Tynnu neu bylu tatŵs gan ddefnyddio systemau laser neu egni esthetig

URN: SKABA6
Sectorau Busnes (Suites): Estheteg Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr esthetig sy’n tynnu neu bylu pigment tatŵs cosmetig, addurniadol neu drawmatig gan ddefnyddio systemau laser neu egni esthetig. Bydd yn rhaid ichi hefyd gynnal gwerthusiad ar ôl y driniaeth er mwyn gofalu bod eich gwaith chi’n gwella yn barhaus ac er mwyn gofalu am anghenion y cleient yn y dyfodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. rhoi arferion ymgynghori, iechyd, diogelwch a glanweithdra ar waith drwy gydol y driniaeth 2. cytuno ar amcanion y driniaeth gyda'r cleient 3. goleuo, marcio ac oeri'r **man triniaeth** 4. eillio a sychu'r **man triniaeth** cyn y driniaeth 5. galluogi a gosod rhagofynion a newidynnau'r offer i fodloni'r cynllun triniaeth cytunedig 6. dilyn protocol y driniaeth ar gyfer defnyddio laser yn ymwneud â'r **man triniaeth** 7. gwirio lles y cleient a monitro adwaith y croen drwy gydol y driniaeth 8. addasu'r driniaeth i fodloni anghenion y cleient 9. terfynu'r driniaeth pan fo adweithiau niweidiol yn digwydd   10. cwblhau'r driniaeth drwy ofalu bod yr offer wedi'u diffodd neu'n ddiogel 11. tynnu lluniau fel tystiolaeth o'r **man triniaeth** gan ddilyn gweithdrefnau cyfundrefnol 12. cwblhau cofnodion y cleient a'u storio yn unol â'r ddeddfwriaeth data 13. defnyddio dulliau gwerthuso a gafodd eu cytuno fel rhan o brotocol y driniaeth 14. casglu a chofnodi'r wybodaeth o adborth y cleient, cofnodion y cleient a'ch arsylliadau eich hun 15. cynnig cyngor ac argymhellion ar lafar ac yn ysgrifenedig i'ch cleient ynghylch yr ôl-ofal ar ôl y driniaeth 16. cytuno ar unrhyw addasiadau ar gyfer triniaeth bellach gyda'r cleient a chofnodi deilliant eich gwerthusiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. yr ymgynghoriad a'r gofynion iechyd, diogelwch a glanweithdra wrth dynnu neu bylu tatŵs gan ddefnyddio systemau laser ac egni esthetig 2. pam fod angen ichi gael golau da yn y man rheoledig a goleuo'r man triniaeth 3. cynnal a chadw a defnydd priodol o'r teclynnau a thechnegau marcio 4. y gwahanol fathau o ddulliau oeri wedi'u cymeradwyo a phryd a sut i'w defnyddio 5. nodweddion golau a sut mae'n ymadweithio gyda chroen, gwallt, lliwiau tatŵs, inciau a phigmentiadau 6. manylion, newidynnau a therminoleg systemau laser ac egni esthetig yn ymwneud ag ymarferiad y driniaeth 7. y rhesymau dros ddal carn y teclyn ar yr ongl briodol yn ôl protocol y driniaeth 8. sut i weithio'n systematig gan osgoi gormodedd o driniaeth yn y mannau i'w trin 9. y gwahaniaethau rhwng tatŵs cosmetig, addurniadol a thrawmatig 10. pam y bydd canlyniadau rhai triniaethau'n fwy llwyddiannus nag eraill 11. labeli ufuddhau, dosbarthiad a rhybuddion ar systemau laser neu egni esthetig 12. craidd gwybodaeth yn ymwneud â defnyddio teclynnau laser 13. swyddogaeth cynghorydd diogelu rhag laser 14. y gofynion deddfwriaethol o ran pelydriad optegol 15. achosion a pheryglon datgeliad damweiniol i belydredd optegol 16. nodweddion pelydredd optegol a sut mae'n ymadweithio gyda chroen, gwallt a chromofforau eraill 17. sut i weithredu amcanion y driniaeth gan ddilyn protocol y driniaeth, gan gynnwys: 17.1 gwraidd a diben protocol y driniaeth a phwysigrwydd cydymffurfio ag ef 17.2 cynnwys protocol y driniaeth gan gynnwys arwyddion y driniaeth ac **adweithiau niweidiol** 18. gweithdrefnau monitro ar gyfer gwirio man y driniaeth a lles y cleient 19. addasrwydd tynnu neu bylu tatŵs, inciau a phigmentiadau gan ddefnyddio systemau laser neu egni esthetig 20  egwyddorion ymadweithio rhwng golau a meinweoedd a photothermolysis ddetholus 21. peryglon posib systemau laser neu egni esthetig 22. hanfodion asesiad dermatoleg gweledol er mwyn tynnu neu bylu  tatŵs yn ddiogel 23. arwyddocâd cyfreithiol cyflwyno lluniau fel tystiolaeth o'r man triniaeth 24. yr **anatomi a ffisioleg** sy'n berthnasol i'r safon hon 25. gofynion cyfreithiol cwblhau a storio cofnodion cleientiaid 26. y deilliannau clinigol wrth dynnu neu bylu tatŵs gan ddefnyddio systemau laser neu egni esthetig 27. diben gweithgareddau gwerthuso 28. sut i gasglu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthuso mewn ffordd eglur a chryno 29. **cyngor ac argymhellion** yr ôl-ofal ar nwyddau a thriniaethau

