Cynllunio a chreu cynlluniau gwallt a siapiau yn y gwallt gan ddefnyddio technegau uwch gyda chliper a rasel
Trosolwg
Mae’r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu, a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae’r safon yma’n ymwneud â rhywun o’r proffesiwn trin gwallt yn darparu gwasanaethau eillio ar yr wyneb, pen a’r gwddf gan ddefnyddio rasel syth gyda llafn a ddefnyddir unwaith. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar ôl y gwasanaeth er mwyn ei wella’n barhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu’r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a’r canllawiau arferion gorau diweddaraf. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau.
* *
Prif ddeilliannau'r safon yma yw:
- creu cynlluniau gwallt cymhleth a siapiau yn y gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau, i gynnwys:
2.1 cael gwared o ddarnau o flew dros ben a thoriadau o flew wyneb o groen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth
2.2 codi gwallt sydd dros ben oddi ar y llawr er mwyn osgoi anaf
- trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a'r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth at gyfer y cynllun gwasanaeth torri gwallt, i gynnwys:
3.1 ystyried strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb
3.2 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
- gwneud dadansoddiad o flew'r wyneb a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb, i gynnwys:
4.1 dosbarthiad cyrls gwallt
*4.2 *nodweddion gwallt
**4.3 dosbarthiad croen
4.4 cyflwr ar croen y pen
- edrych ar amrywiaeth o gynlluniau gwallt y gellir eu cyflawni a siapiau gyda'r unigolyn gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol
6. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth torri gwallt arfaethedig i gynnwys:
6.1 gwrth weithredoedd
6.2 adweithiau niweidiol
7. sicrhau cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth torri gwallt
8. 8. paratoi’r gwallt yn unol â’r protocol gwasanaeth torri gwallt
- dewis offer a chyfarpar sy'n addas ar gyfer dosbarthiad cyrls gwallt yr unigolyn er mwyn sicrhau'r edrychiad a ddymunir, i gynnwys:
9.1 trin a defnyddio'r offer a'r cyfarpar mewn modd diogel er mwyn osgoi niwed i'r gwallt a chroen y pen
10. torri gwallt yr unigolyn gan ddefnyddio’r canllawiau er mwyn sicrhau bod pwysau, cymesuredd, cydbwysedd a siap yn cael eu sicrhau i gynnwys:
10.1 cylchdroi eich safle o gwmpas yr unigolyn er mwyn sicrhau cywirdeb y toriad
10.2 addasu eich technegau torri gwallt er mwyn creu’r cynllun a’r siapiau yn y gwallt a gytunwyd, yn unol â’r protocol gwasanaeth torri gwallt
- siapio cylchfesurau'r blew gan ddefnyddio technegau torri gwallt, gan gymryd i ystyriaeth:
12.1 y rhimyn gwallt natruiol
12.2 patrymau tŵf y gwallt
cwblhau'r gwasanaeth torri gwallt gan sicrhau bod yr unigolyn yn rhydd o ddarnau o flew yn unol â'r protocol torri gwallt
monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth torri gwallt
gweithredu'r camau cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw yn unol â deddfwriaeth data
17. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso'r gwasanaeth torri blew'r wyneb a chymryd camau priodol
18. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth
- cofnodi canlyniad gwasanaeth torri blew'r wyneb a'r gwerthusiad ohono
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyyogaeth a'ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau torri gwallt a'r pwysigrwydd o weithio o fewn eich gallu
- pam bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddwriaethol; i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hunain a'ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r gwasanaeth torri blew, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a'u cyfeirio at weithiwr proffesiynol gofal iechyd perthnasol
cyfyngiadau technegau torri blew'r wyneb a'r addasiadau sy'n ofynnol, mewn perthynas â'r canlynol:
7.1 dosbarthiad croen a cyrls gwallt
7.2 cyflwr y croen a'r gwallt
7.3 patrymau tŵf y gwallt
7.4 strwythurau anatomegol y pen a’r wyneb
7.5 hoffterau'r unigolyn
7.6 disgwyliadau'r unigolyn
strwythyrau anatomegol y pen a sut y maent yn effeithio ar y gwasanaeth torri gwallt
pam ei bod yn bwysig dodi siampŵ ar y gwallt a chroen y pen cyn y gwasanaeth torri gwallt
pam dylech chi gribo'r gwallt cyn y gwasanaeth torri gwallt
y mathau traddodiadol a chyfredol o siapiau gwallt
12. strwythurau anatomegol y pen a’r wyneb a sut maent yn effeithio ar y gwasanaeth torri gwallt i gynnwys:
12.1 y siâp a'r dyfnder cyffredinol
12.2 dyfnder y trimio amlinellol sydd ei angen
- sut i bersonoli'r dulliau torri
14. pwysigrwydd ystyried patrymau tŵf naturiol er mwyn creu dosbarthiad pwysau cytbwys
y rhesymau tros sefydlu a dilyn canllawiau
sut i greu a dilyn canllaw ar gyfer siap yr wyneb
y gwasanaeth yn unol â'ch polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
18. y peryglon cysylltiedig o dorri blew'r wyneb yn agos at groen noeth
y perygl o flew yn tyfu am i mewn o ganlyniad i dorri parhaus yn agos
pwysigrwydd croes-edrych ar gymesuredd a chydbwysedd y toriad
sut i ddefnyddio, lefelu a phrofi cliperi
maint a'r mathau o gliperi, llafnau cliper, trimwyr ac atodiadau sydd ar gael a'r effeithiau mae'r rhain yn eu cyflawni.
