Darparu gwasanaethau eillio gan ddefnyddio rasel syth gyda llafn a ddefnyddir unwaith
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu, a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â **rhywun o'r proffesiwn trin gwallt yn darparu gwasanaethau eillio ar yr wyneb, pen a'r gwddf gan ddefnyddio rasel syth gyda llafn a ddefnyddir unwaith. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar ôl y gwasanaeth er mwyn ei wella'n barhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau fod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a'r canllawiau arferion gorau diweddaraf. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau.
Y prif ddeilliannau yw:
- Eillio'r pen a'r gwddf gyda rasel gan ddefnyddio tywel poeth, tylino'r wyneb a thywel oer
- Eillio'r pen gyda rasel
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau,
3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a'r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth at gyfer y cynllun gwasanaeth eillio, i gynnwys:
3.1 ystyried strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb
3.2 dewisiadau amgen ar gyfer y gwasanaeth
4. gwneud dadansoddiad o'r gwallt a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth, i gynnwys:
4.1 dosbarthiad cyrls gwallt
4.2 nodweddion gwallt
4.3 patrymau tŵf blew'r wyneb
4.4 dosbarthiad croen
4.5 math o groen
4.6 cyflwr croen
4.7 gwallt yn tyfu am i mewn
4.8 trywaniadau gwyneb
5. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y gwasanaeth eillio arfaethedig, i gynnwys:
5.1 gwrth-weithredoedd
5.2 adweithiau niweidiol
6. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn am y gwasanaeth eillio
- paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r cynllun gwasanaeth eillio, i gynnwys:
7.1 trimio gwallt hir
7.2 cynnyrch cyn triniaeth
Gwasanaeth tywel poeth
- paratoi'r tywel poeth yn unol â'r protocol gwasanaeth eillio*,* i gynnwys:
8.1 edrych ar y tymheredd cyn ei roi ar fan trinaieth yr unigolyn
- dodi'r tywel ar fan triniaeth yr unigolyn yn unol â'r cynllun gwasanaeth, i gynnwys:
9.1 osgoi blocio lle mae'r ffroen
10. symud y tywel poeth i ffwrdd
Gwasanaeth eillio
*11. Defnyddio *cynnyrch trochi sebon gan ddefnyddio technegau seboni ar faes triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol gwasanaeth eillio
12. dewis, paratoi'r rasel syth yn unol â'r protocol gwasanaeth eillio, i gynnwys:
12.1 dodi'r llafn mewn modd nad yw'n septig i mewn i'r rasel syth yn unol â gofynion deddwriaethol
- defnyddio technegau rasel yn unol â'r protocol gwasanaeth eillio, i gynnwys:
**13.1 cefnogi'r croen gyda llaw
13.2 dal a defnyddio'r rasel mewn modd diogel er mwyn osgoi niwed I'r croen
13.3 cylchdroi eich safle o gwmpas yr unigolyn a defnyddio technegau raselu sy'n addas ar gyfer man triniaeth yr unigolyn triniaeth yr unigolyn
14. cael gwared o wastraff yn unol â gofynion deddwriaethol
- cael gwared o unrhyw weddillion oddi ar y croen yn unol â'r protocol gwasanaeth eillio
Gwasanaeth Tylino
**16. rhoi cyfrwng tylino ar fan triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol gwasanaeth eillio
- cyflawni triniaeth dylino gan ddefnyddio technegau tylino yn unol â'r protocol gwasanaeth eillio
18. cael gwared o unrhyw weddillion oddi ar y croen yn unol â'r protocol gwasanaeth eillio
Gwasanaeth tywel oer
**19.paratoi'r tywel yn unol â'r protocol gwasanaeth, i gynnwys:
19.1 edrych ar y tymheredd cyn ei roi ar fan trinaieth yr unigolyn
20. rhoi'r tywel ar fan triniaeth yr unigolyn yn unol â chynllun gwasanaeth yr unigolyn, i gynnwys:
20.1 osgoi blocio lle mae'r ffroen
21. symud y tywel oer i ffwrdd
22. cwblhau'r gwasanaeth eillio gyda chynnyrch wedi triniaeth yn unol â'r protocol gwasanaeth eilli0
23. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth eillio
24. gweithredu'r camau cywir os bydd adwaith niweidiol
25. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw yn unol â deddfwriaeth data
26. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso gwasanaeth y spa a chymryd camau priodol
27. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth
28. cofnodi canlyniad y gwasanaeth eillio a‘r gwerthusiad ohono
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich rhan a'ch cyfrifoldebau o ran cyflawni gwasanaethau eillio a'r pwysigrwydd o weithio o fewn eich galluogrwydd:
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol; i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hunain a'ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma, i gynnwys
