Cynnal triniaeth lleihau tyfiant blew gan ddefnyddio teclynnau egni laser, ffynonellau golau cryf ac esthetig

URN: SKABA5
Sectorau Busnes (Suites): Estheteg Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 04 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n defnyddio teclynnau egni laser, ffynonellau golau cryf ac esthetig er mwyn lleihau tyfiant blew. Bydd yn rhaid ichi hefyd gynnal gwerthusiad ar ôl y driniaeth er mwyn gofalu bod eich gwaith chi'n gwella yn barhaus ac er mwyn gofalu am anghenion y cleient yn y dyfodol.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. rhoi arferion ymgynghori, iechyd, diogelwch a glanweithdra ar waith drwy gydol y driniaeth 2. cytuno ar **amcanion y driniaeth** gyda'r cleient 3. paratoi'r **man triniaeth** yn dilyn protocol y driniaeth 4. dewis y newidynnau offer a defnyddio offer yn unol â phrotocol y driniaeth a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr 5. trin y croen er mwyn cael y deilliant gorau posib, yn dibynnu ar y **man triniaeth** a phrotocol y driniaeth 6. dilyn protocol y driniaeth yn ymwneud â'r **man triniaeth** 7. gwirio lles eich cleient a monitro adwaith y croen drwy gydol y driniaeth 8. rhoi'r cynllun gweithredu priodol ar waith pan fo adwaith niweidiol i'r driniaeth 9. cwblhau'r driniaeth drwy ofalu bod yr offer wedi'u diffodd neu'n ddiogel 10. tynnu lluniau fel tystiolaeth o'r **man triniaeth** gan ddilyn gweithdrefnau cyfundrefnol 11. cwblhau cofnodion y cleient a'u storio yn unol â'r ddeddfwriaeth data 12. defnyddio dulliau gwerthuso a gafodd eu cytuno fel rhan o brotocol y driniaeth 13. casglu a chofnodi'r wybodaeth o adborth y cleient, cofnodion y cleient a'ch arsylliadau eich hun 14. cynnig cyngor ac argymhellion ar lafar ac ysgrifenedig i'ch cleient ynghylch yr ôl-ofal ar ôl y driniaeth 15. cytuno ar unrhyw addasiadau ar gyfer triniaeth bellach gyda'r cleient a chofnodi deilliant eich gwerthusiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. yr ymgynghoriad a'r gofynion iechyd, diogelwch a glanweithdra wrth gynnal triniaethau lleihau tyfiant blew 2. pam fod angen ichi gael golau da yn y man rheoledig a goleuo'r man triniaeth 3. cynnal a chadw a defnydd priodol o'r teclynnau a thechnegau marcio 4. y gwahanol fathau o ddulliau oeri cymeradwy a phryd a sut i'w defnyddio 5. paratoi'r man(nau) triniaeth i'w trin a pam gall hyn amrywio yn unol â phrotocol y driniaeth a chyfarwyddyd y gwneuthurwr 6. y rhesymau dros drin y croen yn ystod y triniaethau lleihau blew ac gan ddilyn protocol y driniaeth 7. buddion a manylion gwahanol fathau o declynnau egni laser, ffynonellau golau cryf ac esthetig gan gynnwys: 7.1 tonfeddi coch ac is-goch a gaiff eu defnyddio i leihau tyfiant blew 8. labeli ufuddhau, dosbarthiad, gwasanaeth gwneuthurwr, cynnal a chadw i ddefnyddwyr a rhybuddion ar declynnau egni laser, ffynonellau golau cryf, a dyfeislau yn selliedig ar egni esthetig 9. craidd gwybodaeth yn ymwneud â defnyddio teclynnau laser 10. swyddogaeth cynghorydd diogelu rhag laser 11. y gofynion deddfwriaethol o ran pelydriad optegol 12. achosion a pheryglon datgeliad damweiniol i belydredd optegol 13. sut i weithredu amcanion y driniaeth yn dilyn protocol y driniaeth, gan gynnwys: 13.1 gwraidd a diben protocol y driniaeth a phwysigrwydd cydymffurfio ag ef 13.2 cynnwys protocol y driniaeth gan gynnwys arwyddion y driniaeth ac **adweithiau niweidiol** 14. gweithdrefnau monitro ar gyfer gwirio man y driniaeth a lles y cleient 15. nodweddion pelydriad optegol a sut mae'n ymadweithio gyda gwallt a chroen 16. egwyddorion ymadweithio rhwng golau a meinweoedd gan ddefnyddio tonfeddi coch ac is-goch er mwyn cynhyrchu photothermolysis ddetholus 17. peryglon posib teclynnau egni laser, ffynonellau golau cryf, deuodau pelydru golau dwysedd uchel ac esthetig 18. gwahaniaethau ac achosion cyflyrau tyfiant blew a sut mae'n effeithio ar y cynllun triniaeth 19. y rheswm pam fod tyfiant blew laser paradocsaidd ac anogedig gan olau yn digwydd 20. peryglon trin mannau gyda blew sy'n cynnwys anafiadau pigmentog 21. arwyddocâd cyfreithiol cynhyrchu lluniau fel tystiolaeth o'r man triniaeth 22. yr **anatomi a ffisioleg **sy'n berthnasol i'r safon hon **** 23. y gofynion cyfreithiol ynghylch cwblhau a storio cofnodion cleientiaid 24. deilliant clinigol disgwyliedig yn sgil lleihau tyfiant blew gan ddefnyddio teclynnau laser, ffynonellau golau cryf ac egni esthetig 25. hanfodion asesiad dermatolegol o'r gwallt a'r croen er mwyn cynnal triniaethau lleihau blew diogel 26. diben gweithgareddau gwerthuso 27. sut i gasglu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthuso mewn ffordd eglur a chryno 28.  **cyngor ac argymhellion** yr ôl-ofal ar nwyddau a thriniaethau

