Darparu gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Ewinedd sy'n darparu gwasanaethau ewin i wella, cynnal a thrwsio gwelliannau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV er mwyn gwella ymddangosiad yr ewinedd ar y dwylo a/neu traed. Mae'r gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn cynnwys paratoi'r ewinedd, siapio'r ewinedd, gwaith ar y glasgroen a dodi'r gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Gwella'r ewinedd drwy ddodi gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
- Cael gwared o'r cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV o'r ewin naturiol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
- trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon ynglŷn â'i ewinedd, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun gwasanaeth, i gynnwys:
3.1 cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
3.2 gorffeniad i'r ewin wedi ei drin ag UV
3.3 ffordd o fyw
3.4 dewisiadau triniaeth amgen
- cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV arfaethedig, i
gynnwys:
4.1 gwrth-weithredoedd
4.2 adweithiau niweidiol
**4.3 teimlad corfforol ar haen yr ewin a'r croen o amgylch
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
6. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, i gynnwys:
6.1 cael gwared o unrhyw gynnyrch sy'n bodoli o'r ewin yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
7. gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen, i gynnwys:
7.1 cyflwr yr ewin
7.2 cyflwr y croen
7.3 hyd a siap yr ewin
trafod a chytuno ar y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn unol â'r protocol cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
cadarnhau gyda'r unigolyn yr hyd a'r siap i'r ewin y mae'n ei ddymuno
siapio'r ewinedd er mwyn sicrhau min rhydd yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
11. paratoi'r glasgroen yn unol â'r protocol cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
- defnyddio offer i gael gwared o lasgroen o blât gweledig yr ewin heb niweidio'r croen o amgylch yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
13. paratoi plat yr ewin ar gyfer gorffeniad yr ewin wedi ei drin ag UV yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
14. dewis y cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
dodi'r gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV i blât yr ewin gan adael ymyl rydd o'r croen o amgylch yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
trin y cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV gan ddefnyddio cyfarpar UV hyd y diwedd **yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
cael gwared o'r haen ataliad o'r cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r gwasanaeth yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth a gweithredu'n briodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaeth
cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu'r gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
3. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau diweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r gwasanaeth ewinedd, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
diben, y defnydd o a chyfyngiadau gwasanaethau, cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV mewn perthynas â:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 cyflwr yr ewin a'r croen
7.3 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw
7.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.5 disgwyliadau'r unigolyn
8. y gwahanol fathau o gyflyrau'r croen a'r ewin y gellir eu trin
9. sut i wneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen
y siapiau naturiol i'r ewin a sut gallant effeithio ar y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth
pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
y technegau llaw a ddefnyddir wrth wneud gwelliannau i'r ewin gan ddefnyddio cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, i gynnwys:
13.1 sut i addasu'r gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
y mathau o gynnyrch ewin UV, cynnyrch gofal o'r croen a chyfarpar a ddefnyddir gyda gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV a'u manteision a'u cyfyngiadau
sut a phryd i ddefnyddio gelau adeiladu
17. y broses bolymereiddio
- y sbectwm electromagnetig a'r tonfeddi UV
19. sut i drin cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV mewn modd effeithiol, i gynnwys:
19.1 y rhesymau dros i gynnyrch ewin wedi ei drin ag UV gael ei drin rhy ychydig a/neu drin yn ormodol
20. pwysigrwydd defnyddio lamp UV gyda’r donfedd, tywyniad a’r amseriad priodol ar gyfer cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin
pam ei bod yn bwysig glanhau a sychu'r ewin naturiol cyn dodi cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
y mathau a'r dulliau o ddodi cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, i gynnwys:
pam y ceir gwared o'r haen ataliad yn dilyn dodi cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
y rhesymau dros ddodi cynnyrch wedi triniaeth yn dilyn dodi cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
y cyfarpar a ddefnyddir mewn gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, i gynnwys:
26.1 y gofynion ar gyfer cynnal a chadw, defnyddio a diogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
y dulliau a ddefnyddir i gael gwaraed o gynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
yr adweithiau niweidiol a gysylltir gyda gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV a sut i ymateb
29. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth, i gynnwys:
29.1 pwysigrwydd echdynnu ac awyriant digonol pan yn defnyddio cynnyrch gwella ewinedd
- pwysigrwydd defnyddio cynnyrch sydd wedi cael eu cymeradwyo'n gosmetig
31. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd
y mathau a'r risgiau cysylltiedig o gynnyrch i'r ewinedd sy'n gysylltiedig â natur wenwynig
y rhesymau pam bod angen cynllun wrth gefn ar gyfer cael gwared o welliant yr ewin, i gynnwys:
33.1 y ffyrdd y gall cynllun wrth gefn fod yn effeithiol ac yn fodd o gadw iechyd a diogelwch yr unigolyn
pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ewinedd i blant dan oed ac oedolion bregus
y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion o wasanaeth yr unigolyn
canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
Cwmpas/ystod
Cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
- sglein gel UV
gel adeiladu
cotiau sail
- cotiau uwch
*
**
**Gorffeniad cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV*
- tywyll
ffrengig
lliw
*
**Adweithiau niweidiol*
- adwaith alergaidd
- afliwiad o'r cynnyrch
- afliwiad o blât yr ewin
- afliwiad o haen yr ewin
- plât yr ewin yn teneuo
- toriadau a chrafiadau
- cleisio
- goroleuad
- adwaith ecsothermig
- codi'r cynnyrch
- haint
- onycholysis
*
**
**Protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV*
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- atal a rheoli haint
- cynllun gwasnaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
*
*Cyflwr yr ewin
- cnoi ewinedd
- afliwiad
- wedi ystumio
- hollt uwchben yr hyponychium
- llinellau beau
- llinellau hydredol a llorweddol gwrymiog
- sych
- onychorhecsis
- leukonychia
- onycholysis
Hyd a siap yr ewin
- hir
- hyd canolig
- byr
- crwn
- hirgrwn
- sgwar
- sgwofal
- almon
****Cyfarpar****
UV CFL
UV LED
*
**
**
**Cyfarwyddiadau*
- hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- gwasanaethau yn y dyfodol
*
**Anatomeg a ffisioleg*
**
- strwythur a swyddogaethau'r croen
- strwythur a swyddogaethau'r ewin
- anatomeg a ffisioleg y dwylo a'r traed
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
Siapiau naturiol yr ewin
- ffan
- bachyn
- llwy
- hirgrwn
- sgwar
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth, e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Gwenwyndra
Penderfynir gwenwyndra gan adwaith rhywun i wahanol ddognau o gemegolyn. Gall gwenwyndra neu adweithiau niweidiol ddigwydd o ganlyniad i anghynawsedd gyda chymysgedd anghywir o gemegolion.
Cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
Mae cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn ffurfiau o gel caled a meddal sy'n gofyn am driniaeth gan ddefnyddio cyfarpar UV wedi ei galibro.
Cyfarpar UV
Mae yna ddau fath o gyfarpar allyrru UV. Cant eu hadnabod fel Lamp Fflworoleuol Gywasgedig (CFL) lamp UV neu lamp UV Ddeuod Allyrru (LED) UV.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN2, SKANT1 SKANT2, SKANT3, SKANT4, SKANT5, SKANT6, SKANT7, SKANT9