Torri blew’r wyneb
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu, a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun o'r proffesiwn trin gwallt sy'n torri blew'r wyneb gan ddefnyddio technegau torri clwb, llawrydd, siswrn dros y grib, trimio, cliper dros y grib a chliperi gan ddefnyddio giard. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar ôl y gwasanaeth er mwyn ei wella'n barhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a'r canllawiau arferion gorau diweddaraf. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau.
Y prif deilliannau yw:
- Trimio a mwstas
- trimio barf
- trimio barf a mwstas rhannol
- trimio barf a mwstas llawn
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau i gynnwys: 2.1 cael gwared o flew dros ben a thoriadau o flew wyneb o groen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth
2.2 codi blew sydd dros ben oddi ar y llawr er mwyn osgoi anaf
3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a'r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb, i gynnwys:
3.1 ystyried strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb
dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
- gwneud dadansoddiad o flew'r wyneb a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb, i gynnwys:
4.1 dosbarthiad cyrls y blew
4.2 nodweddion gwallt
4.3 patrymau tŵf blew'r wyneb
4.4 dosbarthiad croen
4.5 cyflwr y croen
4.7 gwallt yn tyfu am i mewn
4.8 tyllau yn y wyneb
5. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y gwasanaeth torri blew’r wyneb arfaethedig, i gynnwys :
5.1 gwrth-weithredoedd
5.2 adweithiau niweidiol
- sicrhau cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn am y gwasanaeth torri blew'r wyneb
7. paratoi’r croen a’r blew yn unol â’r protocol gwasanaeth torri blew’r wyneb.
- dewis offer a chyfarpar sy'n addas ar gyfer dosbarthiad cyrls blew yr unigolyn er mwyn sicrhau'r edrychiad a ddymunir, i gynnwys
8.1 trin a defnyddio'r offer a'r cyfarpar mewn modd diogel er mwyn osgoi niwed i'r croen a'r blew
- creu a thorri'r canllaw gwreiddiol gan ddefnyddio technegau torri blew'r wyneb yn unol â'r cynllun torri blew'r wyneb, i gynnwys:
9.1 cadarnhau gyda'r unigolyn a ydyw eisiau bwrw ymlaen gyda thorri blew ei wyneb
10. torri blew wyneb yr unigolyn gan ddefnyddio’r canllawiau er mwyn sicrhau bod pwysau, cymesuredd, cydbwysedd a siap yn cael eu sicrhau i gynnwys:
10.1 cylchdroi eich safle o gwmpas yr unigolyn er mwyn sicrhau cywirdeb y toriad
10.2 addasu eich technegau torri blew’r wyneb yn unol â’r protocol gwasanaeth torri blew’r wyneb.
11. croes-edrych ar y toriad er mwyn sicrhau dosbarthiad cywir o bwysau, cymesuredd, cydbwysedd a siâp
- siapio cylchfesurau'r blew gan ddefnyddio technegau torri blew'r wyneb, gan gymryd i ystyriaeth:
12.1 rhimyn naturiol y blew
12.2 patrymau tŵf blew'r wyneb
12.3 cwblhau'r gwasanaeth torri blew'r wyneb gan sicrhau bod yr unigolyn yn rhydd o ddarnau o flew i gynnwys:
13. dodi cynnyrch wedi triniaeth
14. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth torri blew'r wyneb
15. gweithredu'r camau cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw yn unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso'r gwasanaeth torri blew'r wyneb a chymryd camau priodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth
19. cofnodi canlyniad y gwasanaeth torri blew’r wyneb a’r gwerthusiad ohono
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich rol a'ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau torri blew'r wyneb a'r pwysigrwydd o weithio o fewn eich gallu.
