Darparu triniaethau cwyro i’r wyneb a’r corff

URN: SKABBR1
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma'n ymwneud â darparu triniaethau cwyro ar yr wyneb a'r corff. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. cael gwared o flew nad oes mo'u heisiau o'r wyneb
  2. cael gwared o flew nad oes mo'u heisiau o'r corff

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, ei ddisgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth cwyro, i gynnwys:

3.1 hanes triniaethau

3.2 y gyfundrefn ar gyfer gofal y croen

3.3 dewisiadau triniaeth amgen

  1. cynnal profion a chofnodi'r canlyniad er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y driniaeth yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

5. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth cwyro arfaethedig, i gynnwys: 

5.1 canlyniadau disgwyliedig
5.2 gwrth-weithredoedd

5.3 adweithiau niweidiol **
5.4 teimlad corfforol

6. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth cwyro, yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant

  1. paratoi'r unigolyn a man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro i gynnwys:

7.1 cadw'r unigolyn yn gyfforddus a chadw ei urddas

  1. dewis a defnyddio cynnyrch paratoi glendid a chyn-gwyr i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

  2. gwneud dadansoddiad o'r blew a'r croen i gynnwys:

9.1 dosbarthiad y blew

9.2 patrymau tŵf y blew

9.3 dosbarthiad y croen

9.4 math o groen

9.5 cyflwr y croen

  1. dewis cynnyrch cwyro yn unol â'r protocol triniaeth cwyro,

*Cwyr strip *

11. cael gwared o'r blew mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio systemau cwyr strip, i gynnwys:

11.1 cynnal prawf clytiau gwresol yn syth cyn y driniaeth cwyro ar arddwrn y therapydd a man triniaeth yr unigolyn

11.2 sefydlu patrwm tŵf y blew a thrimio'r blew hir cyn dodi'r cwyr

11.3 trosglwyddo'r cwyr o'r uned gwyr yn unol â gofynion deddfwriaethol er mwyn cadw'r risg o groes-heintio a halogiad mor isel â phosibl

11.4 dodi'r cwyr ar yr ongl briodol, yn uniongyrchol i dŵf y blew yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

11.5 dodi'r stribyn cwyr mewn modd gwastad, gan ddodi pwysedd er mwyn gludio'r cwyr

11.6 cael gwared o'r cwyr yn sydyn yn erbyn tŵf y blew, gan sicrhau bod y croen yn dynn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

11.7 sicrhau bod man triniaeth yr unigolyn yn cael ei adael heb gwyr a blew yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

11.8 dodi cynnrych lleddfu ar fan triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

11.9 cyn lleied o wastraff â phosibl er mwyn cynaliadwyedd

Cwyr poeth

  1. cael gwared o'r blew mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio systemau cwyr poeth, i gynnwys:

12.1 cynnal prawf clytiau gwresol yn syth cyn y driniaeth cwyro ar arddwrn y therapydd a man triniaeth yr unigolyn 

12.2 sefydlu patrwm tŵf y blew a'r trimiad a thrimio blew hir, cyn dodi'r cwyr

12.3 trosglwyddo'r cwyr o'r uned gwyr yn unol â gofynion deddfwriaethol er mwyn cadw'r risg o groes-heintio a halogiad mor isel â phosibl 

12.4 dodi'r cwyr ar yr ongl briodol yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

12.5 cael gwared o'r cwyr yn sydyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

12.6 sicrhau bod man triniaeth yr unigolyn yn cael ei adael heb gwyr a blew yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

12.7 dodi cynnrych lleddfu ar fan triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

12.8 sicrhau cyn lleied o wastraff â phosibl er mwyn cynaliadwyedd

13. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth cwyro

14. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol,

  1. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth cwyro, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  2. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  3. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth cwyro a gweithredu'n briodol

  4. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth cwyro

19. cofnodi canlyniad y driniaeth cwyro a’r gwerthusiad ohoni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau i'r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau, gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  3. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i driniaethau harddwch, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd nodi nodweddion amheus afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

7. diben triniaethau cwyro, y defnydd ohonynt a’u chyfyngiadau mewn perthynas â’r canlynol

7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol

7.2 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol

7.3 disgwyliadau'r unigolyn

7.4 hanes triniaethau

  1. y rhesymau tros dorri blew crwydr a rhai sy'n rhy hir, cyn cychwyn y driniaeth cwyro

  2. strwythur anatomegol a nodweddion yr wyneb er mwyn penderfynu ar gymesuredd a chydbwysedd o driniaethau cwyro

  3. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda thriniaeth cwyro a sut i ymateb iddynt

  4. y mathau o flew a pha rai sy'n addas ar gyfer triniaethau cwyro

12. pam bod rhaid i’r therapydd gynnal y croen fel ei fod yn dynn yn ystod y broses o dynnu i ffwrdd

  1. sut mae safle'r therapydd a'r unigolyn yn effeithio ar ganlyniadau'r driniaeth

  2. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth cwyro, i gynnwys:

    14.1 cael gwared o wastraff cwyr halogedig mewn modd effeithiol ac yn unol â gofynion deddfwriaethol

15. pam ei bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth cwyro

  1. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaethau harddwch i blant dan oed ac oedolion bregus

