Darparu triniaethau taenu cwyr caled i’r ffroenau, clustiau a blew’r aeliau

URN: SKABBR3
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma'n ymwneud â darparu gwasanaethau taenu cwyr i'r clustiau, ffroenau a blew'r ael. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. cael gwared o flew nad oes mo'u heisiau o'r ffroenau
  2. cael gwared o flew nad oes mo'u heisiau o'r clustiau
  3. cael gwared o flew nad oes mo'u heisiau i siapio ael y llygad

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth taenu cwyr, i gynnwys:

3.1 dewisiadau triniaeth amgen

  1. cynnal profion a chofnodi'r canlyniad er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y driniaeth yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

5. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth cwyro arfaethedig, i gynnwys:

5.1 canlyniadau disgwyliedig
5.2 gwrth-weithredoedd

5.3 adweithiau niweidiol
**5.4 teimlad corfforol

  1. sicrhau a chofnodi cydsyniad yr unigolyn wedi ei hysbysu ar gyfer y driniaeth taenu cwyr, yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant

  2. paratoi'r unigolyn a man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro i gynnwys:

7.1 dewis a defnyddio cynnyrch paratoi glendid a chyn-gwyr i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

7.2 gwarchod y croen a'r blew o amgylch gyda rhwystr addas ** yn unol â'r cynllun triniaeth taenu cwyr

7.3 cadw'r unigolyn yn gyfforddus

  1. gwneud dadansoddiad o'r blew a'r croen, i gynnwys:

8.1 patrymau tŵf y blew

8.2 cyflwr y croen

  1. dewis y cwyr yn unol â'r protocol triniaeth cwyro, i gynnwys:

9.1 bod y tymheredd a osodir yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

9.2  bod cysondeb y cwyr yn briodol ar gyfer man triniaeth yr unigolyn

  1. cael gwared o'r blew gan ddefnyddio systemau cwyr caled, i gynnwys:

10.1 cynnal prawf clytiau gwresol yn syth cyn y driniaeth taenu cwyr* ***ar arddwrn y therapydd a man triniaeth yr unigolyn

10.2 sefydlu patrwm tŵf y blew

10.3 trosglwyddo'r cwyr o'r uned gwyr yn unol â gofynion deddfwriaethol er mwyn cadw'r risg o groes-heintio a halogiad mor isel â phosibl 10.4 dodi'r cwyr ar yr ongl briodol yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

10.5 cael gwared o'r cwyr yn sydyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

10.6 sicrhau bod man triniaeth yr unigolyn yn cael ei adael heb gwyr a blew yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

10.7 dodi cynnrych lleddfu ar fan triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

  1. sicrhau cyn lleied o wastraff â phosibl er mwyn cynaliadwyedd

  2. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth cwyro

  3. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol, i gynnwys:

  4. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth cwyro, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  5. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  6. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth cwyro a gweithredu'n briodol

  7. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth cwyro

18. cofnodi canlyniad y driniaeth cwyro a’r gwerthusiad ohoni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau i'r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