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol; i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hunain a'ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau
4. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r gwasanaeth torri blew, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a'u cyfeirio at weithiwr proffesiynol gofal iechyd perthnasol
- cyfyngiadau technegau torri blew'r wyneb a'r addasiadau sy'n ofynnol, mewn perthynas â'r canlynol:
7.1 dosbarthiad croen a cyrls gwallt
7.2 nodweddion blew
7.3 cyflwr y croen
7.4 patrymau tŵf blew'r wyneb
7.5 strwythyrau anatomegol y pen a'r wyneb yn cynnwys rhannau o'r croen sydd wedi eu codi neu eu gostwng
7.6 tyllau yn y wyneb
7.7 disgwyliadau'r unigolyn
- strwythurau anatomegol y pen a'r wyneb a sut maent yn effeithio ar y gwasanaeth torri blew'r wyneb
9. sut i asesu amlinellau a nodweddion yr wyneb er mwyn cadarnhau siap priodol blew'r wyneb
pryd a phan mae'r croen a'r blew yn cael eu glanhau cyn y gwasanaeth torri blew'r wyneb
pam dylech chi gribo'r blew cyn y gwasanaeth torri blew'r wyneb
12. y mathau traddodiadol a chyfredol o siapiau blew’r wyneb a siapiau rhimyn y gwddf, i gynnwys:
12.1 sut i adnabod siapiau addas ar gyfer blew'r wyneb
12.2 sut mae patrymau tŵf blew’r wyneb yn effeithio ar y dewis o siap blew’r wyneb
13. y mathau, sut a phryd i ddefnyddio technegau torri blew'r wyneb ar gyfer pob dosbarthiad cyrl blew:
13.1 y siap a'r dyfnder cyffredinol
13.2 y trimio amlinellol a ofynnir
pwysigrwydd ystyried patrymau tŵf naturiol er mwyn creu dosbarthiad pwysau cytbwys
y rhesymau tros sefydlu a dilyn canllawiau
16. sut i greu a dilyn canllaw ar gyfer siap yr wyneb
17. y peryglon cysylltiedig o dorri blew’r wyneb yn agos at groen noeth
**18. y perygl o flew yn tyfu am i mewn o ganlyniad i dorri parhaus yn agos
achosion creithio celoid
pwysigrwydd croes-edrych ar gymesuredd a chydbwysedd y toriad
sut i ddefnyddio, lefelu a phrofi cliperi
maint a'r mathau o gliperi, llafnau cliper, trimwyr ac atodiadau sydd ar gael a'r effeithiau mae'r rhain yn eu cyflawni.
y mathau o broblemau all ddigwydd pan yn torri blew'r wyneb a sut gellir eu cywiro
24. pwysigrwydd ymgynghori gydag unigolion drwy gydol y broses o dorri blew’r wyneb
- yr adweithiau niweidiol a gysylltir â'r gwasanaeth eillio a sut i ymateb iddynt
26. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
- pam ei bod hi'n bwysig trafod gyda a chanfod gan yr unigolyn ei amcanion, pryderon, disgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth torri blew'r wyneb
28. y strwythurau taliadau a'r dewisiadau ar gyfer gwasanaeth
29. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus am y gwasanaeth
- pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth torri blew'r wyneb
31. amser y gwasanaeth yn unol â'ch polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
32. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
33. y rhesymau dros gymryd cyfryngau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn a'i gadw yn unol â'r gofynion gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfunfrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynglŷn â chwblhau a chadw cofnod gwasanaeth torri blew wyneb yr unigolyn
y deilliannau disgwyliedig o wasanaethau torri blew'r wyneb
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a'r modd y mae'n darparu gwybodaeth er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol
37. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth torri blew'r wyneb
38. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth torri blew'r wyneb
Cwmpas/ystod
Dosbarthiad cyrls gwallt
- syth
- tonnog
- cyrliog
- cyrls tynn
- cyfuniad
Nodweddion blew'r wyneb
- dwysedd gwallt
- gwead y gwallt
- * *patrymau tŵf blew'r wyneb
Protocol gwasnaeth torri blew'r wyneb
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- atal a rheoli haint
- cynllun gwasanaeth
- cydsyniad gwybodus
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- rheoli data
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
10. cynaliadwyedd
11. rheoli gwastraff
12. ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
13. ymarfer adfyfyriol
Offer a Chyfarpar
- Sisyrnau
- cliperi
- trimwyr
- ffoeliau
Cynnyrch seboni
- hufen
- gel
3. olew - sebon
Techegau torri blew'r wyneb
- llaw rhydd
- siswrn dros y crib
- cliper dros y crib
- cliper gydag atodiad
Cyfarwyddiadau
- hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a'r ymarferydd
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
- cyfyngiadau a pheryglon cysylltiedig
- gweithdrefnau yn y dyfodol
Anatomeg and ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth y blew a'u tŵf
- strwythur a swyddogaeth y croen
- strwythur anatomegol sylfaenol y pen, y gwddf a'r ysgwyddau
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
* *Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn
gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth
orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
* *
Dosbarthiad cyrls blew
Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls gwallt fel Math 1 – 4.
Protocol
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKABBR2, SKABR2, SKABR3, SKABR4, SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10,SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5