Darparu triniaethau gofal croen i’r wyneb
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma'n ymwneud â darparu triniaethau i'r wyneb er mwyn gwella a chadw cyflwr y croen. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Darparu triniaethau i'r wyneb
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon am ei gorff a'i groen, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth i'r wyneb, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 y gyfundrefn ar gyfer gofal o'r croen
3.3 ffordd o fyw
3.4 dewisiadau triniaeth amgen
4. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y drinaeth drydanol arfaethedig i’r wyneb, i gynnwys:
4.1 canlyniadau disgwyliedig
4.2 gwrth-weithredoedd
4.3 adweithiau niweidiol
4.4 teimlad corfforol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer triniaeth i’r wyneb yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant
paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth i'r wyne*b*
taflu goleuni ar fan triniaeth yr unigolyn a'i chwyddo yn unol â'r protocol triniaeth drydanol i'r wyneb
gwneud dadansoddiad o'r croen, i gynnwys:
8.1 dosbarthiad o'r croen
8.2 cyflwr y croen
8.3 math o groen
- paratoi:
9.1 glanhau dwfn
9.2 diblisgio
- dewis techneg gynhesu a'i defnyddio yn unol â'r protocol triniaeth i'r wyneb, i gynnwys:
10.1 tywel poeth
10.2 stêm
echdynnu comedon mewn modd effeithiol a diogel yn unol â'r protocol triniaeth i'r wyneb
dewis cyfrwng tylino yn unol â'r protocol triniaeth i'r wyneb, i gynnwys:
dodi'r cyfrwng tylino *a defnyddio *technegau tylino fel ag y cytunwyd yn y protocol triniaeth i'r wyneb, i gynnwys:
13.1 ymlacio
13.2 technegau tylino therapiwtig
dewis, dodi a thynnu'r cynnyrch mwgwd yn unol â'r protocol triniaeth i'r wyneb
monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth i'r wyneb
gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth i'r wyneb, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth i'r wyneb a gweithredu'n briodol
20. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
21. cofnodi canlyniad y driniaeth i’r wyneb a’r gwerthusiad ohoni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau i'r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth harddwch, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
pwysigrwydd adnabod nodweddion amheus afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
diben triniaethau i'r wyneb, y defnydd ohonynt a'u cyfyngiadau mewn perthynas â'r canlynol:
7.1 cyflwr y croen
7.2 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.3 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw
7.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.5 disgwyliadau'r unigolyn
yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig â thriniaeth i'r wyneb a sut i ymateb iddynt
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth i'r wyneb
pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth drydanol i'r wyneb
y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer triniaeth i'r wyneb
pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth i'r wyneb
y technegau llaw a ddefnyddir mewn triniaethau i'r wyneb
pwysigrwydd chwyddo a pharatoi man triniaeth yr unigolyn a thaflu goleuni arno pan yn gwneud dadansoddiad o'r croen
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd
pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth
y mathau o gynnyrch a chyfarpar gofal o'r croen a ddefnyddir mewn triniaethau i'r wyneb, ynghŷd â'u mantiesion a'u cyfyngiadau
sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth i'r wyneb
y risgiau a'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â mygydau sy'n cynhesu eu hunain
y risgiau a'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â rhisglau arwynebol iawn o'r croen, i gynnwys:
22.1 y raddfa pH a'i berthnasedd i sensitifrwydd y croen
22.2 yr hyn mae crynoadau o asid and alcalin yn ei wneud i'r croen
22.3 sut a pham mae swyddogaeth atal y croen yn cael ei niweidio
22.4 y risg cynyddol o ffotosensitifrwydd a ffyrdd o warchod y croen
22.5 sut a pham mae'n bwysig gwneud prawf ar y croen
- pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
24. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y driniaeth i'w wyneb
canlyniadau disgwyliedig triniaeth i'r wyneb
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
28. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth i’r wyneb a’r gwerthusiad ohoni
29. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth i'r wyneb
Cwmpas/ystod
P*rotocol triniaeth i'r wyneb*
1.amgylchedd waith
iechyd a diogelwch
atal a rheoli haint
cynllun triniaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
canlyniadau profion
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol
Dosbarthiad y croen
Graddfa Fitzpatrick
Phenoteip and genoteip
Graddfa Lancer
Cyflwr y croen
hydwythedd llac
gorliwio a thanliwio
tagedig
llinorog
bregus
fasgwlaidd
7. sensiteiddiedig
wedi sychu
ffoto sensitif
wedi ei niweidio gan olau
wedi sychu
wedi dylu
Math o groen
1. sych2. olewog
- wedi ei gyfuno
4. cytbwys
Diblisgiad
- rhisglau arwynebol iawn o'r croen fel gyda'r stratum corneum
- diblisgiad corfforol
- diblisgiad cemegol
** ** **Cyfrwng tylino**
- olew
- hufen
- serwm
- di-olew
**Technegau tylino**
- effleurage
- petrissage
- tapotement
- ffrithiant
- dirgryniadau
- pwynt pwysedd
- draenio lymphatig
** ** **Technegau tylino therapiwtig**
- dadwenwyno
ysgogol
tonio
** ** ** ** **Cynnyrch mwgwd**
- cynhesu ei hun
- oeri
- un sy'n gosod
- un nad yw'n gosod
**Cyfarwyddiadau** ****1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd**Anatomeg a ffisioleg**
cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
triniaethau yn y dyfodol
**Technegau llaw**
- strwythur a swyddogaeth y croen
- anatomeg a ffisioleg y corff dynol
- y gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
- effeithiau ffisiolegol a chorfforol triniaethau gofal o'r croen
- dadansoddiad o'r croen
- glanhau
- diblisgio
- echdynnu comedon
- tylino
- dodi mwgwd
- dodi lleithiwr
- ffactor gwarchod rhag yr haul
**Cyfarpar**
- golau chwyddo
- dyfeisiadau cynhesu'r croen
- technolegau digidol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth Weithred
Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema
Technolegau digidol
Defnyddir technolegau digidol i ddarparu dadansoddiad gwyddonol o’r croen.
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwrthawrydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau
Cyflwr croen sensitif
Adweithedd capilaraidd genetaidd wedi ei gynyddu a swyddogaeth rhwystr wedi ei newid gan arwain at freuder cynhenid epidermol
Cyflwr croen sensiteiddiedig
Mae cyflwr croen sensiteiddiedig yn digwydd o ganlyniad i ffactorau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd a'r ffordd o fyw sydd naill ai'n cynyddu cytocinau a modylyddion llidiol neu'n llesteirio'r rhwystr croen.
Swyddogaeth rhwystro'r croen
Y rhwystr adnewyddol, biogemegol sy'n gwarchod ein systemau mewnol rhag ymosodwyr amgylcheddol a phathogennau, ac sy'n helpu i rwystro colli dŵr yn draws- epidermol. Wedi ei wneud o gelloedd wedi eu cornio, ffactorau sy'n lleithio'n naturiol, lipidau rhwystrol a meicrobiom y croen.
Rhaglen preimio'r croen
Mae rhaglen preimio'r croen yn set o gyfarwyddiadau a gall yr unigolyn eu gwneud cyn y driniaieth er mwyn cael y canlyniadau gorau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR1, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6,
SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1