i'r corff
pam ei bod yn bwysig egluro'r broses driniaeth, sŵn y cyfarpar a'r teimlad i'r unigolyn
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
24. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y driniaeth drydanol i'w gorff
canlyniadau disgwyliedig triniaethau trydanol i'r corff
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
28. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth drydanol i’r corff a’r gwerthusiad ohoni
29. cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth drydanol i'r corff
Cwmpas/ystod
Adweithiau niweidiol
- gormodedd o waed
- llosg galfanig
- cleisio
- llid
- adwaith alergaidd
- blinder o'r cyhyr
- gorliwiad/ tanliwiad o'r croen
Protocol triniaeth drydanol i'r corff
1.amgylchedd waith
iechyd a diogelwch
atal a rheoli haint
cynllun triniaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
canlyniadau profion
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol
Nodweddion y corff
tôn y cyhyrrau
tensiwn y cyhyrrau
dwysedd y blew
cylchrediad araf
dosbarthiad y croen
cyflwr y croen
hydwythedd llac
ystumiau
Offer a Chyfarpar
- ysgogwr trydanol o'r cyhyr
- galfanig
- meicro gerynt
- Meicro dermabrasiwn
- deuod allyrru golau (LED) golau tanbeidrwydd isel (llai na 500mW)
- dyfeisiadau cynhesu'r croen
- amleddau radio/Amledd uchel (3KHz – 300GHz)
- cyfarpar draenio lymphatig
- uwchsain
Cyfarwyddiadau
hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
1.strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
2.gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
3. ffactorau cynhenid ac anghynghenid sy'n effeithio ar gyflwr y croen
4. meini prawf ar gyfer graddio acne5. swyddogaeth rhwystro'r croen
- effeithiau corfforol, seicolegol a ffisiolegol triniaethau trydanol i'r corff
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Anatomeg a ffisioleg
Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau
Dosbarthiad y math o gorff
Nodir mathau'r corff fel dosbarthiadau endomorff, mesomorff ac ectomorff.
Gwrth Weithred
Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Swyddogaeth rhwystro'r croen
Y rhwystr adnewyddol, biogemegol sy'n gwarchod ein systemau mewnol rhag ymosodwyr amgylcheddol a phathogennau, ac sy'n helpu i rwystro colli dŵr yn draws- epidermol. Wedi ei wneud o gelloedd wedi eu cornio, ffactorau sy'n lleithio'n naturiol, lipidau rhwystrol a meicrobiom y croen.
*
*
*
*
Dosbarthiad y croen
Gellir cyfeirio at raddfeydd dosbarthu'r croen fel y raddfa fitzpatrick, y raddfa lancer a ffenoteip genoteipiau.
* *
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12,pall SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1