Llunio a chreu siapiau i flew’r wyneb gan ddefnyddio technegau ar lefel uwch
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu, a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â **rhywun o'r proffesiwn trin gwallt yn ail-lunio, siapio a phersonoli blew'r wyneb gan ddefnyddio technegau llawrydd, clipiwr a rasel ar lefel uwch. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar ôl y gwasanaeth er mwyn ei wella'n barhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a'r canllawiau arferion gorau diweddaraf. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau.
Y prif ddeilliannau yw:
- ail-lunio a siapio mwstas
- ail-lunio a siapio barf rhannaol a mwstas
- ail-lunio a siapio barf llawn a mwstas
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
- cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau, i gynnwys:
2.1 cael gwared o ddarnau o flew dros ben a thoriadau o flew wyneb o groen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth
2.2 codi blew sydd dros ben oddi ar y llawr er mwyn osgoi anaf
3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a'r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth torri blew, i gynnwys:
3.1 ystyried strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb
3.2 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
edrych ar amrywiaeth o siapiau ar gyfer blew'r wyneb y gellir eu cyflawni gyda'r unigolyn gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol
gwneud dadansoddiad o flew'r wyneb a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth, i gynnwys:
5.1 dosbarthiad cyrls y blew
*5.2 *nodweddion y blew **
**5.3 patrymau tŵf blew'r wyneb
5.4 dosbarthiad y croen
5.5 cyflwr y croen
5.6 blew yn tyfu am i fewn
5.7 tylliadau i'r wyneb
- cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth torri blew'r wyneb arfaethedig i gynnwys:
6.1 gwrth weithredoedd
6.2 adweithiau niweidiol
7. sicrhau cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth torri blew'r wyneb
paratoi'r croen a'r blew yn unol â'r protocol gwasanaeth torri blew'r wyneb
dewis offer a chyfarpar sy'n addas ar gyfer anghenion yr unigolyn ac er mwyn sicrhau'r edrychiad a ddymunir, i gynnwys:
9.1 trin a defnyddio'r offer a'r cyfarpar mewn modd diogel er mwyn osgoi niwed i'r croen a'r blew
- creu a thorri'r amlinelliad cychwynnol gan ddefnyddio technegau torri blew'r wyneb yn unol â'r cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb i gynnwys:
10.1 cadarnhau gyda'r unigolyn ei fod eisiau bwrw ymlaen gyda thorri blew ei wyneb
11. torri blew wyneb yr unigolyn gan ddefnyddio'r canllawiau er mwyn sicrhau bod pwysau, cymesuredd, cydbwysedd a siap yn cael eu sicrhau yn unol â'r protocol torri blew'r wyneb, i gynnwys:
11.1 cylchdroi eich safle o gwmpas yr unigolyn er mwyn sicrhau cywirdeb y toriad
11.2 addasu eich technegau torri blew er mwyn personoli siap blew'r wyneb
12. croes-wirio’r toriad er mwyn sicrhau dosbarthiad cywir o bwysau, cymesuredd, cydbwysedd a siâp
- siapio cylchfesurau'r blew gan ddefnyddio technegau torri blew gan gymryd i ystyriaeth
13.1 y rhimyn blew naturiol
13.2 patrymau tŵf blew'r wyneb
14. cwblhau gwasanaeth torri blew'r wyneb gan sicrhau bod yr unigolyn yn rhydd o ddarnau o flew yn unol â'r protocol torri blew'r wyneb i gynnwys:
14.1 dodi cynnyrch ôl-driniaeth
monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth torri blew'r wyneb
gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw yn unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso'r gwasanaeth torri gwallt a chymryd camau priodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth
cofnodi canlyniad y gwasanaeth torri blew'r wyneb a'r gwerthusiad ohono
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau torri blew'r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol; i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hun a'ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r gwasanaeth torri blew, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a'u cyfeirio at weithiwr proffesiynol gofal iechyd perthnasol
cyfyngiadau technegau torri blew'r wyneb a'r addasiadau sy'n ofynnol, mewn perthynas â'r canlynol:
7.1 dosbarthiad croen a chyrls y blew
7.2 cyflwr y croen a'r blew
7.3 patrymau tŵf blew'r wyneb
7.4 strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb
7.5 tylliadau i'r wyneb
7.6 hoffterau'r unigolyn
7.7 disgwyliadau'r unigolyn
- y mathau traddodiadol a chyfredol o siapiau blew'r wyneb a siapiau llinell y gwddf, i gynnwys:
8.1 sut i nodi gwahanol siapiau o flew'r wyneb
8.2 sut mae patrymau tŵf blew'r wyneb yn effeithio ar y dewis o siap blew'r wyneb
strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb a sut maent yn effeithio ar y gwasanaeth torri blew'r wyneb
sut i asesu amlinellau a nodweddion wyneb yr unigolyn er mwyn penderfynu ar y siapiau priodol i'r wyneb
11. pryd a pham mae'r croen a'r blew yn cael eu glanhau o flaen gwasanaeth torri blew'r wyneb
- pam dylech chi gribo'r blew cyn y gwasanaeth torri blew'r wyneb
13. y mathau o dechnegau torri blew’r wyneb ar gyfer pob dosbarthiad o gyrls y blew a nodweddion y blew,a phryd a sut i’w defnyddio, i gynnwys:
13.1 y siap a'r dyfnder cyffredinol
13.2 dyfnder y trimio amlinellol sydd ei angen
sut i bersonoli technegau torri blew'r wyneb
pwysigrwydd ystyried patrymau tŵf naturiol er mwyn creu dosbarthiad pwysau cytbwys
y rhesymau dros sefydlu a dilyn canllawiau
sut i greu a dilyn canllaw ar gyfer siap y wyneb
y risgiau cysylltiedig o doriadau blew'r wyneb yn agos at groen agored
y risg o flew yn tyfu am i mewn o ganlyniad i dorri parhaus yn agos
achosion creithio celoid a'r rhagofalon i'w cymryd
pwysigrwydd croes-wirio cymesuredd a chydbwysedd y toriad
sut i ddefnyddio, lefelu a phrofi cliperi
maint a'r mathau o gliperi, llafnau cliper ac atodiadau sydd ar gael a'r effeithiau mae'r rhain yn eu cyflawni
y mathau o broblemau all ddigwydd pan yn torri blew'r wyneb a sut gellir eu cywiro
pwysigrwydd ymgynghori gydag unigolion drwy gydol y broses o dorri blew'r wyneb
yr adweithiau niweidiol a gysylltir â'r gwasanaeth torri blew'r wyneb a sut i ymateb iddynt
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
pam ei bod yn bwysig trafod gyda a chanfod gan yr unigolyn ei amcanion, ei bryderon, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb
y strwythurau taliadau a'r dewisiadau ar gyfer gwasanaeth
30.amseroedd y gwasanaeth yn unol â'ch polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
31. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus am y gwasanaeth
- pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth torri blew'r wyneb
33. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
34. y rhesymau dros gymryd cyfryngau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn a'i gadw yn unol â'r gofynion gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynglŷn â chwblhau a chadw cofnod gwasanaeth torri blew'r wyneb
canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau torri blew'r wyneb
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaethau yn y dyfodol
pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth torri blew'r wyneb
y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth torri blew'r wyneb
Cwmpas/ystod
Dosbarthiad cyrls y blew
syth
tonnog
cyrliog
cyrls tynn
cyfuniad
Nodweddion y blew
- dwysedd y blew
- gwead y blew
- patrymau tŵf blew'r wyneb
Protocol gwasanaeth torri blew'r wyneb
1. amgylchedd waith
2.iechyd a diogelwch
atal a rheoli haint
cynllun gwasanaeth
cydsyniad gwybodus
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
rheoli data
archwilio ac atebolrwydd
cyfarwyddiadau a chyngor
cynaliadwyedd
11. rheoli gwastraff
12. ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
*
**Offer a Chyfarpar *
- siswrn
- clipwyr
- siswrn teneuo
- rasel gylchol
- rasel syth â llafn a ddefnyddir unwaith
- llafnau
- rasel steilio
- trimwyr
- manylwyr
Techegau torri blew'r wyneb
- torri clwb
- llaw rhydd
- siswrn dros y crib
- cliper dros y crib
- cliper gydag atodiad
- pylu
- creu gwead
- teneuo
- torri â rasel
- tapro
- graddio
- haenu
- trimio
- cerfio
*
*Cyfarwyddiadau
- hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a'r ymarferydd
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- gweithdrefnau yn y dyfodol
Anatomeg and ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff yn ymwneud â'r blew a'u tŵf
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn
gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth
orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Dosbarthiad cyrls y blew
Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls blew fel Math 1 – 4.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a
chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Rasel syth
Rasel syth gyda llafnau a ddefnyddir unwaith yn cael eu defnyddio i gael gwared o'r blew o'r croen.
Rasel steilio
Mae gan rasel steilio giardiau amlswyddogaethol dewisol wedi eu hatodi i'r llafn er mwyn creu gwead i'r blew ac effeithiau teneuo.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKABBR2, SKABR1,SKABR3, SKABR4, SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4,SKAHDBR5, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14,