Cynorthwyo gyda gwasanaethau eillio
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu, a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Mae'r safon yma'n ymwneud â **chynorthwyo gyda gwasanaethau eillio gwallt, o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth barbwr uwch. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar ôl y gwasanaeth er mwyn ei wella'n barhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a'r canllawiau arferion gorau diweddaraf.
Y prif ddeilliannau yw:
* *
- Paratoi'r unigolyn ar gyfer gwasanaeth eillio
- Cyflawni gwasanaeth gyda thywel poeth
- Cyflawni tylino ar yr wyneb
- Cyflawni gwasanaeth gyda thywel oer
- Cwblhau'r gwasanaeth eillio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau,
2. Egluro eich rhan yn cynorthwyo gyda gwasanaethau eillio i'r unigolyn, i gynnwys, cyflawni:
2.1 tywel poeth
2.2 y gwasanaeth tylino'r wyneb
2.3 tywel gwlyb
3. Cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y gwasanaethau arfaethedig, i gynnwys:
3.1 gwrth-weithredoedd
3.2 adweithiau niweidiol
4. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn am y gwasanaethau
- paratoi gwasanaeth yr unigolyn yn unol â'r cynllun gwasanaeth i gynnwys:
5.1 cynnyrch glanahu cyn triniaeth ar gyfer y *math o groen *
Gwasanaeth tywel poeth
- paratoi'r tywel yn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr i gynnwys:
6.1 edrych ar y tymheredd cyn dodi'r tywel ar fan triniaeth yr unigolyn
7. dodi'r tywel ar fan triniaeth yr unigolyn yn unol â chynllun gwasanaeth yr unigolyn i gynnwys:
7.1 osgoi blocio lle mae'r ffroen
symud y tywel poeth i ffwrdd
Cynorthwyo gyda'r gwasanaeth eilliododi cynnyrch eillio ar fan triniaeth yr unigolyn yn unol â'r cynllun gwasanaeth
10. arsylwi'r barbwr uwch yn cyflawni'r gwasanaeth eillio, i gynnwys:
10.1 gwella eich gwybodaeth eich hun am y weithdrefn a'r technegau a ddefnyddir
- parhau gyda'r gwasanaeth a chael gwared o unrhyw weddillion ar y croen yn unol â'r cynllun gwasanaeth
Gwasanaeth tylino
- dodi'r cyfrwng tylino ar fan triniaeth yr unigolyn yn unol â'r cynllun gwasanaeth
13. cyflawni triniaeth dylino dan ddefnyddio technegau tylino yn unol â'r cynllun gwasanaeth
- Cael gwared o unrhyw weddillion ar y croen yn unol â'r cynllun gwasanaeth
Gwasanaeth tywel oer
- Paratoi'r tywel yn unol â'r cynllun gwasanaeth a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, i gynnwys:
15.1 edrych ar y tymheredd cyn dodi'r tywel ar fan triniaeth yr unigolyn
- dodi'r tywel ar fan triniaeth yr unigolyn yn unol â chynllun gwasanaeth yr unigolyn i gynnwys:
16.1 osgoi blocio lle mae'r ffroen
symud y tywel oer i ffwrdd
cwblhau'r gwasanaeth eillio gyda chynnyrch wedi triniaeth yn unol â'r protocol gwasanaeth eillio
monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth eillio
gweithredu'r camau cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw yn unol â deddfwriaeth data
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth
defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso'r gwasanaethau a chymryd camau priodol
23.1 derbyn adborth gan yr unigolyn a chymheiriaid
24. cofnodi’r canlyniad y gwasanaethau a gyflawnwyd a’r gwerthusiad ohonynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich rhan a'ch cyfrifoldebau yn cynorthwyo gyda gwasanaethau eillio
pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
pam dylai croen a blew gael eu glanhau gyda chynnyrch cyn triniaeth o flaen gwasanaeth eillio
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
y mathau o gynnyrch eillio a ddefnyddir mewn gwasanaethau eillio
sut i baratoi cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r cynllun gwasanaeth
pryd, pam a sut i ddefnyddio technegau seboni pan yn dodi cynnyrch seboni
sut i gael gwared o gynnyrch o'r croen mewn modd effeithiol
y cyfryngau tylino a'r technegau tylino a ddefnyddir mewn gwasanaethau eillio
y mathau, y manteision a'r defnydd o gynnyrch wedi triniaeth
y pwysigrwydd o ymgynghori gyda'r unigolyn drwy gydol y gwasanaeth
13. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus am y gwasanaeth
pwysigrwydd o fonitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
y gofynion deddwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion gwasanaeth eillio'r unigolyn
y canlyniadau disgwyliedig o wasanaethau eillio
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol
19. pwysigrwydd cofnodi canlyniadau’r y gwasanaeth eillio a’r gwerthusiad ohono
- y cyfarwyddiadau a'r cyngor yn dilyn y gwasanaeth eillio
Cwmpas/ystod
Math o Groen
- olweog
- sych
- cyfuniad
- cytbwys
Technegau tylino
- effliwedd
- petrisedd
- tapio
Cynnyrch wedi triniaeth
- cynnyrch brathog
- hufen lleithio
- balm eillio
- powdr
- olewau
Cyfarwyddidau
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl gweithredu
- cyfyngiadau a pheryglon cysylltiedig
- gweithdrefnau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth sylfaenol y blew
- strwythur a swyddogaeth sylfaenol y croen
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr
Cynnych eillio
- hufen
- gel
olew
sebon
Offer a Chyfarpar
1. Brws seboni2. eitemau a ddefnyddir unwait3.tyweli4. powlenTechnegau seboni
- dodi gyda brws
- dodi drwy ddefnyddio technegau tylino
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwyddion llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKABBR2, SKABR1,
SKABR2, SKABR3, SKABR4, SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15,
SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5