Cwmpas/ystod

**** **** **** **Gwybodaeth Ychwanegol** Mae disgwyl y bydd yr unigolyn sy'n cynnal y safon hon eisoes yn meddu ar y sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau sydd wedi'u hadnabod yng nghanllaw triniaeth yr ymarferwr esthetig neu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol estheteg. Mae disgwyl y bydd yr unigolyn eisoes yn medru dangos cymhwysedd yn pennu gwrtharwyddion perthynol (cyfyngol) ac absoliwt (ataliol) ar gyfer y safonau esthetig maen nhw'n eu cynnal. Mae disgwyl y caiff y safon hon ei gweithredu ar y cyd ag SKABA1 – Cynnal arferion gwaith diogel, hylan ac effeithiol yn ystod triniaethau esthetig ac SKABA2 – Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau esthetig.   Dylid dangos tystiolaeth o'r eitemau sydd wedi wedi'u rhestru o dan y maes/ystod yn unol â'r math penodol o driniaeth gaiff ei gynnal.

Cwmpas Perfformiad

**Amcanion y driniaeth** 1. rheoli tyfiant blew 2. lleihau tyfiant blew ** ** **Man triniaeth** 1. pen, wyneb a gwddf 2. corff 3. breichiau neu goesau

Gwybodaeth Cwmpas

**Adweithiau niweidiol** 1. croen yn mynd yn llwyd neu'n wyn yn ormodol 2. hyperemia a llidau 3. pothellu 4. gor-bigmentiad a hypo-bigmentiad 5. oedema gormodol 6. anesmwythder gormodol 7. cleisio gormodol 8. creithio 9. diferu a chroenio 10. llosgiadau 11. anafiadau i'r llygaid sydd angen eu cyfeirio at wasanaeth meddygol 12. pendro 13. llewygu **Anatomi a ffisioleg** 1. strwythur a swyddogaethau systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd 2. strwythur a swyddogaethau y croen ac ychwanegiadau'r croen 3. strwythur a swyddogaethau'r blew a chylchred tyfiant y blew 4. y cylchred tyfiant blew a sut mae hyn yn dylanwadu ar driniaethau presennol ac yn y dyfodol 5. clefydau, anhwylderau a chyflyrau'r croen yn effeithio ar dyfiant blew 6. y broses heneiddio a'i heffeithiau ar dyfiant blew 7. proses iachau'r croen a chlwyfau
** ** **Cyngor ac argymhellion** 1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau'r cleient a'r ymarferwr 2. cynnal triniaethau 3. disgwyliadau ar ôl y triniaethau ynghyd â graddfeydd amser cysylltiedig 4. cyfyngiadau a gwrth-weithrediadau 5. nwyddau a thriniaethau ychwanegol

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

**Sbectrwm Electromagnetig** Yr ystod o egnïon neu belydriadau sy'n cynnwys pelydrau gama, pelydrau X, Uwchfioled a thonnau gweledol, is-goch a radio. Mae laserau a systemau golau cryf fel arfer yn pelydru pelydrau yn rhan is-goch, gweledol neu Uwchfioled y sbectrwm electromagnetig. Ar y cyd cânt eu galw'n 'belydriadau optegol'  ** ** **Newidynnau offer** Elfen, nodwedd neu reolaeth all amrywio ac addasu'r gallu gweithredol. ** ** **Ffynonellau golau cryf** Caiff ei adnabod fel Golau Curiadau Dwys hefyd. System fflachlamp, (Senon yn nodweddiadol) yn cynhyrchu golau digyswllt sbectrwm eang. Mae hidlyddion yn cael gwared ar donfeddi diangen a throsglwyddo'r rheiny s'n angenrheidiol ar gyfer y driniaeth yn unig. Caiff ffynonellau golau cryf eu defnyddio i dargedu ystod o gromofforau yn dibynnu ar yr hidlyddion caiff eu defnyddio.  **Laser** Chwyddo golau drwy Gollyngiad Cyffroëdig o Ymbelydredd. Caiff pelydriad laser ei ddisgrifio'n nodweddiadol fel un monocromatig, cydlynol a dargyfeiredd isel. **Man rheoledig laser/golau** Man rheoledig o amgylch y teclyn laser/golau lle mae'n bosib y bydd pobl yn bresennol lle gall peryglon ddigwydd a lle mae angen mesurau rheoli amddiffynnol penodol.**** **** **** **** **Protocol y driniaeth** Cynllun yw hwn, sy'n gosod protocol penodol yn ymwneud â theclynnau a thriniaethau, gan adnabod gwiriadau a phrofion cyn y driniaeth, y modd gaiff y driniaeth ei chynnal, newidynnau derbyniol, safleoedd â gaiff eu defnyddio, y deilliant disgwyliedig a phryd dylid addasu neu roi'r gorau i'r driniaeth.

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABT29

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

laser, golau pwls dwys, IPL, ffynonellau golau dwys, ILS, dyfeisiau seiliedig ar ynni, lleihau twf gwallt, ymarferwyr anfeddygol, ymarferydd meddygol