Darparu triniaethau i’r traed
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Harddwch neu Ewinedd sy'n darparu triniaethau i'r traed er mwyn cynnal cyflwr yr ewin a'r croen. **Mae triniaeth i'r traed yn cynnwys paratoi'r traed a'r ewinedd, siapio'r ewinedd, gwaith ar y glasgroen, diblisgiad o'r croen, cael gwared o galedennau, tylino, triniaethau gwres a gorffeniad i'r ewin. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Darparu triniaethau i'r traed
- Darparu triniaethau gwres
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
- trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon ynglŷn â'i ewinedd, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun gwasanaeth triniaeth i'r traed, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 dewisiadau triniaeth amgen
4. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y driniaeth arfaethedig i'r traed, i gynnwys:
4.1 gwrth-weithredoedd
4.2 adweithiau niweidiol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad yr unigolyn wedi ei hysbysu ar gyfer y driniaeth i'r traed yn unol â gofynion y gwasanaeth deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
6. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth i'r traed*,* i gynnwys:
6.1 cael gwared o unrhyw gynnyrch sy'n bodoli o'r ewin yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen, i gynnwys:
7.1 cyflwr yr ewin
7.2 cyflwr y croen
7.3 hyd a siap yr ewin
7.4 gorffeniad yr ewin
8. trafod a chytuno ar y cynnyrch ar gyfer yr ewin a gofal y croen i'w defnyddio yn y driniaeth i'r traed yn unol â'r protocol triniaeth a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, i gynnwys:
8.1 triniaeth gwres
8.2 triniaeth i gael gwared o gorn
9. cadarnhau gyda'r unigolyn yr hyd a'r siap i'r ewin y mae'n ei ddymuno
10. clipio a siapio'r ewinedd er mwyn sicrhau min rhydd clip esmwyth yn unol â'r protocol gwasanaeth triniaethau i'r traed
Diblisgiad
11. dewis a defnyddio diblisgydd yn unol â'r protocol triniaethau i'r traed
Gwaith ar y glasgroen
12. trochi'r ewinedd a'r glasgroen yn unol â'r protocol triniaeth i'r traed
paratoi'r glasgroen yn unol â'r protocol triniaeth i'r traed
defnyddio offer i gael gwared o lasgroen o blât gweledig yr ewin heb niweidio'r croen o amgylch yn unol â'r protocol triniaeth i'r traed Triniaeth i gael gwared o galeden
dewis a gweithredu triniaeth i gael gwared o galeden ar ochr isaf y droed yn unol â'r protocol triniaeth i'r traed
16. cwblhau'r driniaeth i gael gwared o galeden yn unol â'r protocol triniaeth i'r traed
Tylino
dewis cyfrwng tylino yn unol â'r protocol gwasanaeth triniaeth i'r traed
dodi'r cyfrwng tylino a chyflawni'r technegau tylino yn unol â'r protocol gwasanaeth triniaethau i'r traed, i gynnwys:
18.1 technegau ymlacio
18.2 technegau tylino therapiwtig
Triniaeth gwres
19. dewis cynnyrch mwgwd yn unol â'r protocol gwasanaeth triniaeth i'r traed
paratoi a dodi'r driniaeth gwres yn unol â'r protocol gwasanaeth triniaeth i'r traed
cael gwared o'r cynnyrch mwgwd yn unol â'r protocol gwasanaeth triniaeth i'r traed Gorffeniad yr ewin
dewis gorffeniad yr ewin a pharatoi plat yr ewin yn unol â'r protocol gwasanaeth triniaethau i'r traed
dodi gorffeniad yr ewin yn unol â'r protocol gwasanaeth triniaeth i'r traed
monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth i'r traed
gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth i'r traed, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
27. cwblhau cofnodion yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
28. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth i'r traed a gweithredu'n briodol
29. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
- cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r driniaeth i'r dwylo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn cyflawni triniaeth i'r traed a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
3. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
pwysigrwydd adnabod nodweddion amheus afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
diben, y defnydd o a chyfyngiadau triniaethau i'r traed, mewn perthynas â:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 cyflwr yr ewin a'r croen ar y traed