Cwmpas/ystod



Gwybodaeth Ychwanegol

Mae disgwyl y bydd yr unigolyn sy'n cynnal y safon hon eisoes yn meddu ar y sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau sydd wedi'u hadnabod yng nghanllaw triniaeth yr ymarferwr esthetig neu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol estheteg.

Mae disgwyl y bydd yr unigolyn eisoes yn medru dangos cymhwysedd yn pennu gwrtharwyddion perthynol (cyfyngol) ac absoliwt (ataliol) ar gyfer y safonau esthetig maen nhw'n eu cynnal.

Mae disgwyl y caiff y safon hon ei gweithredu ar y cyd ag SKABA1 – Cynnal arferion gwaith diogel, hylan ac effeithiol yn ystod triniaethau esthetig ac SKABA2 – Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau esthetig.  

Dylid dangos tystiolaeth o'r eitemau sydd wedi wedi'u rhestru o dan y maes/ystod yn unol â'r math penodol o driniaeth gaiff ei gynnal.


Cwmpas Perfformiad

Man triniaeth

  1. pen, wyneb a gwddf
  2. corff
  3. breichiau neu goesau

Gwybodaeth Cwmpas

**Adweithiau niweidiol** 1. croen yn mynd yn llwyd neu'n wyn yn ormodol 2. anafiadau yn newid lliw 3. hyperemia a llidau 4. pothellu gormodol 5. newidiadau pigmentol 6. anesmwythder gormodol 7. oedema gormodol 8. creithio 9. lleihad mewn tyfiant blew 10. pendro 11. llewygu ** ** **Anatomi a ffisioleg** 1. strwythur a swyddogaethau systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd 2. strwythur a swyddogaethau y croen a blew 3. clefydau, anhwylderau a chyflyrau'r croen 4. proses iachau'r croen a chlwyfau
**Cyngor ac argymhellion** 1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau'r cleient a'r ymarferwr 2. cynnal triniaethau 3. disgwyliadau ar ôl y triniaethau ynghyd â graddfeydd amser cysylltiedig 4. cyfyngiadau a gwrth-weithrediadau 5. nwyddau a thriniaethau ychwanego

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Newidynnau Offer

Elfen, nodwedd neu reolaeth all amrywio ac addasu'r gallu gweithredol.

* *

Laser

Chwyddo golau drwy Belydriad Cyffroëdig Pelydriad. Caiff pelydriad laser ei ddisgrifio'n nodweddiadol fel un monocromatig, cydlynol a dargyfeiredd isel 

Man rheoledig laser/golau

Man rheoledig o amgylch y teclyn laser/golau lle mae'n bosib y bydd pobl yn bresennol lle gall peryglon ddigwydd a lle mae angen mesurau rheoli amddiffynnol penodol  

Mathau o datŵs

Caiff tatŵs eu categoreiddio i 5 maes, tatŵs amatur a phroffesiynol. Trawmatig, cosmetig (micropigmentiad), meddygol a thatŵs at gyfer: adnabod pobl. Hefyd mae modd dosbarthu tatŵs yn ôl inc neu fath o bigment.




Protocol y driniaeth

Cynllun yw hwn, sy'n gosod protocol penodol yn ymwneud â theclynnau a thriniaethau, gan adnabod gwiriadau a phrofion cyn y driniaeth, y modd gaiff y driniaeth ei chynnal, newidynnau derbyniol, safleoedd â gaiff eu defnyddio, y deilliant disgwyliedig a phryd dylid addasu neu roi'r gorau i'r driniaeth.


Dolenni I NOS Eraill

​SKABA1, 2, 3, 4, 5, 7, 8, 9, 10 and 11 


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABT31

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

tynnu tatw, pylu tatŵs, systemau laser newid Q, systemau yn selliedig ar ynni, cosmetig, tatŵio trawmatig addurnol, ymarferwyr anfeddygol, ymarferwyr meddygol