  2. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

18. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth

  1. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth cwyro

  2. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r blew a'r croen

  3. sut i gadw'r unigolyn yn gyfforddus a chadw ei urddas drwy gydol y driniaeth

  4. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  5. y mathau o gynnyrch cwyr a systemau cwyr a pha wahaniaethau sydd rhyngddynt, i gynnwys:

23.1 cynwysyddion a'u cyfansoddiad

23.2 tymereddau gweithio

23.3 technegau ar gyfer dodi a thynnu i ffwrdd

23.4 man triniaeth yr unigolyn

  1. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal  anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd

  2. manteision a chyfyngiadau cynnyrch a chyfarpar a ddefnyddir mewn triniaethau cwyro, i gynnwys:

25.1 sut mae dosbarthiad y blew a'r croen a goddefiad poen yr unigolyn yn gallu effeithio ar y dewis o gynnyrch a chyfarpar a ddefnyddir mewn triniaeth cwyro

  1. achosion cynhenid, systemaidd a lleol, tŵf di-eisiau o'r blew

27. yr addasiadau sydd eu hangen pan yn cael gwared o flew sy’n rhwystro’r driniaeth

  1. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch a chyfarpar yn unol â'r protocol triniaeth cwyro

  2. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

30. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol

31. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion yr unigolyn am y driniaeth cwyro

  1. canlyniadau disgwyliedig triniaethau cwyro

  2. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol

34. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth cwyro a’r gwerthusiad ohoni

  1. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth

Cwmpas/ystod

Hanes triniaethau

  1. cwyro
  2. plicio
  3. edafu

  4. trimio

  5. eillio
  6. hufenau tynnu blew
  7. diflewiad trydanol
  8. menyg sgraffellog
  9. golau gwyntylledig dwys
  10. tynnu blew drwy laser
  11. tynnu blew'n drydanol
  12. golchiad alcalin
  13. * *dermaplaneg (dermaplaning)

Adweithiau niweidiol

  1. cleisio

  • chwydd gwyn gormodol

  • llosgiadau

  • crafiadau

  • blew toredig

  • y ddanadfrech

  • gwaedu

  • ad-dyfiant gormodol ac wedi ei leihau

  • crafiadau / sgriffiadau ar y croen

  • 10.  alergedd

    Man triniaeth yr unigolyn

    1. wyneb
    2. corff
    **Protocol triniaeth cwyro**
    1. amgylchedd waith
    2. iechyd a diogelwch
    3. atal a rheoli haint
    4. cynllun triniaeth
    5. cydsyniad gwybodus

    6. rheoli data

    7. canlyniadau profion
    8. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
    9. archwilio ac atebolrwydd
    10. cynaliadwyedd
    11. rheoli gwastraff
    12. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
    13. ymarfer adfyfyriol
    **Dosbarthiad o'r blew**
    1. cyrliog
    2. cyrliog iawn
    **Math o groen**
    1. sych
    2. olewog
    3. cyfuniad
    4. cytbwys
    **Cynnyrch cwyro**
    1. cwyr meddal
    2. cwyr caled
    **Cyfarwyddiadau**
    1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
    2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
    3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
    4. triniaethau yn y dyfodol
    **Anatomeg a ffisioleg**
    1. strwythur a swyddogaeth y blew a chylch tŵf y blew

    2. strwythur a swyddogaeth y croen

    3. strwythur anataomegol y corff dynol

    4. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig



    Cwmpas Perfformiad


    Gwybodaeth Cwmpas


    Gwerthoedd


    Ymddygiadau


    Sgiliau


    Geirfa

    Gwrtharwydd llwyr

    Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

    Adwaith niweidiol

    Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

    Gwrth Weithred

    Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

    Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

    Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

    Cymorth Cyntaf

    Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

    Dosbarthiad o'r blew

    Gellir cyfeirio at ddosbarthiad 'r blew fel y math o flew.

    Cwyr poeth caled

    Mae cwyr poeth caled yn gwyr aml-gyfeiriol y gellir ei ddodi i'r blew, ei adael hyd nes ei fod bron â chaledu a'i dynnu i ffwrdd. Gall cwyr poeth caled gael amryw o briodoleddau.

    Protocol

    Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

    Gwrthawrydd cymharol

    Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd  ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau

    Cwyr cynnes meddal

    Mae cwyr meddal yn cyfeirio at ddodi cwyr cynnes i’r blew a defnyddio ffabrig neu bapur fel stribyn i’w symud i ffwrdd. Caiff hufen, mêl a siwgr eu categoreiddio fel cwyr cynnes ac mae gan bob un gysonderau a phriodoleddau amrywiol.


    Dolenni I NOS Eraill

    ​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABBR2, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKAB1, SKAB2, SKAB3, SKAB4, SKAB5, SKAB6, SKAB7, SKAB8, SKAB9, SKAB10, SKAB11, SKAB12, SKABS1, SKABS2, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBMN1, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3, SKAHDBRBNT1


    Cysylltiadau Allanol


    Fersiwn rhif


    Dyddiad Adolygu Dangosol

    2024

    Dilysrwydd

    Ar hyn o bryd

    Statws

    Gwreiddiol

    Sefydliad Cychwynnol

    SkillsActive

    URN gwreiddiol

    SKABT7

    Galwedigaethau Perthnasol

    Therapydd Harddwch

    Cod SOC

    6222

    Geiriau Allweddol

    Cwyr cynnes, cwyr siwgr strip, cwyr hufen, cwyr mel, stribyn ffabrig, stribyn papur, cael gwared o flew