7.3 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw
7.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.5 disgwyliadau'r unigolyn
y mathau o gyflyrau'r ewin a'r croen y gellir eu trin
sut i wneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen
y siapiau naturioI i'r ewin a sut allant effeithio ar y driniaeth i'r traed
sut i rwystro ewinedd y traed rhag tyfu am i mewn, i gynnwys:
11.1 sut a phryd i gyfeirio at rywun meddygol proffesiynol
pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth
pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth i'r traed
y technegau llaw a ddefnyddir mewn triniaeth i'r traed i gynnwys:
14.1 sut i addasu'r driniaeth i'r traed er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
y mathau o, manteision a chyfyngiadau cynnyrch yr ewin a gofal o'r croen o'r croen a'r cyfarpar a ddefnyddir mewn triniaethau i'r traed, i gynnwys:
16.1 y risgiau sy'n gysylltiedig ag alegreddau a chynhwysion a allai achosi niwed
sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth i'r traed
y technegau tylino a ddefnyddir o fewn triniaeth i'r traed
effeithiau ffisiolegol technegau tylino ar yr ewinedd a'r croen
pam ei bod yn bwysig glanhau a sychu'r ewin naturiol cyn dodi gorffeniad i'r ewin
y mathau a'r dulliau o ddodi gwahanol orffeniadau i'r ewin
yr adweithiau niweidiol a gysylltir gyda thriniaeth i'r traed a sut i ymateb
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod, ac ar ôl y driniaeth i'r traed
pam ei bod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth i'r traed
y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus
y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
y gofynion deddwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer triniaeth i'r traed
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
29. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
- y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion o driniaeth i draed yr unigolyn
31. canlyniadau disgwyliedig y triniaethau i'r traed
- diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
33. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r driniaeth i'r traed
34. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth i'r traed
Cwmpas/ystod
Adweithiau niweidio*l*
- hyperaemia
- adwaith alergaidd
- afliwiad o'r cynnyrch
- afliwiad o blât yr ewin
- afliwiad o haen yr ewin
- plât yr ewin yn teneuo
- toriadau a chrafiadau
- cleisio
- codi'r cynnyrch
- haint
****Protocol triniaeth i'r traed****
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- atal a rheoli haint
- cynllun triniaeth
- cydsyniad wedi ei hysbysu
- rheoli data
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
****Cyflwr yr ewin****
- cnoi ewinedd
- afliwiad
- wedi ystumio
- hyponychium hollt uwchben yr hyponychium
- llinellau beau
- llinellau hydredol a llorweddol gwrymiog
- sych
- onychorrhexis
- leukonychia
- onycholysis
Cyflwr y croen
glasgroen wedi ei ddifrodi
glasgroen a chroen sych
- glasgroen wedi gordyfu
- croen bregus
- caledennau
- craciau arwynebol yn y sodlau
****Gorffeniad yr ewin****
- sglein yr ewin
- clustog caboli
- ewin naturiol
cryfhawr ewin
ffrengig
- lliw tywyll
- lliw ysgafn
****Triniaeth gwres****
- botasau wedi eu cynhesu
- cwyr paraffin
****Cyfrwng tylino****
- olew
- hufen
- di-olew
****Technegau Tylino****
- effliwedd
- petrisedd
- tapio
- ffrithiannau
*
Cyfarwyddiadau*
- hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- triniaethau yn y dyfodol
* *Anatomeg a ffisioleg**
- strwythur a swyddogaethau'r croen
- strwythur a swyddogaethau'r ewin
- anatomeg a ffisioleg y traed
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth, e.e. llewygu
Triniaeth i gael gwared o galeden
Mae triniaeth i gael gwared o galeden yn aml yn cynnwys diblisgiad, dodi cynnyrch a ddefnyddir i feddalu croen caled a chael gwared on unrhyw groen caled sydd ar ôl gyda chrafell neu garreg bwmis, gall fod yn wahanol fodd bynnag gan ddibynnu ar gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN3, SKANT1, SKANT2,
SKANT3, SKANT4, SKANT5, SKANT6, SKANT7, SKANT9