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r gwasanaeth gwallt, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a'u cyfeirio at weithiwr proffesiynol gofal iechyd perthnasol
yr offer a'r cyfarpar a gaiff eu defnyddio mewn gwasnaethau eillio
cyfyngiadau technegau eillio a'r addasiadau sy'n ofynnol, mewn perthynas â'r canlynol:
8.1 dosbarthiad croen a cyrls gwallt
8.2 cyflwr y croen a'r gwallt
8.3 patrymau tŵf blew'r wyneb
8.4 strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb yn cynnwys rhannau o'r croen sydd wedi eu codi neu eu gostwng
8.5 tyllau yn y wyneb
9. strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb a sut maent yn effeithio ar y gwasanaeth eillio
y mathau o gynnyrch cyn triniaeth ar gyfer y croen a'r gwallt a ddefnyddir cyn gwasanaeth eillio
y mathau o gynnyrch glanwaith ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
pam dylech chi ddefnyddio clipiwr neu dorri gwallt hir cyn y gwasanaeth eillio
pwysigrwydd ysytried patrymau tŵf naturiol ar gyfer eillio'r gwallt yn effeithiol
sut i ddarparu gwasanaeth gyda rasel syth
15. amseroedd y gwasanaeth yn unol â'ch pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
y peryglon cysylltiedig o eillio'r gwallt yn agos at groen wedi ei ddadorchuddio* ***
pam ei bod yn bwysig adnabod peryglon cysylltiedig pan yn defnyddio rasel ar y croen, i gynnwys:
17.1 anafiadau posibl
18. pwysigrwydd lledu tyndra'r croen er mwyn sicrhau fod tensiwn yn cael ei sicrhau drwy gydol y gwasanaeth rasel syth
19. sut i addasu'r gwasanaeth eillio ar gyfer croen llac
20. y perygl o flew yn tyfu am i mewn o ganlyniad i dorri parhaus yn agos
21. sut i baratoi offer a chyfarpar yn unol â'r protocol gwasanaeth eillio
21.1 sut i ddodi'r llafn mewn modd nad yw'n septig
21.2 pam a sut I ddodi'r llafn ar ongl a chefnogi'r croen gyda llaw er mwyn sicrhau canlyniadau effeithiol
21.3 y rhesymau dros weithio mewn modd systematig I fynd dros holl fannau triniaeth yr unigolyn yn unol â’r protocol gwasanaeth eillio
22. sut i ddefnyddio a phrofi clipiwyr
y mathau o glipiwyr a'u maint, llafnau'r clipiwyr ac atodiadau sydd ar gael a'r effeithiau mae'r rhain yn eu cael
pryd, pan a sut mae defnyddio technegau brws a thylino pan yn dodi cynnyrch seboni
y mathau o gynnyrch wedi triniaeth a'u manteision a'u defnydd
y pwysigrwydd o ymgynghori gyda'r unigolyn drwy gydol y broses eillio
yr adweithiau niweidiol a gysylltir â'r gwasanaeth eillio a sut i ymateb iddynt
28. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
pam ei bod hi'n bwysig trafod gyda a chanfod gan yr unigolyn ei amcanion, pryderon, disgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth eillio
y strwythurau taliadau ar' dewisiadau ar gyfer gwasanaeth
y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus am y gwasanaeth
pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth eillio
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
34. y rhesymau dros gymryd cyfryngau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn a'i gadw yn unol â'r gofynion gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfunfrefnol
35. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynglŷn â chwblhau a chadw cofnod gwasanaeth eillio'r unigolyn
y deilliannau disgwyliedig o wasanaethau eillio
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol
38. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth eillio
39. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth eillio
Cwmpas/ystod
* Dosbarthiad cyrls gwallt*
- syth
- tonnog
- cyrliog
- cyrls tynn
- cyfuniad
Nodweddion gwallt
- dwysedd gwallt
- gwead y gwallt
- patrymau tŵf blew'r wyneb
Dosbarthiad croen
1. Graddfa Fitzpatrick
Math o Groen
olewog
- sych
- cyfuniad
- cytbwys
Cyflwr croen
- wedi ei sensiteiddio
- hydwythedd llac
- wedi ei ddadhydradu
- dwysedd croen
- meinwe wedi ei godi, mannau geni ayyb
Adweithiau niweidiol
- haint
- anafiadau
- oedema
- creithio hypertroffig ac atroffig
- adwaith ffotosensitifedd cynnyddol
Protocol gwasanaeth eillio
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwyddion llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Dosbarthiad cyrls gwallt
Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls gwallt fel Math 1 – 4.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhauarfer gorau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKABBR2, SKABR1,
SKABR2, SKABR3, SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5