Cael gwared ar amherffeithrwydd ar y croen gan ddefnyddio electrocautery

URN: SKABA3
Sectorau Busnes (Suites): Estheteg Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 04 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr esthetig sy’n cael gwared ar dagiau croen, milia, telangiectasis ac angioma ceiriosliw gan ddefnyddio technegau electrocautery. Hefyd bydd angen ichi gynnal gwerthusiad ar ôl y driniaeth er mwyn gofalu bod eich gwaith chi’n gwella yn barhaus ac er mwyn gofalu am anghenion y cleient yn y dyfodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. rhoi arferion ymgynghori, iechyd, diogelwch a glanweithdra ar waith drwy gydol y driniaeth 2. cytuno ar amcanion y driniaeth gyda'r cleient 3. chwyddo a goleuo'r man triniaeth 4. dewis y math o nodwydd a'i maint, llwytho a defnyddio offer yn unol â phrotocol y driniaeth a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr 5. cael gwared ar yr **amherffeithrwydd** ar y **croen **gan ddefnyddio **technegau triniaeth,** gan gydymffurfio gyda chynllun y driniaeth a dilyn gofynion cyfundrefnol a phrotocol y driniaeth ** ** 6. addasu cynllun y driniaeth gan ddilyn protocol y driniaeth er mwyn bodloni anghenion y cleient 7. rhoi'r cynllun gweithredu priodol ar waith pan fo adwaith niweidiol i'r driniaeth 8. tynnu lluniau fel tystiolaeth o'r man driniaeth gan ddilyn gweithdrefnau cyfundrefnol 9. cwblhau cofnodion y cleient a'u cadw yn unol â'r ddeddfwriaeth data 10. defnyddio dulliau gwerthuso a gafodd eu cytuno fel rhan o brotocol y driniaeth 11. casglu a chofnodi'r wybodaeth o adborth y cleient, cofnodion y cleient a'ch arsylliadau eich hun 12. cynnig cyngor ac argymhellion ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghylch yr ôl-ofal ar ôl y driniaeth 13. cytuno ar unrhyw addasiadau ar gyfer triniaethau yn y dyfodol gyda'ch cleient a chofnodi deilliant eich gwerthusiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. yr ymgynghoriad a'r gofynion iechyd, diogelwch a glanweithdra wrth gynnal triniaeth electrocautery 2. pam fod angen ichi chwyddo a goleuo'r man triniaeth 3. sut i ddewis, llwytho a defnyddio nodwyddau'n ddiogel er mwyn cael gwared ar amherffeithrwydd i'r croen yn ddiogel 4. y gwahanol fathau o dechnegau triniaeth ac offer sydd ar gael 5. effeithiau cerrynt tonnog ar y croen 6. sut i gefnogi'r croen er mwyn sicrhau canlyniadau triniaeth effeithiol 7. y rhesymau dros weithio'n systematig gyda bylchau priodol ar draws y man sydd angen ei drin 8. pam fod angen ichi gydnabod a monitro adwaith y croen pan fyddwch yn cael gwared ar amherffeithrwydd ar y croen 9. y broses a'r rhesymau pam ddylech chi gael gwared ar dameidiau croen o'r nodwydd yn ystod y driniaeth 10. sut i addasu dwysedd ac ystod y llif cyfredol yn ystod y driniaeth 11. adweithiau niweidiol posib a sut i'w trin 12. arwyddocâd cyfreithiol cyflwyno lluniau fel tystiolaeth o'r man triniaeth   13. yr **anatomi a ffisioleg **sy'n berthnasol i'r safon hon 14. gofynion cyfreithiol cwblhau a chadw cofnodion cleientiaid 15. deilliannau disgwyliedig y driniaeth wrth gael gwared ar amherffeithrwydd ar y croen gan ddefnyddio technegau electrocautery 16. diben gweithgareddau gwerthuso 17. sut i gasglu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthuso mewn ffordd eglur a chryno 18. **cyngor ac argymhellion** yr ôl-ofal ar nwyddau a thriniaethau cyflenwol