y mathau o broblemau all ddigwydd pan yn torri blew'r wyneb a sut gellir eu cywiro
y pwysigrwydd o ymgynghori gydag unigolion drwy gydol y broses o dorri gwallt
25. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â'r gwasanaeth eillio a sut i ymateb iddynt
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
pam ei bod hi'n bwysig trafod gyda a chanfod gan yr unigolyn ei amcanion, pryderon, disgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth torri gwallt
y strwythurau taliadau a'r dewisiadau ar gyfer gwasanaeth
y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus am y gwasanaeth
pwysigrwydd cofnodi canlyniad y gwasanaeth torri gwallt a'r gwerthusiad ohono
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
y rhesymau dros gymryd cyfryngau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn a'i gadw yn unol â'r gofynion gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfunfrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynglŷn â chwblhau a chadw cofnod gwasanaeth torri gwallt
y deilliannau disgwyliedig o wasanaethau torri gwallt
35.diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol
pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth torri gwallt
y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth torri gwallt
Cwmpas/ystod
Dosbarthiad cyrls gwallt
- syth
- tonnog
- cyrliog
- cyrls tynn
- cyfuniad
Nodweddion y gwallt
- dwysedd gwallt
- gwead y gwallt
- ystwythder y gwallt
- mandylledd y gwallt
- * *patrymau tŵf y gwallt
Siapiau'r gwallt
- llinellau syth
- llinellau cromlin
wedi'i ailadrodd
cylchfesuriad
- realaeth /cysgodi
- stensiliau
* ** *
*
*
*
*
Protocol gwasnaeth torri gwallt
- amgylchedd wait
- iechyd a diogelwch
- atal a rheoli haint
- cynllun gwasanaeth
cydsyniad gwybodus
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- rheoli data
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
Offer a Chyfarpar
- cliperi
- rasel dorri syth gyda llafnau sy'n cael ei defnyddio unwaith
- rasel steilio
- trimwyr
manylwyr
ffoeliau
Hair cutting techniques
- freehand
- clipper over comb
- clipper with attachment
- skin fading
- texturizing
- razor cutting
- tapering
- trimming
Technegau torri gwallt
- llaw rhydd
- siswrn dros y crib
- cliper dros y crib
pylu croen
creu gwead
- torri â rasel
- tapro
- trimio
Cyfarwyddiadau
hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a'r ymarferydd
cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
- cyfyngiadau a pheryglon cysylltiedig
- gweithdrefnau yn y dyfodol
Anatomeg and ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff yn ymwneud â'r gwallt a'i dŵf
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
* *
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei
gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn
gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,
e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth
orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith
neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Dosbarthiad cyrls gwallt
Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls gwallt fel Math 1 – 4.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Rasel syth
Rasel syth gyda llafnau a ddefnyddir unwaith yn cael ei defnyddio i gael gwared o'r gwallt o'r croen.
Rasel steilio
Mae gan rasel steilio giardiau amlswyddogaethol dewisol wedi eu hatodi i'r llafn er mwyn creu gwead i'r gwallt ac effeithiau teneuo.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKABBR2, SKABR2, SKABR3, SKABR4, SKAHDBR2, SKAHDBR3,
SKAHDBR4, SKAHDBR5,
SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5