2. pam bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys: 2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad 3. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf 4. yr **anatomeg a'r ffisioleg** sy'n berthnasol i'r safon yma 5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i driniaethau harddwch, i gynnwys: 5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol 6. pwysigrwydd adnabod nodweddion amheus afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd 7. diben triniaethau cwyro, y defnydd ohonynt a’u cyfyngiadau mewn perthynas â’r canlynol: 7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol 7.2 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol 7.3 disgwyliadau'r unigolyn 8. strwythur anatomegol a nodweddion yr wyneb er mwyn penderfynu ar gymesuredd a chydbwysedd o driniaethau cwyro’r ael  9. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda thriniaeth cwyro a sut i ymateb 10. y mathau o flew a pha rai sy'n addas ar gyfer triniaethau cwyro 11. pam bod rhaid i'r therapydd gefnogi'r croen i fod yn dynn yn ystod o broses o dynnu i ffwrdd 12. sut mae safle'r therapydd  yn effeithio ar ganlyniadau'r driniaeth 13. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth cwyro, i gynnwys: 13.1 cael gwared o wastraff cwyr halogedig mewn modd effeithiol ac yn unol â gofynion deddfwriaethol 14. pam ei bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth cwyro 15. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus 16. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth 17. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth 18. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth cwyro 19. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r blew a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth 20. sut i gadw'r unigolyn yn gyfforddus drwy gydol y driniaeth 21. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr 22. y mathau o rwystrau a ddefnyddir i warchod y croen a'r blew o amgylch rhag cynnyrch cwyr 23. y mathau o gynnyrch cwyr caled a systemau cwyr a pha wahaniaethau sydd rhyngddynt mewn perthynas â'r canlynol: 23.1 cynwysyddion 23.2 tymheredd gweithio 23.3 technegau ar gyfer dodi a thynnu i ffwrdd 23.4 man triniaeth yr unigolyn 24. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal  anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd 25. achosion cynhenid, systemaidd a lleol, tŵf di-eisiau o'r blew 26. yr addasiadau sydd eu hangen pan yn cael gwared o flew o gwmpas amodau sy'n rhwystro'r driniaeth 27. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth cwyro 28. y rhesymau pam na ddylid defnyddio offer y tu fewn i'r ffroenau a'r clustiau 29. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth 30. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 31. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y driniaeth cwyro 32. canlyniadau disgwyliedig triniaethau cwyro 33. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol 34. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth cwyro a’r gwerthusiad ohoni 35. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth

Cwmpas/ystod

Adweithiau niweidiol

  1. cleisio
  2. chwydd gwyn gormodol
  3. llosgiadau
  4. smotiau gwaed
  5. crafiadau
  6. blew toredig
  7. y ddanadfrech
  8. gwaedu
  9. ad-dyfiant gormodol ac wedi ei leihau
  10. crafiadau / sgriffiadau ar y croen

  11. alergedd

Man triniaeth yr unigolyn

  1. clust
  2. ffroen
  3. ael

Protocol triniaeth cwyro

1.amgylchedd waith

  1. iechyd a diogelwch

  • atal a rheoli haint

  • cynllun triniaeth

  • cydsyniad gwybodus

    1. rheoli data

  • canlyniadau profion

  • cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  • archwilio ac atebolrwydd

  • 10.  cyfarwyddiadau a chyngor

    11.  cynaliadwyedd

    12.  rheoli gwastraff

    13.  ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

    14.  ymarfer adfyfyriol

    *
    *

    *
    *

    Rhwystr

    1. hufen
    2. olew
    3. ffabrig/ strip cwyr papur
    4. meinwe

    Cyfarwyddiadau

    1.hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd

    1. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth

    2. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig

    3. triniaethau yn y dyfodol

    Anatomeg a ffisioleg

    1. strwythur a swyddogaeth y blew a chylch tŵf y blew
    2. strwythur a swyddogaeth y croen
    3. strwythur anataomegol yr wyneb, y glust allanol a'r ffroenau
    4. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig



    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa

    Gwrtharwydd llwyr

    Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

    Adwaith niweidiol

    Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

    Gwrth Weithred

    Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

    Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

    Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

    Cymorth Cyntaf

    Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

    Cwyr poeth caled

    Mae cwyr poeth caled yn gwyr aml-gyfeiriol y gellir ei ddodi i'r blew, ei adael hyd nes ei fod bron â chaledu a'i dynnu i ffwrdd. Gall cwyr poeth caled gael amryw o briodoleddau.

    Protocol

    Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

    Gwrthawrydd cymharol

    Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd  ar gyfer y gwasanaeth a/neu a oes angen addasiadau


    Dolenni I NOS Eraill

    ​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1


    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    31 Maw 2024

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    SkillsActive

    URN gwreiddiol

    SKABBR3

    Galwedigaethau Perthnasol

    Therapydd Harddwch

    Cod SOC

    6222

    Geiriau Allweddol

    taenu cwyr, taenu cwyr poeth, cwyro caled, aeliau, ffroenau, clustiau, twtio gwrywaidd, barbwyr