Cwmpas/ystod

**** **** **Gwybodaeth Ychwanegol** Mae disgwyl y bydd yr unigolyn sy'n cynnal y safon hon eisoes yn meddu ar y sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau sydd wedi'u hadnabod yng nghanllaw triniaeth yr ymarferwr esthetig neu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol estheteg. Mae disgwyl y bydd yr unigolyn eisoes yn medru dangos cymhwysedd yn pennu gwrtharwyddion perthynol (cyfyngol) ac absoliwt (ataliol) ar gyfer y safonau esthetig maen nhw'n eu cynnal. Mae disgwyl y caiff y safon hon ei gweithredu ar y cyd ag SKABA1 – Cynnal arferion gwaith diogel, hylan ac effeithiol yn ystod triniaethau esthetig ac SKABA2 – Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau esthetig.   Dylid dangos tystiolaeth o'r eitemau sydd wedi wedi'u rhestru o dan y maes/ystod yn unol â'r math penodol o driniaeth gaiff ei gynnal.

Cwmpas Perfformiad

Amherffeithrwydd croen

  1. telangiectasis
  2. tag croen
  3. angioma ceiriosliw
  4. milia

Technegau triniaeth

  1. ongl a dyfnder y nodwydd
  2. dwysedd cyfredol
  3. ystod y llif cyfredol
  4. dewis y nodwyddau
  5. bylchau rhwng mannau triniaeth
  6. ceuliad
  7. cautery

  8. dysychiad


Gwybodaeth Cwmpas

**Anatomi a ffisioleg** 1. strwythur a swyddogaethau systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd 2. strwythur a swyddogaethau y croen 3. clefydau, anhwylderau a chyflyrau'r croen 4. proses iachau'r croen a chlwyfau 5. strwythur a swyddogaethau trwyadl gwaed a chylchrediad y gwaed 6. ceuliad gwaed
**Cyngor ac argymhellion** 1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau'r cleient a'r ymarferwr 2. cynnal triniaethau 3. disgwyliadau ar ôl y triniaethau ynghyd â graddfeydd amser cysylltiedig 4. cyfyngiadau a gwrth-weithrediadau 5. nwyddau a thriniaethau ychwanegol

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwynnu

Gwynnu'r epidermis.

Angiomas Ceiriosliw

Crynoadau aflinol o waed yn bresennol ar wyneb y croen, caiff eu galw'n smotiau gwaed hefyd. Caiff angioma ceiriosliw mwy ei alw'n Campbell De Morgan.

Cautery a Dysychiad

Proses dysychu meinweoedd a cheulo protein er mwyn cael gwared ar amherffeithrwydd ar y croen.

Ceuliad

Gweithred proses hylif, yn enwedig gwaed, yn newid i fod yn gyflwr soled neu lled-soled.

Milia

Brychau esgynedig mân gwyn, sy'n ffurfio pan fo ceratin yn mynd yn sownd o dan y croen.   

Tagiau croen

Tyfiannau bach lliw croen unigol neu fel rhan o grwpiau, cânt eu galw papiloma coesynnog, ffibro epithethial papiloma/polyp neu  ffibroma simplecs esgynedig hefyd.

Man geni Pryf cop

Llestr gwaed lledagored canolog gyda chapilarïau llai yn ymledu ohono, caiff ei alw'n Telangiectasis Angioma, Mannau geni Pryf cop, ac Angioma Pryf cop.

Telangiectasis

Ymlediad capilarïau neu wythienigau sydd eisoes yn bodoli. Maen nhw'n ymddangos ar y croen a philenni gludiog fel marciau bach coch, aflinol, serennaidd neu fannog caiff eu galw'n wythiennau edau neu gapilarïau lledagored neu doredig. 



Protocol y driniaeth

Cynllun yw hwn, sy'n gosod protocol penodol yn ymwneud â theclynnau a thriniaethau, gan adnabod gwiriadau a phrofion cyn y driniaeth, y modd gaiff y driniaeth ei chynnal, newidynnau derbyniol, safleoedd â gaiff eu defnyddio, y deilliant disgwyliedig a phryd dylid addasu neu roi'r gorau i'r driniaeth.


Dolenni I NOS Eraill

​SKABA1, 2, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10 and 11 


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKABT27

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

cael gwared ar amherffeithrwydd ar y croen, electocautery, epiliad uwch